Saturday, July 04, 2009

Gogledd Korea, Miliband, Scuds a Trident

Mae David Milliband yn ofnadwy o flin bod Gogledd Korea wedi profi taflegrau Scud. Am unwaith 'dwi'n cytuno efo David - mae llywodraeth Gogledd Korea ymhlith y mwyaf anymunol yn y byd.



Fodd bynnag mi fyddai llais David yn gryfach pe na fyddai ei blaid eisiau gwario £76 biliwn ar system Trident newydd.

Mae gan Trident 2 gyrhaeddiad o 7,500 milltir, cyflymder o 18,000 mya ac wyth warhead niwclear ar pob taflegryn.

Efo'r system mae David eisiau gwario'n holl bres arni, gall llong danfor sydd wedi ei chuddio yng nghanol Mor yr Iwerydd ddifa dinas yn y Dwyrain Canol, China neu Rwsia. Mi fydd gan y system newydd 64 taflegryn a 768 warheads - y gallu i ddifa 768 dinas.

Ymddengys bod Gogledd Korea wedi profi bomiau niwclear, ond does yna ddim lle i gredu eu bod yn gallu gosod eu harfau niwclear ar flaen taflegryn a gwneud iddynt ffrwydro.

Cyrhaeddiad y Scud mwyaf effeithiol ydi 1,000km, ac mae'n llawer llawer llai cywir na Trident. Dydi'r Scud ddim yn system aml warhead chwaith. Mewn geiriau eraill, petai - petai - Gogledd Korea yn gallu dod o hyd i ffordd o wneud i'w bomiau niwclear cyntefig ffrwydro pan maent ar flaen taflegryn, byddaiefallai hanner dwsin o ddinasoedd yn Japan a De Korea o dan fygythiad. Petai David yn cael ei system Trident 2, gallai fygwth pob tref yn y byd.

Ti'n gywir i fyllio am y peth Dave - ond wir Dduw mae gofyn deryn glan i ganu.

No comments: