Wednesday, April 30, 2008

Darogan Etholiadau Gwynedd - y gweddill

Caernarfon

Cadnant: Tri sy’n sefyll, yr aelod presenol Huw Edwards (PC), Dylan Williams (Tori) a Melvyn Davies (Llafur). Mae’r rhan fwyaf o’r etholwyr yn by war stad Dai Cyngor fawr Maesincla. Mae’r gweddill yn byw mewn strydoedd o dai teras yn agos at ganol y dref ac ardal cymharol fach dosbarth canola r y cyrion – Rhosbadrual.

Mae hon yn eithaf hawdd i’w darogan. Dydi hi ddim yn bosibl i Dori ennill sedd mewn ardal fel hon, ac mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod gyda’r hyn y byddai dyn yn ei ddisgrifio fel street cred y cofis. Felly does gan Mel druan ddim cyfle. Huw i gadw’r sedd o filltir. Plaid yn cadw.

Peblig: Un o wardiau mwyaf difreintiedig y Gogledd, a hefyd y ward Gymreiciaf o ran iaith yn y wlad. Stad enfawr Ysgubor Goch ydi’r ward i bob pwrpas, ynghyd ag ychydig o strydoedd preifat i’r gogledd o Ffordd Segontium. Mae traddodiad yma o gynrychiolaeth Plaid Cymru.

Dau sy’n sefyll – Tudor Owen (PC) ac Arnold Bohana (Llafur). Doedd yna ddim etholiad Cyngor Sir yn 2004, ond roedd y ddau yn erbyn eu gilydd yn y cyngor tre gyda Tudor yn ennill o lain a chant o bleidleisiau. Tudor fydd yn ennill y tro hwn hefyd – mae’n aelod lleol cydwybodol a di rodres. Fel rhywun sydd wedi canfasio at etholiadau Cynulliad efo Tudor, gallaf dystio ei fod yn adnabod bron i bawb ar yr ward. Oherwydd hyn mae’n ganfasiwr arteithiol o araf – mi fydda i yn gwneud cynnydd da tra bod Tudor yn llafurio o dy i dy. Mae’r trigolion yn ei gadw’n siarad am oriau. Plaid Cymru yn cadw.

Menai: Ward gyfoethog – efallai’r gyfoethocaf yng Ngwynedd. Mae’r rhan fwyaf o’r etholwyr yn byw yn y strydoedd cefnog sydd rhwng Ffordd Bethel a Ffordd y Gogledd. Mae llawer o’r trigolion gyda’u gwreiddiau y tu allan i’r dref – er eu bod at ei gilydd yn siarad Cymraeg. Mae tua 84% yn siarad Cymraeg. Mae tua chwarter poblogaeth y ward yn dlotach ac yn byw yn hen dai teras ardal Twthill. Mae’r ardal yma wedi newid cymeriad yn ddiweddar, gyda llawer o bobl broffesiynol ifanc yn symud i mewn.. Ychydig iawn o dai cyngor sydd yma. Mae pleidlais sylweddol i Blaid Cymru yn nwy ran yr ward.

Yr unig ward yng Nghymru efallai lle mae’r tri ymgeisydd yn aelodau cyfredol, neu’n gyn aelodau o’r Blaid. Ioan Thomas sy’n sefyll tros y Blaid y tro hwn, Richard Morris Jones ydi’r aelod presenol – fe’i etholwyd yn enw’r Blaid – ond mae’n sefyll yn annibynnol y tro hwn. Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith mai Ioan, ac nid Moi a enwebwyd gan y gangen i sefyll ar ran y Blaid y tro hwn. Rhoddodd Richard Bonner Pritchard, aelod o hen deulu gwleidyddol yng Nghaernarfon ei enw ymlaen gyda’r bwriad (yn o lei dystiolaeth ei hun) o wthio i mewn rhwng y ddau.

Mae’n anodd barnu pa effaith a gaiff ymyraeth Richard Bonner ar yr etholiad. Fel rheol mae’n well i’r Blaid os oes nifer o ymgeiswyr yn eu herbyn, ond mae pethau yn fwy cymhleth yma. Mae’r datblygiad yn y Doc yn amhoblogaidd (yn anheg yn fy marn i), ac mae pobl yn tueddu i’w gysylltu efo Moi. Dydi RBP ddim yn hoffi’r Doc, a bydd yn dennu pleidleisiau’r Doc gasawyr. Byddai llawer o’r rhain wedi mynd at Ioan (sydd o blaid y Doc ei hun, ond waeth i mi heb a cheisio egluro gwleidyddiaeth Gaernarfon i ddarllenwyr o’r tu allan) oni bai am ymyraeth RBP.

Ta waeth, trydydd fydd RBP, a’r cwestiwn ydi os mai Ioan neu Moi fydd ar y blaen. Mae Moi wedi cynrychioli’r ward am gyfnod maith, a bydd hyn o help iddo. Ond mae Menai yn ward anarferol. Er enghraifft, mae llawer iawn o .aelodau’r Blaid yn byw yma – ymhell tros gant byddwn yn tybio - mwy nag mewn ardal mor fach yn unrhyw ran arall o Gymru. Mae’n ward brin lle mae’n fantais sylweddol i ymgeisydd i gael Plaid Cymru ar ol ei enw. Mantais ychwanegol i Ioan ydi’r ffaith bod ganddo gymeriad cymodlon yn yr ystyr ei fod yn naturiol yn ceisio osgoi gwrthdaro. Ioan fydd yn ennill, diolch yn rhannol i ddisgyblaeth pleidiol, gyda’r Blaid yn ennill sedd oddi wrth y Blaid (fel petai).

Seiont: Yr ward mwyaf cymdeithasegol gymhleth yng Ngwynedd. Gerald Parry, Llafur a Roy Owen (annibynnol) ydi’r ddau aelod ar hyn o bryd. Mae dau arall o’r ymgeiswyr yn Bob Anderson (annibynnol) a Tecwyn Thomas (Llafur) wedi cynrychioli’r ward yn y gorffennol agos. Alun Roberts (Plaid Cymru) ydi’r pumed ymgeisydd. Gerald a Roy ydi’r ffefrynnau, ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf i bod sioc ar y ffordd. Mae fy mhres i ar Roy ac Alun. Plaid i ennill un oddi wrth llafur felly.

Roeddwn wedi paratoi adroddiad manwl ar Ddwyfor, ond mae gen i ofn fy mod wedi llwyddo i ddileu'r ffeil neithiwr.

Dim amser i wneud y gweddill yn fanwl, felly dyma fy yn gyflym. Roeddwn wedi

Dyffryn Nantlle: Chris Hughes (LlG)i ennill yn Bontnewydd. Mae gen i ofn y bydd ymgeisyddiaeth Dafydd yn cael ei foddi mewn tsunami o gelwydd. Bydd y Blaid yn colli dwy sedd arall - Groeslon i Annibynnol a Talysarn i Annibynnol oherwydd bod Dilwyn wedi newid plaid (er mae'n bosibl y bydd yr ymgeisydd newydd Plaid yn ennill hon yn ol. Bydd Plaid yn ennill yn Llanwnda, ac mae'n debyg ym Mhenygroes. Maent yn ddi wrthwynebiad yn Llanllyfni. Plaid yn colli tair felly.

Dwyfor: Plaid i golli seddi ym Morfa Nefyn, Efailnewydd, De Pwllheli, Gorllewin Porthmadog, i Llais Gwynedd a Cricieth i Annibynnol. Lib Dems hefyd i golli i Annibynnol yn Dolbenmaen. Plaid i golli 5 felly, Lib Dems i golli un. Dwi'n gweld Dic yn dal Abererch, ond gallai fod yn agos.

Meirion: Dim llawer o newid. Plaid i golli Diffwys a Maenofferen i Lais Gwynedd, ond i ennill o bosibl yn Llangelynnin a De Dolgellau. Plaid i ennill un felly.

At ei gilydd, noson waedlyd i'r Blaid yn Nyffryn Nantlle a Dwyfor, ond cadw grym oherwydd cryfder yn y Dwyrain. Ond mae nifer o'r seddi Dwyreiniol yn dyn iawn, ac mae'n bosibl y byddwn yn colli gafael, ac os ydi hi'n noswaith wael yn y Dwyrain gallwn ei cholli o sbel.

Mwy mewn ychydig oriau.

Tuesday, April 22, 2008

Ymddiheuriad

I unrhyw sydd a diddordeb yn fy narogan etholiadol.

'Dwi ddim am ddarogan gweddill y seddi tan ar ol i'r bythau pleidleisio gau wythnos i nos Iau.

Mae dau reswm am hyn:

(1) Dwi'n meddwl bod pobl yn cymryd y peth o ddifri braidd gormod - mae'r traffig ar Flogmenai yn llawer, llawer trymach na'r arfer, ac mae hyn yn fy mhoeni braidd. Dim ond ychydig o hwyl ydi'r peth - does gen i ddim llawer o wybodaeth arbenigol - ges addysgiedig ydi'r rhan fwyaf o fy narogan.

(2) Mae perygl y bydd unrhyw beth 'dwi'n ei ddweud yn cael ei gam ddefnyddio - hon ydi'r etholiad futraf 'dwi'n ei chofio mewn degawdau o ymddiddori yn y math hyn o beth. Er nad ydw i'n fawr o neb oddi mewn i Blaid Cymru, mae'n amlwg hyd yn oed i bobl sydd ddim yn gwybod pwy ydw i, bod mae gen i gysylltiad efo'r blaid honno - ac ni fyddai'n cymryd llawer o sbinio i greu stori lle nad oes yna un.

Fel y dywedais (gan fy mod wedi meddwl am y rhan fwyaf o'r wardiau eisoes), mae'n debyg y byddaf yn rhoi rhywbeth ar y we nos Iau, Mai 1 wedi i'r polau gau.

Yn gyffredinol, dwi'n gweld y Blaid yn ennill peth tir yn y Dwyrain, yn colli peth tir yn y Gorllewin ac yn dal eu tir yn y De. Mae gennym bob cyfle i gadw rheolaeth ar y cyngor - er mae'n debygol o fod yn agos.

Saturday, April 19, 2008

Etholiadau Gwynedd rhan 3 - Dyffryn Ogwen - howgets a ballu

Reit, mae’n debyg y dyliwn gadw at fy addewid a mynd ymlaen a’r cywaith bach yma. Dyffryn Ogwen sydd dan sylw heddiw – sef tref chwarel Bethesda a’r ardal o’i gwmpas.

Mae dwy o’r seddi hyn yn dychwelyd Pleidwyr yn ddi wrthwynebiad.

Pentir: Ward sy’n cynnwys rhai o’r ardaloedd gwledig o gwmpas Bangor a rhan orllewinol Penrhosgarnedd. Plaid Cymru fydd yn ennill yn y sedd hon yn ddi eithriad ac mae John Wyn Williams wedi ei ddychwelyd yn ddi wrthwynebiad ar ran y blaid honno. Plaid yn cadw eu sedd.

Ogwen: Ward drefol iawn – canol Bethesda. Sedd arall sydd yn ethol Pleidiwr yn ddi eithriad, ac mae Ann Williams yn ymgeisydd hynod o gryf ar ben hynny. Nid oedd yn syndod mawr na chafodd etholiad y tro hwn – fel y tro o’r blaen. Plaid yn cadw unwaith eto.

Tregarth a Mynydd Llandegai: Gwen Griffiths sydd yn dal y sedd hon ar ran y Blaid Lafur, a’i hunig wrthwynebydd ydi Arthur Wyn Rowlands, Plaid Cymru. Safodd Arthur yn Gerlan y tro o’r blaen, gan golli o drwch blewyn yn erbyn Godfrey Northam. Enilliodd Gwen yn weddol hawdd yn 2004, ac mae wedi dod ar ben y rhestr yma ers blynyddoedd (roedd y ward yn un dwy sedd am gyfnod – Plaid Cymru fyddai’n ennill yr ail sedd).

Mae gan Gwen ddwy broblem y tro hwn. Yn anffodus nid yw ei hiechyd wedi bod yn dda yn ddiweddar, ac efallai na fydd yn hawdd iddi ganfasio’r holl ward. Yn 2004 roedd annibynnwr yn sefyll, ac yn hollti’r bleidlais gwrth Lafur (mewn ardaloedd fel hon mae’n well i’r Blaid gael Llafur yn unig yn eu gwrthwynebu).

Wedi dweud hynny, mae gen i ofn mai Llafur sy’n debygol o ennill – er y bydd y mwyafrif yn llai y tro hwn. Gwen ydi un o’r Llafurwyr gorau ar y cyngor – ac mae’n apelio at bobl nad ydynt yn arfer pleidleisio i’r Blaid honno. Llafur i gadw.

Gerlan: Ardal drefol arall, digon tebyg i Ogwen. Hen ward Dafydd Orwig, ac un oedd wedi ethol Pleidiwr yn ddi eithriad nes i Godfrey Northam ei hennill i Lafur o 38 pleidlais yn 2004. Mae gan y Blaid cryn le i obeithio yma – mae’r gogwydd cyffredinol yn erbyn Llafur, mae’n ardal sydd wedi hen arfer pleidleisio i’r Blaid, ac roedd pleidlais y Blaid yn gryf yma yn etholiadau’r Cynulliad. Ond, mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai Godfrey aiff a hi eto. Yn ol y son mae eisoes wedi canfasio’r ward ddwywaith, ac mae’n adnabyddus iawn yn yr ardal. Mae’n aelod gweithgar a chydwybodol.

Nid wyf yn adnabod ei wrthwynebydd – Dyfrig Wynn Jones (er i mi ddod ar ei draws sawl gwaith ar y rhithfro), ond mae’n gymharol ifanc, ac yn ol yr hyn rwyf yn ei ddeall nid yw wedi ei fagu yn Nyffryn Ogwen. Yn gwahanol i ffeindio dynes ar nos Sadwrn, mae henaint o fantais os ydi rhywun yn chwilio am sedd ar gyngor – yn arbennig pan mae person wedi bod a chysylltiadau clos a chymuned tros amser. ‘Dwi’n wirioneddol obeithio nad yw fy nadansoddiad yn gywir yma – nid yw Mr Northam at fy nant mae gen i ofn.

Gair neu ddau o gyngor i Dyfrig (gan ei fod yn darllen y tudalenau hyn:

(1) Gweithia’n galed arni – mae’n sicr yn y math o ward sy’n ffafriol i’r Blaid, ac mae hen draddodiad o fotio Plaid yma. Mae gwaith caled yn aml yn cael ei wobreuo pan mae’r cyd destun gwleidyddol yn ffafriol.
(2) Gwna cymaint a phosibl o ddefnydd o Ann. (Cynghorydd Ogwen ydi Ann, ond mae’n byw yng Ngerlan). Mae’n adnabyddus ac yn boblogaidd yn y ddwy ward.

Felly, Llafur i gadw hon.

Arllechwedd: Ward wledig reit yn Nwyrain y sir a ward fwyaf Arfon o ran arwynebedd. Mae’r ward hefyd yn un cymharol Seisnig wrth safonau Arfon wledig (tua 61% yn 2001). Cyn yrrwr ambiwlans ydi, John Robert Jones sy’n dal y sedd ar hyn o bryd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol – ac mae wedi ei dal ers rhai etholiadau bellach. Un person sy’n sefyll yn ei erbyn, Dafydd Meurig, Plaid Cymru.

Yn fy marn i, dyma’r gobaith cryfaf sydd gan y Blaid o ennill sedd yn Nyffryn Ogwen. Mae hyn yn rhyfedd mewn ffordd – dyma rhan mwyaf Seisnig o’r Dyffryn, Llafur ac nid y Democratiaid Cymdeithasol sydd o dan yr ordd yn ‘genedlaethol’ a dyma’r unig ran o’r Dyffryn nad yw wedi ei gynrychioli gan y Blaid yn y gorffennol agos. Tra bod deinameg ennill etholiadau yn gymhleth, y pethau mwyaf allweddol ydi pam mor adnabyddus ydi ymgeisyddion mewn cymuned, a chanfyddiad y gymuned honno o’r unigolion hynny. Neu i’w roi mewn ffordd arall, hwyrach bod pobl yn ‘nabod Dafydd Meurig yn well na maent yn adnabod JR Jones, ac yn ei hoffi mwy. Plaid i ennill sedd.

Cyn symud i’r Gorllewin, a’r ardaloedd hynny sydd o fwy o ddiddordeb i lawer oherwydd ymyraeth Llais Gwynedd hoffwn wneud sylw neu ddau.

Pan oeddwn yn cychwyn ar yr ymarferiad yma ychydig wythnosau yn ol, roeddwn yn weddol sicr y byddai Llais Gwynedd yn cael hyd at ddeg sedd, ac y byddwn yn darogan bod rhai o enwau mawr y Blaid yn lleol yn cael eu di sodli. Dwi wedi newid fy meddwl.

