Thursday, August 29, 2013

Y Bib a gwleidyddiaeth Cymru

Dydi Blogmenai ddim yn dangos cydymdeimlad efo'r Bib yng Nghymru yn aml - ond mae'r blogiad yma yn eithriad.  Un o gryfderau'r gorfforaeth  ydi bod yna unigolion o'r radd flaenaf yn gweithio iddi. Mae ymdriniaeth y Golygydd Materion Cymreig ymysg y pethau gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ynglyn a gwleidyddiaeth a bywyd cyfoes yng Nghymru.  Roedd yr hyn oedd gan y cyn Olygydd Gwleidyddol i'w ddweud yr un mor dreiddgar a gwybodus.

Ond dydi ymdriniaeth y Bib o faterion gwleidyddol yng Nghymru yn ei gyfanrwydd jyst ddim digon da.  Gellir dod ar draws sawl esiampl sy'n amlygu hyn  - dau diweddar ydi'r ymdriniaeth bisar a rhannol o'r is etholiad pwysicaf yn hanes Cymru, a'r oriau lawer aeth rhagddynt cyn i'r Bib adrodd ar stori'r Mail on Sunday am Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd.  Mae yna lawer, lawer mwy o esiamplau.

Rwan, dydi pethau ddim yn hawdd i'r Bib yng Nghymru o gymharu a'r Bib yng Ngogledd Iwerddon, neu'r Alban.  Yn y gwledydd hynny ceir cyfryngau eraill sy'n ymdrin a gwleidyddiaeth yn effeithiol - mae yna bapurau newydd cenedlaethol sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth cenedlaethol.  Rhan o'r hyn sy'n diffinio'r ddisgwrs wleidyddol ydi'r Bib yn y lleoedd hynny - dydi'r gyfrifoldeb i gyd ddim ar eu sgwyddau nhw.  Yng Nghymru mae yna bapurau cyfrwng Saesneg sydd a diddordeb yn y De, neu yn y Gogledd, neu mewn rhannau o'r De neu'r Gogledd.  Does yna ddim papurau cenedlaethol yng ngwir ystyr y term.  Mae eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru at ei gilydd yn hynod ddiffygiol, ac mewn ambell i achos yn warthus o arwynebol.  Mae'r rhan fwyaf hefyd yn perthyn i Trinity Mirror - y sefydliad  a gyflwynodd y Welsh Mirror i'r genedl.  Mae'r papurau cyfrwng Cymraeg yn well, ond dydyn nhw ddim yn dylanwadu llawer ar ddisgwrs gwleidyddol y wlad yn ei chyfanrwydd.

Felly does gan y Bib yng Nghymru ddim canllawiau ehangach, does yna ddim pwyntiau eraill i gyfeirio atynt - mae'n  gorfod ysgwyddo'r gyfrifoldeb tros benderfynu beth sy'n bwysig i adrodd arno, beth sy'n berthnasol ar ei phen ei hun.  Mae'n gorfod diffinio'r tirwedd.  Dydi hyn ddim yn hawdd.  Mae pethau'n cael eu gwneud yn fwy anodd gan y ffaith bod y Blaid Lafur Gymreig o dan yr argraff y dylai'r Bib ddilyn canllawiau sy'n ei phortreadu hi mewn goleuni ffafriol - dylai un piler sefydliadol gefnogi'r llall.   Gellir gweld hyn yn y myllio hysteraidd ac afresymegol a geir ar wefannau cymdeithasol gan rai o bwysigion Llafur pan mae'r Bib yn 'pechu' yn eu herbyn.  Gellir bod yn siwr bod y sterics boncyrs yma  yn cael ei adlewyrchu mewn cyfathrebu rhwng Cathedral Road a Llandaf.

Canlyniad hyn oll ydi diffyg sicrwydd a chyfeiriad ar ran y Bib.  Does yna ddim tystiolaeth gref o ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn nad yw'n bwysig.  Mae yna ofn pechu, ac ofn ymddangos yn un ochrog.  Mae dyn yn cael yr argraff bod gormod o gyfeirio at haenau uwch cyn cyhoeddi storiau.  Mae'r pleidiau eraill yn synhwyro'r ansicrwydd a'r diffyg cyfeiriad, ac mae pawb yn teimlo eu bod yn cael cam.  Ceir cylch dieflig - diffyg cyfeiriad yn arwain at ganfyddiad o ddiffyg gwrthrychedd sy'n arwain at fwy o ansicrwydd sy'n arwain at ddiffyg credinedd ac ati.

