Sunday, November 07, 2004

Bewley's, Grafton Street, Johann Sutter a Chymru



Un o landmarks amlycaf Dulyn yn cau yr wythnos yma. Mae erthygl ddiddorol ar hyn yn Sunday Business Post yr wythnos yma.

'Dwi'n gwybod mai'r berthynas rhwng prisiau uchel eiddo (neu aur) a difa busnesau go iawn ydi byrdwn yr erthygl, ond mae hi'n codi cwestiynau ehangach - i ba raddau y gall grymoedd masnachol sgubo nodweddion diwylliannol ardaloedd a'r gwledydd o'r neulltu?

Mae prisiau eiddo - a photensial masnach i wneud elw ar ei fwyaf grymys yng Nghaerdydd (ag edrych ar bethau o safbwynt Cymreig o leiaf). Mae llawer o'r Caerdydd 'dwi yn ei gofio pan ddechreuais fynd yno chwarter canrif yn ol wedi mynd - yr hen dafarnau dinesig Brains, i gyd bron wedi eu hadnewyddu, y cymunedau o gwmpas y dociau wedi eu claddu gan fflatiau, caffis Asteys, marchnad Mill Lane, Y Moon a Smileys ac ati.

Ag edrych yn bellach yn ol mae'r hen gymunedau yn y canol wedi mynd - fel y gymuned unigryw honno - .Newtown - cymdogaeth Babyddol / Wyddelig yng Nghymru.

Mae'n debyg bod lles wedi dod o hyn oll, ond mae llawer wedi ei golli hefyd.

Poscript bach. Ymddengys bod gwerth masnachol o 2,000,000 euro i'r ffenestri lliw, ac mae canoedd o bobl wedi bod yn mynd a'u plant yno i dynnu eu lluniau o flaen y ffenestri yn ystod yr wythnos neu ddwy diwethaf.


2 comments:

Nwdls said...

Waw, difyr ofnadwy am Newtown. Wyddwn i ddim fod ffasiwn le yn bodoli. Diolch am y ddolen. Dwi'n meddwl ai chwilio am yr ardd goffa 'ma.

Dwinna hefyd efo atgofion o fod yn Bewleys Dulyn. Gesh i goffi hyfryd yno. Biti fod y lle'n cau.

Cai Larsen said...

Diolch Rhodri. Nid yw'r ardd wedi ei pharatoi eto, ond mae'r safle wrth Westy'r Hanover yn Tyndall Street 'dwi'n meddwl.