Saturday, November 17, 2007

Ochr arall y geiniog ddemograffig

Mae'r problemau sy'n wynebu Cyngor Gwynedd (gweler isod)i raddau helaeth yn ganlyniad i newidiadau pell gyrhaeddol yn strwythur y boblogaeth - llai o blant o oed ysgol gynradd nag a fu ers canrif neu ddwy o bosibl.

Mae ochr arall i'r geiniog yma, sef y nifer o bobl tros oed pensiwn sydd yn y boblogaeth o'u cymharu a phobl sydd o oed gweithio. Isod rhestraf y gyfradd o bobl oed gwaith o'u cymharu a phobl o oed pensiwn mewn ardaloedd gwahanol gynghorau yng Nghymru.

Conwy 2.0
Powys 2.3
Penfro 2.4
Dinbych 2.4
Ynys Mon 2.5
Caerfyrddin 2.5
Gwynedd 2.6
Mynwy 2.6
Ceredigion 2.7
Castell Nedd Port Talbot 2.8
Abertawe 2.9
Torfaen 2.9
Blaenau Gwent 2.9
Bro Morgannwg 3.0
Pen y Bont 3.0
Merthyr Tydfil 3.2
Newport 3.2
Rhondda Cynon Taf 3.2
Fflint 3.2
Wrecsam 3.2
Caerffili 3.3
Caerdydd 4.09
Cymru 2.91
Lloegr 3.34
DU 3.32

Nid yw'r ffigyrau hyn yn iach - yn arbennig felly yn y Gymru gymharol Gymreig (o ran iaith). Maent yn awgrymu bod poblogaeth Cymru at ei gilydd yn hyn na phoblogaeth Lloegr a gweddill y DU, a bod canran is o'r boblogaeth yn economaidd weithredol. Mae hyn yn fwy gwir am Orllewin y wlad. Fel rheol mae incwm pensiynwyr yn isel, ac o ganlyniad mae'n gael effaith negyddol ar ffigyrau GDP y pen Cymru (Mae GDP y pen yng Nghymru yn £13,813 o gymharu a £24,075 yn Llundain).

Maent hefyd yn awgrymu bod argyfwng gwariant cyhoeddus ar y ffordd i siroedd y Gorllewin. Mae'r ffordd mae llywodraeth leol yn cael ei ariannu yng Nghymru yn adlewyrchu strwythur y boblogaeth i raddau - mae arian cyhoeddus yn tueddu i ddilyn y gyfradd o blant sydd i gyngor yn ogystal a'r twf poblogaeth. Mae setliad y Cynulliad ar gyfer cynghorau eleni yn adlewyrchu hynny:

Abertawe 2.3% (twf gwariant heb ystyried chwyddiant)
Blaenau Gwent 1.8%
Bro Morgannwg 3.6%
Caerdydd 2.8%
Caerffili 2.8%
Caerfyrddin 2.8%
Casnewydd 1.8%
Castell-nedd Port Talbot 2.1%
Ceredigion 2.1%
Conwy 1.1 %
Dinbych 2.3%
Fflint 2.5%
Gwynedd 1.9%
Merthyr T 2.5%
Môn 1.1%
Mynwy 2.1%
Penfro 2%
Penybont 3.1%
Powys 1%
Rhondda Cynon Taf 2.4%
Torfaen 2%
Wrecsam 2.4%
Cymru 2.3%


Nid yw'r drefn yma yn llawn adlewyrchu'r ffaith bod costau sylweddol ynghlwm a phoblogaeth hen. Gellir bod yn siwr y bydd y gyfradd gweithwyr i bensiynwyr yn gwaethygu ym mhob man tros y blynyddoedd nesaf, ac y bydd y gyfradd yma yn waeth yng Ngorllewin Cymru nag yng ngweddill y wlad ac y bydd y gyfradd honno yn ei thro yn waeth nag un y DU yn gyffredinol.

O graffu ar y ffigyrau yng nghyd destun data'r cyfrifiad a data ieithyddol, mae'n anodd osgoi y casgliad mai pobl mewn oed o Loegr sy'n gyfrifol am o leiaf rhywfaint o'r patrwm hwn - mae'r naw sir uchaf yn y rhestr hefyd yn uchel o ran mewnlifiad o Loegr, ac mae'n debyg mai Saeson sydd wedi mewnfudo ar ol ymddeol ydi llawer o'r henoed sy'n byw yng Ngorllewin Cymru.

Yn fy marn bach i mae dau gasgliad i ddod iddo o hyn oll:

(1) Dylai cynghorau o Loegr sy'n allforio eu henoed i Gymru gyfranu at gadw eu cyn drigolion yn eu henaint - wedi'r cwbl maent wedi manteisio o'r bobl hyn pan oeddynt yn economaidd gynhyrchiol.

(2) Dylai'r Cymry (a Chymry Cymraeg yn arbennig) gael mwy o blant. Os nad ydi hyn yn digwydd mae'r rhagolygon economaidd a ieithyddol i Orllewin Cymru yn ddu. Pe bai Cymru'n annibynnol gellid cynnig manteision trethiannol i annog pobl i gael plant - fel y gwneir yn Ffrainc. Ond wedyn dydi hi ddim, ac mae'r sefyllfa honno yn ei gwahardd rhag gallu dyladwadu ar ei thynged ei hun yn y maes hwn, fel mewn cymaint o feysydd eraill.



Llandudno - prif ddinas henoed Cymru.

1 comment:

Huw said...

Ma dros 50% o boblogaeth Conwy wedi eu geni y tu allan i Gymru. Sir Conwy yn cynnwys llefydd fel Bae Kinmel, Towyn, Abergele, Bae Colwyn (Llandrillo yn Rhos), Llandudno a Chonwy y dref.

Ar ben hyn mae llwyth o bobol gyda probleme cymdeithasol o ddinasoedd mawrion Lloegr wedi symud i fflatie yn llefydd fel Bae Colwyn sydd yn ddiwaith. Ma pobol yn cael tai cyngor a sail system pwyntiau. Ma Ombwdsman Cymru wedi dirwyo sir Conwy am roi blaenoriaeth i deulu lleol dros cyn garcharor o Loegr.