Sunday, August 03, 2008

Y Toriaid, eu cyfeillion a sbwriel

Ymddengys bod y Toriaid a'u cyfeillion yn poeni yn ofnadwy am sbwriel yn ddiweddar.

Er enghraifft mae Gwilym Euros yn cwyno'n groch mai bai Plaid Cymru ydi dympio answyddogol - os yn wir mai dyna mae'r cyfraniad yn ei ddweud - mae'r darn yn ddryslyd braidd fel mae'r frawddeg olaf ogleisiol o hir a di ystyr yn ei awgrymu:

Felly o hyn ymlaen os byddwch yn gweld golygfeydd fel yr un uchod yn eich ardal neu pan fyddwch yn gorfod talu am gludo gwastraff swmpus o'ch cartref cofiwch ddiolch i Blaid Cymru am y profiad oherwydd iddyn nhw llwyth o sbwriel oedd cynnig Aeron, ond mewn rialiti cynrychioli barn y mwyafrif llethol o fobol Gwynedd oedd o ac efallai wedi ddoe bydd y pobol yn meddwl mai i'r sbwriel y dylid taflu addewidion gwag Plaid Cymru.

Yn y cyfamser mae cyfaill a phartner Gwilym, ymgeisydd seneddol y Toriaid yn Aberconwy wedi dechrau hel sbwriel os ydi gair ei gyd Dori o Aberconwy Oscar i'w gredu.

Ac yma yng Nghaernarfon mae ein Tori lleol, un Adrian Dylan William Jones wedi bod yn cerdded glanau'r Fenai yn chwilio am sbwriel. Fel mae'r cyfraniad blaenorol prin hwn ar ei flog yn awgrymu, mae sbwriel yn agos at ei galon.

Yr un ydi'r stori ar lefel Brydeinig - mae'r hawddgar Eric Pickles gyda theimladau cryfion am y pwnc.

'Rwan mae'n wir bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol, a thros y DU i leihau'r gwastraff sy'n cael ei anfon i gael ei gladdu. Mae nifer o bethau yn gyrru'r symudiad hwn - ond un o'r pwysicaf ydi Landfill Tax 1996 - treth amgylchfydol cyntaf y DU. John Selwyn Gummer oedd y gweinidog Toriaidd oedd yn gyfrifol am y dreth. Bydd y dreth yn cynyddu'n sylweddol tros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i benderfyniadau gan y llywodraeth Lafur.

Mae'r dreth yn cosbi awdurdodau lleol a chyrff eraill am gladdu sbwriel - ac wrth gwrs mae'n cynhyrchu refeniw sylweddol i'r llywodraeth - £0.8 biliwn yn 2006 - 2007 er enghraifft. Mae'n debyg y bydd mwy na biliwn yn cael ei gyfeirio i goffrau'r llywodraeth eleni. Mae llawer o'r arian hwn yn cael ei gymryd o goffrau awdurdodau lleol - mewn cyfnod lle mae'r awdurdodau hynny yn wynebu toriadau sylweddol yn eu cyllidebau.

Mae'n briodol wrth gwrs i Doriaid a'n cyfeillion o Lais Gwynedd wrthwynebu newidiadau yn y gyfundrefn hel sbwriel - ond byddai'n ddiddorol gwybod os ydynt o blaid y dreth, a byddai'n ddiddorol hefyd gwybod pa wasanaethau eraill y byddai Dylan, Gwilym ac ati yn eu torri er mwyn talu'r dreth.

No comments: