Saturday, July 18, 2009

Betio a ballu

'Dwi ddim yn un mawr am fetio, ond mi fyddaf yn betio o bryd i'w gilydd - ond dim ond ar rygbi a gwleidyddiaeth. Y wefan orau i fetio ar wleidyddiaeth Prydeinig yn eironig ddigon ydi un y bwci Gwyddelig Paddy Power.

Mae ganddyn nhw bellach nifer dda o etholaethau unigol y gellir betio arnynt. Gan fod y blog yma'n ymddiddori'n bennaf mewn gwleidyddiaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill 'dwi am gymryd cip ar bets y gellir eu cael ar etholaethau Celtaidd. Un sedd Gymreig sydd ganddynt - Gorllewin Casnewydd, a dim un Gwyddelig. Seddi Albanaidd ydi'r gweddill.

'Dwi ddim yn honni i fod yn arbenigwr ar wleidyddiaeth lleol y seddi yma - ond 'dwi wedi hel canlyniad etholiad 05, is etholiadau diweddar lle'n berthnasol a chanlyniadau etholiadau Senedd yr Alban neu'r Cynulliad yn 2007. Gair o rybudd efo'r rhain - 'dydi'r etholaethau yn yr Alban yn etholiadau San Steffan ddim yn rhannu'r un ffiniau a rhai Senedd yr Alban - felly 'dwi ond wedi cynnwys canlyniadau Senedd yr Alban lle mae yna debygrwydd gweddol rhwng y ffiniau. 'Dwi hefyd wedi nodi odds Paddy Power fel maent yn sefyll heddiw.

Aberdeen South:

Etholiadau San Steffan 2005:

Llafur: 15272 (36.7%)
Lib Dems: 13924 (33.5%)
Ceidwadwyr: 7134 (17.1%)
SNP: 4120 (9.9%)
Eraill: 1171 (2.8%)
Mwyafrif: 1348 (3.2%)

Etholiadau Senedd yr Alban 2007

Lib Dems: 10,843 (36.3)
SNP: 8111 (27.1%)
Llafur: 5499 (18.4)
Ceidwadwyr: 5432 (18.2%)
Mwyafrif: 2,731 (9.1%)

Llafur 11/8, Lib Dems 2/1, Toriaid 10/3, SNP 13/2

Mae'r 2/1 ar y Lib Dems yn ymddangos yn bet dda yma - ag ystyried i Lafur ddod yn drydydd yn etholiadau senedd yr Alban a bod pethau'n agos ar lefel San Steffan y tro o'r blaen. Mi fydd yr SNP yn debygol o fwyta i mewn i bleidlais y Lib Dems a Llafur - ond byddant yn cael mwy o bleidleisiau Llafur.

Dunfermline and West Fife

Llafur: 20111 (47.4%)
Lib Dems: 8549 (20.2%)
SNP: 8026 (18.9%)
Ceidwadwyr: 4376 (10.3%)
Eraill: 1332 (3.1%)
Mwyafrif: 11562 (27.3%)

Is etholiad 2006:

Lib Dems: 12,391 (35.8%)
Llafur: 10,591 (30.6%)
SNP: 7,261 (21%)
Ceidwadwyr: 2,702 (7.8%)
Eraill: tua 1,500
Mwyafrif: 1,800 (5.2%)

Lib Dems 5/6, Llafur 15/8, SNP 6/1, Ceidwadwyr 80/1.

Y 15/8 ar Lafur sy'n edrych orau yma. Er i'r Lib Dems gipio'r sedd mewn is etholiad yn 06, roedd mwyafrif Llafur yn sylweddol iawn yn 05. Mae ganddynt obaith da o ennill y sedd yn ol - er bod record y Lib Dems o ddal seddi maent wedi eu hennill mewn is etholiadau yn gyffredinol dda.

Edinburgh South West:

2005

Llafur: 17476 (39.8%)
Ceidwadwyr: 10234 (23.3%)
Lib Dems: 9252 (21.1%)
SNP: 4654 (10.6%)
Eraill: 2310 (5.3%)
Mwyafrif: 7242 (16.5%)

Edinburgh Pentlands - Etholiad Senedd yr Alban

Ceidwadwyr: 12,927 (37.6%)
Llafur: 8,402 (24.2%)
SNP: 8,234 (24%)
Lib Dems: 4,814 (14%)

Llafur 1/2, Ceidwadwyr 6/4, Lib Dems 16/1, SNP 20/1
Mwyafrif: 4,525 (13.2%)

Er i'r Ceidwadwyr ennill yn Pentlands yn etholiadau Senedd yr Alban - mae proffeil South West yn fwy dosbarth gweithiol nag un Pentlands. Ar ben hynny 'dydi'r Toriaid ddim yn gwneud yn dda yn yr Alban yn ol y polau. Serch hynny sedd Alistair Darling ydi hi - ac ni ddaeth y gwron hwnnw allan o'r busnes treuliau'n arbennig o dda. Efallai y byddai bet fach ar y Ceidwadwyr yn syniad.

Edinburgh South

2005

Llafur: 14188 (33.2%)
Lib Dems: 13783 (32.3%)
Ceidwadwyr: 10291 (24.1%)
SNP: 2635 (6.2%)
Eraill: 1801 (4.2%)
Mwyafrif: 405 (0.9%)

Lib Dems: 11398 (35%)
Llafur: 9,469 (29.1%)
SNP: 6,117 (18.8%)
Ceidwadwyr: 5,589 (17.2%)
Mwyafrif: 1,929 (5.9%)

Toriaid 1/1, Lib Dems 13/8, Llafur 7/2, SNP 25/1.

Fedra i ddim deall pam bod y Ceidwadwyr yn cael 1/1. Mae'n rhaid bod pleidleisiau y bydd Llafur yn eu colli yn fwy tebyg o fynd i'r Lib Dems nag i Lafur. Y 13/8 i'r Lib Dems ydi'r bet orau.

Glasgow East:

Llafur: 18775 (60.7%)
SNP: 5268 (17%)
Lib Dems: 3665 (11.8%)
Ceidwadwyr: 2135 (6.9%)
Eraill: 1096 (3.5%)
Mwyafrif: 13507 (43.7%)

Is etholiad 2008
SNP: 11277 (43.1%)
Llafur: 10,912 (41.7%)
Ceidwadwyr: 1636 (6.3%)
Lib Dems: 915 (3.5%)
Mwyafrif: 635 (1.4%)

Senedd yr Alban 2007:

Glasgow Baillieston

Llafur: 9141 (52.9%)
SNP: 5,207 (30.2%)
Ceidwadwyr: 1,276 (7.4%)
Lib Dems: 1,060 (6.1%)
Mwyafrif: 3,934 (22.8%)

Llafur 8/15, SNP 11/8, Ceidwadwyr 80/1, Lib Dems 80/1

Er i'r SNP gipio'r sedd yn is etholiad 08, ac er bod ganddynt Aelod Seneddol effeithiol iawn, 'dwi'n meddwl bod yr odds yma yn eihaf cywir - ac ni fyddwn yn betio ar hon.

East Renfrewshire

Llafur: 20815 (43.9%)
Ceidwadwyr: 14158 (29.9%)
Lib Dems: 8659 (18.3%)
SNP: 3245 (6.8%)
Eraill: 528 (1.1%)
Mwyafrif: 6657 (14%)

Llafur: 15,047 (35.8%)
Ceidwadwyr: 14,186 (33.6%)
SNP: 7,972 (18.9%)
Lib Dems: 3,603 (8.6%)
Eraill: 1327 (8.6%)
Mwyafrif: 891 (2.1%)

Ceidwadwyr 5/6, Llafur 5/6, SNP 80/1, Lib dems 80/1.

