Monday, February 02, 2009

Ydi Llafur yn eich casau chi?

'Dwi'n hanner difaru 'sgwennu nad oes fawr ddim yn fy ngwylltio yn Barn y dyddiau hyn - gyda erthygl anwybodus Arwel Ellis Owen ynglyn a'r ffilm Hunger yn y rhifyn diwethaf ac erthygl gwirioneddol ffuantus ac idiotaidd gan ddarpar ymgeisydd y Blaid Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - Rhys Williams yn y rhifyn diweddaraf.

Mae'n anodd cyfleu pam mor amddifad o resymeg sylfaenol ydi gwead ei ddadl - ond mi wnaf fy ngorau i gyfleu ychydig o idiotrwydd ei ddarn.

Byrdwn dadl Rhys ydi ei fod yn casau'r Cymry Cymraeg yn dorfol, yn arbennig rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, ond ei fod yn eu caru'n unigol (yn bersonol 'dwi ddim yn awyddus iawn i fod yn wrthrych serch Rhys - mae'n well gen i gael fy nghasau unigol yn ogystal na fel rhan o grwp torfol ganddo).

Y rheswm tros y casineb torfol bisar yma ydi bod Rhys yn credu bod 'llawer o bobl bach pwysig ein cymunedau Cymraeg' yn defnyddio'r iaith i gadw eraill allan neu i'w rhoi yn eu lle. A dweud y gwir mae Rhys yn mynd cyn belled a chredu bod sawr y Seiri Rhyddion ar y Gymru Gymraeg. Mae hefyd yn son am achos Stephen Lawrence a hiliaeth sefydliadol yr heddlu'n Llundain. Nid yw'n ceisio esbonio beth sydd a wnelo hynny a'i ddadl, ond yr hyn mae'n geisio ei awgrymu am wn i ydi bod y Gymru Gymraeg yn sefydliadol hiliol. Wnawn ni ddim aros gyda'r anhawsterau rhesymegol mae awgrymu bod rhywbeth nad yw'n sefydliad yn sefydliadol hiliol yn ei greu.

Nid bod Rhys yn hollol siwr ynglyn a hyn hyd yn ddiweddar cofiwch - o na - roedd yn meddwl ei fod yn cyfeiliorni am hir - ond cafodd brawf 'gwrthrychol' bod ei ganfyddiadau yn gywir - darllen dau lyfr tros dair neu bedair blynedd a chlywed cyfweliad ar y teledu.

Y llyfr cyntaf sydd wedi ei argyhoeddi bod ei ragfarnau yn gywir ydi hunangofiant Cynog Dafis, Mab y Pregethwr. Mae'n cyfeirio at ddau sylw gan Cynog ynglyn a chydnabod Cymraeg eu hiaith iddo oedd wedi magu eu plant yn ddi Gymraeg. O ran goslef mae'r sylwadau yn weddol niwtral - er nad yw'n cymryd athrylith i ganfod nad yw Cynog yn cymeradwyo'r arfer o beidio a throsglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf. Mae Rhys yn ystyried y sylwadau yn hunan dosturiol a rhagrithiol.

Yr ail lyfr sy'n cefnogi rhagfarnau Rhys ydi cofiant Gwynfor Evans gan Rhys Evans. Ymddengys bod Rhys (Williams) yn ei chael yn ddigri i Gwyn Humphries - Jones wrthod cyfathrebu gyda'r Gwynfor Evans ifanc (cloff ei Gymraeg) yn y Gymraeg oherwydd nad oedd ganddo'r amynedd i wneud hynny. A dweud y gwir mae Rhys yn cael hyn yn fater i'w edmygu - chware teg i'r hogyn di flewyn ar dafod o'r Bala..

Byddai rhywun nad yw wedi ei ddallu gan gasineb yn tybio mai esiampl o'r hyn mae Rhys yn honni ei fod yn ei gasau - 'defnyddio'r iaith i dorri pobl allan' - oedd agwedd o'r fath.

Cyfweliad teledu gyda Keith Davies ydi'r trydydd peth sydd wedi argyhoeddi Rhys o ddilysrwydd ei ragfarnau. Yr hyn sy'n gwneud Keith yn un o'r bobl hynny sydd yn defnyddio'r iaith i gau pobl allan ac i'w gwneud yn ddinasyddion eilradd ydi iddo nodi bod rhai o rieni'r Gwendraeth yn defnyddio'r Saesneg gyda'u plant.

Felly mae Rhys wedi ei argyhoeddi bod ei 'ganfyddiad' bod y Gymru Gymraeg yn defnyddio'r iaith i greu dinasyddion eilradd ac i gau pobl allan gan sylwadau gan Keith Davies am bobl nad ydynt yn trosglwyddo'r iaith i'w plant, sylwadau gan Cynog am bobl nad oeddynt yn trosglwyddo'r Gymraeg gyda'u plant a stori yn llyfr Rhys Evans am rhywun (mae Rhys Williams yn ei edmygu) yn gwrthod cyfathrebu yn y Gymraeg gyda Gwynfor Evans.

Felly 'prawf' Rhys o falais sefydliadol y Gymru Gymraeg ydi storiau am Gymry Cymraeg adnabyddus yn poeni nad yw'r iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf a stori am siom Gwynfor Evans nad oedd un o'i gyd fyfyrwyr yn Aberystwyth yn fodlon siarad Cymraeg efo fo. Trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r llall, a defnydd mynych o'r iaith rhwng pobl o'r un genhedlaeth ydi'r llinynau pwysicaf yn y gwead o gwahanol ffactorau sy'n ffurfio'r amodau sy'n caniatau i iaith oroesi. I Rhys mae mynegi gofid ynglyn a'r materion hyn yn dystiolaeth o hiliaeth a malais sefydliadol.

Mae'r erthygl yn codi nifer o gwestiynau - rhai ohonynt ynglyn a Rhys ei hun - a wna i ddim aros gyda'r rheiny. Ond ystyriwch mewn difri bod Rhys yn sefyll tros blaid, a phlaid prif lif - yn wir plaid sydd mewn llywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain. Mae'n sefyll mewn etholaeth sydd yn Gymreig iawn - mae tua dau o bob tri o drigolion Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn siarad Cymraeg. Nid yw'n cael problem dweud ei fod yn casau'r gymdeithas mae'r rhan fwyaf o ddarpar etholwyr yn rhan ohoni.

Meddyliwch am ymgeisydd ar ran unrhyw blaid arall yn cyfaddef ei fod yn casau cymdeithas ei ddarpar ymgeiswyr. Meddyliwch mewn difri calon beth fyddai'n digwydd petai darpar ymgeisydd ar ran Plaid Cymru yn dweud ei fod yn casau Saeson, ond ei fod yn caru pob Cyril, Herbert a Sophie, neu petai Tori yn dweud ei fod yn casau Pacistanis ond ei fod yn caru pob Javed, Asif ac Iqbal. Mi fyddai'r ddau wedi colli eu hymgeisyddiaeth erbyn diwedd yr wythnos.

Mae'n adrodd cyfrolau am ddiwylliant mewnol y Blaid Lafur bod Rhys yn meddwl bod ei sylwadau yn dderbyniol, ac yn wir ei fod yn meddwl eu bod nhw'n rhesymegol. Mae'n dweud mwy bod Llafur yn fodlon dewis eithafwyr gwrth Gymreig fel Rhys fel ymgeiswyr seneddol. Mi fyddai'r BNP yn meddwl dwywaith am ddewis pobl o'r fath.

3 comments:

y prysgodyn said...

http://prysgodyn.blogspot.com/2009/02/lemon-i-arwain-ymgrych-chwerw.html

Hogyn o Rachub said...

Heb ddarllen yr erthygl fy hun ond dwi 'di gweld y lembo 'ma ar CF99 cwpl o weithia. Mae'n neud i rywun wenu wrth feddwl nad ydi o'n anodweddiadol o ymgeiswyr Llafur y Fro erbyn hyn; sef crap.

Anonymous said...

Y gwir ydi mae 99.9% o’r boblogaeth heb clywed am Rhys Williams ond mae yna wrth gwrs lawr mwy yn nabod Adam Price. Felly pa ffordd gwell a dod a sylw i’w hyn gan godi grychyn y Cymry Cymraeg trwy dweud rhywbeth fel ‘Dwi’n casáu y Cymry Cymraeg’. A ceisio creu rwyg rhwng y Cymry Cymraeg a’r ddi-Gymraeg am mantais gwleidyddol. Meddyliwch yr ymateb os fysa rhyw ddyn wedi dweud ‘Dwi’n casáu Saeson’ mewn erthygl yn Barn? Mae’r pen bach yma yn dangos ei fod ddim yn ffit i fod yn darpar aelod seneddol. Mae Rhys Williams yn bigot wrth Gymraeg ffiaidd. A ddylwn anwybyddu baw ci fel hyn.