Thursday, November 06, 2008

Glenrothes

Ymddengys (ac mae'n fuan iawn) bod Llafur wedi ennill a'r SNP wedi colli yn is etholiad Glenrothes.

Mae hyn yn peri cryn bryder i flogmenai, ond mae un cysur bach - nid bod hynny'n gysur mewn gwirionedd - sef bod blogmenai wedi darogan y byddai hyn yn digwydd ers tro.

Mi wnes i ddarogan hyn ar Hydref 8. Mi fyddai gen i ddiddordeb clywed os oes rhywun yn y cyfryngau neu ar y We wedi darogan yr un peth yn gynt - nid bod blogmenai yn un am frolio na dim byd felly.

Newid trwy symud ymlaen tua'r gorffennol?

Mae Barack Obama yn gymharol ifanc, a newid oedd ei thema mawr yn yr etholiad arlywyddol, ac yn ddi amau mi fydd yna newid. Ond tybed os y bydd dwy o'r prif swyddi economaidd yn mynd i ddau ddyn mewn oed mawr. Gallai Paul Volcker yn hawdd gael ei roi'n gyfrifol am system bancio canolog America - Y Fed, a gallai Warren Buffet gael ei hun yn gyfrifol am y trysorlys. Mae Mr Volker yn ei wythdegau a Mr Buffet yn 78.

Ond hen neu beidio, mae'n anodd meddwl am bar mwy galluog yn unrhyw le i ddelio gyda'r llanast economaidd a adawyd ar ei ol gan neo ryddfrydiaeth Bush.

'Ymchwiliad' Syr Wyn


Mae'n anodd peidio a chwerthin wir Dduw. Casgliad chwerthinllyd yr ymarferiad diwerth yma ydi cynnal 'ymchwiliad' arall rhywbryd ar ol yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae yna lawer o ddoethinebu wedi bod am beth yn union ydi ystyr y ffwlbri yma. 'Does dim rhaid crafu pen rhyw lawer, mae'r eglurhad yn un syml. Nid oedd hi'n bosibl i adroddiad Syr Wyn argymell unrhyw beth diriaethol oherwydd bod y blaid Gymreig wedi eu hollti'n anobeithiol ar fater datganoli. Felly byddai unrhyw argymhelliad y gellid deall ei ystyr yn gwneud i rhywun neu'i gilydd gicio yn erbyn y tresi. I'r graddau yma mae'r 'broblem' dataganoli i'r Blaid Geidwadol Gymreig yn debyg i'r hyn roedd y 'broblem' Ewropeaidd i'r Blaid Geidwadol Brydeinig ddegawd yn ol - maes nad yw'n bosibl iddynt ymrafael mewn ffordd gall a fo, oherwydd bod unrhyw gasgliad pendant yn sicr o arwain at wrthdaro mewnol.

O leiaf mae'r nonsens o ymarferiad yma'n gwneud y Toriaid yn fwy Cymreig ar rhyw olwg, pwyllgorau i drafod pwyllgorau i drafod pwyllgorau i drafod _ _ _ a dim byd byth yn digwydd, ond neb yn cael ei ypsetio - a beth sydd bwysicach na hynny?

Tuesday, November 04, 2008

Pam bod Obama'n Ddu, a beth ydi hynny i'w wneud efo ni?


'Dwi'n gwybod ei fod yn gwestiwn gwirion - ond mae Obama mor wyn ag mae'n ddu. Ymhellach cafodd ei fagu gan ei fam a'i nain - roedd y ddwy ohonynt yn wyn. Roedd ei dad o Affrica, ac nid oedd gyda cysylltiad agos gyda diwylliant du America. Eto mae'n cael ei ystyried yn ymgeisydd croenddu. Pam?

Mae'r ateb yn weddol syml - dyna ddewis Obama. Aeth i fyw i gymdogaeth pobl croenddu, priododd wraig groenddu, dewisodd fynychu capel pobl croenddu, Malia a Sasha ydi enwau ei blant. Dewisodd ddiwylliant pobl croenddu'r Unol Daleithiau.

