Monday, November 19, 2012

O na, refferendwm arall ar y gweill!

Felly o ganlyniad i benderfyniad llywodraeth Blair i gynnig setliad diffygiol i Gymru yn ol yn 1997 mae'n ymddangos bod rhaid i ni gael nid un, nid dwy ond tair refferendwm.

Refferendwm ynglyn a hawl Cymru i gael corff sy'n cymryd penderfyniadau ynglyn a'i bywyd cenedlaethol ei hun, refferendwm ynglyn a'r hawl i greu deddfau heb ofyn i San Steffan am yr OK a refferendwm ynglyn a sefydlu atebolrwydd o ran codi cyllid.  Tri cham sy'n ymddangos yn gwbl amlwg o ran sefydlu trefn lywodraethu resymol ac atebol a thair refferendwm er mwyn gwireddu hynny.

Tybed os oes yna unrhyw wlad arall erioed wedi gorfod mynd trwy'r ffasiwn rigmarol boncyrs dim ond i gael trefn lywodraethu sy'n gweithio.

19 comments:

Iwan said...

Setliad diffygiol? O edrych ar pa mor agos oedd y bleidlais ia/na yn '97, fysw ni'n dadlau fod y setliad ar y pryd yn 'spot on' - fyddai Cymru heb gytuno i fesur cryfach o ddatganoli ar y pryd. Petai ni wedi cael cynnig Senedd gyda grym trethu a deddfu yn 97 yn hytrach na Chynulliad, byddai tirlun Bae Caerdydd yn dra gwahanol heddiw. h.y. fyddai yr adeilad crand 'na o wydr a lechi yn sicr ddim yno!

Dwi'n amau dy fod yn gwybod hynny'n iawn hefyd, ond yn trio sgorio pwynt gwleidyddol (sydd yn ddigon teg gan mai blog gwleidyddol yw hwn!!).

Proses, nid chwyldro yw datganoli yng Nghymru, a dim bai Blair yw hynny. Plaid Cymru sy'n arddel ateb mwy chwyldroadol, ond wedi methu perswadio'r genedl i'w dilyn.

Cai Larsen said...

Mae o'n gwestiwn diddorol, ond un na chawn ni byth ateb iddo fo.

Mewn difri mae'n ymddangos i mi yn anhebygol y byddai cynnig llai dryslyd ynglyn a sut i ddeddfu wedi cael fawr o effaith ar y patrwm pleidleisio.

Pe byddai ail gwestiwn ynglyn a threthu wedi ei gynnig, fel yn yr Alban, mae'n debygol y byddai wedi ei wrthod. Roedd y mwyafrif Ia tros y cwestiwn hwnnw yn is yn yr Alban nag oedd y cwestiwn cynradd.

Iwan said...

Dwi'n sicr yn derbyn fod yr ail refferendwm yn ddiffygiol fodd bynnag. Roedd y farn gyhoeddus yn 2011 yn gwbl glir o blaid pwerau deddfu, a dylai'r setliad wedi bod yn llawer mwy cynwhysfawr.

O ran trethu, rwy'n gefnogol mewn egwyddor i Gymru gael rheolaeth lawn dros ei heconomi, ond dwi ddim yn cytuno y dylid cael pwer i addasu treth incwm ond heb unrhyw rym dros drethi eraill megis treth y gorfforaeth....cael yr hawl i drethu staff Starbucks, ond dim rheolaeth dros gyfraniad treth Starbucks eu hunan i goffra'r genedl?? hmm...

Aled GJ said...

Ar hyn o bryd, mae cynnal refferendwm ar y mater hwn yn siwtio Llafur i'r dim. Nid yn unig mae'n fodd o gadw Llafur yn unedig, mae o hefyd fel petai'n yn canu cloch hefo agweddau pobol yn gyffredinol. Yn anffodus, mae trafod trethi wastad yn cael ei gyfleu fel cyfle i wledidyddion godi trethi. Mae gan PC joban o'i waith pwysig iawn i'w wneud fan hyn i herio'r canfyddiad hwn ac i berswadio pobl mai ail-ddiffinio blaenoriaethau ac ail-gyfeirio adnoddau yw hanfod pwer dros drethi yn y bon. Hoffwn i weld PC hefyd yn cyflwyno dadl gref dros gyflwyno rhannu treth incwm hefo Llundain llawer cynt na 2020 ac nad oes gwir angen refferendwm ar gyfer y mater hwn( gan gadw refferendwm ar gyfer newid cyfansoddiadol mawr). Bydd dadl felly yn llawer haws wrth gwrs os fydd yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn 2014: hynny yw gallai PC ddadlau mai dyna'r unig fath o refferendwm ddylai ddigwydd yng Nghymru yn y dyfodol. Gallai hynny gadw credentials "democrataidd" PC tra'n pwyso ar yr un pryd am i'r senedd ei hun fagu dipyn o asgwrn cefn i wnedu penderfynoadau eu hunain ar fater trethi.

