Sunday, November 25, 2007

Fianna Fail a Phlaid Cymru

Gwn ei bod yn rhyfedd i gymharu plaid Wyddelig sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes yn ymarfer grym yn yr Iwerddon, gyda phlaid Gymreig sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes ar gyrion gwleidyddiaeth prif lif, ond mae cymhariaeth i'w gwneud a gwers i'w dysgu, yn arbennig cyn bod y Blaid bellach mewn grym ar lefel cenedlaethol.

Fianna Fail ydi’r blaid wleidyddol fwyaf o ddigon yn yr Iwerddon. Mae ganddi fwy o aelodau, mwy o aelodau etholedig a mwy o gefnogaeth na’r un blaid arall ar yr ynys. Mae hefyd ymhlith y pleidiau gwleidyddol mwyaf llwyddianus yn y byd. Cafodd ei ffurfio yn 1926 ac ers dod i rym yn 1932 bu mewn llywodraeth o 1932–48, 1951–54, 1957–73, 1977–81, 82, 1987–94, and since 1997 - 2007. Ychydig iawn, iawn o bleidiau gwleidyddol democrataidd sydd a record y gellir ei gymharu a hyn.

Serch hynny, wedi crafu ychydig oddi tan y hanes moel daw’n amlwg ei bod yn blaid tra anarferol mewn ffyrdd eraill. Tros yr ychydig ddegawdau diwethaf mae dwsinau o’i chynrychiolwyr etholedig wedi bod ynghlwm a rhyw sgandal neu’i gilydd. Fel rheol materion yn ymwneud a cham ddefnydd o rym, neu gam ymddwyn ariannol sydd o dan sylw. Mae’r tri prif weinidog FF diweddaraf wedi cael eu cysylltu gyda rhyw sgandal neu’i gilydd. Yn wir caiff y blaid ei hariannu i raddau helaeth gan gwahanol fusnesau mawr Gwyddelig, ac mae’n joc gyda chryn dipyn o wirionedd iddi mai adain wleidyddol y diwydiant adeiladu ydi FF.



Gwleidyddiaeth anarferol sydd ganddi hefyd. Mae ei gwreiddiau yn y Rhyfel Cartref a’r bobl hynny a ymladdodd yn erbyn y cytundeb gyda Phrydain – ac fe’i hystyrir yn fwy gweriniaethol nag unrhyw blaid arall ag eithrio Sinn Fein. Serch hynny digon cyfnewidiol ydi ei gwleidyddiaeth mewn gwirionedd. O ran lleoliad gwleidyddol bydd yn ei chael yn eithaf hawdd i symud o’r dde i’r chwith ac yna’n ol i’r dde. Mae ei chefnogwyr yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd, hyd yn oed pan mae ei gwleidyddiaeth yn gogwyddo i’r dde. Bydd ei chenedlaetholdeb hefyd yn amrywio yn ol y gofyn.

Dydi hi ddim yn cael problem llunio clymblaid efo’r Blaid Werdd ac ambell i weriniaethwr adain chwith adref, tra’n clymbleidio gyda phleidiau Pabyddol adain dde yn Ewrop. Pan fydd angen gall symud yn wleidyddol gyda chyflymder rhyfeddol. Er enghraifft yn dilyn methiant yn etholiadau lleol ac Ewropiaidd 2005, penderfynodd y blaid symud i’r chwith. Collodd Charlie McCreevey (arch geidwadwr cyllidol) – prif bensaer y Teigr Celtaidd yn ol llawer, ei le fel Gweinidog Cyllid a rhoddwyd ei swydd i Brian Cowan gyda’r briff o gynyddu gwariant cyhoeddus. Trawsnewidiodd hyn safle’r blaid erbyn etholiad cyffredinol 2007, a’i galluogi i ennill – yn groes o bob proffwydoliaeth.

Serch hynny y peth mwyaf eithriadol am y blaid ydi ei bod yn cael ei hystyried gan llawer o’i chefnogwyr fel plaid gwrth sefydliadol – er mai hi ydi’r sefydliad mewn gwirionedd. Mae hyn yn gryn gamp. Gellir cynnig sawl rheswm am hyn, y ffaith bod ei gelynion gwleidyddol (a elwir yn Fine Gael erbyn heddiw) yn apelio at bobl gyda swyddi sefydliadol yn aml, y ffaith mai cyn dadau gwleidyddol Fine Gael a sefydlodd drefn ar wlad cwbl ddi drefn – a bod y drefn honno wedi ei seilio ar y cytundeb gyda Phrydain a ddaeth a’r rhyfel Eingl Wyddelig i ben – cytundeb amhoblogaidd gyda chyfran helaeth o’r boblogaeth. Mae hefyd yn ffaith bod llawer o’i chefnogaeth yn ddibynol ar gefnogaeth bersonol gwleidyddion lleol sydd wedi adeiladu eu cefnogaeth trwy gynorthwyo pobl oddi mewn i’w milltir sgwar i gael eu ffordd – yn aml yn erbyn dymuniadau swyddogion cynghorau lleol, ac yn wir yn aml yn erbyn gofynion cyfraith gwlad. Mae’r tai enfawr sydd i’w gweld yn sefyll yng nghanol caeau ar hyd a lled Iwerddon (yn gwbl groes i reoliadau cynllunio) yn dysteb i rym y wleidyddiaeth yma. Gombeen politics ydi’r term ‘dwi’n meddwl.

Mae llawer y gellid ei ddweud yn erbyn gwleidyddiaeth y gombin – ond mae’n llwyr ddibynnol am ei fodolaeth ar sefyllfa lle mae pobl yn blaenori anghenion lleol. Mae’n ddibynnol ar falchder lleol. Mae balchder lleol yn greiddiol i gefnogaeth wleidyddol FF, mae’n rhywbeth na ellir ei ddiffinio’n llawn na’i gynrychiloi’n ystadegol, mae’n rym gwleidyddol hynod bwerys - a gall fod yn rym distrywgar yn ogystal ag yn gadarnhaol.

Dyma’r grym a alluogodd i gymunedau bychain, tlawd oroesi blynyddoedd erchyll y newyn mawr, cyfnod lle’r oedd cyrff marw yn pydru am fisoedd yn yr awyr agored ar hyd lonydd gorllewin Iwerddon am nad oedd neb ar gael i’w claddu. Dyma’r grym hefyd a wnaeth i’r cymunedau gorllewinol hyn anfon eu meibion dwy ar bymtheg oed allan i’r glaw gyda gynau hynafol i ymladd yn erbyn byddin anferth ymerdorol i waedu i farwolaeth yn mwd man ffermydd eu tadau, i gael eu cyrff wedi eu rhwygo gan arteithiwyr Castell Dulyn cyn cael eu dienyddio fel moch yng nghwrt Mountjoy. Y balchder yma ydi is strwythur cefnogaeth y blaid hyd heddiw – mae’n rym gwleidyddol mwy pwerys na’r un arall ar yr ynys.

Daw hyn a ni at Blaid Cymru – neu o leiaf y Blaid yn ei chadarnleoedd gwledig. Mae tebygrwydd rhwng natur ei chefnogaeth a natur cefnogaeth FF. Mae ei chefnogaeth wedi ei adeiladu i raddau helaeth ar gefnogaeth bersonol gwleiddion lleol. Fe’i gwelir gan y rhan fwyaf o’i chefnogwyr traddodiadol fel plaid leol sydd yn ei hanfod yn wrth sefydliadol a sy’n amddiffyn buddiannau lleol yn erbyn gofynion sefydliadau allanol.

Mae gwahaniaethau lu wrth gwrs – dydi cam ymddygiad ariannol ddim yn rhan o ddiwylliant gwleidyddol y Gymru Gymraeg. A dweud y gwir dydi cael gormod o bres prin hyd yn oed yn barchus yn y Gymru Gymraeg. Dydi siniciaeth gwleidyddol yn yr ystyr bod polisiau yn cael eu newid a’u gollwng yn ol anghenion y funud ddim yn nodweddu’r Blaid chwaith. Ond mae tebygrwydd pendant yn y ffordd mae cefnogwyr y ddwy blaid yn gweld eu pleidiau – endidau lleol sydd yn amddiffyn buddiannau pobl leol yn erbyn grymoedd amhersonol nad ydynt yn lleol o ran eu tarddiad.

Nid pawb o fewn y Blaid sy’n gweld pethau fel hyn wrth gwrs – ac yn amlwg mae ennill grym ar gynghorau ac yn genedlaethol yn troi y Blaid yn un sefydliadol. Mae gwrthdaro wedi bodoli ers degawdau rhwng Pleidwyr lleol sy’n gweld eu prif ddyletswydd yn nhermau amddiffyn buddiannau eu hetholwyr a rhai sydd a’u prif ddiddordeb mewn rheolaeth gwleidyddol. Mae’r maes cynllunio wedi bod yn brif faes y frwydr yma tros y blynyddoedd, gydag un ochr heb ffeuen o ots am reoliadau cynllunio tra bod y llall yn eu hystyried yn bwysig i sicrhau datblygiad cytbwys.



