Monday, August 20, 2012

Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol?

Mae'n debyg y dyliwn i gofio pwy ddywedodd bod wythnos yn amser maith mewn gwleidyddiaeth, ond a barnu oddiwrth yr holl droelli gan gyfeillion Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, i roi pwysau ar Cameron i'w wneud yn Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru, mae'n amlwg bod tair blynedd yn oes.

Yn ol yn 2009 roedd rhaid i Stephen alw cyfarfod cyhoeddus yn ei etholaeth i egluro pam ei fod ar flaen y gad ymysg ASau Cymru o ran hawlio treuliau seneddol - doedd y cyfarfod ddim yn un cyfforddus, ac roedd peth ansicrwydd ynglyn a dyfodol Stephen yn San Steffan ar y pryd.

Ymddengys i Stephen hawlio £8,000 i wella ei ail gartref yn Llundain cyn mynd ati i'w werthu am elw o tua £170,000. Wedyn honnodd mai ei brif gartref oedd ystafell mewn fflat cyd AS, ac mai ei gartref yng Nghymru oedd ei ail gartref. Caniataodd hyn iddo hawlio £9,300 o dreth stamp a £1,325 y mis tuag at forgais ei gartref teuluol. Er bod Stephen yn dadlau nad oedd wedi gwneud dim o'i le, ad dalodd y £9,300 wedi ychydig o hym hymian. Roedd hyfyd yn awyddus i bawb ddeall nad oedd wedi hawlio pres i brynu teledu plasma.

Petai yn cael joban Cheryl Gillan byddai ei gyflog yn codi o £65,738 i £145,567 - nid bod Stephen yn poeni am bres wrth gwrs.

4 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Ro'n i'n meddwl mai Maria Miller oedd y ceffyl blaen... ond roedd hynny wythnos dwytha...

David Laws ar ei ffordd yn ol hefyd mae'n debyg.

Cai Larsen said...

Efallai mai hi ydi'r ceffyl blaen ond mae Conservative Home ymysg eraill yn dadlau achos Stephen Crabb.

Anonymous said...

Dwnim os fysa nhw yn mynd am Miller.

Yn bersonol AS Gog Caerdydd yw'r ceffyl blaen. Ac yn bersonol dwi'n meddwl y fysa fo yn eithaf da yn y swydd.

Anonymous said...

Magnificent beаt ! I would lіke to apprentice at the same tіme as
уou amend your ωеbѕite,
hoω cаn i ѕubsсribе for а weblog ωeb ѕite?
Τhe account aidеd me a appropriate deal.
I ωeге a little bit familiar of this уour broaԁcаst offeгed brіght tгanѕpаrent сοncеpt

my wеb page: V2 cigs review