‘Dwi’n rhagweld y bydd ganddynt fwy o seddi na’r dair sydd ganddynt ar hyn o bryd – ond ni fyddant yn dod yn agos at ddeg. Y prif (ond nid yr unig) reswm am hyn ydi bod ansawdd eu hymgeiswyr yn anwastad iawn, a bod hyn yn dangos fel mae’r ymgyrch yn mynd rhagddi.

Gyda llechen o ymgeiswyr o safon byddant wedi gwneud niwed sylweddol i’r Blaid yng Ngwynedd. Bydd y niwed hwnnw wedi ei gyfyngu oherwydd ansawdd rhai o’r ymgeisyddion. Ansawdd ymgeisydd ydi pob dim mewn etholiadau lleol – yn arbennig felly mewn llefydd gwledig.

Saturday, April 12, 2008

Etholiad Gwynedd rhan 2 - Bangor I

Bydd Bangor yn hynod bwysig i dynged Cyngor Gwynedd ar ol yr etholiadau – yn bwysicach nag unrhyw le arall efallai.

Mae’r ddinas yn an nodweddiadol o weddill Gwynedd. Fe’i lleolir yn Nwyrain Arfon, ac mae’n gymharol Seisnig o ran iaith – gorllewin Arfon ydi’r rhan Cymreiciaf o Gymru – yn ieithyddol o leiaf.

'Dydi cynllun ail strwythuro addysg gynradd Gwynedd ddim yn cael effaith mawr yma, ond mae’r cynllun i ffederaleiddio Ein Harglwyddes gyda Santes Helen yng Nghaernarfon yn poeni rhai o Babyddion y ddinas.

Nid oes traddodiad cryf o wleidyddiaeth annibynnol yma – gwleidyddiaeth bleidiol sydd i’r ddinas, ac felly y bu pethau ers talwm. Yn draddodiadol Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol fu’n cystadlu yma, ond daeth Plaid Cymru yn rym gwleidyddol yn y ddinas tros y ddegawd diwethaf. Tir hesb iawn ydyw i’r Toriaid – ar lefel gwleidyddiaeth leol o leiaf. Dydi Llais Gwynedd ddim yn ffactor o gwbl yn y rhan yma o'r sir. Mae nifer o’r wardiau yn agos iawn o ran cefnogaeth wleidyddol, ac o ganlyniad mae’n anodd iawn darogan beth sy’n debygol o ddigwydd i'r rhan fwyaf o'r seddau.

Mae un ffactor a allai fod o gymorth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Menai a Deiniol a Phlaid Cymru yn Garth - yn etholiad 2004 roedd y myfyrwyr adref. Mae nhw wrth eu desgiau, neu o leiaf wrth y bar eleni.

Ta waeth – mi geisiaf roi cynnig arni, gan ddechrau efo’r rhai hawdd. Gair bach o eglurhad cyn cychwyn. Yn gwahanol i’r rhan fwyaf o Wynedd, ‘dwi’n meddwl bod gogwydd gwleidyddol ‘cenedlaethol’ yn cael rhywfaint o effaith ar etholiadau lleol yma – a ‘dwi’n cymryd gwendid ‘cenedlaethol’ Llafur i ystyriaeth wrth ddarogan.


Marchog – Stad dai cyngor enfawr ac hynod ddi freintiedig ar gyrion Bangor ydi’r rhan fwyaf o ddigon o’r ward yma. Mae’n debyg gen i mai dyma’r lle gwanaf i Blaid Cymru yn etholaeth Arfon – ac yn ol pob tebyg yng Ngwynedd i gyd. Ceir dwy sedd yn y ward yma.

Tri ymgeisydd sydd ar wefan Gwynedd ar hyn o bryd – er bod pedwerydd yn gynharach yn yr wythnos. Mae’n debyg gen i fod yr ymgeisydd BNP wedi tynnu’n ol. Ychydig o wahaniaeth mae hyn yn ei wneud – ychydig iawn o dyndra hiliol sydd ym Maes G – ac mae’r BNP angen hynny er mwyn denu cefnogaeth o unrhyw fath.

Y tri ymgeisydd yw Keith Greenly-Jones, Llafurwr hwyliog a phoblogaidd, Sylvia Humphreys, Annibynnol a Derek Hainge, Llafurwr arall. Union yr un tri a safodd o’r blaen a Keith a Sylvia a etholwyd yn hawdd. Fedra i ddim gweld unrhyw reswm i bethau fod yn gwahanol y tro hwn. Felly 1 Llafur ac 1 Annibynnol.

Glyder: Mae’r ward yma yn cwmpasu ardaloedd Ffriddoedd a rhan ddwyreiniol Penrhosgarnedd – pentref ar gyrion Bangor sydd wedi bod yn gadarnle i’r Blaid ar lefel lleol ers degawdau. Un sedd a dau ymgeisydd – Dai Rees Jones ar ran y Blaid a Douglas Madge ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd tri yn y ras y tro o’r blaen gyda Bryn Hughes yn sefyll ar ran Llafur. Cafodd Dai ychydig yn llai na 50% o’r bleidlais, a daeth Bryn yn ail o drwch blewyn. Yn gyffredinol mae’n well i’r Blaid ym Mangor pan mae Llafur a’r DRh yn sefyll yn hytrach nag un o'r ddau yn unig, ond mae’r bwlch yn rhy fawr yma i wneud gwahaniaeth. Dai Books i ennill gyda llai o fwyafrif nag o’r blaen. 1 sedd i’r Blaid felly.

Dewi: Ward ddiddorol iawn. Dylai’r rhan yma o Orllewin Bangor fod yn gadarnle Llafur, ac yn wir cafodd Eddie Dogan – un o hynafwyr y Blaid Lafur ym Mangor ddwywaith cymaint a’r Pleidiwr a’r Democrat Rhyddfrydol gyda’i gilydd yn 2004. Ond mae Eddie wedi dod trosodd at y Blaid ers hynny – gan roi i’r Blaid yng Ngwynedd gynghorydd Pabyddol a chynghorwydd di Gymraeg am y tro cyntaf. Dim ond Llafurwr sy’n ei erbyn y tro hwn – Dorothy Bulled. Dydi Dorothy ddim yn byw yn y ward – mae’n byw ym Maesgerchen. Go brin y caiff Eddie bleidlais mor uchel y tro hwn - mae pleidlais soled i Lafur yng Nghoed Mawr - a fydd llawer o honno ddim yn trosglwyddo i'r Blaid – ond fyddwn i ddim yn betio yn ei erbyn - mae'n boblogaidd ac adnabyddus. Dim newid unwaith eto felly. Sedd arall i’r Blaid.

Deiniol: Canol Bangor ydi Deiniol, ac mae’r ward yn drawiadol oherwydd bod cyn lleied o’i etholwyr yn trafferthu i bleidleisio. 19% a bleidleisiodd o’r blaen. Un ward yng Ngwynedd oedd a chyfradd pleidleisio salach – Menai (Bangor) gydag 17%. Dewi Llywelyn (Plaid Cymru) a enilliodd – ond gyda 77 o bleidleisiau yn unig. Roedd y Rhyddfrydwr Democrataidd a’r Llafurwr tua ugain pleidlais y tu ol iddo.

Mae Dewi’n sefyll eto, ac mae Democrat Rhyddfrydol a Llafurwr yn yr ornest unwaith eto hefyd. Mae’n amhosibl galw hon – yn arbennig gan nad wyf yn gwybod dim am Richard Joyce ac Anthony Roberts. Mae llawer o’r boblogaeth yn symudol, ac nid ydi llefydd felly yn dda i Blaid Cymru gan amlaf – ond ‘dydi pobl symudol ddim yn dueddol o bleidleisio mewn etholiadau lleol. Os bydd y bleidlais yn uchel y Democrat Rhyddfrydol fydd yn ennill, os bydd yn isel mae gan Dewi gyfle da – mae’n hynod drefnus, ac mae wedi gweithio ar yr ychydig dai cyngor yn ei ward. Mae’n amhosibl darogan yn gywir– ond i gadw at y rheol dim jibio fe a i am y Democrat Rhyddfrydol. Mae llefydd gyda phoblogaethau ansefydlog yn anodd iawn i’r Blaid fel rheol. Plaid yn colli a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill felly.

Hendre: William Lovelock (Llafur) ydi’r aelod ar hyn o bryd. John Wynn Jones (Plaid Cymru) ydi ei unig wrthwynebydd. Yr un dau oedd yn sefyll yn 2004 gyda William Lovelock yn ennill o ddwy bleidlais yn unig ar gyfradd pleidleisio cymharol isel o 33%. Mae William Lovelock yn berson dymunol a chwrtais, ond distaw. Mae John Wynn yn fwy adnabyddus o lawer. Er y byddai’n well iddo pe bai yna Lib Dem yn y ras hefyd, ‘dwi’n rhagweld y bydd amhoblogrwydd ehangach Llafur yn gwneud y gwahaniaeth yma, ac y bydd John Wynn yn ennill y sedd. Plaid yn ennill a Llafur yn colli felly.

Menai: (Bangor – mae ward o’r un enw yng Nghaernarfon hefyd). Ward arall ag iddi ddwy sedd. Gwr a gwraig – June a Keith Marshall sy’n sefyll i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Stephen Landsdown – tad Gwenllian (prif weithredwr y Blaid) yw eu hunig wrthwynebydd ar ran Plaid Cymru. Mae’r ward hon yn cynnwys Bangor Uchaf, a’r holl neuaddau preswyl sydd yn y fan honno. Mae June yn gynghorydd ar hyn o bryd, ond mae ei chyd aelod, Cathy Thomas (Dem Rhyd arall) yn rhoi’r gorau iddi, felly yn gadael lle i Keith. Roedd Keith ar yr hen Gyngor Gwynedd, ond nid yw wedi bod yn aelod ar yr un newydd.

Y gyfradd bleidleisio ydi’r allwedd yma. 17% a bleidleisiodd yn 2004 – ymysg y cyfraddau isaf yn y wlad. Os mai pobl gynhenid Bangor fydd yn pleidleisio, yna bydd Stephen cymryd sedd. Mae’r Landsdowns yn un o hen deuluoedd Bangor, a bydd nifer yn pleidleisio iddo na bleidleisiodd i Dyfrig Wyn Jones yn 2004. Os bydd y gymuned sy’n gysylltiedig a’r Brifysgol yn pleidleisio mewn unrhyw niferoedd, yna’r ddau Marshall fydd yn ennill. Yn fy marn i bydd June a Stephen yn ennill sedd ar bleidlais isel. Plaid Cymru yn ennill un a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli un felly.

Garth: Gogledd Ddwyrain y ddinas. John Wyn Meredith (Plaid Cymru) sy’n dal y sedd hon, a’i wrthwynebwraig ydi’r ymgeisydd Annibynnol, Lesley Day. Yr un ymgeiswyr oedd yn sefyll yn 04 gyda John Wyn yn cael pedair pleidlais ar ddeg yn fwy na Lesley – ar gyfradd pleidleisio o 30%. Mae neuadd breswyl Gymraeg John Morris Jones yn y ward – ac mae’n hanfodol os ydi’r Blaid i lwyddo i gael y bleidlais allan yno. ‘Dwi’n mynd am John Wyn – ond heb fawr o hyder – gall fynd y naill ffordd neu’r llall. Plaid Cymru i gadw eu sedd felly.

Hirael: Cymdogaeth i’r dwyrain o ganol y ddinas ydi Hirael, ac roedd yn gymuned sefydlog, cymharol Gymraeg ei hiaith tan rhyw bymtheg mlynedd yn ol. Mae pethau wedi newid erbyn heddiw. Jean Roscoe – y Democrat Rhyddfrydol mwyaf effeithiol o ddigon ar Gyngor Gwynedd sy’n cynrychioli’r ward ar hyn o bryd. Ni fydd yn sefyll y tro hwn - dydi ei hiechyd heb fod yn dda iawn gwaetha'r modd. Pe byddai, nid oes fawr o amheuaeth y byddai’n ennill. Tri ymgeisydd sydd yn sefyll am un sedd y tro hwn - Evelyn Butler, Llafur, Gwynant Roberts, Plaid Cymru a Jean Forsyth, Democrat Rhyddfrydol. ‘Dwi ddim yn meddwl mai Evelyn fydd yn ennill – un o’r ddau arall fydd yn mynd a hi. Jean Forsyth yn ol pob tebyg, mae'n adnabyddus ac wedi cymryd rhan mewn gwahanol ymgyrchoedd lleol. Sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'n debyg.

Felly fel y dywedais ar y cychwyn, bydd Bangor yn bwysig. Gallai pob Pleidiwr ennill, a gallant oll ag eithrio Dai Books golli. Gallai fod yn 1, a gallai fod yn 7. Gallai Bangor yn hawdd benderfynu os mai Plaid Cymru sy’n rheoli Gwynedd ar ol Mai 1. A (i gael un gallai arall i mewn) gallai’r Blaid fod yn gryfach ar lefel llywodraeth leol ym Mangor ar Fai 2, nag ydyw yn Llyn ac Eifionydd. Rhywbeth fyddai y tu hwnt i’r dychymyg ddeg mlynedd yn ol.

Un ffaith bach nad yw’n bwysig am wn i cyn gorffen. Mae Eddie Dogan, Stephen Landsdown a Douglas Madge yn cyd addoli yn wythnosol yn Eglwys Babyddol Bangor.

Sunday, April 06, 2008

Pam bod Islam yn mynd o nerth i nerth, tra bod yr Hen Gorff yn gorff?

Mae gen i flog arall ar gyfer ysgrifennu nodiadau am deithiau, ond wedi ‘sgwennu hwn a’i ddarllen, ‘dwi’n rhyw feddwl mai blogmenai ydi’r lle mwyaf addas ar ei gyfer rhywsut.

Newydd dreulio deg diwrnod yn Istanbul – cyn brif ddinas yr ymerodraeth Ottoman, un o brif ganolfanau masnach y byd am filoedd o flynyddoedd, ac un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd (poblogaeth swyddogol o 9 miliwn – gwir boblogaeth unrhyw beth hyd at 18m). Er bod Twrci yn wladwriaeth seciwlar o ran cyfansoddiad, ac er bod yr elit cymdeithasegol a’r fyddin (sefydliad hynod bwerus yn Nhwrci) yn driw iawn i werthoedd y cyfansoddiad hwnnw, Mwslemiaid pybyr ydi’r mwyafrif llethol o drigolion y wlad.

Nid yw’r ffaith yma’n gwbl amlwg ym mhrif ganolfanau twristaidd canol y ddinas. Lleiafrif o’r merched ar y strydoedd hyn sy’n gwisgo yn null traddodiadol merched Islamaidd Twrci – ffrogiau llaes at eu traed a sgarff i guddio eu gwalltiau. Mae’r actorion yn yr operau sebon a darllenwyr y newyddion ar deledu’r gwesty yn ymddangosiadol gwbl Orllewinol. Mae siopau, bariau a thai bwyta sy’n gwerthu alcohol yn gyffredin iawn.

Gwir bod tyrau mosgiau i’w gweld i bob cyfeiriad, a gwir bod y llafarganu sy’n cymell pobl i weddio yn atseinio tros y ddinas bum gwaith pob dydd – yn unol a gorchymyn y Koran. Serch hynny y prif ymdeimlad a geir yn y lleoedd hyn yw o ddinas brysur, fywiog, gosmopolitaidd, seciwlar ei natur.

Ond nid oes rhaid i ddyn grwydro ymhell o’r prif strydoedd masnachol i weld darlun arall cwbl wahanol. Mae Istanbul wedi ei lleoli ar gyfres o fryniau sydd wedi eu hamgylchu a moroedd a sianeli dwr mor sylweddol – Y Corn Aur, Y Bosfforus a Mor Marmara. Tuedda’r canolfannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid fod ar ben rhai o’r bryniau hyn. Ar y llethrau sy’n arwain i lawr at y moroedd ceir clytwaith enfawr o gymdogaethau tlawd – rhai ohonynt yn ymddangosiadol dlawd iawn. Mae’n fyd cwbl, cwbl wahanol.

Daw’r Trydydd Byd a’r Byd Cyntaf at ei gilydd ar y bryniau yma. Tra bod is strwythur modern effeithiol ar bennau’r bryniau, is strwythur treuenus o wael sydd ar y llethrau – y palmentydd yn dadfeilio mewn aml i le, a’r ffyrdd mewn cyflwr sal. Dim trafnidiaeth cyhoeddus, goleuadau ffordd anigonnol a chyflenwad trydanol na ellir dibynu arno. Mae’r trigolion yn byw mewn adeiladau sy’n ganoedd o flynyddoedd o ran oed, a phrin bod llawer ohonynt mewn cyflwr digonol i gadw’r glaw a’r oerni allan. Ceir ambell i dan yn llosgi ar y palmentydd ac mae’r pentyrau o sbwriel sydd ar ochr y lon yma ac acw yn awgrymu nad ydi’r gwasanaeth hel sbwriel yn effeithiol iawn chwaith.