Mae yna rhywbeth Cymreig am hyn. 'Dwi o gefndir lle nad oedd rhaid i mi ddewis i fod yn Gymro Cymraeg - 'dwi o ardal a chefndir lle na allwn i byth fod yn ddim ond Cymro Cymraeg. Roedd yr ardal yn un Cymreig iawn o ran iaith, ac roedd cenedlaetholdeb Cymreig yn bwysig iawn ar yr aelwyd. Ond, nid felly y rhan fwyaf o fy nheulu.

Dysgodd fy ngwraig y Gymraeg yn ei harddegau hwyr. Hi ydi'r unig berson yn ei theulu sy'n gallu siarad yr iaith. Go brin bod unrhyw un arall yn ei theulu wedi siarad Cymraeg am ddwy neu dair cenhedlaeth. Roedd aelwyd fy mam yn un dwyieithog - y tad yn Sais a'r fam yn Gymraes. Priododd ei chwiorydd Saeson, symud i Loegr a magu eu plant yn ddi Gymraeg. Y Gymraeg oedd iaith cartref fy nhad, ond roedd ei rieni yntau yn gymysg iawn o ran cefndir. Almaenwr oedd tad nain a Saesnes oedd ei mam. Roedd y teulu'n fawr a bu farw'r tad yn ifanc. Priododd y fam eilwaith, Cymro y tro hwn. Cymraeg y siaradai ddwy gyda'i gilydd gan amlaf - ond roedd gan nain gywilydd mawr o Gymraeg chwithig ei mam. Saesneg oedd nain yn siarad efo rhai o'i chwiorydd fel oedolyn a'r Gymraeg gydag eraill. Roeddynt wedi gwneud dewisiadau gwahanol. Y Gymraeg oedd iaith cartref taid - ond roedd ei gefndir yntau'n gymhleth. Cymraes oedd ei fam, a llongwr o Norwy oedd ei dad. Priododd y ddau a symud i fyw i Norwy, ond roeddynt yn ol yng Nghymru yn weddol fuan - 'doedd mam taid methu dioddef y tywydd.

Mae'n debyg bod y pobl fel fi sydd heb orfod meddwl am ddau funud os ydyw am fod yn Gymro Cymraeg neu beidio yn mynd yn brin fel mae'r ardaloedd sydd gyda chanranau uchel iawn o bobl yn siarad Cymraeg yn mynd yn brin. 'Dwi'n weddol siwr y bydd amser yn ystod fy mywyd i pan bydd y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg wedi gwneud y dewis Obamaidd mae'r rhan fwyaf o fy nhylwyth cymysg i wedi ei wneud.

Saturday, November 01, 2008

David Davies, Hunger a Rod Richards

Mae David Davies yn flin, ac yn ofnadwy o flin ar hynny. Daeth yn amlwg i ffilm Steve McQueen am yr ymprydio yng ngharchar y Maze yn 1981, Hunger dderbyn £120,000 o gronfa sydd wedi ei greu gan y Cynulliad i ddenu gwneuthurwyr ffilmiau i Gymru. Roedd yn amod bod yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, a gwnaed hynny. Cafodd cwmni Dragon DI o Bencoed fusnes o weithio ar liwiau'r ffilm.



Dyfynaf David Davies:

Anyone who has served in the armed forces or has been caught up in the IRA's terror campaign will be horrified that the Welsh Assembly Government is using taxpayers' money, at a time we're facing a huge recession, to support a film which is sympathetic to the IRA.

'Rwan mae yna sawl pwynt yn codi o hyn. Yn gyntaf mae cysylltu'r gronfa gyda'r dirwasgiad ariannol presenol yn nonsens anonest - cafodd y gronfa ei chreu ymhell cyn i'r sefyllfa bresennol ddatblygu - ac roedd y cymorthdal wedi ei roi a'i wario hefyd. Yn ychwanegol byddai dyn yn disgwyl y byddai busnesau angen mwy o gymorth gan y Cynulliad ac nid llai mewn amserau anodd.