Felly, beth ydi'r ateb?  Wel - a bod yn gwrs dylai'r Bib yng Nghymru fagu par o geilliau.  Dylid ymgymryd a'r her o ddiffinio'r tirwedd gwleidyddol, magu'r hyder a'r sicrwydd i beidio a chymryd sylw o'r hyn sydd gan wleidyddion (neu flogiau fel hwn) i'w ddweud ynglyn a'r ffordd mae'n ymdrin a  gwleidyddiaeth Cymru.  Dydi hyn ddim yn hawdd wrth gwrs, ac mae'n golygu  eistedd i lawr, meddwl, diffinio a rhesymu.   Ond byddai hyn llawer haws petai dau egwyddor sylfaenol yn cael eu gosod fel sylfaen i bob dim arall - bod y gorfforaeth yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol (yn hytrach nag un rhanbarthol), a bod ymdriniaeth safon uchel o wleidyddiaeth a bywyd cyfoes Cymru yn greiddiol i'w chenhadaeth.  

Wednesday, August 28, 2013

Duw a'm gwaredo _ _ _

_ _ _ ni allaf ddianc rhag hon - hyd yn oed yng nghanol mynyddoedd Asturias.

Monday, August 26, 2013

Dau debygrwydd arall _ _ _

_ _ _ llechi ar y toeau a mynyddoedd.  

Mae llechi ar y toeau yn gyffredin iawn yng Ngalicia.  Y rheswm am hyn ydi bod diwydiant llechi sylweddol yn dal yn fyw ac yn iach.  Cymru wrth gwrs oedd yn arwain y diwydiant yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg.  



Erbyn heddiw mae Sbaen (gyda'r rhan fwyaf o ddigon o'r diwydiant yng Ngalicia) yn cynhyrchu tua 580,000 tunnell o lechi yn flynyddol, tra bod Prydain (gyda'r diwydiant yng Nghymru yn bennaf) yn cynhyrchu tua 10,000 tunnell.  

Prydain gyda llaw ydi un o brif ddefnyddwyr llechi'r Byd - mae'n defnyddio tua 190,000 tunnell yn flynyddol - ail agos i Ffrainc.

Sunday, August 25, 2013

Rhywbeth welwch chi yn Galicia ac yng Nghymru _ _ _

_  _ _ patrymau Celtaidd.  A rhywbeth welwch chi yng Ngalicia a welwch chi byth, byth mohono yng Nghymru ydi posteri yn gwahodd pobl i rali yn galw am annibyniaeth.  


Meddyliwch am drigolion Ynys Mon _ _ _

_ _ _ dwy etholiad yn agos iawn at ei gilydd, a rwan y posibilrwydd o un arall os bydd y Comisiynydd Heddlu Lib Dem - sori annibynnol - tros Ogledd Cymru, Winston Roddick yn cael ei ddyfarnu yn euog o dwyll etholiadol.

O diar.  

Friday, August 23, 2013

Ceiri 'Celtaidd'Galicia


Lluniau o Dre'r Ceiri ar ben yr Eifl ydi'r ddau lun cyntaf, pentrefi caerog yng Ngalithia ydi'r ddau arall.  Mae'n rhyw hawdd meddwl mewn oes o globaleiddio cynyddol  bod dylanwadau tramor yn nodweddion o'r byd modern - ond mae dylanwadau felly yn mynd yn ol ymhell, bell.  

Mae'r pentrefi caerog Celtaidd yn dyddio o'r Oes Efydd - ond roedd croes beillio diwylliannol yn digwydd ymhell cyn hynny rhwng gwahanol rannau o Ewrop.  Roedd hyn yn arbennig o wir am lefydd arfordirol fel Cymru a Galithia oherwydd bod mynd o'r naill le i'r llall efo cwch neu long yn beth gweddol hawdd.  