Mae ethos Islamaidd y cymdogaethau hyn yn gwbl amlwg. Ychydig iawn o fariau neu gaffis sy’n gwerthu alcohol. Ceir mosg ar bron i bob bloc, a phan fydd yr uchel seinyddion sydd ar eu tyrau yn galw pobl i weddio, mae’r swn sy’n syrthio o bob cyfeiriad ar yr un pryd yn fyddarol ac yn ymylu ar fod yn ormesol. Mae’r merched bron yn unffurf o ran dillad yn eu parchusrwydd Moslemaidd.

Ac eto – wedi dweud hyn oll, dydi’r cymdogaethau hyn ddim yn llefydd anymunol i fod ynddynt. Mae dyn yn teimlo’n gwbl ddiogel yno (diogel oddi wrth y trigolion o leiaf – mae’r tyllau yn y ffyrdd a’r dreifio lloerig yn faterion cwbl wahanol). Ni ellir dweud hyn am lawer o gymdogaethau tlawd, a rhai sydd ddim mor dlawd, yn ninasoedd mawr Lloegr. Mae nifer o gymunedau felly gyda pheryglon i’w thrigolion ei hun, heb son am i bobl sy’n gwbl amlwg yn dramorwyr. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o’r diwylliant cyffuriau sy’n creithio cymaint o gymdogaethau tlawd yn y DU.

Maent yn gymdogaethau distaw a chymdeithasegol drefnus yr olwg. Yr unig yfed cyhoeddus sydd i’w weld ydi dynion (a dynion yn unig) yn yfed yn y tai te. Bydd ychydig o laslanciau yn chwarae peldroed ar y ffordd yma ac acw. Byddant yn llusgo plant man i’w canlyn, neu’n cario babis yn eu breichiau (dydi’r palmentydd ddim digon da i ddefnyddio coets). Ceir ychydig o fusnesau yma ac acw – siop cebab, becws neu siop llysiau a ffrwythau – ac yma ceir y dynion (neu’r rhai nad ydynt yn yfed te o leiaf). Anaml iawn, iawn y gwelir dynes yn gweithio.

Wrth gerdded trwy’r strydoedd hyn roedd yn anodd peidio a meddwl am fy nyddiau Sul yn ystod y deg blynedd a dreuliais i yn byw mewn cymuned lle’r oedd crefydd yn rhan o’i gwead. Deg blynedd cyntaf fy mywyd ym Mhenisarwaun, Arfon rhwng 1960 ac 1970 oedd y rhain.

Mae’n debyg gen i nad ydi Cristnogaeth yng Nghymru wedi treiddio i bob agwedd ar fywyd pob dydd pobl yn y ffordd mae Islam yn gwneud hynny ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny roedd crefydd yn y Gymru Anghydffurfiol yn rhan o wead naturiol bywyd – yn arbennig felly ar y Sul, a pharhaodd pethau i fod felly nes iddi farw yn ddisymwth oddeuty 1970 – pan oeddwn i’n ddeg oed. Mae’n debyg gen i mai fy nghenhedlaeth i fydd yr un olaf i gofio’r Gymru, Gymraeg Anghydffurfiol.

Roedd dyddiau Sul ym Mhenisarwaun y 60au yn ddigon tebyg i ddyddiau Sul Oes Fictoria. Ar un ystyr goroesodd Oes Fictoria ar hyd llawer o’r Gymru Gymraeg ymhell i mewn i ail hanner y ganrif ddiwethaf.

Teulu Pabyddol oeddym ni – o leiaf i’r graddau bod fy nhad yn Babydd, ac roeddem ninnau yn bedwar o blant wedi ein magu yn y ffydd honno. Roedd hi’n orfodol o dan gyfreithiau’r Eglwys i blant o briodasau cymysg gael eu magu’n Babyddion bryd hynny. Bedyddwraig ydi mam, er ei bod yn un o ddisgynyddion John Elias – un o gymeriadau allweddol Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Un teulu, neu yn hytrach un unigolyn Pabyddol arall oedd yn byw ym Mhenisarwaun tan tua 1967. Symudodd teulu Pabyddol o Lerpwl i’r pentref tua’r adeg honno – rhagflaenwyr cynnar y tonnau mawr o fewnfudo a dorrodd tros rannau mawr o’r Gymru Gymraeg tros y degawdau dilynol. A dyna ni, tri theulu Pabyddol mewn cymuned o ddau neu dri chant o deuluoedd Protestanaidd – Anghydffurfwyr gan fwyaf. Oherwydd ein bod mewn lleiafrif mor fychan, roedd ein gwerthoedd cymunedol yn cydymffurfio yn agos a rhai’r gymuned yr oeddym yn byw ynddi – a chymuned Brotestanaidd oedd honno.

Roedd ein cymdogion yn addoli’n lleol – yn yr Eglwys Anglicanaidd leol, neu yn un o’r pedwar capel Anghydffurfiol lleol. Roeddem ni’n addoli y tu allan i’r pentref – mam yn Neiniolen am nad oes capel Bedyddwyr ym Mhenisarwaun a ninnau yn yr eglwys Babyddol yng Nghaernarfon gan amlaf. Weithiau byddem yn mynd i Fangor pan oedd Offeren Gymraeg yno.

Ond ym mhob ffordd arall roedd ein Suliau ni yn union fel rhai ein cymdogion. Nid oeddym yn mynd allan i chwarae – roedd clo ar giat cae swings pob dydd Sul ac nid oeddym yn cael chwarae yn yr ardd ffrynt chwaith. Ar ddiwrnodiau braf yn yr haf byddwn yn cael chwarae yn yr ardd gefn, ar yr amod ein bod yn gwneud hynny’n ddistaw bach. ‘Dydi Pabyddion ddim yn poeni rhyw lawer am hamddena ar y Sul, ond roeddym ni yn plygu i ddisgwyliadau’r gymuned ehangach. Yn yr un modd byddem yn gwisgo dillad dydd Sul – yn union fel ein cymdogion, er bod Pabyddion mewn gwledydd Pabyddol yn aml yn gwisgo’n ddigon anffurfiol mewn gwasanaethau cyffredin.

‘Doedd yna ddim tafarn ym Mhenisarwaun bryd hynny, er bod nifer wedi bod yn y cylch yn y gorffennol. Cafwyd cais i agor clwb yn y pentref gan Sais o’r enw Jack Nix yn y blynyddoedd hyn, gyda’r bwriad o gymryd mantais o’r ffaith bod tafarnau pentrefi cyfagos i gyd ar gau ar y Sul yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd fy rhieni ynghanol ymgyrch chwyrn i atal y datblygiad – ac roedd yr ymgyrch yn un chwyrn, cafodd yr adeilad ei fomio ar un adeg. Unwaith eto roedd hyn yn agwedd ryfedd i Babyddion – ‘dydi yfed alcohol ar ddydd Sul nac ar unrhyw ddiwrnod arall ddim yn bechod i Babyddion. Roedd Crist yn yfed alcohol wedi’r cwbl. Pechu o ganlyniad i yfed fyddai’r broblem yn hytrach na’r weithred ei hun.

O ran diddordeb, llwyddo wnaeth y cais am drwydded clwb yn y pen draw, a bu canolfan yfed digon llwyddianus ym Mhenisarwaun am flynyddoedd. Yn eironig ddigon canlyniad y refferendwm ar agor tafarnau ar y Sul yn y saithdegau a laddodd y lle yn y pen draw. Y digwyddiad hwn oedd cloch cnul y Gymru Anghydffurfiol yn Arfon – er bod y Gymru honno wedi marw erbyn hynny mewn gwirionedd. Roedd y sefydliad yn ddibynol iawn ar yfywyr dydd Sul o Ddeiniolen, Llanrug a Llanberis. Gydag agoriad y Bull, Pen Bont a’r Victoria ar y Sul, collodd y clwb ei farchnad. Cartref hen bobl sylweddol iawn o ran maint sydd ar y safle erbyn heddiw.

Ar y pryd roedd pethau yn edrych yn ddigyfnewid ac yn barhaol. Ar un wedd mae’n rhyfeddol i’r Gymru honno farw mor ddi symwth a mor ymddangosiadol ddi rybudd. O edrych yn ol, fodd bynnag, mae’n weddol hawdd arenwi’r grymoedd hynny oedd ar waith yn tanseilio’r seiliau.

Roedd gwrthdaro mewnol yn rhan o’r fframwaith deallusol oedd yn cadw’r holl sioe Anghydffurfiol ar ei thraed. Wedi’r cwbl cyfaddawd efo seciwlariaeth ydi Protestaniaeth yn ei hanfod – gwahoddiad agored i ddyn ddod o hyd i Dduw ar ei ben ei hun. Pan roedd y dylanwadau diwylliannol oedd yn effeithio ar bobl yn gyfyng, a phan roedd y traddodiad crefyddol Cymreig yn bwysicach na’r un o’r dylanwadau hynny, roedd canfyddiad pobl o Dduw yn weddol unffurf.

Ond pan gynyddodd yr amrediad o ddylanwadau diwylliannol y tu hwnt i bob disgwyliad yn ail hanner y ganrif ddiwethaf (yn rhannol yn sgil twf enfawr rhai o’r cyfryngau torfol), newidiodd y canfyddiad o Dduw hefyd – ac wrth gwrs mae’r traddodiad Protestanaidd yn gwahodd pobl i ddiffinio eu Duw eu hunain. Pan mae’r byd yn gymhleth, mae’r diffiniad o Dduw hefyd yn gymhleth – a ‘dydi Duw cymhleth ddim o unrhyw werth i neb. ‘Dydi Duw o’r fath ddim gwerth credu ynddo, ac yn bwysicach na hynny ni all Duw o’r fath gynnal gwerthoedd cymunedol cytunedig.

Roedd yn afresymol credu y gallai cestyll cyfundrefn grefyddol oroesi yn yr hir dymor ar fryniau tywod seciwlar – ac felly cyfnewidiol. Roedd y cestyll yn sicr o gael eu sgubo i’r mor gan donnau seciwlariaeth yn hwyr neu’n hwyrach.

‘Dydi Islam ddim yn wynebu’r problemau hyn wrth gwrs. Yn gwahanol i is strwythur diriaethol strydoedd Istanbul, mae’r is strwythur diwynyddol a deallusol yn gadarn. ‘Does yna ddim cyfaddawd efo systemau rhesymu seciwlar – mae’r canfyddiad o Dduw yn cael ei ddiffinio’n allanol – a Duw syml iawn ydi hwnnw.

‘Dydi’r gwledydd Mwslemaidd ddim wedi bod trwy chwyldro Ffrengig chwaith – yn gwahanol i dir mawr Ewrop. O ganlyniad nid oes fframwaith ideolegol seciwlar i gystadlu efo’r un grefyddol. Mae’r cestyll Islamaidd yn gwbl ddiogel ar hyn o bryd – nid ydynt wedi eu seilio ar dywod fel Anghydffurfiaeth Cymreig, ac nid oes cystadleuaeth o du ideolegau seciwlar megis y Chwyldro Ffrengig.

Capeli Penisarwaun - Jehofa Jeira - Wesleiaid - wedi ei droi'n dy.



Bosra - Annibynwyr - yma o hyd.



Glasgoed, Hen Gorff - wedi ei droi'n dy.



Mae Ysgoldy - Hen Gorff wedi ei ddymchwel.

A pherfedd y Mosg Glas yn Istanbul.

Etholiadau Cyngor Gwynedd - Rhan 1

Os bydd amser yn caniatau, byddaf yn edrych ar yr etholiadau yng Ngwynedd - ac efallai mewn ambell i le arall tros yr wythnosau nesaf. Wele isod y cipolwg cyntaf. Ymddiheuriadau am gychwyn lle mae pethau ar eu lleiaf diddorol.

Un neu ddau o reolau cyn cychwyn:

(a) Dim chwerthin ar fy mhen gormod os ‘dwi’n gwneud smonach o bethau – mae’n anodd darogan canlyniadau etholiadau lleol – yn llawer anos na darogan rhai seneddol.
(b) Dwi’n cael newid fy meddwl cyn yr etholiad.
(c) 'Dwi ddim yn cael jibio. Mae'n rhaid i mi ddewis un ymgeisydd - hyd yn oed pan fo hynny'n nesaf peth i amhosibl.

‘Dwi am ddechrau gyda Dyffryn Peris a rhai o’r wardiau cyfagos. Ers talwm (yn y 70au a’r 80au cynnar) roedd brwydr chwyrn rhwng Llafur a’r Blaid mewn llawer o’r wardiau hyn, ac roedd yn beth prin i gynghorwyr gael eu dychwelyd yn ddi wrthwynebiad. Daeth tro ar fyd – erbyn heddiw dyma’r rhan o’r sir mwyaf aniddorol o ran etholiadau – nifer dda o’r wardiau heb etholiad, a’r lleill yn eithaf hawdd i ragweld yr hyn sy’n debygol o ddigwydd yno:

Y Felinheli: Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn cael ei hethol yn ddi wrthwynebiad. Bydd hyn yn gryn siom i Lafur – Glyn Evans oedd yn cynrychioli’r ward y tro o’r blaen – ond ni ddaethant o hyd i neb i sefyll yn ei le. Yn y Felin mae Martin Eaglestone yn byw – darpar ymgeisydd Llafur ym mhob etholiad San Steffan a Chynulliad ers tro. Fo hefyd ydi perchenog y blog gwleidyddol mwyaf mewnblyg, un llygeidiog a phlwyfol yng Nghymru. Glyn oedd y Llafurwr agosaf at y Blaid ar ol i Eddie Dogan adael Llafur ac ymuno a’r Blaid. Roedd mor debygol i eistedd ymhlith Pleidwyr nag ymhlith ei blaid ei hun mewn cyfarfodydd cyngor, ac yn ol pob son ni allai Llafur ddibynu ar ei bleidlais mewn etholiadau Cynulliad.

Bethel: Huw Price Hughes (Plaid Cymru) yn cael ei ethol yn ddi wrthwynebiad. Ymgeisydd cryf na fyddai’n debygol o golli beth bynnag.


Penisarwaun: Pat Larsen (Plaid Cymru) yn cael ei hethol yn ddi wrthwynebiad. Mae Pat wedi cynrychioli Penisarwaun ar gwahanol gynghorau ers y chew degau canol. Dydi mwyafrif poblogaeth y ward ddim yn cofio cael eu cynrychioli gan neb arall ar gyngor.

Cwm y Glo: Brian Jones (Llafur) yn cael ei ethol yn ddi wrthwynebiad. Brian ydi arweinydd y grwp Llafur, ac mae yntau wedi cynrychioli Cwm ers degawdau. Nid yw wedi wynebu etholiad ers i wardiau Cwm a Llanrug gael eu gwahanu, ac nid oedd yn cael etholiad yn aml iawn cyn hynny.

Llanberis: Trevor Edwards (Annibynnol) yn cael ei ethol yn ddi wrthwynebiad. Dyn lleol, hynod boblogaidd na fydd byth yn canfasio – ond sy’n gwbl saff o’i sedd. Wedi tynnu sylw ato’i hun yn ddiweddar trwy fynychu rhai o gyfarfodydd Llais Gwynedd – er iddo atal ei bleidlais ar y cynllun ail strwythuro. Ni chroesodd y bont serch hynny.

Waunfawr: Gwilym Williams (Annibynnol) yn cael ei ethol yn ddi wrthwynebiad. Cryn siom i’r Blaid na lwyddwyd i gael neb i sefyll yn hon. Er i Gwilym gael ei ethol yn ddi wrthwynebiad o’r blaen hefyd, mae traddodiad hir o gynrychiolaeth Plaid Cymru yn y pentref yma – gydag Eiryg Wyn a Dafydd Iwan ymhlith eraill yn cynrychioli’r ward ar gwahanol adegau.

Llanrug: Etholiad o’r diwedd. Charles Jones (Plaid Cymru) sy’n cynrychioli’r ward ar hyn o bryd yn erbyn Dafydd Guto Ifan (Annibynnol). Roedd rhagdybiaeth y byddai Dafydd yn sefyll yn enw Llais y Bobl – ond nid felly y bu. Mae Charles wedi cynrychioli Llanrug ers rhai etholiadau bellach, ac roedd yn gynghorydd ifanc iawn hefyd yn ol yn y saith degau.