Yn ail, mae'n mae'n ymddangos ei fod yn disgwyl i'r cymorthdal gael ei ganiatau neu ei wrthod yn unol a'i ddehongliad ef ei hun o ddymuniadau pobl eraill - cyn filwyr a phobl sydd wedi cael rhyw brofiad neu'i gilydd o drais yr IRA yn yr achos yma. Mae'n aneglur pam bod David yn meddwl ei fod yn gymwys i siarad tros grwpiau mawr o bobl, does gan y Royal British Legion ddim sylw i'w wneud ar y mater ag eithrio i nodi eu bod yn gefnogol i fynegiant rhydd. Roeddwn i yng nghyngerdd y Wolftones yn y Galeri yng Nghaernarfon nos Fercher, ac fel mae'n digwydd roedd cyn filwr yn eistedd wrth fy ochr. 'Dwi ddim am siarad ar ei ran fel mae David yn ei wneud, ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf na fyddai'n rhy flin am y £120,000.



Mae'r syniad o wrthod neu gynnig cymorthdal celfyddydol ar y sail y byddai cynnig yn ypsetio rhywun neu'i gilydd petai'n gwybod am y cymhorthdal ynddo'i hun yn broblematig a dweud y lleiaf. A fyddai David yn gwrthwynebu rhoi cymorthdal Cymreig i'r ffilm Dambusters sydd i'w ail ffilmio y flwyddyn nesaf ar y sail y byddai teuluoedd y 526 caethwas benywaidd o'r Undeb Sofietaidd a 'sgubwyd i'w marwolaeth gan y dyfroedd a ryddhawyd gan fomio'r RAF yn ypsetio petaent yn cael clywed am y cymorthdal hwnnw?

Ta waeth, David Davies ydi David Davies - yn wleidyddol mae'n ymylu ar fod yn barodi o geidwadiaeth hen ffasiwn Seisnig adweithiol, simplistaidd - ond fedra i ddim ei ddrwg licio yn bersonol. Mi gefais i sgwrs efo fo mewn siop lyfrau yng Nghaerdydd rhai blynyddoedd yn ol. Roedd yn chwilio am lyfrau ar iaith Hwngari oherwydd bod ei ddyweddi yn dod o'r fan honno. Roedd yn ymddangos yn fachgen cyfeillgar a di ffuant oedd wrth ei fodd o gyfle i sgwrsio yn y Gymraeg. Nid felly Rod Richards a ymddangosodd ar raglen Manylu ddoe i gefnogi safbwyntiau ei gyn gyfaill.



Mae hen gysylltiad rhwng David Davies a Rod Richards wrth gwrs. David Davies oedd yr unig aelod o'r grwp Ceidwadol yn y Cynulliad i aros yn driw i Rod pan roedd pob dim yn mynd i'r diawl ar ddiwedd ei gyfnod fel arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru. Y ffaith i Rod ddewis David Davies i arwain y blaid dros dro yng Nghymru tra roedd yn ymladd cyhuddiadau troseddol a arweiniodd at ei ymddiswyddiad o'r arweinyddiaeth.

Fel arfer roedd cyfraniad Rod yn ddryslyd ac emosiynol. Roedd yn brolio ei fod yn gweithio i wasanaethau cudd Prydain ar y pryd ac yn cymryd arno bod hynny'n ei wneud yn arbenigwr ar hanes Gogledd Iwerddon bryd hynny. Mae hyn yn rhyfedd cyn bod ei ffeithiau yn amheus a dweud y lleiaf. Galwodd Fermanagh South Tyrone yr etholaeth lle cafodd Bobby Sands ei ethol yn aelod seneddol trosti yn Tyrone ac yn Fermanagh East Tyrone.

Gwnaeth awgrym enllibus bod arweinyddiaeth yr IRA y tu allan i'r Maze wedi cael teulu Sands i roi pwysau arno i beidio a rhoi'r gorau i'r ympryd. Does yna ddim gwirionedd y tu ol i'r awgrym yma - ac mae'n hawdd iawn profi hynny. Mae'r archif o gysylltiadau ysgrifenedig yr IRA yn y Maze gyda phenaethiaid y mudiad y tu allan ar gof a chadw, ac wedi ei harchwilio sawl gwaith. Nid yn unig nad oes yna unrhyw awgrym o hyn, ond yr argraff a geir ydi bod yr arweinyddiaeth y tu allan yn amheus iawn o'r ympryd am gyfnodau maith.