Does yna ddim byd newydd o dan haul.




Wednesday, August 21, 2013

Grym adeiladau

Fel dwi'n sgwennu hwn dwi'n eistedd y tu allan i far yn Leon, Gogledd Orllewin Sbaen yn edrych ar eglwys gadeiriol y dref sydd bellach wedi ei goleuo.  Mae'r adeilad Gothig yn syfrdanol o ran maint ac o ran uchelgais esthetig y sawl a'i cododd.  Mae'n anferthol a cheir 1,800 metr sgwar o ffenestri lliw ynddo - llawer yn dyddio'n ol i'r cyfnod pan godwyd y strwythur - y drydydd ganrif ar ddeg,  Tua phum mil o bobl oedd yn byw yn Leon bryd hynny - tua'r un faint a sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog heddiw.  Gellid bod wedi rhoi pob copa walldog yn y ddinas yn yr eglwys yn ddi drafferth.  Mae'r adeilad yn llawer mwy nag oedd rhaid iddo fod - fel llawer iawn o eglwysi cyfandirol - a chapeli Cymreig.

A dweud yn gwir mae capeli sy'n rhy fawr yn fwy cyffredin yng Nghymru - dydi hi ddim yn anghyffredin dod ar draws pentrefi efo tri chapel fyddai'n gallu cynnig lle i bawb yn y pentref bron pe bai angen.  Go brin bod y rhan fwyaf o gapeli Cymru erioed wedi bod yn llawn - ag eithrio yn ystod ambell i gymanfa ganu o bosibl.  

Rwan ar un olwg mae'n ymddangos yn weddol boncyrs i wastraffu adnoddau sylweddol yn codi adeiladau sy'n llawer rhy fawr.  Ond mae rhesymau wrth gwrs.  Yn achos yr eglwysi cadeiriol cyfandirol roedd mawredd yr adeiladau yn cwrdd a'r un pwrpas a'u coethder - gwneud i'r sawl oedd yn eu defnyddio ryfeddu at fawredd Duw.  Byddai eglwys Babyddol sylweddol yn gyferbyniad llwyr a'r tai bychan, tywyll, un neu ddwy ystafell y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn byw ynddynt.  Mae'n debyg y byddai pobl yn teimlo eu bod hanner ffordd i'r nefoedd dim ond wrth fynd i mewn i'r eglwysi.

Roedd rheswm arall am a maint a'r coethder hefyd - cystadleuaeth.  Roedd trefi yn cystadlu yn erbyn eu gilydd am yr eglwysi mwyaf a harddaf bosibl.  Gallai 'ennill' cystadleuaeth felly ddod a budd ariannol sylweddol ar ffurf twristiaid yr Oesoedd Canol - pererinion.  A chystadleuaeth mae'n debyg gen i oedd y tu ol i'r capeli gor fawr Cymreig - nid cystadleuaeth am bererinion wrth gwrs, ond cystadleuaeth rhwng enwadau Protestanaidd - roedd pob enwad eisiau cael y blaen ar y lleill, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy gael capel gwell - a mwy nag oedd yn eiddo i neb arall?  Efallai bod yna rhyw ychydig o optimistiaeth hefyd - y byddai pawb yn y cylch rhyw ddiwrnod yn gweld y 'goleuni' ac yn ymuno efo'r enwad 'cywir'.

Mae hyn oll yn tystio i rym adeiladau wrth gwrs - maent wedi cydio yn nychymyg pobl ac wedi llywio'r ffordd maent yn meddwl ers iddynt ddechrau gael eu codi.  Dyna pam bod adeiladau eiconig fel Stadiwm y Mileniwm, Canolfan y Mileniwm ac adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yn bwysig i ddyfodol Cymru fel gwlad.  A dyna pam mai brwydr fawr gyntaf y Toriaid Cymreig yn y cyfnod ol ddatganoli oedd gwrthwynebiad i fuddsoddi mewn adeilad pwrpasol i'r Cynulliad Cenedlaethol - er nad oedd ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad i wario mwy o lawer ar uwchraddio swyddfeydd i ASau yn Portcullis House yn Llundain.  