Dydi Dafydd Guto ddim yn byw yn y ward – mae’n byw yn ward gyfagos Penisarwaun. Serch hynny, a barnu oddi wrth ei ohebiaeth etholiadol mae o dan gam argraff ei fod yn byw yn Llanrug. Wnaeth Dafydd Guto fawr o ffafr gyda’i hun gyda’i ymddygiad hysteraidd yn y brotest yn erbyn ail strwythuro ysgolion ym mis Rhagfyr. Safodd rhai blynyddoedd yn ol ym Methel – a dod yn ail da – yn groes i ddarogan llawer (gan fy nghynwys i).

Er bod rhai problemau gan Charles yn sgil gwahanol benderfyniadau gan y Cyngor Sir ynglyn a thraffic yn mynd trwy’r pentref, a chyfres o lythyrau anymunol yn cwyno amdano yn y wasg, nid yw’r cynllun ail strwythuro ysgolion yn effeithio ar Lanrug. Charles fydd yn ennill hon yn eithaf hawdd - un o'r cynghorwyr mwyaf effeithiol ar y cyngor o ran cyflawni dyletswyddau lleol.

Deiniolen: Etholiad arall. Len Jones (Plaid Cymru) sy’n dal y sedd, ac mae ganddo ddau wrthwynebydd – David Alan Pritchard, Llafur ac Ian Franks (Llais y Bobl).

Mae pentref Deiniolen yn bentref hynod o Gymreig – ond mae man bentrefi sydd wedi Seisnigeiddio o’i gwmpas – Fachwen, Dinorwig ac i raddau llai Clwt y Bont. Mae Deiniolen yn fwy o lawer na’r pentrefi eraill ac mae cyfran uchel o’r tai sydd yno yn dai cyngor, ac mae ei thrigolion yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na Saeson y cyrion. Mae hefyd yn lle llwythol iawn.

Mae dwy broblem i’r Blaid – mae’r ysgol (er ei bod a 200 o blant) yn cael ei ffederaleiddio, ac mae cangen y Blaid yny pentref ar chwal. Roedd ar un amser ymysg y canghenau mwyaf, a mwyaf bywiog yn y wlad. Serch hynny, ‘dwi’n eithaf ffyddiog mai Len fydd yn ennill – pleidleisiodd yn erbyn y cynllun ail strwythuro, ac mae cefnogaeth y Blaid yn y pentref yn gyson soled iawn – er gwaethaf hanes y gangen. ‘Dwi ddim yn meddwl bod Llafur wedi ennill etholiad yno ers chwe degau’r ganrif ddiwethaf. Yn ychwanegol fedra i ddim yn fy myw weithio allan pwy ydi Alan Pritchard - er cryn holi. ‘Dwi ddim yn meddwl ei fod yn byw yn Neiniolen.

‘Dwi’n credu mai Sais ydi Ian Franks sy’n gyn weithiwr gyda phapur newydd lleol. Nid oes ganddo fawr o Gymraeg ac mae’n byw yng Nghlwt y Bont. Does ganddo ddim gobaith mewn cymuned fel hon. Mae son mai ei fwriad oedd sefyll yn un o wardiau Bangor, ond iddo fethau a chael deg o bobl i arwyddo ei bapur yno.

Fel y dywedais – dyma’r ardal mwyaf diflas. Mae mwy o etholiadau o lawer yn y lleill. Byddaf yn edrych ar ardal arall maes o law.

Monday, February 11, 2008

Pres papur i Gymru?

Yn gwahanol i Gymru mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bres papur eu hunain. Pres Prydeinig ydyw mewn gwirionedd, ac mae ei werth yn union yr un peth a Sterling (oni bai eich bod yn ceisio ei newid mewn Bureau de Exchange am bres 'tramor' - rydych yn debygol o gael gwaeth bargen na phetai gennych bres Seisnig). Serch hynny mae arwyddocad symbolaidd pwysig i bres papur - wedi'r cwbl mae cynllun gwahanol i bres yn hen arwydd o wlad gwahanol, ac mae'r cynllun hwnnw yn tueddu i adlewyrchu rhai o'r pethau a'r bobl mae gwlad yn eu hystyried yn arwyddocaol. Hyd yn oed pan mae gwledydd yn defnyddio'r un gyfundrefn ariannol (fel yn achos yr Ewro) mae un ochr i'r papur yn gwahanol ar gyfer pob gwlad.

Mae rhesymau hanesyddol pam fod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwahanol i Gymru. Mae'r banciau (sydd mewn enw o leiaf) yn lleol gyda'r hawl i gyhoeddi pres yn y gwledydd hynny - Bank of Scotland, Royal Bank of Scotland a'r Clydesdale Bank yn yr Alban a'r Bank of Ireland, Ulster Bank, a'r First Trust Bank yng Ngogledd Iwerddon. Yng Nghymru a Lloegr Banc Lloegr yn unig sydd a'r hawl i gyhoeddi pres papur - a does yna ddim banciau lleol gwerth son amdanynt yng Nghymru beth bynnag.

Serch hynny mae'n ffaith bod pres metel - y cwbl ohono - punoedd, hanner can ceiniog ac ati yn cael eu bathu yn Llantrisant. Mae hyn yn cynnwys pres Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae'r pres yma yn aml yn cydnabod gwahaniaethau cenedlaethol oddi mewn i'r DU - a ceir cynlluniau gwahanol yn aml i bres a ddosberthir yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Pam felly nad yw hi'n bosibl cynhyrchu pres papur sy'n adlewyrchu'r ffaith bod Cymru yn wlad gwahanol i Loegr? Wedi'r cwbl mae'n rhaid bod bron i bawb yn derbyn ein bod yn wledydd gwahanol - beth bynnag ein barn am drefniadau cyfansoddiadol.



Un o'r cynlluniau ar gyfer punt Gogledd Iwerddon.



Un o'r cynlluniau ar gyfer punt yr Alban.



A Chymru wrth gwrs.



£5 Allied Irish Bank



£20 y Clydesdale Bank

Sunday, December 30, 2007

Llywodraeth Doriaidd yn 2010?

Pol piniwn arall yn awgrymu mai'r Toriaid fydd yn ennill yr etholiad nesaf. Yn ol rhai mae'n gyffredin i'r brif wrthblaid fod ar y blaen rhwng etholiadau, ond bod y blaid sy'n llywodraethu yn ad ennill pleidleisiau erbyn yr etholiad.

Nid felly mae pethau'n gweithio yn ol Andy Cooke. Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ydi bod y Toriaid yn gwneud yn well pan y daw yn etholiad go iawn.

Os ydi ei ddamcaniaeth yn gywir, yna y Toriaid fydd yn llywodraethu Prydain ar ol 2010.

Ydi hyn yn beth da?

Wel nid ydi hanes diweddar Cymru yn awgrymu hynny. Roedd y cyfnod diwethaf o lywodraethau Toriaidd (1979 - 1997) yn dipyn o drychineb i Gymru. Difa'r farchnad mewn glo er mwyn gwneud elw i gyfeillion Dennis Thatcher yn y byd olew, cau pob pwll glo a rhoi'r wlad i Glingon o'r enw Mr Spock ei rheoli yn ei ffordd ddihafal ei hun. Ei weithred gwleidyddol mwyaf cofiadwy oedd anfon £100,000,000 o arian oedd i fod i'w ddefnyddio ar wasanaethau cyhoeddus Nghymru yn ol i'r trysorlys er mwyn i'r rheini gael ei roi at achosion da megis prynu chwaneg o daflegrau.



Mr Spock yn ceisio meimio Hen Wlad Fy Nhadau.

Serch hynny, yr un fantais i'r sefyllfa ydi bod llywodraeth Doriaidd yn gallu esgor ar ddatblygiadau cadarnhaol trwy ddamwain. Oni bai am ddeunaw mlynedd o Mr Spock a'i debyg ni fyddai Cymru wedi ennill Cynulliad yn 1997. Byddai llywodraeth Doriaidd yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai Cymru'n pleidleisio Ia yn 2011 ac felly yn ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid wneud unrhyw niwed arwyddocaol i ni eto.

Saturday, December 22, 2007

Banciau, Colin a Ken Livingstone

Mae unrhyw un sydd yn buddsoddi mewn cyfrandaliadau, ac yn arbennig felly rhai yn y sector bancio wedi cael ychydig wythnosau digon anymunol. ‘Dwi’n gwybod hyn oherwydd fy mod i’n chwarae o gwmpas gyda chyfrandaliadau (ar raddfa fach i chi gael deall), ac yn cael fy hun yn dlotach nag oeddwn i fis neu ddau yn ol.

Canlyniad i’r argyfwng sub prime hyd y gwn i ‘does neb wedi bathu term Cymraeg amdano eto) Americanaidd ydi hyn oll wrth gwrs. Am wn i mai’r llun sy’n aros o’r argyfwng yn y cof ydi rhesi o bobl yn sefyll y tu allan i fanciau’r Northern Rock yng nghanol trefi ar hyd a lled y DU ydi’r ddelwedd sy’n aros yn y cof.

Serch hynny, mae digwyddiadau wythnos a hanner yn ol yr un mor arwyddocaol. Oherwydd gofidiau ynglyn a iechyd y sector bancio aeth banciau canolog ar ddwy ochr yr Iwerydd ati i dorri cyfraddau llog a’i gwneud yn glir eu bod yn fodlon chwystrellu arian i mewn i’r gyfundrefn bancio.

Dylai hyn fod wedi arwain at ostyngiad yn y cyfraddau llog mae banciau yn eu defnyddio wrth roi benthyciadau i’w gilydd, a dylai gwerth cyfrandaliadau bancio fod wedi codi yn sgil hyn. Syrthiodd gwerth cyfrandaliadau a phrin y symudodd cyfraddau mewnol y byd bancio.

Effaith ymdrechion y banciau canolog oedd cadarnhau beth mae pawb yn y byd bancio yn ei wybod – bod tyllau du anghynnes wedi eu cuddio ym mantolenni nifer o’r banciau mawr. O ganlyniad mae’r olew sy’n caniatau i’r gyfundrefn weithio’n hwylus – liquidity – wedi mynd. Y rheswm am hyn ydi bod ymddiriedaeth mewnol y byd hwn wedi anweddu. Mae banciau, fel unigolion yn fodlon rhoi benthyg i bobl a sefydliadau mae ganddynt ymddiriedaeth ynddynt – ac nid ydynt yn fodlon rhoi benthyg lle nad oes ymddiriedaeth – neu o leiaf maent yn codi cyfraddau llog uchel i wneud iawn am y risg uchel.

Yn y bon diffyg ymddiriedaeth oedd yn gwneud i bobl sefyll yn yr oerni trwy’r dydd y tu allan i fanciau’r Northern Rock ychydig fisoedd yn ol, a’r un peth sy’n egluro ymddygiad anisgwyl y marchnadoedd arian.

Mae gallu pobl a sefydliadau i ymddiried yn ei gilydd yn bwysig ymhell y tu hwnt i hynt a helynt marchnadoedd pres. Wedi’r cwbl mae’r grymoedd sy’n gyrru marchnadoedd yn aml yw’r rhai sy’n gyrru rhyngberthynas pobl yn gyffredinol. Ymddiriedaeth yn wir ydi’r olew sy’n hwyluso pob bargen rhwng pobl.

O feddwl amdano, mae’r peth yn amlwg. Mae dyn yn llawer mwy tebygol o gael caniatad ei wraig i fynd am wythnos o golffio ym Mhortiwgal gyda hogiau’r clwb golff os nad yw wedi ei ddal efo’i dafod i lawr gwddf a’i law ar ben ol y Sulwen fach ben felen honno ar falconi smygu’r Ship & Castle ar ol nos Sadwrn hir.

Fel mae paragraff cyntaf y darn yma yn ei awgrymu, dydw i ddim y buddsoddwr craffaf erioed. Yn wir, ‘dwi wedi byw mewn hen dai am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn – sy’n ffolineb ariannol o’r radd flaenaf. Bydd costau sylweddol yn deillio o’r sefyllfa yma o bryd i’w gilydd. ‘Dwi’n hollol ddi glem pan mae’n dod i adeiladu, felly mae’n rhaid i mi dalu i rhywun ddelio gyda phob llechen sy’n syrthio oddi ar y to neu damprwydd ar wal y gegin gefn.

Un person fydda i’n ei ddefnyddio i bron i pob joban – Colin o Lanrug. O bryd i’w gilydd, os ydi’r joban yn un faith bydd yn gofyn am ei bres cyn gorffen. Does gen i fawr o broblem cydymsynio. Petai tincar yn gwneud yr un joban, ac yn gwneud yr un cais, fyddwn i ddim yn breuddwydio rhoi dimau goch iddo. Pam – am bod Colin yn debygol o fod yn fwy gonest na’r tincer? Does gen i ddim rheswm i feddwl bod Colin yn anonest, ond dydw i ddim yn gwybod hynny i sicrwydd – fydda i ddim yn gwneud dim efo fo yn gymdeithasol. Ond mae Colin a finnau yn gwybod petawn i a phobl tebyg i mi yn cerdded i fyny ac i lawr Stryd Llyn ar fore Sadwrn yn achwyn na ellir dibynnu arno, ni fyddai yn cael gwaith gan neb. ‘Does gen i ddim rheswm i feddwl bod y tincer yn anonest chwaith, ond gwn y gall godi ei bac a mynd i Lerpwl fory nesaf – dydi o ddim yn gorfod gweithio oddi tan yr un ddisgyblaeth a Colin. Mewn geiriau eraill, mae’r ffaith bod gen i ymddiriedaeth y bydd Colin yn gorffen ei waith yn caniatau iddo fo ddelio gyda’i broblemau cashflow, ac mae hefyd yn gadael i mi beidio a phoeni na fydd y joban yn cael ei gorffen i safon priodol. Ymddiriedaeth ydi’r olew sy’n gwneud i’r fargen weithio’n hwylus.

Daw hyn a ni at ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Rwan does yna neb yn ymddiried mewn gwleidyddion yn yr un ffordd ag y maent yn ymddiried yn y banc neu’r offeiriad neu’r dyn drws nesaf. Mae pawb yn deall mai delio mewn addewidion a breuddwydion mae gwleidyddion, ac mae pawb hefyd yn deall na ellir gwireddu pob breuddwyd nag addewid. Yn draddodiadol mae pobl wedi tueddu i ymddiried yn eu plaid wleidyddol eu hunain yn yr ystyr eu bod yn meddwl bod y pleidiau hynny yn gwneud eu gorau trostynt pan maent yn ennill grym – ac mae’r ymddiriedaeth gyffredinol yma wedi sicrhau cefnogaeth hir dymor i bleidiau. Weithiau, am gwahanol resymau, bydd yr ymddiriedaeth hwnnw’n syrthio’n ddarnau ymysg cydrannau arwyddocaol o’r boblogaeth – gyda chanlyniadau etholiadol trawiadol - fel y dysgodd Llafur yn 79 a’r Toriaid yn 97 – ond stori arall ydi honno.

Mewn blynyddoedd diweddar mae troelli gwleidyddol wedi dod yn arf gwleidyddol pwysig i pob plaid, ac mae cam gynrychioli safbwyntiau a dweud celwydd noeth am wrthwynebwyr wedi dod yn fater o gwrs mewn gwleidyddiaeth. Mae hyn yn ei dro wedi di brisio naratif gwleidyddol pob plaid, ac wedi erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yn gyffredinol. Dyma sy’n rhannol gyfrifol bod cymaint o’r boblogaeth bellach yn ymneilltuo oddi wrth y broses etholiadol yn ei chyfanrwydd.

Roedd ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiadau Cynulliad diweddar yn esiampl dda o hyn. Yn syml unig sail eu hymgyrch oedd Mae’r Toriaid yn ddrwg iawn ac os byddwch yn pleidleisio i Blaid Cymru bydd y bobl ddrwg yn ennill grym ac yn llusgo eich gwraig y tu ol i’r clawdd, yn bwyta eich babis ac yn lluchio eich rhieni oedrannus i mewn i’r fynnon. Damia fo – dwi wedi dal yr afiechyd ac yn troelli cystal a Mandelson ei hun!

Mae’n anodd credu yn yr hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni mi wn ond mi fydd yna etholiadau y flwyddyn nesaf – rhai lle mae Llafur yn ffefrynau clir i ennill (2:5 yn erbyn 13:8 y Toriaid). Yr etholiadau am faer Llundain ydi’r rheini. Mae Ken Livingstone yn debygol o gael ei ethol yn faer Llundain yn ystod blwyddyn lle gall Llafur golli eu rheolaeth ar pob un o’u cynghorau yng Nghymru. Yn draddodiadol mae’r Blaid Lafur wedi bod yn gryfach o lawer yng Nghymru nag yn Llundain – ond bydd hynny’n cael ei droi ar ei ben at ddiwedd y gwanwyn.

