Thursday, September 16, 2010

Y diweddaraf am S4C - o ddrwg i waeth

Ydw i'n methu rhywbeth tybed?

Yn ol y cyfryngau heddiw roedd yn anghyfreithlon i S4C ildio i fwlio'r Toriaid yn fuan wedi'r etholiad a rhoi £2m o'u pres iddynt. Yn fwy na hynny, roedd Awdurdod y sianel wedi cymryd cyngor cyfreithiol ynglyn a'r mater, roedd y cyngor hwnnw yn ddi amwys y byddai rhoi'r pres i'r llywodraeth yn anghyfreithlon, ond aethant ati i wneud hynny beth bynnag.

Mi wna i ailadrodd fy hun - roedd Awdurdod S4C yn gwybod bod y taliad i'r llywodraeth yn anghyfreithlon - ond gwnaed y taliad beth bynnag. Gwnaed penderfyniad gan yr Awdurdod oedd yn groes i fuddiannau'r gorfforaeth maent i fod yn gyfrifol amdani, a gwnaed y penderfyniad hwnnw mewn gwybodaeth lawn eu bod gweithredu mewn modd oedd yn eu gosod nhw eu hunain ar yr ochr anghywir i gyfraith gwlad.

Am unwaith yn fy mywyd, 'dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

2 comments:

Dafydd Tomos said...

Yn wir, falle dy fod ti'n methu rhywbeth (am fod rheolaeth S4C yn bwnc mor gyfrinachol). Dweda er enghraifft fod y DCMS yn dweud "mi fyddwn ni'n torri eich cyllid £2m flwyddyn nesa a rydyn ni eisiau torri'r cyllid 6% bob blwyddyn wedyn. Rydyn ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i wneud hyn".

Does dim rhaid i S4C wneud dim heblaw lleihau gwariant y flwyddyn nesa o £2m yn y ''cynllun busnes' ar gyfer 2011 (pryd bynnag mae eu blwyddyn ariannol nhw'n dechrau). Does dim rhaid i S4C wario'r holl grant mae nhw gael o fewn y flwyddyn hynny.. mae datblygu rhaglenni a chomisiynu yn ymestyn dros gyfnod llawer hirach na hynny.

Falle mod i'n hollol anghywir wrth gwrs a fod trefniadau arian cyhoeddus yn fwy llym na be fase rhywun yn wneud mewn busnes preifat.

Cai Larsen said...

Ia, ond mae'r stori wedi newid.

Y dealltwriaeth ar y cychwyn oedd mai toriad oyng ngwariant y flwyddyn gyfredol oedd y £2m.

Lein newydd ydi'r busnes flwyddyn nesaf.