Ni fyddai dim yn cynrychioli pwysigrwydd cymharol y Cynulliad Cenedlaethol a San Steffan i'r Toriaid Cymreig  yn well na'r gwrthgyferbyniad rhwng adeilad brics coch oedd wedi ei adeiladu ar gyfer swyddfeydd ym Mae Caerdydd a phalas ysblennydd yng nghanol Llundain.  






Tuesday, August 20, 2013

Bariau sy'n dangos eu gwleidyddiaeth

Mae yna ddigon ohonyn nhw yng Ngwlad y Basg - mae'r bar yma yn Vitoria - prif ddinas Gwlad y Basg, ond un o'r llefydd lleiaf Basgaidd yn y wlad o ran iaith a diwylliant.  Mae yna tua deg o dafarnau tebyg ar yr un stryd. Mae bariau tebyg yn gyffredin ar hyd Gwlad y Basg - gan gynnwys y rhannau 'Ffrengig'. Mae'r un peth yn wir am Catalonia.

Mae Iwerddon - De a Gogledd efo llwythi o dafarnau  sy'n dangos ochr yn wleidyddol - rhai yn Unoliaethol, eraill yn Genedlaetholgar a rhai yn rhywbeth arall.  Fy ffefryn i ydi tafarn y Kingdom yn Killorglin, Swydd Kerry sydd efo rhywbeth tebyg i allor sydd wedi addurno efo paraffinelia sy'n ymwneud a'r teulu Healy Ray.

Er bod llawer iawn  o dafarnau yng Nghymru sy'n mynegi cydymdeimlad a'r diwylliant Cymreig yn y ffordd maent wedi eu haddurno, ychydig iawn sy'n dangos ochr yn wleidyddol - Y Diwc yn Nhreganna amser 'lecsiwn (cyn i'r hwch fynd trwy siop Eric a Linda), y Goat yn Llanwnda ers talwm, ond fawr ddim arall yn fy mhrofiad i.  

Unrhyw un efo esiamplau eraill?


Monday, August 19, 2013

A gwers fach i'w dysgu o Wlad y Basg

Mae Gwlad y Basg wedi ei rhannu rhwng tair uned lywodraethol.  Mae gogledd y wlad oddi mewn i ffiniau Ffrainc (Iparralde) , ac mae gweddill y wlad naill ai yn Navarre neu yng Nghymuned  y Basg - dau ranbarth sydd oddi mewn i ffiniau Sbaen.



Ychydig iawn o gefnogaeth swyddogol a geir i'r iaith ar ochr Ffrainc i'r ffin.  Yma (ar ffigyrau 2006) ceir 22.5% o'r boblogaeth yn siarad iaith y Basg a 8.6% yn ei deall.  Ond mae'r ffigyrau hyn yn cwympo - 2% o gwymp ers 2001 a 4% ers 1996.  Y cohort 65+ ydi'r mwyaf tebygol o lawer i siarad yr iaith.

Yn Navarre ceir llywodraeth unoliaethol, ond mae'r llywodraeth hwnnw yn cefnogi'r iaith mewn rhannau lle defnyddir yr iaith o ddydd i ddydd.  11.1% sy'n ei siarad yno, gyda 7.6% yn ei deall.  Mae'r ffigyrau yma yn welliant bach ar 1991 (9.5%) a 1996 (9.6%).  Mae'r proffil iaith yn iachach nag a geir yn Iparralde gyda bron i 20% o bobl 16-24 yn siarad yr iaith o gymharu a llai na 10% yn y grwp 65+.

Yng Nghymuned y Basg ceir llywodraeth genedlaetholgar bron yn ddi eithriad, ac mae'n hyrwyddo'r iaith gyda phenderfyniad ac arddeliad.  Mae 30.1% yn siarad yr iaith yno, gyda 18.3% yn ei deall.  Mae hyn yn cymharu a 27.7% yn 1996 a 29.5% yn 2001.  Mae 57.5% o bobl 16-24 yn siarad yr iaith tra bod 25% o bobl 65+ yn gwneud hynny.  Mae tua tri chwarter y plant ysgol yn siarad iaith y Basg.