Rwan, mae nifer o ffactorau y tu ol i hyn – mae llawer o Lundain yn newid yn gyflym yn gymdeithasegol ac o ran proffeil ethnic er enghraifft. Ond y ffactor mwyaf arwyddocaol ydi persenoliaeth, neu o leiaf bersona gwleidyddol yr ymgeisydd Llafur – Ken Livingstone. Mae ei ddelwedd yn lliwgar – bywyd personol cymhleth, cefndir adain chwith pell, tueddiad i agor ei geg a sarhau grwpiau mawr o bobl mewn ffordd hynod o anwleidyddol gywir, parodrwydd i ymosod ar arweinyddiaeth ei blaid ei hun ac hyd yn oed sefyll yn erbyn ei blaid ei hun. Mae’r dyn yn graff wrth gwrs – mae’n deall gwleidyddiaeth gymhleth llwythol Llundain i’r dim ac mae’n deall pwy i’w sarhau a phwy i beidio eu sarhau. Mae ganddo hefyd ddawn di feth i ddod o hyd i dir gwleidyddol cul ond cadarn i ymladd arno ac mae'n deall bod ffrwd ‘annibynnol’ gref i wleidyddiaeth Llundain erioed. Gall hefyd ddod o hyd i dir syml Mae'n dra anhebygol y byddai Llafur yn ffefrynnau gydag unrhyw ymgeisydd arall.

Ond mae dau ffactor arall hefyd – mae’r dyn yn onest – neu o leiaf mae ganddo ddelwedd gyhoeddus onest. Pan mae’n cael ei holi gan y cyfryngau mae’n ateb y cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn hytrach na meddwl am gant ac un ffordd o beidio ei ateb a la Michael Howard ar Newsnight. Os yw’n cael cwestiwn ynglyn a’i farn ynglyn ag unrhyw beth mae’n ei rhoi – nid honni i fod heb farn a la Rhodri Morgan ar ryfel Irac. Mae pobl hefyd yn gwybod ei fod gyda hanes o ddod yn weddol agos at wireddu’r hyn mae’n ei addo cyn ei etholiadau. Mewn geiriau eraill mae pobl, neu'r rhan fwyaf o bobl, yn ymddiried ynddo - ac ymddiriedaeth ydi'r olew sy'n hwyluso'r berthynas rhwng gwleidydd a'i etholwyr.

Ac mae gwers yma i wleidyddion yng Nghymru, a phob man arall. Mae llawer i’w ennill tros osgoi troelli, packaging gwleidyddol ac yn lle hynny adeiladu delwedd onest, cyflwyno addewidion sy’n bosibl eu gwireddu cyn etholiad, ac yna ymdrechu’n galed i’w gwireddu wedi etholiad. Mae ennill ymddiriedaeth tymor hir gwleidyddol yn bwysicach nag ennill manteision tymor byr pardduo gwrthwynebwyr trwy droelli.

Saturday, December 15, 2007

Cynllun ail strwythuro Gwynedd (eto mae gen i ofn)

Copi o neges rwyf newydd ei phostio ar maes e yn dilyn cymeradwyo'r ddogfen Ad-drefnu Ysgolion Cynradd y Sir er Lles Addysg Holl Blant Gwynedd ddydd Iau diwethaf.

'Dwi wedi osgoi cymryd rhan yn y drafodaeth yma hyd yn hyn oherwydd fy mod yn broffesiynol gysylltiedig a'r datblygiadau. Serch hynny efallai ei bod yn bryd i mi ddweud gair neu ddau.

I ddechrau, fodd bynnag, dyliwn ddatgan buddiant - 'dwi'n bennaeth mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd fydd yn cael ei ffederaleiddio tuag at ddiwedd y broses - os yn wir y bydd y broses yn cyrraedd ei therfyn.

O ddarllen neges Lleucu, mae'n un anarferol yn y ffaith bod ei hawdur yn deall y cynllun yn iawn. At ei gilydd dydi pobl ddim - gan gynnwys rhai sydd wedi dadlau'n groch o'i blaid ac yn ei erbyn ar y cyfryngau. Mae hyn yn rhyfedd braidd gan fod y ddogfen yn ei hanfod yn un syml iawn.

Un neu ddau o bwyntiau cyffredinol i ddechrau:

(1) Dydi hi ddim yn bosibl i pob ysgol yng Ngwynedd (nag yn yr un sir arall) aros ar agor am byth. Mae Cyngor Gwynedd yn gywir pan maent yn dweud bod llai o lawer o blant mewn ysgolion a bod y ffaith bod cymaint o'r ysgolion bellach yn syrthio i'r 'rhwyd diogelu' nes peri straen gwirioneddol oddi mewn i'r gyfundrefn cyllido ysgolion. Mae yna ysgol yng Ngwynedd ar hyn o bryd gyda phedwar o blant, un athrawes a thua dwsin o lywodraethwyr.

(2) Mae'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd yn mynd rhagddo mewn cyd destun ehangach. Mae ysgolion yn cau ar hyd a lled Cymru - mewn ardaloedd trefol yn ogystal a rhai gwledig. Yn rhai o gymoedd y De mae'r newidiadau demograffig ar eu mwyaf ysgytwol. Mae'n digwydd hefyd yn rhai o ardaloedd cyfoethocaf Cymru. Fis diwethaf clywodd rhieni Sandy Lane Infants ym Mynwy bod eu hysgol yn cau a bod eu plant am orfod symud i St Mary's Junior.

(3) Byddai peidio a newid y ddarpariaeth a gwrthod ymateb i ganfyddiadau ESTYN a'r Comisiwn Archwilio yn ol pob tebyg yn arwain at golli rheolaeth ar y sector gynradd, a gadael yr holl ddarpariaeth ar drugaredd biwrocratiaid yn Cathays Park.

Felly a derbyn bod rhywfaint o newid yn anochel, y ddau gwestiwn sy'n codi ydi Faint o newid? a Sut fath o newid?

Yn bersonol, byddwn wedi gobeithio y byddai'r Cyngor yn minimeiddio'r cau ac yn ceisio bod mor gost effeithlon a phosibl wrth wneud hynny. Wedi'r cwbl mae'r sector addysg yn bwysig o safbwynt cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd. Ysgolion hefyd ydi unig fuddsoddiad y Cyngor mewn llawer o'i chymunedau gwledig. Ceir buddsoddiad anferth mewn trefi, a buddsoddiad aneffeithiol iawn o safbwynt ariannol yn aml. Mae'r colledion a wneir yng Nghanolfan Denis Arfon yng Nghaernarfon a Phwll Nofio Bangor yn ddigon a chodi gwallt dyn.

Yn anffodus mae'r cynllun a gafodd ei fabwysiadu ddydd Iau yn dod yn agos at facsimeiddio'r cau, ac yn gwneud hynny mewn ffordd a allai fod yn hynod o aneffeithiol o safbwynt ariannol.

Gan osgoi mynd i mewn i ffigyrau gormod dyma ar ei symlaf sut y bydd y cynllun yn gweithio.

Cau 29 ysgol.

Agor 8.

Gwario tros i ddwy draean o'r arian a arbedir trwy gau i greu haenen newydd o benaethiaid nad ydynt yn dysgu i reoli dwy, tair neu bedair safle oddi mewn i ysgol ffederal, neu i reoli ysgolion ardal. Nid yw'r cynllun yn manylu ar beth fydd yn digwydd i'r draean arall mwy nag i nodi y bydd yn cael ei wario yn rhywle yn y gyfundrefn addysg.

Rwan, mae problemau gwirioneddol yn codi o hyn, nodaf y rhai amlycaf:

(1) Does yna ddim lle o gwbl i dybio bod yr haenen newydd reolaethol am fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, mae'r dystiolaeth sydd ar gael (sydd yn brin rhaid cyfaddef) yn awgrymu bod uno ysgolion yn erbyn eu hewyllys yn gyrru safonau addysgol i lawr. Mae swydd ddisgrifiadau'r swyddi newydd arfaethiedig yn wirioneddol broblematig. Ymddengys bod disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd 'arwain yn gymunedol a ieithyddol'. Dydi hyn ddim yn rhan o swydd pennaeth yn ol diffiniad statudol y swydd honno. Mewn geiriau eraill bydd deiliaid y swyddi newydd yn cael eu talu am gyflawni tasgau nad oes unrhyw ffordd o'u gorfodi i'w cyflawni.

(2) Er mwyn talu am yr haenen hon (ac mae'n rhyfeddol o ddrud - yn ddrytach na Chanolfan Denis Arfon a Phwll Nofio Bangor efo'i gilydd) ni fydd llawer o adnoddau i'w dosbarthu i ysgolion mawr trefol, lle mae gwariant y pen y plentyn yn isel. Er enghraifft yn Ysgol yr Hendre - ysgol fwyaf y sir o ddigon mae'r cynllun hwn fel mae'n sefyll yn gwarantu cynnydd o £60 y plentyn y flwyddyn. Piso dryw yn y mor ydi hyn - digon i gyflogi un gweinyddes - ar y gorau. Neu i edrych arno mewn ffordd arall mae'n bosibl dadlau mai cau fydd Ysgol Llanystumdwy er mwyn cyflogi gweinyddes ychwanegol yn yr Hendre.

(3) Nid ydi'r cynllun mewn gwirionedd yn delio efo'r gwahaniaeth mewn gwariant y pen - ond bydd yn ei guddio. O osod cyllid ysgol fechan iawn mewn cyfundrefn ffederal yna mae'r gwariant yn ymddangos yn is gan bod nifer y plant yn y tair neu bedair ysgol yn cael ei rannu efo cyfanswm cyllid y dair neu bedair ysgol. Ond, os ydi'r safle fechan yno o hyd mae'r gwariant y plentyn ar y safle honno yr un mor uchel ag erioed - ond gyda dau wahaniaeth - nid oes rhaid cyhoeddi'r ffigwr a bydd y faich o gynnal yr ysgol yn cael ei drosglwyddo oddi wrth y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd i ddwy neu dair uned arall yr ysgol ffederal.

Rwan, 'dwi'n digwydd adnabod y swyddogion a'r cynghorwyr sy'n bennaf gyfrifol am y cynllun - ac mae gen i brin barch at y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n fater o ofid i mi bod cymaint o wawd a sen wedi ei daflu i'w cyfeiriad. Mae arweinydd y cyngor yn wr boneddigaidd a didwyll sydd wedi dangos cryn ddewrder wrth 'werthu'r' cynllun arbennig yma. Er gwaethaf hynny mae gen i ofn bod y cynllun hwn yn sylfaenol wallus. Mae'n cau llawer mwy o ysgolion na sydd rhaid ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n hynod o aneffeithiol yn gyllidol.

Byddai cau llai o lawer o ysgolion a dosbarthu'r arian fydd yn deillio o'r cau hwnnw i gyllidebau ysgolion er mwyn creu swyddi i athrawesau a gweinyddesau yn hytrach nag i greu haenen reolaethol NHSaidd yn ddefnydd llawer callach o adnoddau prin.

Sunday, November 25, 2007

Fianna Fail a Phlaid Cymru

Gwn ei bod yn rhyfedd i gymharu plaid Wyddelig sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes yn ymarfer grym yn yr Iwerddon, gyda phlaid Gymreig sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes ar gyrion gwleidyddiaeth prif lif, ond mae cymhariaeth i'w gwneud a gwers i'w dysgu, yn arbennig cyn bod y Blaid bellach mewn grym ar lefel cenedlaethol.

Fianna Fail ydi’r blaid wleidyddol fwyaf o ddigon yn yr Iwerddon. Mae ganddi fwy o aelodau, mwy o aelodau etholedig a mwy o gefnogaeth na’r un blaid arall ar yr ynys. Mae hefyd ymhlith y pleidiau gwleidyddol mwyaf llwyddianus yn y byd. Cafodd ei ffurfio yn 1926 ac ers dod i rym yn 1932 bu mewn llywodraeth o 1932–48, 1951–54, 1957–73, 1977–81, 82, 1987–94, and since 1997 - 2007. Ychydig iawn, iawn o bleidiau gwleidyddol democrataidd sydd a record y gellir ei gymharu a hyn.

Serch hynny, wedi crafu ychydig oddi tan y hanes moel daw’n amlwg ei bod yn blaid tra anarferol mewn ffyrdd eraill. Tros yr ychydig ddegawdau diwethaf mae dwsinau o’i chynrychiolwyr etholedig wedi bod ynghlwm a rhyw sgandal neu’i gilydd. Fel rheol materion yn ymwneud a cham ddefnydd o rym, neu gam ymddwyn ariannol sydd o dan sylw. Mae’r tri prif weinidog FF diweddaraf wedi cael eu cysylltu gyda rhyw sgandal neu’i gilydd. Yn wir caiff y blaid ei hariannu i raddau helaeth gan gwahanol fusnesau mawr Gwyddelig, ac mae’n joc gyda chryn dipyn o wirionedd iddi mai adain wleidyddol y diwydiant adeiladu ydi FF.



Gwleidyddiaeth anarferol sydd ganddi hefyd. Mae ei gwreiddiau yn y Rhyfel Cartref a’r bobl hynny a ymladdodd yn erbyn y cytundeb gyda Phrydain – ac fe’i hystyrir yn fwy gweriniaethol nag unrhyw blaid arall ag eithrio Sinn Fein. Serch hynny digon cyfnewidiol ydi ei gwleidyddiaeth mewn gwirionedd. O ran lleoliad gwleidyddol bydd yn ei chael yn eithaf hawdd i symud o’r dde i’r chwith ac yna’n ol i’r dde. Mae ei chefnogwyr yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd, hyd yn oed pan mae ei gwleidyddiaeth yn gogwyddo i’r dde. Bydd ei chenedlaetholdeb hefyd yn amrywio yn ol y gofyn.

Dydi hi ddim yn cael problem llunio clymblaid efo’r Blaid Werdd ac ambell i weriniaethwr adain chwith adref, tra’n clymbleidio gyda phleidiau Pabyddol adain dde yn Ewrop. Pan fydd angen gall symud yn wleidyddol gyda chyflymder rhyfeddol. Er enghraifft yn dilyn methiant yn etholiadau lleol ac Ewropiaidd 2005, penderfynodd y blaid symud i’r chwith. Collodd Charlie McCreevey (arch geidwadwr cyllidol) – prif bensaer y Teigr Celtaidd yn ol llawer, ei le fel Gweinidog Cyllid a rhoddwyd ei swydd i Brian Cowan gyda’r briff o gynyddu gwariant cyhoeddus. Trawsnewidiodd hyn safle’r blaid erbyn etholiad cyffredinol 2007, a’i galluogi i ennill – yn groes o bob proffwydoliaeth.

Serch hynny y peth mwyaf eithriadol am y blaid ydi ei bod yn cael ei hystyried gan llawer o’i chefnogwyr fel plaid gwrth sefydliadol – er mai hi ydi’r sefydliad mewn gwirionedd. Mae hyn yn gryn gamp. Gellir cynnig sawl rheswm am hyn, y ffaith bod ei gelynion gwleidyddol (a elwir yn Fine Gael erbyn heddiw) yn apelio at bobl gyda swyddi sefydliadol yn aml, y ffaith mai cyn dadau gwleidyddol Fine Gael a sefydlodd drefn ar wlad cwbl ddi drefn – a bod y drefn honno wedi ei seilio ar y cytundeb gyda Phrydain a ddaeth a’r rhyfel Eingl Wyddelig i ben – cytundeb amhoblogaidd gyda chyfran helaeth o’r boblogaeth. Mae hefyd yn ffaith bod llawer o’i chefnogaeth yn ddibynol ar gefnogaeth bersonol gwleidyddion lleol sydd wedi adeiladu eu cefnogaeth trwy gynorthwyo pobl oddi mewn i’w milltir sgwar i gael eu ffordd – yn aml yn erbyn dymuniadau swyddogion cynghorau lleol, ac yn wir yn aml yn erbyn gofynion cyfraith gwlad. Mae’r tai enfawr sydd i’w gweld yn sefyll yng nghanol caeau ar hyd a lled Iwerddon (yn gwbl groes i reoliadau cynllunio) yn dysteb i rym y wleidyddiaeth yma. Gombeen politics ydi’r term ‘dwi’n meddwl.

Mae llawer y gellid ei ddweud yn erbyn gwleidyddiaeth y gombin – ond mae’n llwyr ddibynnol am ei fodolaeth ar sefyllfa lle mae pobl yn blaenori anghenion lleol. Mae’n ddibynnol ar falchder lleol. Mae balchder lleol yn greiddiol i gefnogaeth wleidyddol FF, mae’n rhywbeth na ellir ei ddiffinio’n llawn na’i gynrychiloi’n ystadegol, mae’n rym gwleidyddol hynod bwerys - a gall fod yn rym distrywgar yn ogystal ag yn gadarnhaol.

