Wednesday, December 09, 2009
Oscar a Golwg360
Mae gan Golwg360 stori ddiddorol iawn o gyfweliad neu sgwrs a gaethant efo Mohammad Asghar. Os ydi'r adroddiad yn gywir mae gonestrwydd Oscar ynglyn a'i anonestrwydd ei hun yn rhyfeddol. Mae'n gwbl agored ei fod wedi ymuno gyda Phlaid Cymru er mwyn hyrwyddo ei yrfa wleidyddol ei hun, a'i fod yn ymuno efo'r Toriaid am yr un rheswm yn union. Ceir y dyfyniad uniongyrchol isod gan Oscar yn y darn:
Roedd gan y Ceidwadwyr yr ail sedd [restr] yn y dechrau beth bynnag ac fe enillon ni [ym Mhlaid Cymru] gyda llai na 400 pleidlais. Ond [gyda’r] Ceidwadwyr, fe fydda’ i’n ail ar y rhestr eto. Fe welwn ni wahaniaeth mewn blwyddyn a hanner
Rwan mae'r cwestiwn yn codi, sut goblyn mae Oscar yn gwybod y bydd yn ail ar y rhestr? Mi gyfeiriais at yr honiadau yma mewn blogiad ddoe, ac aeth Guto ati i fy sicrhau yn y dudalen sylwadau bod gan y Toriaid drefn ddemocrataidd iawn o ddewis ymgeisyddion. Dyfynaf ran o'i sylwadau isod:
Yn 1999 cyfarfod cyhoeddus a hystings a gafwyd gyda pawb yn y neuadd yn bwrw pleidlais. Cafwyd sawl esiampl o 'bacio'r neuadd' megis cefnogwyr Peter Rogers yn y Gogledd. Erbyn 2003 yr oedd y drefn o bleidlais bost i bob aelod wedi ei sefydlu a dyna'r drefn a gafwyd yn 2007.
Ar yr olwg gyntaf mae'n ymddangos bod rhywun yn dweud celwydd - Guto, Golwg360 neu Oscar. Mi fedrwn ni ddiystyru Guto i ddechrau, mae'n droellwr gyda'r gorau ohonom, ond 'dwi'n ei adnabod yn ddigon da i wybod nad ydi o'n delio mewn 'ffeithiau' dychmygol.
Mae gen i brofiad personol o gael fy ngham ddyfynu gan Golwg mewn modd oedd yn gwneud i mi ymddangos i fod yn dweud rhywbeth hollol groes i'r hyn roeddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd. Felly am wn i ei bod bosibl bod Golwg360 yn bod yn ddethol efo'u dyfyniadau eto - ond byddai'n rhaid bod yn rhyfeddol o ddethol i wyrdroi'r sylwadau hyn.
Posibilrwydd arall ydi bod Oscar yn gwneud y peth i fyny - ond mae'n anodd gweld beth fyddai ganddo i'w ennill trwy wneud hynny.
Mae yna bedwerydd posibilrwydd wrth gwrs - bod yna ffyrdd o gwmpas proses ddethol arferol y Ceidwadwyr, a bod eu hen arferion o ddewis pobl i swyddi trwy ffyrdd sy'n ddirgelwch i bawb, gan gynnwys eu haelodaeth eu hunain , yn cymryd mwy o amser i farw nag y byddai rhai'n hoffi cyfaddef.
Ar nodyn ychydig yn wahanol, un pwynt bach y dylai Oscar fod wedi ei ystyried cyn cymryd y cam arbennig yma i hyrwyddo ei yrfa ei hun ydi hwn - mae'n wir bod y Toriaid o fewn 400 i ennill ail sedd yn y De Ddwyrain yn 2007, ac mae'n wir hefyd y gallai'r Toriaid gael pleidlais uwch yno yn 2011, ond petai'r Toriaid wedi ennill Gorllewin Casnewydd (roedd y mwyafrif Llafur tros y Toriaid yn llai na 1,400) neu Ddwyrain Casnewydd (llai na 2,000 o wahaniaeth) ni fyddant yn agos at ail sedd ranbarthol. Gobeithio bod Oscar yn deall y drefn sydd wedi ei ethol.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Sori ond gaf fi gopio beth rydw i wedi ysgrifennu ar flog Vaughan ar dy flog di hefyd. Dw'i am i bobl sylweddoli boi mor dan din yw Osgar
Synnu nad oes NEB o’r De ddwyrain sydd yn ymwneud a'r Blaid yn ymateb. Wn i pam???