Anonymous said...

I have been absent for a while, but now I remember why I used to love this site. Thank you, I'll try and check back more often. How frequently you update your website?

------------------------------------------------------
lightsmade.com

Guto Bebb said...

Cyfraniad hanesyddol! Fallen mod I'm cytuno efo Cai.

Os ydi pleidiau mwyafrifol etholiad 2015 yn cefnogi y cynnig hwn (sef pawb ond Llafur) yna dwi'n amheus is does angen refferendwm.

Guto Bebb

Cai Larsen said...

Haleliwia Mr Bebb.

Sion said...

I fod yn deg, dwi'm yn meddwl na refferendwm 1997 oedd yn ddiffygiol - yn anffodus, adlewyrchu'r diffyg hyder yng Nghymru ac yn benodol o fewn y Blaid Lafur oedd hwnw. Dwi'n credu mai'r ail refferendwm ar ddatganoli oedd yr un fwyaf diffygiol. I bob pwrpas cafodd 2 refferendwm ei gynnal yn yr Alban yn 1997 - un i sefydlu'r senedd, a'r ail i ddatganoli rhai pwerau treth incwm. Oherwydd hynny mae'n anochel bod angen gofyn yr un cwestiwn i bobl Cymru cyn i ni gael y pwer hwn. O dderbyn na fyddai refferendwm o'i fath wedi llwyddo yng Nghymru yn 1997, pam na allan nhw fod wedi gofyn y cwestiwn yn y refferendwm diwethaf?

SiƓn

Anonymous said...

Everything is very open with a precise description of the challenges.
It was definitely informative. Your website is very helpful.

Thank you for sharing!
My weblog who to make money on internet

Anonymous said...

Hmm it looks like your website ate my first comment
(it was extremely long) so I guess I'll just sum it up what I wrote and say, I'm thoroughly enjoying your blog.

I as well am an aspiring blog writer but I'm still new to the whole thing. Do you have any recommendations for newbie blog writers? I'd genuinely appreciate it.
Feel free to visit my weblog : How to Make Money from home online

Anonymous said...

Hi! I've been reading your site for a long time now and finally got the courage to go ahead and give you a shout out from New Caney Texas! Just wanted to mention keep up the great job!
Here is my webpage ; forex – usd/jpy weekly outlook: october 29 – november 2 by …

Anonymous said...

Superb, what a blog it is! This blog provides valuable information to us, keep
it up.
Feel free to visit my web site : broken down into three primary components

Anonymous said...

Howdy! This post couldn't be written any better! Reading this post reminds me of my previous room mate! He always kept chatting about this. I will forward this article to him. Fairly certain he will have a good read. Many thanks for sharing!
Also see my web page > options strategies

Anonymous said...

An intriguing discussion is definitely worth comment. I believe that you need to
publish more on this subject, it might not be a taboo
matter but usually people do not discuss such issues. To
the next! All the best!!
My website :: instant approval payday loans online

Anonymous said...

Appreciating the persistence you put into your website and detailed information you provide.
It's good to come across a blog every once in a while that isn't
the same old rehashed material. Great read!
I've saved your site and I'm adding your RSS feeds to my Google account.
My blog post :: Td ameritrade Mobile. support

Anonymous said...

Today, I went to the beach front with my children.
I found a sea shell and gave it to my 4 year old daughter and said "You can hear the ocean if you put this to your ear." She placed the shell to her ear and screamed.

There was a hermit crab inside and it pinched her ear.
She never wants to go back! LoL I know this is entirely off
topic but I had to tell someone!
Also see my site: affiliations

Anonymous said...

Hey I know this is off topic but I was wondering if you knew of any
widgets I could add to my blog that automatically tweet my newest twitter updates.
I've been looking for a plug-in like this for quite some time and was hoping maybe you would have some experience with something like this. Please let me know if you run into anything. I truly enjoy reading your blog and I look forward to your new updates.
Also visit my web page : charles & colvard ltd buy stocks

Anonymous said...

Hey I know this is off topic but I was wondering if you knew of any
widgets I could add to my blog that automatically tweet my newest twitter
updates. I've been looking for a plug-in like this for quite some time and was hoping maybe you would have some experience with something like this. Please let me know if you run into anything. I truly enjoy reading your blog and I look forward to your new updates.
my web page > charles & colvard ltd buy stocks

Anonymous said...

buy valium valium 10 mg vs xanax - valium dosage children dental