Roedd Rod hefyd yn awyddus i gysylltu Plaid Cymru gyda'r IRA, gan honni bod track record ganddi. Ei thesis oedd bod Plaid Cymru wedi rhoi buddugoliaeth bropoganda i'r IRA trwy alw'r wis seneddol oedd ei hangen i ganiatau is etholiad Sands. 'Dwi'n credu bod cof Rod yn ei dwyllo. 'Doedd yna ddim disgwyliad y byddai Sands yn sefyll heb son am ennill pan alwyd is etholiad cyntaf Fermanagh South Tyrone yn Ebrill 1981. Y disgwyliad oedd y byddai'r unoliaethwr Harry West yn ennill oherwydd y tebygrwydd y byddai'r bleidlais Genedlaetholgar wedi ei hollti.

'Dwi'n credu mai meddwl am yr ail is etholiad oedd Rod a gynhalwyd yn Awst 1981 yn dilyn marwolaeth Bobby Sands. Roedd yr ympryd i bob pwrpas ar ben erbyn cynnal yr is etholiad. Bwriad y pleidiau Prydeinig oedd osgoi cynnal yr etholiad am cymaint o amser a phosibl gan nad oeddynt yn hapus gyda'r canlyniad tebygol. Dywedodd Dafydd Ellis Thomas y byddai'n symud y wis i gynnal yr is etholiad oni bai y byddai rhywun arall yn gwneud hynny. Dyna ydi'r track record mae Rod yn cyfeirio ato.

Mae gan y Blaid track record wrth gwrs, un o wrthwynebu rhyfeloedd yn gyson - megis yr un lloerig yn Irac - yn union fel mae gan Rod track record o'u cefnogi. A gan bod Rod yn codi track records byddwn yn cael golwg ar un Rod maes o law

Thursday, October 30, 2008

Gwobr Hen Rech Flin

'Dwi wedi canmol blogiau Alwyn ap Huw yn y gorffennol - Miserable Old Fart a Hen Rech Flin.

Er bod Alwyn yn gwbl gyfeiliornus am fwy neu lai popeth mae'n ysgrifennu amdano, mae'n cynhyrchu stwff diddorol, deallusol a gwreiddiol yn aml. Bydd hefyd o bryd i'w gilydd yn cynhyrchu nonsens o'r radd flaenaf - efallai bod rhoi pwysau arnom ein hunain i flogio yn gwneud hynny'n anhepgor weithiau.

Enghraifft dda ydi'r neges gyfangwbl loerig yma, lle mae Alwyn yn rhesymu nad yw'r dirwasgiad mae'r byd gorllewinol ar fin byw trwyddo yn debygol o effeithio arno fo a'i deulu oherwydd na chafodd yr un ohonynt ffliw adar y llynedd. Mae hefyd yn cynnig y dadansoddiad gwirioneddol syfrdanol mai BBC News 24 sy'n gyfrifol am yr anhawsterau ariannol presennol.

Ag ystyried y 'rhesymeg' canol oesol yma, bwriadaf gyflwyno cydnabyddiad achlysurol o idiotrwydd llwyr a chyfangwbl, a galw'r cydnabyddiad hwnnw yn Wobr Hen Rech Flin. 'Dwi'n gwybod na fydd Alwyn yn meindio o gwbl.

Mae'r awgrymiad y cyfeiriais ato ddoe, sef nad ydi Mark Williams ymysg yr Aelodau Seneddol mwyaf disglair, wedi esgor ar nifer o sylwadau idiotaidd gan bobl sy'n ceisio ei amddiffyn. Yn rhyfedd iawn, hyd y gwn i 'does yna neb wedi ceisio amddiffyn Alan Williams.

