Sunday, September 05, 2010

S4C - eto fyth


'Dwi wedi rhyw ystyried 'sgwennu pwt am S4C ers tro. Mae'n eithaf anodd serch hynny oherwydd bod y cyfryngau print prif lif am unwaith ymhell o flaen y blogosffer, a chyda mwy o fynediad i wybodaeth gywir. Gweler dwy erthygl dreiddgar iawn gan Gwion Owain yn y cyhoeddiadau cyfredol o Barn a Golwg er enghraifft. Roedd hyd yn oed Lol yn eithaf dadlennol.

Wna i ddim ail adrodd beth sydd wedi ei ddweud yn yr erthyglau hynny, maent wedi eu 'sgwennu gan bobl sydd ar y tu mewn fel petai - ond mi hoffwn wneud sylw neu ddau fel rhywun sy'n edrych ar bethau o'r tu allan. Problem ganolog S4C ydi'r ffaith ei bod yn derbyn swm sylweddol o arian cyhoeddus er nad oes yna lawer iawn yn ei gwylio. Yn hyn o beth mae'n unigryw fel sianel deledu yn y DU. Fel mae Gwion yn ei awgrymu yn ei erthygl yn Golwg, fel ymarferiad darlledu syml 'does yna ddim cyfiawnhad tros S4C - cyfiawnhad diwylliannol, gwleidyddol a ieithyddol sydd yna dros ei chynnal. Mi gafodd ei chreu oherwydd yr ystyriaethau hynny, ac mae ei bodolaeth yn llwyr ddibynnol arnynt.

O ganlyniad mae'r sianel yn gorfod cyfiawnhau ei bodolaeth i raddau nad ydi sianeli eraill yn gwneud. Nid trwy geisio ymddwyn fel sianel gyffredin ydi'r ffordd orau i wneud hynny . Wrth gwrs bod ffigyrau gwylio yn bwysig - wedi'r cwbl nid oes cyfiawnhad ieithyddol na diwylliannol i sianel nad oes yna llawer o'r sawl mae wedi ei hanelu atynt yn ei gwylio. Ond mae mwy iddi o lawer na hynny. Mae cyfathrebu effeithiol a magu perthynas dda gyda'r holl bartneriaid sy'n gysylltiedig a'r sianel yn greiddiol i hyn - y llywodraethau yn Llundain ac yng Nghaerdydd, y sawl sy'n darparu rhaglenni ar ei chyfer, ei chynulleidfa wirioneddol a'i chynulleidfa botensial, ei gweithwyr cyflogedig ei hun a'r trethdalwyr sy'n ariannu'r sianel ond sydd byth am ei gwylio.

Rwan ystyriwch sefyllfa'r sianel ar hyn o bryd - mae ei phrif weithredwr wedi ymddiswyddo / cael ei sacio yn anisgwyl, mae'r niferoedd sy'n ei gwylio yn cwympo fel carreg, mae'n wynebu toriadau enbyd o gyfeiriad llywodraeth Llundain, mae'r gefnogaeth iddi o gyfeiriad gwleidyddion Caerdydd yn sigledig, 'does yna fawr o arwydd hyd yn hyn bod yr elfennau hynny yng Nghymru a sicrhaodd ei bodolaeth yn y lle cyntaf yn styrio rhyw lawer i'w hamddiffyn, mae llawer o'r cynhyrchwyr oedd wedi ei darparu a rhaglenni ar hyd y blynyddoedd wedi eu torri allan o'r sioe, mae'r trethdalwr, fel llywodraeth Llundain, yn gweld y toriadau sydd ar y ffordd yng nghyd destun syml yr holl doriadau eraill sydd ar y gweill, ac mae moral gweithwyr y sianel yn isel. 'Dwi'n meddwl ei bod yn ddiogel casglu i rhywbeth fynd o'i le yn rhywle.

Ac mae'n ddiogel casglu hefyd nad ydi'r hyn sydd wedi mynd o'i le yn rhywbeth sydd wedi ymddangos tros nos fel caws llyffant- mae'n sefyllfa sydd wedi datblygu tros amser. Mae'n cymryd amser i unrhyw gorff dorri ei holl bontydd, un ar ol y llall. 'Dwi ddim yn amau bod llawer o'r gyfrifoldeb yn syrthio ar reolwyr cyflogedig diweddar y sianel, ond mae'n rhaid codi'r cwestiwn yma - ymhle'r oedd Awdurdod S4C yn ystod yr holl ddatgymalu yma? Sut y cododd sefyllfa lle'r oedd y cyfeiriad strategol a ddilynwyd gan y tim rheoli mor wallus a di hid o'r strwythurau hynny oedd yn rhoi i'r sianel ei hygrededd a'r cyfiawnhad am ei bodolaeth? Efallai y dylai Awdurdod y sianel, ac yn arbennig ei gadeirydd ystyried y cwestiwn hwnnw yn ddwys.

