Wednesday, November 17, 2004

Brwydro wnawn am Gymru Rydd Gymraeg?



Efallai bod Cymru rydd yn llawer mwy cyrhaeddadwy na Chymru Gymraeg.

Er bod cyfrifiad 2001 yn dangos bod mwy o bobl yn siarad Cymraeg nag oedd yn 91, a bod y proffeil yn iach i'r graddau bod llawer o blant yn siarad Cymraeg - pam mor ddibynadwy ydi'r ffigyrau hyn. Mae'r tabl hwn yn dangos faint o blant sy'n siarad Cymraeg yn eu cartrefi. Dyma'r plant sy'n debygol o siarad Cymraeg yn eu bywudau pob dydd - heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r ganran - ar 6.2% yn ddagreuol o isel, ac mae wedi bod yn gostwng ers i gofnodion gael eu cadw.

Go brin bod y cynnydd yn y niferoedd sy'n siarad y Gymraeg fel ail iaith yn 'rhugl' ac yn 'lled rhugl' am gyfieithu i lawer o siarad Cymraeg ar y stryd yn y dyfodol. Diolch am y 'ffasgwyr ieithyddol'.

2 comments:

Nwdls said...

Blydi hel. Rioed wedi meddwl fod y ffigyra mor isal, nac eu bod yn disgyn fel'na chwaith. Ma hynna'n newyddion sobr iawn. Diolch (dwi'n meddwl) am dynnu'n sylw i ato fo.

Rhys Wynne said...

Ffigyrau brawychus dros ben, yn enwedig 7.1% yn Sir Ddinbych o ble dwi'n wreiddiol a 0.3% yn sir Caerffili ble dwi'n gweithio. Diddorol bod 52% ddim yn siarad dim CYmraeg er bod Cymraeg yn cael ei dysgu ymhob ysgol (i fod). Trist iawn.