Wna i ddim trafferthu nodi beth ydi'r wers. 



Saturday, August 17, 2013

Ac un tebygrwydd

Mae'n hen arfer yng Nghatalonia a Gwlad y Basg i bobl roi eu baner genedlaethol ar y balconi y tu allan i'w fflatiau.

Dydi hi ddim yn gyffredin o bell ffordd i bobl chwifio'r Ddraig Goch y tu allan i'w tai - ond mae'n arfer rydw i wedi sylwi arno mwyfwy yn ddiweddar, ac mewn nifer o rannau cwbl wahanol o Gymru.

A gwahaniaeth arall

Ychydig iawn o graffiti gwleidyddol sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru bellach.  Arferai graffiti felly fod yn nodweddiadol o aml i ran i Gymru yn y saith degau a'r wyth degau.  Mae'r arfer yn fyw o hyd yng Ngwlad y Basg.




Un gwahaniaeth rhwng Gwlad y Basg_ _ _

_ _  does yna ddim bariau gyda pelota yn thema iddynt yng Nghymru.  Wel fyddan ni ddim yn disgwyl hynny wrth gwrs - gem sy'n cael ei chwarae yng Ngwlad y Basg ac ardaloedd cyfagos ydi pelota.  Mae'r gemau Cymreig traddodiadol - Bando neu Cnapan er enghraifft wedi hen farw o'r tir - yn wahanol i Iwerddon neu Wlad y Basg.

Yr unig gemau y gallaf feddwl amdanynt y gellir eu disgrifio mewn unrhyw ffordd fel rhai Cymreig bellach ydi'r fersiwn o bel fas a chwaraeir yng Nghymoedd y De, a'r gem sgityls honno sy'n cael ei chwarae mewn tafarnau ochrau Gaerdydd.  Unrhyw un yn gallu medwl am rhywbeth arall?

Mae'r bar yn Pamplona (Irun).


Friday, August 16, 2013

Gwahaniaeth rhwng Ffrainc a Chymru (rhan 3)

Mae pentrefi Ffrainc yn fwy hyfyw na rhai Cymru, gyda  hyd yn oed y pentrefi lleiaf efo bar/ ty bwyta, siop fara, siop gwerthu ffrwythau a llydiau, Tabac a garej.  Dydi hyn ddim yn wir am Gymru.  Rwan yn y gorffennol roedd rhesymau deddfwriaethol am hyn - roedd rhai eitemau bwyd na chai arch farchnadoedd yn cael eu gwerthu o dan bris arbennig.

Ond mae hynny wedi hen fynd - yr hyn sy'n cynnal siopau bach yng nghefn gwlad Ffrainc bellach ydi ffactorau diwylliannol.  Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae Ffrancwyr yn gwneud defnydd o adnoddau lleol hyd yn oed os ydynt yn ddrytach nag adnoddau mewn trefi neu ddinasoedd cyfagos, tra ein bod ni yn defnyddio siopau rhatach mewn canolfannau trefol ac yn cwyno nad oes yna ddim byd ar gael yn lleol - fel petai yna ddim cysylltiad rhwng ein harferion siopa a'r siopa sydd ar gael i ni ar ein stepan drws.

Thursday, August 15, 2013

A dyna'r dirgelwch Rod Richards wedi ei ddatrys _ _ _

_ _ _ wythfed allan o wyth ac yn flin fel tincar.  

Tebygrwydd rhwng Cymru a Ffrainc

Mae hi'n flynyddoedd ers i mi mi ddreifio trwy Ffrainc ddiwethaf, ond un peth sy'n gyffredin rhwng y ddwy wlad ydi'r melinau gwynt sydd wedi codi yma ac acw mewn blynyddoedd diweddar.


Rhag bod rhywun methu cysgu yn y nos yn poeni am y pethau 'ma mae faint o drydan a gynhyrchir trwy ddulliau adnewyddadwy yn debyg yn Ffrainc a'r DU - er bod gweddill y proffil yn dra gwahanol.

 Dulliau cynhyrchu trydan DU: Olew 1% , Glo 29, Nwy 41% Niwclear 18% ! Adnewyddadwy 11%.