Er enghraifft ar faes e mae Mr Urdd yn dadlau bod Mark yn goblyn o aelod seneddol da oherwydd iddo gymryd arno'i hun i wneud gwaith y Citizen's Advice Beareau yn hytrach na'i briod waith ei hun, tra bod Madrwyddygryf rhywsut, rhywfodd wedi argyhoeddi ei hun mai pleidleisiau Cymry Cymraeg Ceredigion oedd yn gyfrifol am anfon Mark i San Steffan.

Serch hynny, gweddol fan a di ddim ydi idiotrwydd Mr Urdd a Madrwyddygryf wrth ymyl ymdrechion un o'r cyfranwyr a ymddangosodd ar flog Ordovicus pan gyfieithodd hwnnw fy sylwadau i am Mark ac Alan Williams. Gweler yma. Mae'n werth dyfynnu sylwadau Still a Liberal yn llawn

I disagree, Mark Williams is a fighter - just look at what he did to keep Post Offices open in Ceredigion - and the price has come down since he started his campaign to get cheaper petrol in rural areas

Mae'n gwneud dau honiad cwbl anhygoel. Yn gyntaf mae'n honni bod Mark wedi cadw swyddfeydd post yn agored yng Ngheredigion - er i'w ymgyrch fethu cadw cymaint ag un yn agored.

Yn ail ymddengys ei fod yn honni i Mark lwyddo i ddod a phrisiau ynni byd eang i lawr. Mae bron i bawb wedi bod yn llafurio o dan y camargraff bod pris petrol wedi syrthio oherwydd bod y galw am y stwff wedi lleihau fel mae'r byd yn symud i mewn i ddirwasgiad economaidd.

Ond na - ymgyrch Mark sy'n gyfrifol - 'dydi'r grymoedd economaidd anferthol sy'n fynych yn chwalu cymunedau a diwylliannau, sy'n anfon pobl yn eu miliynau o un rhan o'r byd i ran arall miloedd o filltiroedd i ffwrdd, sy'n gallu gwneud i ffermwyr yn eu canoedd o filoedd adael eu cynhaeaf yn pydru yn y caeau, sy'n gallu troi pobl barchus yn lladron a phuteiniaid yn ddim ger bron pwerau ymgyrchu Mark. Os ydi o fewn ei allu i atal cwrs grymoedd mawr amhersonol fel hyn pwy a allai amau na allai eistedd ar ei orsedd ar lan y mor a throi'r llanw yn ei ol, ac felly llwyddo lle fethodd y Brenin Caniwt gynt.

Mae Still a Liberal yn llawn deilyngu'r fraint o fod yn ddeilydd cyntaf Gwobr Hen Rech Flin am idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl.



Mark yn atal y llanw.

Llongyfarchiadau i'r ddau Williams



Ddim yn aml iawn y byddaf yn edrych ar y Daily Mail, ac mae'n fwy prin eto i Mark Williams, Aelod Seneddol Ceredigion ac Alan Williams, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe ymddangos yn y papurau 'cenedlaethol', ond daeth y tri digwyddiad anarferol hynny at ei gilydd y diwrnod o'r blaen.

Yn ol Quentin Letts mae'r ddau yn aelodau cwbl ddiwerth o Dy'r Cyffredin.

Ni fydd Alan yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf. 'Dwi'n siwr bod Mark yn ddiolchgar bod ganddo fwyafrif anferthol o 219 yn gefn iddo wrth iddo ystyried 2010.

Saturday, October 25, 2008

Gair o gyngor i Jim Murphy

Mae'r argyfwng ariannol presenol wedi bod yn garedig i'r Blaid Lafur, sy'n eironig cyn mai'r ffaith iddyn nhw eu hunain hepgor eu gwerthoedd traddodiadol a syrthio ar eu gliniau ger bron allor neo ryddfrydiaeth economaidd sy'n gyfrifol am y dywydiedig argyfwng.

