Saturday, November 03, 2012

Canfyddiadau David Jones ynglyn a'r Mesur Iaith yn anghywir

Mae'n ddiddorol nodi i'r Twrne Cyffredinol ddod i'r casgliad nad oedd sail i honiad Swyddfa Cymru bod yr elfennau o'r Mesur Iaith sy'n ymwneud a'r Saesneg y tu hwnt i bwerau'r Cynulliad.

Mae nifer o gwestiynau yn codi o'r stori fach yma - ond yr un pwysicaf ydi beth yn union ydi pwrpas Swyddfa Cymru?  Mae yna 60 o bobl yn gweithio i Swyddfa Cymru, ceir presenoldeb yn Llundain a Chaerdydd ac mae Steven Crabb, David Jones a Barwnes Randerson yn  gyfrifol am gynnig cyfeiriad gwleidyddol i'r sefydliad.  Cost hyn oll i'r trethdalwr ydi £6.5 miliwn y flwyddyn, a daw'r adnoddau hynny o gyllideb y Cynulliad.

Beth yn union mae'r trethdalwr yn ei gael am y £6.5m - ag eithrio ymgais neu ddau i arafu, newid neu atal busnes y Cynulliad gan David Jones a'i ffrindiau?

2 comments:

Un o Eryri said...

Dylid cofio sylwadau Dafydd Elis Thomas yn syth ar ol canlyniad y Refferendwm diwethaf, ei bod yn amser dileu Swyddfa Cymru, a Ysgrifennydd Cymru. Mae gennym Lywodraeth ein hunain ac felly y ffordd i gysylltu a Llywodraeth San Steffan yw trwy y ddwy Lywodraeth yn uniongyrchol. I defnyddio Idiom Saesneg nid oes angen y mochyn yn y canol