 Dulliau cynhyrchu trydan DU: Niwclear, 78%, Glo 3%, Nwy 3%, Adnewyddadwy 10%, Arall 6%. 

Mae'r defnydd o ffynonellau adnewyddadwy yn cynyddu yn y DU a Ffrainc.  Mae Ffrainc yn cynhyrchu llawer mwy o drydan na'r DU - 510bn kw y flwyddyn i 346 bn kw. Ond bach iawn ydi hynny wrth ymyl beth a gynhyrchir gan China - 4,604bn kw y flwyddyn - y rhan fwyaf ohono trwy losgi glo.

Wednesday, August 14, 2013

Gwahaniaethau rhwng Ffrainc a Chymru (rhan 2)

Hyd y gwn i 'does yna ddim cerflun o'r Iarll Haig yng Nghymru.

 Mae yna reswm reit da am hyn - cyfranodd pennaeth y fyddin Brydeinig yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn llawn at y 40,000 o farwolaethau Cymreig a ddigwyddodd yn ystod y rhyfel hwnnw.  Tra bod y sefydliad Cymreig yn frwdfrydig iawn tros y rhyfel ar y cychwyn, doedd o ddim yn edrych yn syniad mor dda o edrych yn ol.


Serch hynny mae yna gerfluniau o'r dyn yn Ffrainc.  Mae'r cerflun hyfryd hwn yn Montreil sur Mer.  Ymddengys bod Haig wedi treulio rhan o'r rhyfel yno.  Cymaint y parch at yr Iarll nes iddynt ail gomisiynu cerflun efydd ar ol yr Ail Ryfel Byd wedi i'r Almaenwyr dynnu'r gwreiddiol i lawr a'i doddi er mwyn gallu gwneud defnydd arall o'r metel.  Tybed os cafodd Haig ei droi'n fwledi?  Mi fyddai 'na rhywbeth addas iawn am hynny.

Gyda llaw lladdwyd 1.4m o Ffrancwyr yn ystod y Rhyfel mawr ac anafwyd tros i 4m.  Mae'r Somme pellter byr i fyny'r lon ym 1916 - Haig oedd pennaeth y cynghreiriaid yn ystod y frwydr honno lle lladdwyd neu anafwyd tros 1m o ddynion - o bosibl y frwydr mwyaf gwaedlyd a gwastraffus yn hanes dynoliaeth.

Felly pam y gofeb?  Mi helpodd o Ffrainc i ennill rhyfel da chi'n gweld - a beth sy'n bwysicach na hynny?

Gwahaniaethau rhwng Cymru a Ffrainc (rhan1)

Llun a geir isod o glwb gwyliau plant yn gwneud chwaraeon yn y ffos sydd o gwmpas gweddillion castell Montreil des Mare.



Mae yna lawer iawn, iawn o adeiladau hynafol yn Ffrainc, a'r hyn sy'n rhyfedd i rywun o Gymru ydi cymaint o ddefnydd ymarferol, pob dydd a wneir ohonynt.  Er enghraifft gwneir defnydd o ran o gyn gartref y Pabau yn Ffrainc yn Avignon - y Palais de Papes anferthol - fel canolfan gynadleddau.  Ceir lle yn y Neuadd Fawr i 700 o bobl.  Mae'n gyffredin i weld swyddfeydd mewn hen adeiladau.

Mae'r defnydd cyfoes mynych o adeiladau hen iawn, yn ogystal a rhai llai hen amodern yn lleihau'r hollt a geir adref rhwng yr hynafol a'r newydd rhywsut.

Mae agwedd arall i'r tueddiad hwn i gymysgu'r hen a'r newydd..  Pan roedd peiriannau talu cardiau credid sy'n defnyddio technoleg radio yn ymddangos gyntaf rhyw ddegawd yn ol, roeddynt yn gyffredin yn Ffrainc bod fawr son amdanynt yng Nghymru.  Cefais y profiad bryd hynny fwy nag unwaith o ddefnyddio un o'r teclynau i dalu am bryd mewn ty bwyta oedd a'i doiled yn fawr mwy na thwll yn y llawr.