Dyma’r grym a alluogodd i gymunedau bychain, tlawd oroesi blynyddoedd erchyll y newyn mawr, cyfnod lle’r oedd cyrff marw yn pydru am fisoedd yn yr awyr agored ar hyd lonydd gorllewin Iwerddon am nad oedd neb ar gael i’w claddu. Dyma’r grym hefyd a wnaeth i’r cymunedau gorllewinol hyn anfon eu meibion dwy ar bymtheg oed allan i’r glaw gyda gynau hynafol i ymladd yn erbyn byddin anferth ymerdorol i waedu i farwolaeth yn mwd man ffermydd eu tadau, i gael eu cyrff wedi eu rhwygo gan arteithiwyr Castell Dulyn cyn cael eu dienyddio fel moch yng nghwrt Mountjoy. Y balchder yma ydi is strwythur cefnogaeth y blaid hyd heddiw – mae’n rym gwleidyddol mwy pwerys na’r un arall ar yr ynys.

Daw hyn a ni at Blaid Cymru – neu o leiaf y Blaid yn ei chadarnleoedd gwledig. Mae tebygrwydd rhwng natur ei chefnogaeth a natur cefnogaeth FF. Mae ei chefnogaeth wedi ei adeiladu i raddau helaeth ar gefnogaeth bersonol gwleiddion lleol. Fe’i gwelir gan y rhan fwyaf o’i chefnogwyr traddodiadol fel plaid leol sydd yn ei hanfod yn wrth sefydliadol a sy’n amddiffyn buddiannau lleol yn erbyn gofynion sefydliadau allanol.

Mae gwahaniaethau lu wrth gwrs – dydi cam ymddygiad ariannol ddim yn rhan o ddiwylliant gwleidyddol y Gymru Gymraeg. A dweud y gwir dydi cael gormod o bres prin hyd yn oed yn barchus yn y Gymru Gymraeg. Dydi siniciaeth gwleidyddol yn yr ystyr bod polisiau yn cael eu newid a’u gollwng yn ol anghenion y funud ddim yn nodweddu’r Blaid chwaith. Ond mae tebygrwydd pendant yn y ffordd mae cefnogwyr y ddwy blaid yn gweld eu pleidiau – endidau lleol sydd yn amddiffyn buddiannau pobl leol yn erbyn grymoedd amhersonol nad ydynt yn lleol o ran eu tarddiad.

Nid pawb o fewn y Blaid sy’n gweld pethau fel hyn wrth gwrs – ac yn amlwg mae ennill grym ar gynghorau ac yn genedlaethol yn troi y Blaid yn un sefydliadol. Mae gwrthdaro wedi bodoli ers degawdau rhwng Pleidwyr lleol sy’n gweld eu prif ddyletswydd yn nhermau amddiffyn buddiannau eu hetholwyr a rhai sydd a’u prif ddiddordeb mewn rheolaeth gwleidyddol. Mae’r maes cynllunio wedi bod yn brif faes y frwydr yma tros y blynyddoedd, gydag un ochr heb ffeuen o ots am reoliadau cynllunio tra bod y llall yn eu hystyried yn bwysig i sicrhau datblygiad cytbwys.



Mae’r hollt yma wedi amlygu ei hun yng nghynlluniau ail drefnu’r gwasanaeth addysgol yng Ngwynedd yn ddiweddar. Plaid Cymru sy’n dominyddu’r weinyddiaeth sy’n rheoli’r sir. Heb fynd yn rhy fanwl, cynllun ydi hwn i ail strwythuro’r holl wasanaeth addysg – bydd 29 ysgol yn cau, with yn agor a’r rhan fwyaf o’r gweddill yn colli eu hanibyniaeth yn yr ystyr na fydd iddynt bennaeth na chorff llywodraethu eu hunain. Mae’n gynllun radicalaidd, strategol a phell gyrhaeddol. Mae’n mynd llawer pellach na sy’n rhaid mynd i ymateb i’r problemau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Ysgolion.

Bydd yn trawsnewid y ddarpariaeth addysg ac yn amddifadu cymunedau o’u hysgolion neu o’u rheolaeth tros eu hysgolion. Mae hefyd yn adlewyrchu buddugoliaeth llwyr adain reolaethol (managerial) y Blaid yng Ngwynedd tros yr adain gwrth sefydliadol. Bydd hefyd yn trawsnewid yn llwyr ganfyddiad pobl o’r Blaid – ac mae tra arglwyddiaeth y Blaid yng Ngwynedd tros y degawdau wedi bod yn ddibynol i raddau helaeth ar natur y canfyddiad hwnnw. Bydd goblygiadau i hyn a fydd yn dryllio delwedd draddodiadol y Blaid, ac yn effeithio ar wleidyddiaeth Gwynedd am flynyddoedd. Yn fwyaf sydyn y Blaid ydi’r sefydliad, a’r bygythiad.

Fel Pleidiwr i flaenau fy mysedd charwn i byth weld y Blaid yn ymdebygu i FF ac rwyf yn sylweddoli bod rhaid i blaid sydd am reoli fod a gweledigaeth reolaethol. Ond, mae gwers i’w dysgu gan blaid fel FF – sef bod llwyddiant etholiadol plaid yn ddibynol ar ddeall y rhesymau pam bod pobl yn cefnogi’r blaid honno – a gallu chymryd ystyriaeth o hynny wrth ffurfio polisi. Mae FF yn deall hyn i’r dim, ‘dydi arweinyddiaeth y Blaid yng Ngwynedd ddim yn deall nature ei chefnogaeth hithau.

Dydi cymunedau bach gorllewinol Cymru heb ddioddef fel rhai Iwerddon, ond mae balchder lleol yr un mor bwysig i’w hunaniaeth - ac mae'r hunaniaeth yn un anarferol. Mae'n hunaniaeth sydd wedi datblygu mewn cymunedau sydd ymhell o'r prif systemau trafnidiaeth Prydeinig, ymhell o farchnadoedd Prydeinig ac ymhell o rwydweithiau grym Prydeinig. Yn wir cymharol gyfyng fu effaith uniongyrchol y chwyldro diwydiannol ar llawer ohonynt. Mae’r pentrefi tlawd, diarffordd hyn sydd wedi eu golchi gan y glaw a’u sgubo gan stormydd yr Iwerydd am ganrifoedd wedi pleidleisio tros y Blaid am genedlaethau oherwydd eu bod yn ystyried mai dyna’r ffordd orau o amddiffyn eu cymuned a gwerthoedd y gymuned honno. Mae’r canfyddiad hwn bellach yn cael ei drawsnewid.

Os oes unrhyw wers i’w dysgu oddi wrth blaid mwyaf llwyddiannus Ewrop, dyma hi – mae’n bosibl bod yn wrth sefydliadol hyd yn oed i blaid sydd bellach yn sefydliadol. Y ffordd i wneud hynny ydi cymryd sylw o ddymuniadau pobl wrth ymarfer grym sefydliadol.

Saturday, November 17, 2007

Ochr arall y geiniog ddemograffig

Mae'r problemau sy'n wynebu Cyngor Gwynedd (gweler isod)i raddau helaeth yn ganlyniad i newidiadau pell gyrhaeddol yn strwythur y boblogaeth - llai o blant o oed ysgol gynradd nag a fu ers canrif neu ddwy o bosibl.

Mae ochr arall i'r geiniog yma, sef y nifer o bobl tros oed pensiwn sydd yn y boblogaeth o'u cymharu a phobl sydd o oed gweithio. Isod rhestraf y gyfradd o bobl oed gwaith o'u cymharu a phobl o oed pensiwn mewn ardaloedd gwahanol gynghorau yng Nghymru.

Conwy 2.0
Powys 2.3
Penfro 2.4
Dinbych 2.4
Ynys Mon 2.5
Caerfyrddin 2.5
Gwynedd 2.6
Mynwy 2.6
Ceredigion 2.7
Castell Nedd Port Talbot 2.8
Abertawe 2.9
Torfaen 2.9
Blaenau Gwent 2.9
Bro Morgannwg 3.0
Pen y Bont 3.0
Merthyr Tydfil 3.2
Newport 3.2
Rhondda Cynon Taf 3.2
Fflint 3.2
Wrecsam 3.2
Caerffili 3.3
Caerdydd 4.09
Cymru 2.91
Lloegr 3.34
DU 3.32

Nid yw'r ffigyrau hyn yn iach - yn arbennig felly yn y Gymru gymharol Gymreig (o ran iaith). Maent yn awgrymu bod poblogaeth Cymru at ei gilydd yn hyn na phoblogaeth Lloegr a gweddill y DU, a bod canran is o'r boblogaeth yn economaidd weithredol. Mae hyn yn fwy gwir am Orllewin y wlad. Fel rheol mae incwm pensiynwyr yn isel, ac o ganlyniad mae'n gael effaith negyddol ar ffigyrau GDP y pen Cymru (Mae GDP y pen yng Nghymru yn £13,813 o gymharu a £24,075 yn Llundain).

Maent hefyd yn awgrymu bod argyfwng gwariant cyhoeddus ar y ffordd i siroedd y Gorllewin. Mae'r ffordd mae llywodraeth leol yn cael ei ariannu yng Nghymru yn adlewyrchu strwythur y boblogaeth i raddau - mae arian cyhoeddus yn tueddu i ddilyn y gyfradd o blant sydd i gyngor yn ogystal a'r twf poblogaeth. Mae setliad y Cynulliad ar gyfer cynghorau eleni yn adlewyrchu hynny:

Abertawe 2.3% (twf gwariant heb ystyried chwyddiant)
Blaenau Gwent 1.8%
Bro Morgannwg 3.6%
Caerdydd 2.8%
Caerffili 2.8%
Caerfyrddin 2.8%
Casnewydd 1.8%
Castell-nedd Port Talbot 2.1%
Ceredigion 2.1%
Conwy 1.1 %
Dinbych 2.3%
Fflint 2.5%
Gwynedd 1.9%
Merthyr T 2.5%
Môn 1.1%
Mynwy 2.1%
Penfro 2%
Penybont 3.1%
Powys 1%
Rhondda Cynon Taf 2.4%
Torfaen 2%
Wrecsam 2.4%
Cymru 2.3%


Nid yw'r drefn yma yn llawn adlewyrchu'r ffaith bod costau sylweddol ynghlwm a phoblogaeth hen. Gellir bod yn siwr y bydd y gyfradd gweithwyr i bensiynwyr yn gwaethygu ym mhob man tros y blynyddoedd nesaf, ac y bydd y gyfradd yma yn waeth yng Ngorllewin Cymru nag yng ngweddill y wlad ac y bydd y gyfradd honno yn ei thro yn waeth nag un y DU yn gyffredinol.

O graffu ar y ffigyrau yng nghyd destun data'r cyfrifiad a data ieithyddol, mae'n anodd osgoi y casgliad mai pobl mewn oed o Loegr sy'n gyfrifol am o leiaf rhywfaint o'r patrwm hwn - mae'r naw sir uchaf yn y rhestr hefyd yn uchel o ran mewnlifiad o Loegr, ac mae'n debyg mai Saeson sydd wedi mewnfudo ar ol ymddeol ydi llawer o'r henoed sy'n byw yng Ngorllewin Cymru.

Yn fy marn bach i mae dau gasgliad i ddod iddo o hyn oll:

(1) Dylai cynghorau o Loegr sy'n allforio eu henoed i Gymru gyfranu at gadw eu cyn drigolion yn eu henaint - wedi'r cwbl maent wedi manteisio o'r bobl hyn pan oeddynt yn economaidd gynhyrchiol.

(2) Dylai'r Cymry (a Chymry Cymraeg yn arbennig) gael mwy o blant. Os nad ydi hyn yn digwydd mae'r rhagolygon economaidd a ieithyddol i Orllewin Cymru yn ddu. Pe bai Cymru'n annibynnol gellid cynnig manteision trethiannol i annog pobl i gael plant - fel y gwneir yn Ffrainc. Ond wedyn dydi hi ddim, ac mae'r sefyllfa honno yn ei gwahardd rhag gallu dyladwadu ar ei thynged ei hun yn y maes hwn, fel mewn cymaint o feysydd eraill.



Llandudno - prif ddinas henoed Cymru.

Sunday, November 11, 2007

Plaid Cymru a'r cynlluniau i ad drefnu ysgolion cynradd Gwynedd

Fel mae unrhyw un sy'n dilyn y newyddion yng Nghymru yn gwybod mae awdurdodau addysg ar hyd a lled y wlad yn gorfod ystyried ad drefnu eu darpariaeth ysgolion cynradd. Dwy broblem a dau gorff cyhoeddus sy'n gyrru'r newid yma.



Ysgol Llanystumdwy

Y problemau ydi bod gormod o lefydd gwag oddi fewn i'r sector a bod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr hyn sy'n cael ei wario ar blant mewn gwahanol rannau o'r sector. Mae'r ddau sefyllfa yn ddrud ac yn wastraffus o ran adnoddau. Dyna pam bod y corff sy'n arolygu safonau addysg yng Nghymru - ESTYN, yn ogystal a'r corff sy'n gyfrifol am sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol - y Comisiwn Archwilio yn mynu bod awdurdodau lleol yn 'ail strwythuro' eu darpariaeth gynradd.

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd term neis am gau ysgolion ydi 'ail strwythuro', ac yn wir dyna mae awdurdodau addysg led led y wlad yn ei wneud. Prin bod wythnos yn mynd heibio heb bod son am rhyw brotest neu'i gilydd i amddiffyn rhyw ysgol neu'i gilydd yn rhywle neu'i gilydd.

Nid dyma'r union sefyllfa yng Ngwynedd. Cafwyd dwy flynedd o ymgynghori'n maith helaeth gyda phawb a phopeth, ac addewidion mai ychydig iawn o lefydd fyddai'n cau, ond yn mynu bod rhaid creu haenen newydd reolaethol. Canlyniad cwbl ragweladwy hyn oll i'r Awdurdod oedd cael eu lambastio gan ESTYN am fethu a wynebu eu problemau. Felly dyma anghofio'r ymgynghoriad drudfawr, a pharatoi adroddiad newydd, tra gwahanol i ddeilliannau'r hen broses ymgynghori.

Llond dwrn o bobl oedd yn gyfrifol am yr adroddiad yma - pedwar neu bump o swyddogion a chynghorwyr. Y ddau swyddog oedd yn bennaf gyfrifol oedd Iwan Trefor Jones ac Iwan Roberts, ac mae enw tri chynghorydd ar waelod yr adroddiad - Dafydd Iwan, Richard Parry Hughes a Dyfed Edwards - er nad oedd gan yr olaf unrhyw ran mewn ysgrifennu'r adroddiad. Mae'r tri yn ffigyrau pwysig i Blaid Cymru yng Ngwynedd, ac mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn llywydd y Blaid ar lefel cenedlaethol.

Nid yw'n fwriad gen i drafod gwerth addysgol yr adroddiad yma ag eithrio i nodi bod iddi rinweddau yn ogystal a diffygion. I bwrpas yr ymarferiad yma ei oblygiadau gwleidyddol sydd yn bwysig.

Argymhelliad yr adroddiad ydi cau 29 o ysgolion, agor 8 a defnyddio'r arian a arbedir trwy gau sefydliadau i ariannu haenen newydd reolaethol fydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o ysgolion y sir o ddigon. Felly yn ogystal a chau 21 o ysgolion, bydd y rhan fwyaf o'r gweddill yn colli eu statws fel ysgol, eu cyrff llywodraethu a'r hawl i fod a phennaeth iddynt hwy eu hunain. Mae'r cynlluniau yn llawer mwy pell gyrhaeddol a radical nag unrhyw gynlluniau eraill yng Nghymru - maent hefyd yn effeithio ar llawer mwy o sefydliadau.

Fel aelod gweithgar o Blaid Cymru, mae'n ddrwg calon gen i ddatgan y farn bod yr adroddiad am arwain at drychineb gwleidyddol i'r Blaid. Mae'n feirniadaeth deg ar y Blaid Lafur yng Nghymru mai ei phrif raison d'etre ydi amddiffyn buddianau ei chleiantiaid. Ni ellir cyhuddo'r Blaid o hyn yng Ngwynedd. Yn wir, gellid dadlau ei bod yn ymosod ar fuddiannau ei chefnogwyr ei hun. Ni ellir chwaith gyhuddo'r Blaid yng Ngwynedd o lyfdra, yn wir mae iddi ddewrder Cwicsotaidd.

Y rhannau o Wynedd sy'n pleidleisio drymaf tros y Blaid ydi pentrefi gwledig Cymraeg eu hiaith. Mae'r cynlluniau hyn yn effeithio ar bentrefi felly mwy na mae'n effeithio ar unrhyw lefydd eraill. Y sector o'r gweithly sydd fwyaf cefnogol i'r Blaid yng Ngwynedd ydi'r sector addysg. Mae llawer, llawer mwy o bobl sy'n gweithio i'r sector honno yn gwrthwynebu'r cynlluniau nag sydd yn eu cefnogi. Yn wir, mae'r cynlluniau yn bygwth bywoliaeth nifer arwyddocaol o weithwyr y sector.

