Friday, October 28, 2011

Wyn Roberts a threth y cyngor

Mae'n ymddangos bod Wyn Roberts druan eisiau i'r llywodraeth yn Llundain orfodi'r Cynulliad i wario'r £38m sy'n dod i Gymru yn sgil anrheg bach y Toriaid i'w cefnogwyr yn Lloegr, ar rewi treth y cyngor.



Mae yna ddau bwynt yn codi o hyn.  Yn gyntaf mae'r cynllun yn Lloegr yn ffordd o wobreuo'r sawl sydd a'r tai mwyaf a drytaf ar draul y sawl sy'n rhy dlawd i dalu treth y cyngor.  Yn yr ystyr yna mae'n gynllun nodweddiadol Doriaidd - helpu'r cyfoethocaf tra'n cynnig dim i'r tlotaf.

Yr ail bwynt ydi nad ydi Wyn Roberts yn deall datganoli.  Pwynt datganoli ydi gadael i Gymru benderfynu ar ei blaenoriaethau ei hun - ac mae gen i ofn nad ydi gwneud Wyn Roberts, ei gyfeillion a'i gydnabod yn gyfoethocach yn flaenoriaeth fawr yng Nghymru ar hyn o bryd.

6 comments:

Jon Anderson said...

Y peth fwyaf doniol ynghlyn a dy linc di oedd y ffaith bod e wedi cymryd Albanwr i esbonio datganoli i Wyn Roberts:

"But the essence of devolution in the Acts that were passed by this Parliament in devolving power to Wales, including power over local government finance, means that it must be a matter for the Welsh Ministers and for the Welsh Assembly to determine what their priorities are."

Anonymous said...

Wel, dwi'n talu treth y cyngor ac mi fyddwn yn hapus so byddai yn sefyll fel ag y mae. Mae'n rhaid i ti gofio fod y llawer o bobl sy'n talu treth y cyngor yn ddigon llwm heb un pensiwn.....fel y fi er engraifft....a sydd heb cael codiad cyflog ers 2007!! Da iawn Syr Wyn.

Anonymous said...

"mae'r cynllun yn Lloegr yn ffordd o wobreuo'r sawl sydd a'r tai mwyaf a drytaf ar draul y sawl sy'n rhy dlawd i dalu treth y cyngor."

Na. Mae'r cynllun yn ffordd o wobrwyo'r sawl sydd yn berchen ar dai boed tlawd, canolig neu cyfoethog. Ond y rhai fydd yn wirioneddol yn teimolon' well fydd y tlawd a'r canolig gyfoethog.

Cai Larsen said...

Mae'r cynllun yn arbed mwy o bres i berchnogion tai drud - mae treth y cyngor yn uwch ar dai felly.

Anonymous said...

Wrth gwrs twat ydi Wyn Roberts.

Ond mae dy bwyntia di yn un ochrog yn fama (yn fwriadol wrth gwrs!).

Byddai'r sawl sydd a ty maw neu dy bach yn safio yr un canran o'r dreth.

Rwan, fyswn ni yn swapio presciptions am ddim ne bysus am ddim am rhewi treth cyngor? Byswn.

Blaenoraethau....

Cai Larsen said...

Rwan 'dwyt ti ddim o dan yr argraff bod Blogmenai yn wrthrychol gobeithio!

Mae newidiadau canrannol mewn toriad / rhewi treth pob amser o fantais i'r cyfoethog, yn union fel mae cynnydd canranol mewn treth o anfantais iddynt.

Mae presgripsiwn am ddim / teithio am ddim / rhewi treth y cyngor ac ati yn aml iawn yn fater o flaenoriaeth personol. Mae pobl ar incwm isel yn debygol o weld mwy o werth yn y ddau cyntaf na'r trydydd - tra bod y cymharol gyfoethog am weld pethau'n wahanol.