Tuesday, November 30, 2010

Y diweddaraf o ddec llawen S4C

'Dwi'n deall fod Awdurdod S4C yn cyfarfod fel 'dwi'n 'sgwennu'r ychydig eiriau hyn - gobeithio bydd yr holl aelodau yn mwynhau'r cyfarfod yn fawr. Draw ar flog Golwg360 mae Dylan Iorwerth yn gwybod yn iawn beth mae o'n ei ddisgwyl o'r cyfarfod.

Mae Vaughan yntau wedi gwneud cystal ymdrech a neb i gysylltu'r dotiau er mwyn rhoi darlun gweddol eglur o'r hyn sydd wedi digwydd tros yr wythnosau diwethaf - er bod yna ambell i gwestiwn yn aros 'dwi'n meddwl.

Un cwestiwn bach, gweddol amlwg sydd gennyf i'w godi fodd bynnag. Pwy sy'n elwa os ydi Awdurdod S4C a'u cadeirydd fel gwenciod mewn sach yn ystod trafodaethau tyngedfenol ar ddyfodol y sianel gyda'r DCMS? Mi fyddwn i'n awgrymu'n gynnil nad S4C ydi'r ateb i'r cwestiwn hynnw. Mi fyddwn hefyd yn awgrymu mai dyna pam bod amgylchiadau anhygoel presennol Awdurdod S4C yn wirioneddol niweidiol i'r sianel a'i dyfodol.

2 comments:

Anonymous said...

Dwin deall nid oedd JWJ yn y cyfarfod (yn ol Twitter BBCWales).
Barn am hynny BlogMenai?

Cai Larsen said...

Wel os nad oedd o yno, ac os mai'r rheswm am hynny oedd bod ei berthynas wedi torri i lawr efo gweddill yr Awdurdod, yna mae S4C yn siarad efo dau lais yn ystod cyfnod mwyaf argyfyngys eu hanes.

Byddai sefyllfa felly yn un ddifrifol iawn mi dybiaf.