Cymhlethir pethau gan y ffaith na chymerwyd unrhyw sylw o ganfyddiadau'r ymgynghori blaenorol. Bydd siniciaeth llwyr ynghlwm a'r ymgynghori nesaf.

Yn waeth na dim, mae'r newidiadau yn digwydd yn ystod cyfnod etholiadau lleol. Bydd yr adroddiad yn dod ger bron y cyngor llawn ym mis Rhagfyr, bydd ymghynghori yn digwydd ym mis Ionawr a Chwefror a bydd yr etholiadau ym mis Mai.

Mi fyddwn i'n tybio y bydd rhywun neu'i gilydd yn sefyll yn erbyn bron i bob cynghorydd Plaid Cymru sydd wedi pleidleisio o blaid yr adroddiad, yn ogystal a nifer fydd wedi pleidleisio yn ei herbyn. 'Dwi'n gwybod fel ffaith y bydd nifer fawr o bobl sydd wedi pleidleisio i'r Blaid trwy'r blynyddoedd (gan gynnwys rhai o'i gweithwyr caletaf) yn atal eu pleidlais neu yn pleidleisio yn ei herbyn. Am fisoedd cyn yr etholiad cyngor diwethaf bu'r Blaid yn canolbwyntio ei hymdrechion ar ddod o hyd i ymgeiswyr cryf ar gyfer yr etholiadau. Y tro hwn buom yn canolbwyntio ar ail strwythuro ysgolion.

Mae'n arwyddocaol bod dau o'r tri gwleidydd sydd a'u henwau ar waelod y ddogfen yn dod o'r tu allan i Wynedd. Mae gen i ofn nad ydynt yn deall gwleidyddiaeth y sir. Nid cenedlaetholdeb Cymreig ydi'r brif ffrwd gwleidyddol yng Ngwynedd - brogarwch a'r cystadleuaeth rhwng pentrefi ac ardaloedd sy'n dod yn sgil hynny ydi hanfod gwleidyddiaeth y sir. Mae'r cynllun yma yn mynd yn gwbl groes i'r lli yma - mae'n gosod y Blaid ben ben a llawer iawn o bobl - nifer fawr ohonynt yn gefnogwyr naturiol iddi. Efallai ei bod yn edrych yn dda ar lefel deallusol, ond yn wleidyddol mae'n gwbl naif.

Canlyniad anhepgor hyn yw y bydd y Blaid yn colli rheolaeth ar Wynedd ym mis Mai. Bydd plaid neu bleidiau newydd yn cael eu ffurfio yng Ngwynedd yn unswydd i wrthwynebu'r Blaid, a byddant yn apelio yn uniongyrchol at ei chefnogwyr naturiol. Ymhellach ymlaen yn yr etholiad cyffredinol nesaf, os na fydd newid sylweddol bydd cwymp arwyddocaol ym mhleidlais Elfyn (ond bydd ei sedd yn saff), a bydd bygythiad gwirioneddol i sedd Hywel - sedd a fyddai oni bai am hyn oll yn gwbl ddiogel.

Mae pawb yn deall bod penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, ond yr hyn a ddylai'r Blaid fod wedi ei wneud ydi minimeiddio yn hytrach na macsimeiddio'r penderfyniadau hynny, ceisio adeiladu consensws yn hytrach na chynnen a chadw y llywydd cyn belled a phosibl oddi wrth unrhyw benderfyniadau amhoblogaidd. Am rhyw reswm sydd y tu hwnt i mi rydym wedi stampio'r newidiadau cwbl amhoblogaidd hyn gyda'r triban.

Tuesday, October 02, 2007

Gair bach o gyngor i'r Blaid

Ymddengys ein bod ar drothwy etholiad arall eto fyth - etholiad cyffredinol y tro hwn.

Mae hyn yn newyddion drwg i rhywun fel fi oedd wedi bwriadu mynd ar ei wyliau yn ystod y gwyliau hanner tymor, ond dyna fo - waeth i ddyn heb a chwyno ynglyn a mater na all effeithio arno.

Un o nodweddion cyfnod etholiad ydi bod gwleidyddion yn gwneud ymdrech i dramgwyddo ar dir gwleidyddol eu gwrthwynebwyr er mwyn ceisio dwyn eu pleidleisiau. Wele ymgais Nic Bourne i ddwyn pleidleisiau'r Blaid er enghraifft.

Ymdrech mwy uchelgeisiol oedd un Gordon Brown i ddwyn pleidleisiau Toriaidd trwy roi gwahoddiad i'r fonesig Thatcher i de yn 10 Downing Street.

Mae'n weddol ddealladwy pam bod Brown yn gwneud hyn - mae llawer iawn o Doriaid yn Lloegr, ac mae cyfran ohonynt yn hynod anhapus ag ymdrechion Cameron i adleoli ei blaid rhywle yng nghanol, gwyrdd, corsiog, aneglur gwleidyddiaeth Lloegr.

Mae hyn yn gwneud synwyr gwleidyddol yn Lloegr - ond nid felly yng Nghymru - 'does yna ddim cymaint o lawer o bleidleiswyr Toriaidd yma, ac mae'r Fonesig Thatcher wedi ei thrawsnewid yn rhyw fath o ddiafol gwleidyddol.

Mae hyn yn rhannol oherwydd rhai o bolisiau'r Fonesig a'i phersenoliaeth wrth gwrs, ond mae hefyd yn deillio o'r ffaith mai prif dacteg y Blaid Lafur Gymreig ydi creu rhyw fytholeg plentynaidd am orffennol erchyll Thatcheraidd a fydd yn dychwelyd i ddifa'r wlad oni bai bod pawb yn bihafio ac yn pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad.

Dyna pam nad ydi delwedd o Gordon Brown yn sefyll yn nrws 10 Downing Street gyda'r Fonesig Thatcher ddim yn un sy'n debygol o anwylo Brown i bobl Cymru. A dyna pam y dylai'r Blaid ddangos y ddelwedd a'i hail ddangos hyd at syrffed.

Dyma ddechrau arni.

Tuesday, August 07, 2007

Mewnfudo i'r DU - peth da neu ddrwg?

O pob mater cyfoes o bwys sy’n fater trafodaeth ar lefel Prydeinig, byddwn yn tybio mai’r un lle mae’r lleiaf o resymeg yn sail i’r drafodaeth honno ydi’r un ynglyn a mewnfudiad.

Y pwynt cyntaf i’w wneud ydi bod y lefelau uchel o fewnfudiad a geir ar hyn o bryd (mae tua 10% o boblogaeth y DU wedi eu geni mewn gwledydd eraill) yn creu sgil effeithiau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol. Mae rhai o’r sgil effeithiau hyn yn debygol o fod yn fyr dymor tra bod eraill am greu newidiadau hir dymor. Wrth ffurfio barn ynglyn a phriodoldeb lefelau uchel o fewnfudiad mae’n briodol i ystyried y tri factor uchod.

O ran yr economi, mae’n debyg bod mewnfudo yn llesol yn gyffredinol. Mae mewnfudwyr yn fodlon gweithio am gyflogau isel, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at brisiau is. Mae hefyd yn deg dweud bod angen mewnfudwyr ar hyn o bryd – mae cyfraddau geni Prydain yn weddol isel, ac wedi bod felly ers cryn gyfnod. O ganlyniad mae’r boblogaeth yn gymharol hen a ‘does yna ddim digon o bobl i wneud rhai mathau o waith.

A derbyn bod mewnlifiad yn gyffredinol lesol i’r economi, mae’n bwysig deall nad yw’n llesol i bawb. Mae’n llesol i’r sawl sy’n talu i bobl i gadw’r ty ac i bobl sy’n cael gwaith wedi ei wneud ar eu tai – mae au pairs a bricis o Wlad Pwyl yn fodlon gweithio am llai o lawer na rhai lleol. Yn yr un modd mae llawer o fusnesau – gwestai, tafarnau ac ati yn elwa oherwydd bod cyflenwad di ben draw o bobl sy’n fodlon gweithio’n rhad ar gael iddynt. ‘Dydi’r sefyllfa ddim cystal i bobl leol sy’n gwneud yr un math o waith – maent yn colli eu gwaith, neu’n gorfod cystadlu am waith gyda mewnfudwyr – ac felly gweithio’n rhatach nag y byddent fel arall.

I roi pethau mewn ffordd arall, mae mewnlifiad yn llesol i bobl sydd a lefelau cymharol uchel o incwm ac i fusnesau, ond mae’n ddrwg i bobl sydd yn gwneud gwaith sy’n gofyn lefelau isel o sgiliau.

Mae’n gwestiwn gen i os ydi ‘r effaith mae mewnlifiad yn ei gael ar bobl sydd ar incwm isel yn derbyn llawer o ystyriaeth pan fod polisi mewnfudo yn cael ei ffurfio. Cymhlethdod pellach efallai ydi bod pobl sy’n gweithio i’r cyfryngau yn gymharol gefnog, ac yn gweithio mewn swyddi nad ydi mewnfudwyr yn eu bygwth mewn unrhyw ffordd. Mae elfennau sylweddol o’r wasg Brydeinig yn wrth fewnfudiad wrth gwrs – mwy felly na mewn llawer o wledydd Ewropiaidd eraill. – ond pe byddai mewnfudwyr yn gymaint o fygythiad i ohebwyr yr Independent neu’r BBC nag ydynt i fricis, ‘dwi’n amau y byddai agwedd y naill neu’r llall yn union fel ag y mae heddiw – ac felly byddai’r tirwedd gwleidyddol y creir polisi ynddo yn gwahanol.

Beth bynnag am y sgil effeithiadau economaidd, mae’r sgil effeithiadau gwleidyddol hefyd yn bell gyrhaeddol – efallai mwy felly. Gan bod cymaint o bobl o rannau eraill o’r byd yn byw yn y DU – llawer ohonynt gyda eu prif ymrwymiad i wledydd a gwareiddiadau eraill, mae'n creu sgil effeithiadau gwleidyddol. Bellach mae polisi tramor y DU yn gallu bod yn fater gwirioneddol gynhenys mewn gwleidyddiaeth domestig – hyd yn oed pan fod y polisi wedi ei lunio i amddiffyn buddiannau’r DU ei hun.

‘Rwan, fyddwn i byth yn ceisio amddiffyn polisi Prydain tuag at y Dwyrain Canol – mae’n wirioneddol drychinebus ar sawl cyfrif. Ond mae’n rhaid gen i bod sefyllfa lle mae deilliannaupolisi tramor yn arwain at ymysodiadau gan ddinasyddion Prydeinig ar ddinasyddion Prydeinig eraill yn un newydd.

Yn ychwanegol mae sefyllfa lle mae niferoedd sylweddol o boblogaeth y DU yn dod o wareiddiadau eraill yn creu faultlines cymdeithasol newydd. At ei gilydd nid yw gwleidyddiaeth Prydain yn llwythol yn yr ystyr bod carfannau sylweddol o bobl yn pleidleisio mewn ffordd arbennig oherwydd eu cefndir ethnig – ar wahan i Ogledd Iwerddon wrth gwrs. Mae trefn wleidyddol o’r math yma yn ei hanfod yn llai sefydlog nag un sydd yn cael ei yrru gan wrthdaro economaidd ymysg pobl sy’n derbyn bod llawer yn gyffredin rhyngddynt.

Yn y pen draw y cwestiwn ydi hyn – I ba raddau mae gwella budd economaidd byr dymor rhan o’r boblogaeth werth newid strwythur cymdeithasegol a gwleidyddol gwladwrieth yn yr hir dymor?

Mae’r cwestiwn yn un sydd rhaid ei ofyn – a nid yw’n weithred hiliol i godi’r cwestiwn. Mater i’r wladwriaeth sy’n derbyn mewnfudwyr ydi ateb y cwestiwn mewn ffordd rhesymol a phenu ar gyfraddau mewnfudo rhesymol yng ngoleuni ei hateb i’r cwestiwn.

Thursday, July 26, 2007

Etholiad Cyffredinol Nesaf - Y Gogledd

Mae Vaughan Roderick wedi bod yn trafod canlyniadau posibl yr etholiad cyffredinol nesaf ar ei flog.

Amgaeaf fy marn i - sydd wedi ei bostio ar flog Vaughan.

‘Dwi ddim yn derbyn un o ragdybiadau dy ddadansoddiad Vaughan. Mae hi’n ddigon posibl y bydd gogwydd tuag at Llafur. Er mai’r patrwm hanesyddol lle ceir llywodraeth yn rheoli am gyfnod maith ei bod yn raddol golli cefnogaeth, roedd etholiad 2005 yn anarferol oherwydd ei bod yn cael ei hymladd yng nghysgod rhyfel Irac. O ganlyniad roedd pleidlais Llafur ychydig bwyntiau (hyd at bum pwynt efallai) yn is nag y byddai fel arall, ac roedd pleidlais y Lib Dems yn uwch. Bydd y rhyfel yn llai o factor o lawer y tro hwn. ‘Rwan ‘dwi ddim yn dweud y bydd gogwydd at Lafur – ond mae posibilrwydd pendant.

Byddwn yn tybio bod Wrecsam ac Alyn a Glanau Dyfrdwy a De Clwyd yn saff i Lafur.

Gallai Gorllewin Clwyd yn hawdd fynd yn ol i Lafur. Digon di drefn ydi peirianwaith etholiadol y Toriaid, a bydd pob dim yn troi o gwmpas faint o bleidleisiau tactegol fydd yn digwydd. Byddwn yn disgwyl i bleidleisiau tactegol fynd i Lafur yn hytrach na’r Toriaid.

Delyn – sedd Brydeinig iawn o ran patrymau pleidleisio. Roedd pethau’n agos iawn yn yr etholiad Cynulliad, ond mae angen gogwydd o 10% yn yr etholiad San Steffan. ‘Dydi hyn ddim am ddigwydd.

Dyffryn Clwyd – Nes byth yn yr etholiad Cynulliad (ond Ann Jones oedd ymgeisydd Llafur)ac angen llai o ogwydd i’r Toriaid ennill – ond mae 7% yn dipyn i’w ofyn – go brin y bydd yn newid dwylo.

Aberconwy – Un anodd braidd i’w darogan. Mae’r ychwanegiadau i’r sedd yn Nyffryn Conwy wedi rhoi pleidleiswyr naturiol Plaid Cymru yn yr etholaeth – a ni fydd y bobl hyn yn pleidleisio’n dactegol. Serch hynny, byddwn yn cytuno mai’r Toriaid sydd fwyaf tebygol o ennill – yn arbennig os mai Guto sy’n sefyll ac yn cario o leiaf ychydig o’r bleidlais Gymreig yn ne’r etholaeth – ond bydd yn agos rhwng y Toriaid a Llafur – yn arbennig os mai Betty fydd yr ymgeisydd Llafur.

Gyda llaw mae cwestiwn mawr yn wynebu Bet – lle i sefyll Arfon neu Aberconwy? Yn yr etholiad Cynulliad roedd Llafur yn ail yn Arfon ond yn drydydd yn Aberconwy – ond roedd y bwlch yn llawer llai yn Aberconwy. Ac wrth gwrs, Denise druan oedd yr ymgeisydd yn Aberconwy. Pe byddwn i yn ei lle, Aberconwy fyddai’r dewis.

Arfon – sedd anarferol iawn. Y fwyaf Cymreig o ran iaith yng Nghymru. O’r ugain ward sydd ar ol gyda mwy nag 80% yn siarad Cymraeg mae eu hanner yma. Da i Blaid Cymru. Mae hi hefyd yn drefol a dosbarth gweithiol. Da i Lafur. Ar bapur dylai Llafur ei hennill o fymryn mewn etholiad San Steffan (ond colli pob tro mewn etholiad Cynulliad)– ond mae pawb sy’n adnabod yr etholaeth yn dda yn gwybod bod pethau’n fwy cymhleth. Mae llawer o Bleidwyr yn Nyffryn Ogwen ac i raddau llai Bangor efo hanes o bleidleisio i Lafur (neu’r Lib Dems) i gadw’r Tori allan. Dim ond Plaid neu Llafur all ennill yn y byd dosbarth gweithiol, trefol, Cymreig yma – felly ni fydd hyn yn ffactor. Hefyd mae gan y Blaid beirianwaith etholiadol sylweddol – tros i fil o aelodau a thair cangen fwyaf Cymru (Caernarfon, Bangor a Dyffryn Ogwen). Gwan iawn yw trefniadaeth Llafur, ac os mai Martin sy’n sefyll mae’r ymgeisydd yn tila. Gall Llafur ennill – ond byddai’n rhaid i dri pheth ddod at ei gilydd – ymgeisydd da (Bet nid Martin), gogwydd tros Gymru tuag at Lafur a nifer sylweddol o bobl yn pleidleisio (roedd canran y bleidlais yn isel iawn yn rhai o wardiau Llafur – 24% ym Marchog er enghraifft). Plaid i ennill oni bai bod y tri ffactor uchod yn dod ynghyd.