Mae’r hollt yma wedi amlygu ei hun yng nghynlluniau ail drefnu’r gwasanaeth addysgol yng Ngwynedd yn ddiweddar. Plaid Cymru sy’n dominyddu’r weinyddiaeth sy’n rheoli’r sir. Heb fynd yn rhy fanwl, cynllun ydi hwn i ail strwythuro’r holl wasanaeth addysg – bydd 29 ysgol yn cau, with yn agor a’r rhan fwyaf o’r gweddill yn colli eu hanibyniaeth yn yr ystyr na fydd iddynt bennaeth na chorff llywodraethu eu hunain. Mae’n gynllun radicalaidd, strategol a phell gyrhaeddol. Mae’n mynd llawer pellach na sy’n rhaid mynd i ymateb i’r problemau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Ysgolion.

Bydd yn trawsnewid y ddarpariaeth addysg ac yn amddifadu cymunedau o’u hysgolion neu o’u rheolaeth tros eu hysgolion. Mae hefyd yn adlewyrchu buddugoliaeth llwyr adain reolaethol (managerial) y Blaid yng Ngwynedd tros yr adain gwrth sefydliadol. Bydd hefyd yn trawsnewid yn llwyr ganfyddiad pobl o’r Blaid – ac mae tra arglwyddiaeth y Blaid yng Ngwynedd tros y degawdau wedi bod yn ddibynol i raddau helaeth ar natur y canfyddiad hwnnw. Bydd goblygiadau i hyn a fydd yn dryllio delwedd draddodiadol y Blaid, ac yn effeithio ar wleidyddiaeth Gwynedd am flynyddoedd. Yn fwyaf sydyn y Blaid ydi’r sefydliad, a’r bygythiad.

Fel Pleidiwr i flaenau fy mysedd charwn i byth weld y Blaid yn ymdebygu i FF ac rwyf yn sylweddoli bod rhaid i blaid sydd am reoli fod a gweledigaeth reolaethol. Ond, mae gwers i’w dysgu gan blaid fel FF – sef bod llwyddiant etholiadol plaid yn ddibynol ar ddeall y rhesymau pam bod pobl yn cefnogi’r blaid honno – a gallu chymryd ystyriaeth o hynny wrth ffurfio polisi. Mae FF yn deall hyn i’r dim, ‘dydi arweinyddiaeth y Blaid yng Ngwynedd ddim yn deall nature ei chefnogaeth hithau.

Dydi cymunedau bach gorllewinol Cymru heb ddioddef fel rhai Iwerddon, ond mae balchder lleol yr un mor bwysig i’w hunaniaeth - ac mae'r hunaniaeth yn un anarferol. Mae'n hunaniaeth sydd wedi datblygu mewn cymunedau sydd ymhell o'r prif systemau trafnidiaeth Prydeinig, ymhell o farchnadoedd Prydeinig ac ymhell o rwydweithiau grym Prydeinig. Yn wir cymharol gyfyng fu effaith uniongyrchol y chwyldro diwydiannol ar llawer ohonynt. Mae’r pentrefi tlawd, diarffordd hyn sydd wedi eu golchi gan y glaw a’u sgubo gan stormydd yr Iwerydd am ganrifoedd wedi pleidleisio tros y Blaid am genedlaethau oherwydd eu bod yn ystyried mai dyna’r ffordd orau o amddiffyn eu cymuned a gwerthoedd y gymuned honno. Mae’r canfyddiad hwn bellach yn cael ei drawsnewid.

Os oes unrhyw wers i’w dysgu oddi wrth blaid mwyaf llwyddiannus Ewrop, dyma hi – mae’n bosibl bod yn wrth sefydliadol hyd yn oed i blaid sydd bellach yn sefydliadol. Y ffordd i wneud hynny ydi cymryd sylw o ddymuniadau pobl wrth ymarfer grym sefydliadol.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Dadansoddiad a chofnod dddorol iawn, diolch.

Rhys Wynne said...

Mae erthygl am Fianna Fail ar y wicipedia Cymraeg.

Efallai hoffet helpu ei ehangu?