Beth bynnag am hynny - mae'r cam nesaf yn amlwg ddigon - ceisio ail gysylltu efo'r gynulleidfa greiddiol - Cymry Cymraeg ar hyd a lled Cymru sy'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd (neu pobl sy'n dymuno ei defnyddio o ddydd i ddydd), a cheisio ail adeiladu'r ymdeimlad o berchnogaeth o'r sianel ymysg y cyfryw bobl - symud yn ol i'r dyfodol os y mynwch. O ail godi'r bont yma yn gyntaf, mi fydd yn haws ail godi'r gweddill wedyn.

7 comments:

Emlyn Uwch Cych said...

Rwy'n un o'r rhai sydd ond yn gwylio rhyw ychydig ar S4/C, a hynny am nad yw'r sianel yn cynnig yr ystod o raglenni y baswn yn eu gwylio.

Yn anffodus, mae'r ansawdd wedi disgyn yn sylweddol oddi ar ddegawd gyntaf y sianel. Rwy'n dyheu am arlwy da yn Gymraeg, ond os nad ydy S4/C yn ei ddarparu, mae'n rhaid i mi chwilio amdano ar un o'r sianeli Saesneg.

I wyliwr teledu fel fi, diwedd y gân yw'r safon, nid yr iaith.

Simon Brooks said...

Y gwir amdani ydi bod rhaid amddiffyn S4C hyd yn oed gyda'i gwendidau. Awgrymaf ymgyrch yn seiliedig ar beidio talu'r drwydded deledu.

Cai Larsen said...

'Dwi'n derbyn bod rhaid amddiffyn y sianel - ond mae pethau am fod yn anos na sydd rhaid iddynt fod.

Simon Brooks said...

Cytuno. Fyddwn i ddim am amddiffyn John Walter dros fy nghrogi. Ond rhaid achub y Sianel hyd yn oed gyda`r giwed bresennol wrthi.

Anonymous said...

Gellir amddiffyn S4C mewn egwyddor ond fydd ymgyrch i arbed y statws quo ddim yn debygol o gael llawer o gefnogaeth. Y gwir amdani yw fod y sianel wedi methu pobl Cymru a ddim yn darparu gwasaneth o safon digon uchel i ddenu gwylwyr. Ymhell o gael ymgyrch negatif i amddiffyn y statws quo dylid cael ymgyrch bositif yn mynnu bod angen trawsnewid S4C. Rhan canolog o’r ymgyrch dylid fod i sicrhau gwell atebolrwydd i bobl Cymru a’u cynrychiolwyr gwleidyddol.

Simon Brooks said...

Cytuno eto. Dylai unrhyw ymgyrch godi materion megis: i) atebolrwydd i wylwyr, ii)meithrin amrywiaeth o ran darparwyr annibynnol, iii) cynyddu gwariant
S4C yn y broydd Cymraeg. Pa ymgyrchydd iaith na fyddai'n cytuno a'r pethau hyn?

O ran cyllideb S4C, dwi ddim yn barod i dderbyn sefyllfa lle bo cyllideb S4C yn cael ei thocio tra nad yw trwydded deledu'r BBC yn cael ei thocio yn yr un ffordd. Nid yw hynny ond yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg.

Anonymous said...

Y newid mwyaf sylweddol i'm mherthynas gyda S4/C yw'r newid drosodd i deledu digidol. Dim mwy y pedwerydd sianel ar ddiwedd y rhestr, ond rhyw sianel anodd-ei-chanfod ymysg y rhestr hir o sianeli ddibwys eraill. Tydi rhywun ddim hyd yn oed yn disgyn wrth siawns ar S4/C bellach.

Hyn, a'r ffaith pan bod rhywun yn cymryd y trafferth i chwilota amdandi, dim ond rhaglenni hen bobl fel 'Noson Lawen' a sdwnsh hen-ffashiwn fel 'na sydd i'w gael.

Ei chryfder yw'r rhaglenni plant gwych. On lol ydi'r gweddill, dweud y gwir amdani.