Ynys Mon – sedd anarferol arall. Heb amheuaeth mae Peter yn niweidio’r Blaid a’r Toriaid. Hefyd mae Albert yn ymgeisydd cymharol dda i Lafur – distaw a di garisma – ond gweithgar ac yn osgoi tynnu neb i’w ben. Mae ganddo gefnogaeth sylweddol yng Nghaergybi. Hefyd, er gwaethaf ei henw, mae llawer iawn o bobl Mon yn byw mewn cymunedau trefol neu fwrdeistrefol.

Serch hynny os na fydd Peter yn sefyll, Plaid fydd yn ennill gyda’r Toriaid a Llafur yn weddol agos at ei gilydd. Os bydd Peter ar y papur bydd yn agos iawn rhwng Llafur a Phlaid – ond mae ymgeisydd y Blaid efo’r holl gysylltiadau lleol sydd eu hangen – rhywbeth allweddol yn yr etholaeth yma – y mwyaf plwyfol o’r cwbl.

Sunday, July 22, 2007

Y glymblaid efo Llafur - peth da neu beth drwg?

Ychydig o sylwadau ynglyn a’r datblygiadau diweddar.

Fy newis cyntaf i yn bersonol fyddai clymblaid yr enfys – nid am fy mod yn meddwl bod y Toriaid a’r Lib Dems damaid gwell na Llafur – ond oherwydd y byddai dylanwad y Blaid yn gryfach o lawer nag yw o dan y trefniant presenol.


Mi fyddwn yn derbynnad ydi'r Blaid wedi llwyddo i gael digon o seddau yn y cabinet - dylai'r gymhareb seddau cabinet o leiaf adlewyrchu'r gymhareb seddi.

Cymharer gyda'r hyn a ddigwyddodd yn Ngweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar. Y tair plaid sydd mewn llywodraeth ydi'r Blaid Werdd, Fianna Fail a'r PDs. Yn yr etholiad cafodd FF 78 sedd, Y Blaid Werdd 6 a'r PDs 2. Rhannwyd y seddi cabinet fel a ganlyn: FF 15, Gwyrddion 2, PDs 1 - hynny yw dwywaith y gymhareb seddi i'r Gwyrddion a llawer mwy na hynny i'r PDs (er bod rheswm da tros roi iechyd i'r PDs – mae deiliad y swydd yma yn siwr o fod yn fethiant, a gellir beio rhywun arall am y methiant hwnnw. Angola ydi term FF am y portffolio iechyd). Byddai’, deg nodi yma na lwyddodd y Gwyrddion na’r PDs i gael unrhyw gonsesiynau polisi gwerth son amdanynt o groen FF.

Er gwaethaf y methiant hwn, gyda’r penderfyniad wedi ei wneud, ‘dwi’n mawr obeithio y bydd yn parhau am bedair blynedd.

Mae’n debyg gen i bod rhai manteision i’r cytundeb presenol o gymharu a’r cytundeb enfys arfaethiedig – ac mae’r manteision hynny yn eu hanfod yn troelli o gwmpas un ffaith allweddol – bod y Blaid Lafur yn bwysicach o lawer yng ngwleidyddiaeth Cymru nag yw’r Toriaid. Plaid ymylol i wleidyddiaeth Cymru ydi’r Blaid Doriaidd, plaid sy’n apelio at ardaloedd ac elfennau mwyaf Seisnig y wlad. Yn y pen draw ‘dydi’r Blaid Doriaidd ddim yn dderbyniol i elfennau sylweddol, o gymdeithas yng Nghymru.

‘Dydi hyn ddim yn golygu na ddylid byth gynghreirio gyda nhw wrth gwrs – ond mae’n golygu bod elfen gryf o risg wrth wneud hynny. Wedi’r cwbl unig ddadl Llafur tros pam y dylai dyn bleidleisio trostynt yn ystod yr etholiadau diweddar oedd y byddai pleidlais i unrhyw un arall yn sicrhau y byddai John Redwood yn ymddangos o rhywle ac yn bwyta ei blant, yn taflu ei rieni hynafol i mewn i’r ffynnon ac yn llusgo ei wraig y tu ol i’r llwyni.

Pe byddai yna gyfle gwirioneddol o gael pedair blynedd mewn grym gyda’r Toriaid, a bod y bedair blynedd yna yn rhai eithaf llwyddiannus, yna byddai’r bygythiad yma wedi ei gladdu am byth. Ond, gyda'r Lib Dems chwit chwat mewn llywodraeth, ‘doedd yna ddim sicrwydd o bedair blynedd. Byddai etholiadau lleol sal iddyn nhw yn y dinasoedd y flwyddyn nesaf wedi chwalu’r llywodraeth. Byddai Llafur yn ol mewn grym, ni fyddai blwyddyn wedi bod yn ddigon o amser i newid pethau er gwell, a byddai’r gri Vote Plaid get the Tories mor ddilys ag erioed yn 2011. Fel mae pethau’n sefyll mae’r darn yma o bropoganda wedi ei ddarnio – a bydd yn anodd gwneud defnydd ohono eto.

Hefyd wrth gwrs, mae’r broses o gynghreirio wedi bod yn llawer mwy cynhenus i’r Blaid Lafur nag yw wedi bod i’r Blaid, ac mae wedi arddangos holltau sylweddol o fewn y blaid honno. 60% / 40% oedd yr hollt ymhlith y blaid ei hun pan ddaeth yn amser pleidleisio ar y gynghrair. Mae hollt wedi ei greu rhwng yr Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad, ac mae adain ‘unoliaethol’ y Blaid Lafur wedi ei churo – am y tro beth bynnag. Mae’n rhaid bod rhywfaint o ddaioni mewn unrhyw beth sy’n gwneud i Neil Kinnock a Huw Lewis grio.

Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi ei thynnu i gyfeiriad mwy cenedlaetholgar ar hyn o bryd, ac mae hynny’n beth da siawns. Yn ddi amau byddai’r Toriaid wedi eu symud i gyfeiriad tebyg, ond fel plaid ymylol i wleidyddiaeth Cymru, ‘dydi’r wobr honno ddim mor fawr.

Rhywbeth arall sy’n dechrau ei amlygu ei hun yw’r posibilrwydd pendant bod penderfyniad y Toriaid i fynd i lawr y llwybr Cameron yn drychineb strategol o’r radd flaenaf. Maent wedi dewis arweinydd gweddol ysgafn o ran sylwedd oherwydd ei allu i gyfathrebu a’i ddelwedd fodern (o gymharu a David Davies sydd yn wleidydd o sylwedd, ond sydd a sgiliau cyfathrebu cymhedrol iawn).

Aeth hwnnw yn ei dro i’r tir canol i chwilio am bleidleisiau, yn hytrach na disgwyl i’r tirwedd gwleidyddol symud i’r dde. Mae’n anodd gweld sut y gall guro Llafur ar ei thiriogaeth ei hun. ‘Dwi’n gwybod ei bod yn gynnar i farnu, ond mae canlyniad trychinebus yr is etholiad yn Ealing yr wythnos diwethaf ynghyd a
'r polau piniwn diweddar yn awgrymu nad ydi’r Toriaid am fod fawr mwy poblogaidd pan ddaw’r etholiad nesaf nag oeddynt yn ystod y dair etholiad diwethaf. A fyddai’n dda o beth i’r Blaid fod wedi ei chlymu i blaid sy’n methu’n etholiadol yn barhaus ar lefel Prydeinig, heb son am un Gymreig?

‘Dwi’n dechrau rhyw deimlo bod y glymblaid gyda Llafur yn un o’r achosion hynny o’r penderfyniad cywir yn cael ei wneud am y rhesymau anghywir. Mae hyn yn digwydd yn amlach nag y byddai dyn yn meddwl.

Hanes fydd yn barnu hynny wrth gwrs, ond yr her i’r Blaid mae’n debyg ydi peidio gadael i’r Blaid Lafur ein dominyddu, a sicrhau nad gwasanaeth fel arfer a geir o du’r weinyddiaeth yng Nghaerdydd. Mae’r ychydig fisoedd cyntaf yn bwysig yn hyn o beth – dyma pryd y bydd goslef yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cael ei gosod.

Ond o lwyddo i wneud hyn, efallai y bydd y daith droellog sydd wedi dod a ni i’r pwynt yma, er gwell i’r Blaid ac i Gymru yn y pendraw.

Thursday, June 21, 2007

Llongyfarchiadau i Anne Bill ar ei M.B.E

Da iawn gweld bod teyrngarwch yn dal yn fyw ac yn iach mewn oes o siniciaeth. Da gweld bod y Goron yn dal i wobreuo ei gweision ffyddlonaf, er nad ydi hynny pob amser yn boblogaidd. Felly llongyfarchiadau gwresog i Anne Bill ar ei M.B.E.

I'r ychydig nad ydynt yn gyfarwydd a chymwynasau arwrwraig yma efallai y dyliwn egluro ei bod yn un o arweinwyr yr Upper-Ardoyne Residents Association, y mudiad oedd yn gyfrifol am bicedu ysgol Babyddol genethod yr Holy Cross yn yr Ardoyne yn 2001.

Yn ogystal a rhegi, sgrechian sarhad a lluchio cerrig at genod bach a'u mamau oedd yn ceisio gwneud eu ffordd i'r ysgol roedd Anne a'i chyfeillion yn taflu balwns yn llawn o biso atynt, taflu bom neu ddau, stwffio lluniau pornograffaidd i wynebau'r genod bach, ac yn gwneud sylwadau am offeiriaid yn sodomeiddio plant bach na fyddai yn gyfreithlon i'w hail adrodd ar fforwm agored fel hwn.

Da iawn Mr Blair, da iawn Mrs Windsor, da iawn Anne.

Mae'n debyg y byddai'n ormod i ddisgwyl i'r stori bach yma wneud i'r Cymry 'da' hynny sydd wedi derbyn medalau'r ymerodraeth amau gwerth eu lwmp o efydd.

Un neu ddau o luniau i gofio'r dyddiau da:




















Sunday, June 17, 2007

Clymblaid arall

Gyda’r holl son am glymbleidio coch / gwyrdd, neu enfys neu beth bynnag tros y dyddiau diwethaf yng Nghymru, mae’n debyg gen in ad oes neb wedi cymryd llawer o sylw o ddrama digon tebyg tros y dwr ym mhrif ddinas un o’n cymdogion agosaf, Iwerddon.

Ers i’r etholiad gael ei gynnal ddiwedd mis Mai, mae trafod di baid wedi bod rhwng gwahanol bleidiau yn y wlad hynod aml bleidiol yma. ‘Doedd yna fawr o amheuaeth mai Bertie Ahern fyddai’r taiseach unwaith eto, gan i Fianna Fail ddod o fewn chew sedd i ennill mwyafrif llwyr. Ond y cwestiwn oedd pwy fyddai partner / partneriaid FF y tro hwn.



Wedi amser maith o drafod, ffraeo, cerdded allan a cherdded yn ol i mewn i’r trafodaethau, death llywodraeth at ei gilydd – Fianna Fail, gweddillion y Progressive Democrats, pedwar aelod annibynnol, a – yn eithaf anisgwyl – y Blaid Werdd.

Gadewch i ni edrych yn frysiog iawn ar y pleidiau:

(1) FF – plaid fwyaf y Weriniaeth ym mhob etholiad ers y tri degau. O ran ideoleg mae’r blaid wedi ei gwreiddio yng nghenedlaetholdeb chwyrn degawdau cynnar y ganrif ddiwethaf. Bellach, er ei bod yn tueddu i ddenu pleidleisiau cenedlaetholwyr, plaid bragmataidd, hyblyg sy’n ymddiddori yn bennaf mewn ennill, cadw ac ymarfer grym gwleidyddol ydi hi.

(2) Y Progressive Democrats – plaid a gollodd yn drwm yn etholiad mis Mai, gan gael ei hun gyda dwy sedd yn unig. Roedd ganddi 8 yn y Dail diwethaf. Plaid a ffurfwyd ddiwedd yr 80au pan adawodd nifer o aelodau blaenllaw FF oherwydd ffraeo di ddiwedd gyda Charles Haughey. Er bod y ddwy blaid yn elynion chwerw ar y cychwyn, mae’r PDs wedi bod yn rhan o pob llywodraeth FF ers hynny. Yn gwahanol i FF mae’r PDs yn ideolegol iawn – adain dde o ran polisiau ariannol, rhyddfrydig o ran polisiau cymdeithasol.

(3) Y Blaid Werdd – digon tebyg i pob plaid werdd arall (oni bai bod yr iaith Wyddeleg yn agos at eu calonau). Yr hyn sy’n anhygoel ydi bod y blaid yma sydd i’r Chwith yn nhermau gwleidyddiaeth Iwerddon wedi mynd i lywodraeth gyda FF a’r PDs. Mae FF yn gallu gogwyddo i’r Dde neu i’r Chwith yn ol y gofyn, ond roedd Blaid Werdd yn eu hystyried yn hollol llwgr. Yn wir, addawodd Trevor Sargent, eu harweinydd, y byddai’n ymddiswyddo cyn arwain ei blaid i glymblaid gyda FF – a gwnaeth hynny – er ei fod wedi pleidleisio tros y glymblaid ac yn disgrifio diwrnod y cytundeb fel diwrnod hapusaf ei fywyd (eglurch honna i fi os gwelwch yn dda). Dirmyg llwyr ydi agwedd y PDs a’r Gwyrddion at ei gilydd.

(4) Aelodau annibynnol. Pump yn unig a etholwyd y tro hwn – i lawr yn sylweddol. Pedwar yn unig a gafodd wahoddiad i glymbleidio.

Ni chafodd Tony Gregory (Chwith, gweriniaethol) yr alwad ffon. Mae’n rhannu etholaeth efo Ahern, ac mewn un cyfri (tua ugain mlynedd yn ol ‘dwi’n meddwl) aeth at Ahern a bygwth torri ei wddf oherwydd i rai o weithwyr etholiadol hwnnw ddwyn ei bosteri. Ni faddeuodd Ahern erioed iddo.

Daw Finian McGrath o’r etholaeth nesaf, ac mae iddo wleidyddiaeth tebyg iawn i Gregory. Cafodd ymuno a'r glymblaid.

Felly hefyd Jackie Healy Ray o Kerry – dyn sy’n tynnu am ei bedwar ugain ac a adawodd FF ddegawd yn ol oherwydd i’r blaid honno beidio a’i ddewis i sefyll am y Dail. Mae Jackie’n nytar llwyr.

Aeth Michael Lowry yn hynod o boblogaith yn North Tipp wedi cael ei daflu allan o Fine Gael oherwydd amheuaeth (amheuaeth a chryn gyfiawnhad iddo) o lygredd. Dechreuodd pleidleiswyr naturiol FF bleidleisio iddo am y tro cyntaf. Ers yr 'anffawd'hwn bydd yn dod ar ben y pol yn ddi eithriad.

Mae Beverly Cooper Flynn yn anhygoel bron wedi cael ei thaflu allan o FF oherwydd cam ymddwyn ariannol. Mae hi’n anodd iawn cael eich taflu allan o FF am y rheswm arbennig yma. Ni chafodd hyd yn oed ei thad ei daflu allan – ac roedd o mewn strach ariannol dragwyddol. Mae Bev mewn ychydig o helynt efo’r awdurdodau , ac mae disgwyl y bydd yn gorfod talu biliau cyfreithiol maes o law – tua dwy filiwn a chwarter ewro. Os na all dalu, caiff eu gwneud yn fethdalwr, a dyna ddiwedd ar ei gyrfa seneddol.

Yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod y glymblaid cryn dipyn yn fwy na sydd rhaid iddi fod – ond mae rheswm am hyn. Mae Ahern eisiau clymblaid bullet proof. Dydi o ddim ots os y bydd Jackie yn marw (neu’n cael ei roi mewn cartref), na os ydi Bev yn cael ei hun yn y carchar. Fydd o ddim ots chwaith os ydi’r PDs yn pwdu, nag os ydi’r Blaid Werdd yn pwdu chwaith. Byddai rhaid i o leiaf ddau o’r uchod ddigwydd i chwalu’r glymblaid. Nid ar chwarae bach mae dyn yn cael ei alw yn the most cunning, the most devios, the most ruthless of the all gan Haughey.

Yr hyn sy’n ddiddorol o’n safbwynt ni yng Nghymru ydi bod elfennau mor gyfangwbl gwahanol yn gallu ffurfio llywodraeth efo’i gilydd. Mae clymbleidio rhwng pobl o safbwyntiau gwleidyddol hollol wahanol yn gwbl normal yn yr Iwerddon. Bydd yr un mor normal yma yn y dyfodol.