Wednesday, December 15, 2010

Beth sydd gan y diwydiant arfau a'r diwydiant darlledu yn gyffredin?


Dwi'n gwybod ei fod yn gwestiwn rhyfedd, a na 'dydw i ddim wedi treulio'r noswaith yn yr Alex. Ond mi fyddwn yn awgrymu bod gan y ddau ddiwydiant gryn dipyn yn gyffredin.

Ystyriwch gwmni cynhyrchu systemau arfau fel BAE er enghraifft. Mae'r cwmni yn gweithredu mewn marchnad hynod anarferol - mae eu prif gwsmeriaid yn hynod o brin. I bob pwrpas dim ond llywodraethau sydd ar gael iddynt fel cwsmeriaid, a 'dydi pob llywodraeth ddim ar gael o bell ffordd. Fyddwn i ddim yn meddwl bod llywodraeth Prydain yn debygol o ganiatau i BAE werthu eu system Nimrod MRA4 i lywodraeth Iran yn y dyfodol agos rhywsut. Mae marchnad fel hyn yn cyferbynnu'n llwyr a sefyllfa'r rhan fwyaf o farchnadoedd. Cymerer Tesco er enghraifft - mae eu cwsmeriad nhw yn niferus iawn - mae ganddyn nhw ddegau o filiynau ohonynt.

Gall gweithredu mewn marchnad gyda chyn lleied o gwsmeriaid gael effaith syfrdanol ar y ffordd y bydd busnes yn cael ei wneud. Chwi gofiwch mae'n debyg i'r Tywysog Andrew gael ei hun yn y newyddion yn ddiweddar am feirniadu ymchwiliad i lygredd honedig ar ran BAE wrth werthu arfau i Saudi Arabia. Mae'n ymddangos bod y llywodraeth Lafur ar y pryd yn rhyw gytuno efo fo, daethant a'r ymchwiliad i ben oherwydd nad oedd ei chynnal 'er budd i'r cyhoedd'. Yr honiad oedd yn destun yr ymchwiliad oedd bod BAE wedi rhoi symiau mawr iawn o arian i aelodau o deulu brenhinol Saudi Arabia er mwyn sicrhau contractau. Mae'n ymddangos bod Andrew a llywodraeth y dydd yn derbyn bod cynnig llwgr wobreuon yn dderbyniol yn y maes arbennig yma.

Ag anghofio moesoldeb gwerthu arfau, ac yn wir moesoldeb llygredd am funud, 'dydi hi ddim yn anodd gweld pam bod Andrew a'r llywodraeth wedi argyhoeddi eu hunain o briodoldeb yr hyn a wnaeth BAE. Lle'r oedd nifer fach o bobl nad oeddynt yn atebol i fawr neb yn gwneud penderfyniadau gwerth biliynau, ac yn gwneud hynny mewn cyd destun diwylliant lle mae kick back yn arferol ac yn dderbyniol gellir gweld pam y byddai cwmni yn cael ei demtio i weithredu yn y modd yma.Ychwanegwch at hynny y ffaith mai nifer fach iawn o gwsmeriaid oedd ar gael, ac mae gweithredu yn y ffordd yma yn fwy o demtasiwn fyth. Mewn geiriau, eraill mae diffyg cwsmeriaid wedi gwyrdroi arferion masnachu arferol i'r fath raddau nes ei fod wedi cyfrannu at sefyllfa lle mae llywodraeth Prydain i bob pwrpas yn cymeradwyo torri'r gyfraith.

Mae darlledu yn gyffredinol mewn sefyllfa debyg - ychydig o gwsmeriaid (cwmniau darlledu), llawer mwy o werthwyr potensial (cynhyrchwyr). Yng Nghymru mae'r sefyllfa hyd yn oed yn llai cytbwys. 'Dydi cynhyrchwyr Cymreig at ei gilydd ddim yn llwyddo i werthu eu cynnyrch i ddarlledwyr Seisnig. O ganlyniad - i aml i gwmni - S4C ydi'r unig gwsmer. Mae rhoi cymaint o rym tros y farchnad arbennig yma - a dweud y lleiaf - yn broblematig.