Mi fyddai hon yn gyraeddadwy i'r Ceidwadwyr yn Lloegr - ond ddim yn yr Alban efallai. Y bet Llafur ydi'r un orau - er na fydda i'n trafferthu fy hun.

Kircaldy & Cowdenbeath:

Sedd Gordon Brown wrth gwrs.

San Steffan 2005

Llafur: 24278 (58.1%)
SNP: 6062 (14.5%)
Lib Dems: 5450 (13%)
Ceidwadwyr: 4308 (10.3%)
Eraill: 1698 (4.1%)
Mwyafrif: 18216 (43.6%)

Senedd yr Alban 2007:

Llafur: 10,627 (43.9%)
SNP: 8,005 (33.1%)
Lib Dems: 3,361 (13.9%)
Ceidwadwyr: 2,202 (9.1%)
Mwyafrif: 2,622 (10.8%)

Llafur 1/20, SNP 16/1, Annibynnol 16/1, Lib Dems 100/1, Ceidwadwyr 100/1.

Mae Brown yn siwr o ennill, ond efallai y byddai bet fach ar yr SNP ar 16/1 yn syniad oherwydd y posibilrwydd y bydd Brown wedi ei ddiorseddu erbyn yr etholiad. Gallai hynny rhoi rhyw fath o obaith i'r SNP.

Gorllwin Casnewydd:

Llafur: 16021 (44.8%)
Ceidwadwyr: 10563 (29.6%)
Lib Dems: 6398 (17.9%)
Plaid Cymru: 1278 (3.6%)
Eraill: 1472 (4.1%)
Mwyafrif: 5458 (15.3%)

Cynulliad 2007

Llafur: 9,582 (40.5%)
Ceidwadwyr: 8,181 (34.8%)
Lib Dems: 2,813 (11.9%)
Plaid Cymru: 2,449 (10.4%)
Eraill: 634 (2.7%)
Mwyafrif: 1,401 (5.9%)

'Dwi'n credu i Lafur ddod yn gyntaf yn etholiadu Ewrop - ond gyda tua chwarter y bleidlais yn unig.

Llafur 4/7, Ceidwadwyr 5/4, Lib Dems 33/1, Plaid Cymru 100/1.

Y bet ar y Toriaid ydi'r un orau yma. Mae gen i ofn bod sedd Paul Flynn men perygl - mae'r Toriaid mor debygol o'i chipio nag ydi Llafur i'w chadw. Mi fyddai'n bechod colli Cymro da o'r senedd - ond gall ddigwydd yn hawdd.

Peidiwch a chymryd hyn gormod o ddifri - a pheidiwch a dod yma i chwilio am eich pres os ydych yn dilyn fy nghyngor ac yn colli yr uffernols barus.

6 comments:

Anonymous said...

Gorll Casnewydd yw'r unig sedd Gymreig sydd ar Ladbrokes hefyd - ond mae nhw'n eich gwahodd chi i ebostio cais os nad ydy'r etholaeth yr ych chi'n chwilio amdani ar gael.

Ychydig iawn o etholaethau Cymru sy'n ddigon diddorol o safbwynt betio

Cai Larsen said...

'Dwi'n anghytuno efo'r pwynt olaf - mae yna lawer mwy o seddi diddorol y tro hwn nag arfer.

Dewi Harries said...

Byse'n ddiddorol gweld "odds" Maldwyn, Llanelli a Phenybont

Cai Larsen said...

Beth am ofyn i Ladbrokes?

Anonymous said...

Maldwyn fydd yr un hynod o ddiddorol yn yr etholiad nesa. Dyw Llundain a Chaerdydd heb diwnio i fewn i'r hyn sy'n digwydd yma. Mae na newid MAWR ar y gweill, gyda hyd yn oed Lib Dems selog yn gwrthod pleidleisio dros y Lembo. Dim syniad gen i beth yw'r odds, ond yr arian clyfar ar Glyn Davies

Cai Larsen said...

Mi fyddai'n ddiddorol iawn gweld yr odds felly.