O’r diwedd mae rhai pobol yn dechrau gofyn cwestiynau. Roedd cefndir Osgar yn amlwg i lawer o'r funud gyntaf ymunodd gyda'r Blaid. Ddaeth yn gynghorydd sir gan ei fod mewn ward “liwgar” i ddenu llawer o bleidleisiau, ond gofynner beth oedd ei gyfraniad i'r ward ac i'r Ddinas pan oedd yn aelod o'r cyngor. Clywodd rhywun e yn areithio erioed yn siambr y cyngor?
Wrth gwrs mae hanes am Osgar!! Holwch sut ddaeth i'r amlwg yng Nghasnewydd tua 5/6 mlynedd yn ôl. Hefyd gofynnwch sut cymerwyd cangen Casnewydd o'r Blaid drosto gan e a'i deulu!! Hefyd gofynnwch pwy oedd yn brwydro mor ffyrnig i gael e ar y rhestr i ddechrau, a'r pwysau ar aelodau cyffredin i bleidleisio drosto oherwydd lliw ei groen a'i grefydd.
Ie pwy oedd yn defnyddio pwy? Nawr efallai gawn i ambell i ateb!!!
Beth sydd yn fy mhoeni i a llawer un arall yw'r cwestiwn o egwyddor sy'n caniatáu i berson aros mewn swydd heb wynebu ei etholwyr? Ond i Osgar beth yw egwyddor? Mae hwn yn hen hanes a dydy e ddim yn becso'r dam!!
Gwych o gwpled
Esgus o ddyn yw Oscar - i'w hunan
yn unig mae'n deyrngar;
Mae yn dweud y cwbl ond beth hefyd am rol y “Back room boys”?????
Helo,
Diolch am dy ffydd yn fy onestrwydd!
O ddifrif, dwi wedi hen arfer cael spin go sylweddol gan Golwg yn achos unrhyw gyfraniad dwi'n wneud i'r papur felly nid syndod fyddai deall eu bod wedi gorwneud cyfraniad 'Oscar'.
Serch hynny, os oes addewid wedi ei wneud i 'Oscar' yna fe fyddai hynny'n fater difrifol - ac yn groes i'r drefn fel y mae'n bodoli.
O ran cyfraniad Alun - yn rhyfedd iawn un a fu'n uchel ei glod am ddylanwad rhyfedd Mr Ashgar yng Nghasnewydd oedd fy hen gyfaill Adam Price. Yr oedd yn frwd iawn dros allu Mr Ashgar i drosglwyddo cefnogaeth cymuned gyfa i'r Blaid. Rhyfedd os gwir yr honiad fod gobeithion gyrfaol Adam wedi arwain at benderfyniad Mr Ashgar.
Guto
Nid Golwg yw'r unig ran o'r cyfryngau i adrodd y stori hon. Wrth iddi adrodd ar y stori yn torri, toc ar ôl y gynhadledd lle cyhoeddwyd ymadawiad Oscar dywedodd Betsan Powys
Mr Bourne confirmed that Mr Asghar will be second on the list come the Assembly election.
Gweler:
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2009/12/oscar_on_the_move.html
Efallai bod gan Oscar ei lygaid ar sefyll dros y Ceidwadwyr yn un o'r ddwy sedd etholaeth yng Nghasnewydd?
Wedi'r cwbl byddai gan y Blaid mor agos at ddim gobaith ag sy'n bosib o ennill y rhain, ond gall y Ceidwadwyr...
Post a Comment