Rwan 'dwi'n prysuro i ddweud (cyn i neb ddechrau chwilio am rif ffon Eversheds) nad ydw i yn awgrymu am eiliad bod unrhyw le o gwbl i feddwl bod llygredd yn broblem yng nghyd destun S4C. I'r gwrthwyneb - mae diwylliant amlenni brown yn anghymreig iawn - 'dydi'r math yma o beth ddim yn rhan o'n diwylliant ni. Ond mae canoli y ffasiwn rym tros farchnad gyfan yn nwylo un corff yn creu risg sylweddol i ddiffygion eraill lethu'r gyfundrefn.

Roeddwn yn meddwl am hyn oll ddoe pan gadarnhaodd Rheon Tomos mai'r rheswm y gadawodd Iona Jones S4C ei swydd oedd oherwydd iddi gael y sac am nad oedd eisiau caniatau i Awdurdod S4C gymryd rhan mwy gweithredol yng ngweinyddiad y sianel. Yn wir aeth Rheon cyn belled a dweud nad oedd uwch reolwyr y sianel yn darparu gwybodaeth yr oedd yr Awdurdod wedi gofyn amdano ganddynt.

Rwan, os ydi hyn yn wir, roedd sefyllfa yn amlwg yn gwbl amhriodol. Byddai disgwyl i'r Awdurdod osod cyfeiriad strategol i'r sianel, ac i graffu ar waith ei swyddogion. Os nad oedd hyn yn digwydd roedd un o'r prif fecanweithiau i sicrhau effeithiolrwydd y sianel yn ddiffygiol - a bod yn garedig. Ychwaneger y broblem strwythurol o lawer iawn o rym yn nwylo un corff ac mae pethau'n edrych yn llawer gwaeth eto. I bob pwrpas roedd y grym hwnnw yn nwylo llond dwrn o unigolion - unigolion oedd yn pwrcasu gwaith cynhyrchwyr a chreu cyfeiriad strategol ar yr un pryd. Byddai'r risg o gam reoli yn uchel iawn mewn sefyllfa fel hyn.

Rwan os ydym yn edrych ar rai o'r cwynion sydd wedi eu gwneud am y sianel yn y cyd destun yma, mae'n hawdd gweld pam maent wedi codi. Er enghraifft mae un math o gwyn gyffredin yn erbyn y sianel yn ymwneud a chysylltedd - bod cysylltiadau rhwng pobl sy'n gwneud penderfyniadau a phobl mae'r penderfyniadau hynny yn effeithio arnynt. Mae hon yn broblem Gymreig iawn - rydan ni'n wlad fach lle mae pawb efo rhyw adnabyddiaeth o'i gilydd. Byddai disgwyl i'r Awdurdod sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod tryloywder mewn materion yn ymwneud a chysylltedd. Os nad oedd mecanweithiau, neu os nad oedd yr Awdurdod mewn sefyllfa i graffu eu heffeithiolrwydd, roedd y risg yn uchel.

Bu pob math o gwynion eraill am y sianel - diffyg cysylltiad efo'r gynulleidfa greiddiol - ac yn wir diffyg dealltwriaeth ohoni, diffyg pendantrwydd o ran cyfeiriad strategol, diffyg gallu i ddelio efo cwynion yn foddhaol, perthynas wael efo cynhyrchwyr. Byddai sefyllfa o griw bach gyda grym rhyfeddol yn gwneud penderfyniadau strategol o lefel amhriodol - ac yn gwneud hynny heb oruwchwyliaeth addas, yn egluro llawer o hyn.

Yn ychwanegol byddai'r sefyllfa mae Rheon yn ei disgrifio yn egluro llawer o'r llanast tros yr wythnosau diwethaf hefyd - Awdurdod sydd heb arfer cymryd penderfyniadau allweddol, ac heb felly fagu diwylliant o gymryd penderfyniadau, yn cael eu hunain yn gorfod gwneud hynny ar amser cwbl dyngedfennol.

No comments: