Saturday, February 07, 2009

Diwrnod y ddau Gordon


Yn ol Gordon Brown mae o wedi bod o blaid sefydlu trefn rhybudd cynnar i adnabod sicrhau bod llif ariannol rhyngwladol yn rhedeg yn briodol ers blynyddoedd lawer. Yn wir mae wedi bod o'r farn nad yw'r drefn bresenol yn ddigonol ers talwm. Felly mae'n dadlau ei fod wedi rhagweld yr argyfwng ariannol. Hawdd y gallai dyn ofyn - pam ddiawl na wnaeth o ddim i atal y peth?

'Rwan fedra i ddim meddwl am unrhyw beth mor anhygoel y gallai Brown ei ddweud - efallai mai hanner dwsin o bobl a gafodd eu hunain mewn sefyllfa i osod trefn o oruwchwylio llif ariannol rhyngwladol - a fo, fel canghellor y trysorlys ym Mhrydain am ddegawd oedd un ohonynt.

Pam bod Gordon yn dweud rhywbeth mor gwbl anhygoel? Fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm call pam y byddai'r dyn yn dweud y ffasiwn beth - beth bynnag ei wendidau, dydi o ddim ymhlith y bobl mwyf di gywilydd yn hanes y Byd? Yr unig beth y gallaf feddwl amdano ydi ei fod wedi cael damwain o rhyw fath sydd wedi niweidio ei fenydd.

Efallai ei fod wedi cynhyrfu'n lan wedi cael gwared o Tony Blair ar ol yr holl flynyddoedd o gynllwynio, ac wedi degawdau o ddal ei hun yn ol aeth ati i ddathlu'n lloerig gan ddobio ei ben yn erbyn y wal i gyfeiliant cerddoriaeth soniarus Black Sabbath. Hwyrach bod hyn wedi hollti'r llinyn sy'n cysylltu dau ochr ei fenydd a bod y cyn ganghellor wedi ei adael ar ol yn yr ochr chwith ei fenydd, tra bod y prif weinidog yn yr ochr dde. Felly mae yna ddau Gordon Brown.

Mae'r ddau yn cyd fyw - yn mynd i'r un llefydd, yn ystyried yr un problemau - yn gwneud pob dim efo'u gilydd, ond maent yn ddau endid cwbl wahanol.

Bydd y ddau yn rowlio allan o'r gwely efo'i gilydd ac yn ymbalfalu yn y myrllwch am drons, par o sanau, trywsus ac ati. Wedyn byddant yn mynd i lawr y grisiau i gael eu brecwast. Daw gwas sifil i mewn gyda'r papurau boreuol, ac mae'r ddau Gordon yn mynd trwy'r penawdau - Brown's Ratings Now Lower Than Hitler's, Labour In Single Digits In The Polls, Labour Peers Willing To Legalise Dog Fighting In Exchange For Cash, USA Breaks Diplomatic Relations With UK After Latest Milliband Faux Pas , Jacqui Smith Puts All The Nation's Reserves In Her Purse ac ati, ac ati. Mae'r ddau Gordon yn troi at y tudalenau cefn.

Wedyn mae'r ddau yn cael eu gyrru o 10 Downing Street i'r Senedd. Maent yn mynd i'w swyddfa lle mae'r prif chwip yn ei aros gyda'r storiau arferol am aelodau seneddol yn bygwth pleidleisio gyda Cameron, aelodau seneddol ddim am sefyll y tro nesaf, aelodau seneddol yn bygwth cyflawni hunan laddiad ar lawr Ty'r Cyffredin _ _ _. Maen nhw'n dechrau meddwl am rhywbeth arall - unrhyw beth arall - eu hoff gol - yr un a sgoriodd Paul Gascoine yn erbyn yr Alban yn Euro 96.

Daw amser Cwestiynau'r Prif Weinidog yn erchyll o fuan. Mae'r Gordons yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn cyntaf pob tro am bod eu gweision sifil wedi sgwennu'r atebion ar bapur gan ddefnyddio ffont maint 16. Yn anffodus 'does gan y gweision sifil ddim syniad beth ydi'r cwestiynau dilynol, a dydi'r Gordons ddim efo'r syniad lleiaf sut i'w hateb - felly maent rwdlan yn gloff, ac mae pawb o'n blaen yn dechrau chwerthin, neu weiddi, neu ysgwyd eu dyrnau, neu ofyn cwestiynau sbeitlyd. Mae pawb y tu ol iddynt yn rhoi eu pennau yn eu dwylo. Mae'r dyddiau pan oedd Betty Williams yn planu ei hun yn union y tu ol i Blair wedi hen fynd. Mae bellach yn planu ei hun cyn belled a phosibl oddi wrth y Gordons.

Wedyn cant eu gyrru'n ol i 10 Downing Street a chael cip ar Sky News - y gohebydd gwleidyddol gyda chrechwen ar ei wyneb yn rhoi adroddiad ar berfformiad y Gordons yn y Senedd. Clip neu ddau o'r gyflafan ar lawr Ty'r Cyffredin.

Mae'r Gordons yn mynd at y cwpwrdd diod ac yn llenwi gwydr hanner peint o'r botel wisgi ac yn troi i edrych ar y darts ar Sky Sports.

Deffro'n sydyn a'r darts yn dal i fynd. Edrych ar y cloc - un o'r gloch y bore. Ymlwybro i fyny'r grisiau - mae'r golau wedi diffodd ac mae Sarah eisoes yn y gwely. Mae'r ddau Gordon yn ystyried ceisio cael cyfathrach rywiol gyda hi - ar yr un pryd. Maent yn rhoi eu llaw ar ei chlun, mae hithau'n troi ei chefn arnynt. Maent hwythau yn troi eu cefn ac yn ceisio cysgu - er mwyn bod yn ffres i wynebu diwrnod arall.

No comments: