Monday, October 10, 2011

Arlywyddiaeth Iwerddon - David Norris

Gan bod Blogmenai yn cael ychydig o hwyl o bryd i'w gilydd yn trafod gwleidyddiaeth Iwerddon, hwyrach y dylid cael golwg achlysurol ar yr ymgeiswyr am yr arlywyddiaeth. Bydd etholiad arlywyddol yn cael ei chynnal yn y Weriniaeth ar ddydd Iau, Hydref 28.

Mi wnawn ni ddechrau efo David Norris - ymgeisydd sydd wedi nodweddau ei hun trwy ymgyrchu tros hawliau sifil a hawliau hoyw tros gyfnod maith.

Ers mis Mehefin mae wedi rhoi ei enw ymlaen am yr etholiad, a'i dynnu yn ol a'i roi ymlaen unwaith eto. Fel y gwelwch o'r fideo mae ganddo'r holl urddas y byddai dyn yn dymuno ei weld mewn arlywydd.

1 comment:

Anonymous said...

Petai pleidlais gen i faswn yn pleidleisio dros Martin McGuinness. Dwi yn edmyg Michael D. am ei ran dros yr iaith Wyddeleg ond nawr fod Sinn Fein yn sefyll efo Martin McGuinness yna does dim dewis.

Mae angen i'r Iwerddon fel Cymru, gael plaid a dyn sydd yn credu yn y genedlwladwriaeth nid yn yr Ewrososoalaeth Dafydd Elaidd sy'n rannol gyfrifol am greu y llanast rydym ynddi nawr. Dyn sydd ddim wedi bod ofn bod y tu allan i polite society a bod yn amhoblogaidd.