Tuesday, August 13, 2013

Blogio tra'n teithio

Ychydig fisoedd yn ol mi gafwyd rhyw arbrawf bach ar Flogmenai - blogio tra'n teithiooddi ar ffon symudol - a blogio sydd a phwylais gwleidyddol iddo.

Roedd hynny'n weddol hawdd - taith i Iwerddon oedd hi, ac mae gan awdur y blog wybodaeth go lew am wleidyddiaeth y wlad honno.

Mi geisiwn wneud yr un peth eto, ond bydd yn anos - rydan  ni'n dreifio  trwy Ffrainc i gyfeiriad Gwlad y Basg, Galithia a Phortiwgal - ac wedi cymryd y risg, nid ansylweddol, o adael y ty yng ngofal oedolion ifanc . Dydi fy ngwydodaeth am wleidyddiaeth a hanes y cyfandir ddim cystal - ond mi driwn i.  Dydi Blogmenai ddim yn 'gwneud' blogio personol - dim ond blogio gwleidyddol -  ond dwi'n reit siwr y bydd y term 'gwleidyddol' yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd mwyaf llac bosibl yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf.

O.N os oes rhywun yn ardal Caernarfon yn cael gwahoddiad i barti gan rhywun o'r enw Gwern neu Lois yn ystod yr wythnosau nesaf - gwrthodwch.  Yn gyntaf maent wedi eu siarsio i beidio a chymaint a meddwl am y peth, ac yn ail does gen i ddim lle o gwbl i gredu bod ganddynt y gallu trefniadol i drefnu parti twt - nag yn wir parti o unrhyw fath.

Monday, August 12, 2013

Wel, wel _ _ _

_ _ _ edrychwch pwy sydd ar restr fer UKIP ar gyfer etholiadau Ewrop y flwyddyn nesaf - ymgeisydd y Toriaid yn is etholiad Ynys Mon, Nathan Gill.  Tybed os roddodd Rod Richards ei enw ymlaen?


Nathan Gill         83
James Cole         79
Gareth Dunn         76
David Rowlands      74
Caroline Jones      69
Martyn Ford         69
Brian Morris         63

Dwi wedi 'dwyn' yr wybodaeth o flog Guido.  Mae wedi dileu y rhifau wrth yr enwau bellach, ond cyfeirio maent dwi'n meddwl at faint o bleidleisiau gafodd pawb mewn  gornest ddechreuol.  Bydd aelodau cyffredin yn cael pleidleisio rwan.  

Y gwersi i'w cymryd o berfformiad diweddar y Lib Dems

Rhag ofn i chi feddwl bod perfformiad trychinebus y Lib Dems ar Ynys Mon wedi digwydd mewn rhyw fath o faciwm, cymrwch gip ar ganlyniadau'r is etholiadau cyngor yma yn Lloegr nos Iau.


Redcar and Cleveland UA, Skelton by-election

LAB 745
UKIP 485
CON 176
IND 170
LD 40


 Colliers Wood - Merton
LAB 1685
CON 441
UKIP 57
LD 52


 Haydon Wick

CON 1376
LAB 887
UKIP 426
LD 83

Dydi 'uffernol' ddim yn ansoddair digon cryf rhywsut.

Ond, cyn i ni fynd ati i gymryd bod y Lib Dems yn farw gelain, dydyn nhw ddim.  Maent wedi dangos y gallu yn y gorffennol i dargedu a gwneud y gorau o'u hadnoddau.  Gallwn fentro y bydd hynny yn digwydd yn 2015 - ond bydd yr adnoddau wedi eu canoli ar lai o etholaethau - y rhai maent yn eu dal yn barod.  Adlewyrchiad o'r ffaith bod y blaid wedi hen roi'r gorau iddi yng ngweddill y DU ydi'r canlyniadau uchod ac un Ynys Mon.

A'r wers?  Mi fydd y Lib Dems yn ymdrechu yn galed yng Nghanol Caerdydd, Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed yn 2015, ond mi fydd yna lawer iawn o'u pleidleisiau ar gael i'r pleidiau eraill yng ngweddill Cymru.  Bydd y sawl sydd a strategaeth i gornelu'r rheiny yn gwneud yn dda.