Saturday, December 18, 2010

Y drwg efo darogan pethau _ _ _

_ _ _ ydi bod darogan yn anghywir yn gwneud i chi edrych yn ofnadwy o wirion weithiau.

Hwn o'r Independent yn 2000 - teitl yr erthygl oedd Snowfalls are now just a thing of the past


However, the warming is so far manifesting itself more in winters which are less cold than in much hotter summers. According to Dr David Viner, a senior research scientist at the climatic research unit (CRU) of the University of East Anglia,within a few years winter snowfall will become "a very rare and exciting event".

"Children just aren't going to know what snow is," he said.

The effects of snow-free winter in Britain are already becoming apparent. This year, for the first time ever, Hamleys, Britain's biggest toyshop, had no sledges on display in its Regent Street store. "It was a bit of a first," a spokesperson said.



Y llun oedi ei ddwyn oddi wrth Golwg.

7 comments:

Dafydd Tomos said...

Mae'n beryg cymysgu tywydd (be sy'n digwydd nawr) a'r hinsawdd. Mae'r gaeafau yn y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn oerach na'r arfer ond yn y blynyddoedd cyn hynny ers 2000 roedd gaeafau mwyn iawn, gyda dim eira neu dim digon ar dir isel i wneud unrhyw wahaniaeth.

Mae ynysoedd Prydain yn cael ei amddiffyn o aefau 'arctig' gan wahanol ffactorau sy'n newid dros gyfnodau gwahanol. Os oes dau neu fwy ffactor yn cyfuno, mae'r awyr cynnes yn diflannu a ni'n cael tywydd sy'n fwy addas i'n lledred.

Mewn gwirionedd, mae'r erthygl yn hollol iawn - mae'r eira presennol yn "rare and exciting event" sy wedi achos anhrefn oherwydd nad ydyn ni wedi arfer paratoi amdano.

Ioan said...

Haia Dafydd - dal i weithio i cyfeillion y ddaear? O'n ni'n meddwl bod ti wedi symyd i Sustrans!?

Dafydd Tomos said...

Ioan - Dafydd Tomos arall yw hwnna (ond dwi'n gwybod pwy ti'n fedddwl).

BoiCymraeg said...

Mae Dafydd yn hollol gywir. Annisgwyl oedd gweld post o'r math hwn ar flogmenai - mae'n edrych yn dra debyg i'r fath o lythyrau sinigol sy'n ymddanogs ym mhapurau lleol, h.y. "Global Warming, please come back, all is forgiven."

http://www.youtube.com/watch?v=l0JsdSDa_bM

Cai Larsen said...

Mr Pierce - 'dydw i ddim yn gwneud unrhyw sylwadau ynglyn a dilysrwydd neu anilysrwydd y consensws cynhesu byd eang.

Tynnu sylw ydw i at y ffaith bod yna risg mewn gwneud rhagweliadau manwl a hyderus fel rhai'r Dr Viner. O wneud hynny mi'r ydym yn gadael ein hunain yn agored i ffawd a'i holl driciau.

Dafydd Tomos said...

Roedd y gwyddonwyr yn 2000 yn darogan gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r modelau oedd ganddyn nhw ar y pryd. Mae gwneud damcaniaethau yn rhan hanfodol o wyddoniaeth. Mae gwyddonwyr yn ddigon parod i gymryd y 'risg' o fod yn anghywir, ond wrth i fwy o dystiolaeth gael ei gasglu sy'n profi'r ddamcaniaeth, mae'r risg yn lleihau.

Beth fase'n wirion yw darogan rhywbeth fel "fydd y byd yn dod i ben yn 2012" heb dystiolaeth.

Mi fyddai'n ffôl defnyddio profiad un neu ddau flwyddyn i ddarogan yr 20 mlynedd nesaf neu i wfftio damcaniaeth sy'n dweud fel arall. Mae'r holl fodelau hinsawdd yn defnyddio data o gyfnod llawer hirach na hyn.

Ioan said...

Diolch Dafydd (arall!). Mae'r post, a be mae Dafydd yn ddweud yn fy atgoffa o:
http://www.youtube.com/watch?v=g-F8EO3qOVk&feature=player_embedded
Ar pwy mae'r joc, dwi'm yn siwr!