Saturday, August 04, 2012

Aelodaeth y pleidiau gwledyddol

Mae'n ddiddorol nodi o flog Michael Crick bod aelodaeth y Toriaid a'r Lib Dems wedi syrthio yn sylweddol tros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ffigyrau Crick fel a ganlyn:

Lib Dems 48,934
Llafur 193,000
Toriaid 130,000 (er eu bod nhw yn gwrthod datgelu eu ffigyrau yn swyddogol)
SNP 23,376
UKIP 17,184

Dydi Crick ddim yn dweud wrthym beth ydi ffigyrau'r Blaid - ond 7,863 oedd yr aelodaeth ym mis Ionawr.

Mae'n anodd cymharu ffigyrau'r pleidiau unoliaethol a rhai'r pleidiau cenedlaetholgar oherwydd bod y rhan fwyaf o aelodau'r pleidiau unoliaethol yn byw yn Lloegr. Ond os ydym yn cyfrifo cymhareb poblogaeth:aelod gan ddefnyddio poblogaeth y DU ar gyfer cymarebau'r pleidiau unoliaethol a phoblogaethau'r gwledydd Celtaidd ar gyfer y Blaid a'r SNP, dyma'r darlun:

Lib Dems 1:1,280
Llafur 1:324
Toriaid 1:481
SNP 1:224
UKIP 1:3,645
Plaid Cymru 1:389

Felly'r SNP sy'n perfforio orau o ddigon ar y mesur hwn, gydag UKIP efo llai nag un aelod am pob 3,000 o bobl a'r Lib Dems efo llai nag un am pob mil. Dydi'r Blaid ddim yn gwneud yn ddrwg o gwbl.

5 comments:

Ioan said...

Fellu:

Aur: SNP 1:224
Arian: Llafur 1:324
Efydd: Plaid Cymru 1:389

Toriaid 1:481
Lib Dems 1:1,280
UKIP 1:3,645

Pa anthem fydd hi tybed?

Cai Larsen said...

Flower of Scotland debyg.

Ifan Morgan Jones said...

"y pleidiau gwledydd oil"

Does dim oil yng Nghymru, neu fe fyddai UDA wedi ein goresgyn erbyn hyn.

Cai Larsen said...

Diolch - auto correct ipad ydi hwnna.

Anonymous said...

LLAFUR!!! :)