Yn sgil yr argyfwng mae Llafur wedi ad ennill peth tir yn y polau piniwn, gan hanneru'r bwlch rhyngddynt a'r Toriaid. Mae sawl rheswm am hyn - bod sylw'r wasg wedi ei hoelio ar Gordon Brown ac Alistair Darling, bod y Toriaid wedi rhoi rhwydd hynt iddynt gymryd arnynt eu bod yn gwneud coblyn o joban dda ar sortio pethau allan, a bod naratif y cyfryngau wedi bod yn gyffredinol ffafriol am unwaith.

Cafodd Llafur hefyd bastwn defnyddiol i ymosod ar genedlaetholwyr efo fo. 'Doedd Jim Murphy ddim yn hir cyn bathu term newydd i ddisgrifio gwledydd bychan annibynnol Gogledd Ewrop - The Arc of Insolvency.



Eglura Mr Murphy ei safbwynt fel hyn:

Look at this arc of prosperity, what some commentators are now calling calling the arc of insolvency: Iceland, Ireland and Norway

Iceland as a country is on the verge of bankruptcy. Ireland is officially in recession. Ireland and Norway are trying to borrow from the US and Russia.

That's not Scotland's destiny. Scotland isn't Iceland and it shouldn't be Iceland and as long as I'm doing this job, I don't want Scotland to be Iceland.


Ac ar un olwg mae ganddo bwynt. Y gwir plaen ydi bod argyfwng bancio Gwlad yr Ia yn wirioneddol argyfyngys - a ni allant mewn gwirionedd fforddio i achub eu banciau. Eu broblem ydi bod eu system bancio yn llawer rhy fawr i gymharu a gweddill yr economi. Mae dyledion eu banciau yn 480% o'r ddyled genedlaethol ac yn 211% o'u GDP blynyddol(Ffigyrau i gyd gan Bridgewater Associates)

Ond yn anffodus i Mr Murphy 'dydi amgylchiadau'r DU fawr gwell. Mae dyledion ein banciau ni yn 368% o'r ddyled genedlaethol ac yn 168% o'u GDP blynyddol. Ffigyrau'r ddwy wlad mae Mr Murphy yn cyfeirio atynt - Iwerddon a Norwy yw 105% / 19% a 92% / 9%. Mae ffigyrau'r DU ymysg y gwaethaf yn y Byd.

I roi'r sefyllfa mewn ffordd arall, mae achubiaeth Brown a Darling yn achubiaeth na allant ei fforddio. Yr unig ffordd i dalu amdano fydd trwy godi trethi yn y dyfodol, a bydd hynny yn arwain at lefel twf is, a bydd hynny yn ei dro yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau.

Felly pan mae Mr Murphy yn dweud nad yw am i'r Alban fod fel Gwlad yr Ia, y ffordd orau iddo wireddu'r dyhead hwnnw fyddai trwy ymgyrchu tros ganlyniad cadarnhaol i refferendwm annibyniaeth 2010 / 2011.

Thursday, October 23, 2008

Pam bod Karl Francis yn ystyried yr iaith Gymraeg yn neo ffasgaidd?


'Dydi'r cyfaill Karl Francis ddim yn or hoff o ddwyieithrwydd. A dweud y gwir ymddengys bod Karl yn ystyried y ffasiwn beth yn neo ffasgaidd.

'Rwan 'dydi o ddim yn anisgwyl iawn clywed Karl yn defnyddio'r math yma o iaith. Roeddwn i yn fyfyriwr prifysgol yn Aberystwyth ar gychwyn cyfnod Mrs Thatcher, ac roedd yna lawer o fyfyrwyr (di Gymraeg bron yn ddi eithriad) gyda daliadau gwleidyddol y gellid eu cynrychioli fel rhai adain Chwith eithafol. Petawn yn llai caredig byddwn yn cynrychioli'r daliadau fel rhai adain Chwith idiotaidd. Fascist, neu Nazi oedd hoff eiriau'r bobl hyn, a byddant yn eu defnyddio fel ansoddeiriau i ddisgrifio eu gwrthwynebwyr a'u safwbyntiau.

Felly roedd Thatcher yn ffasgydd, a'r Blaid Geidwadol yn ei chyfanrwydd wrth gwrs. I aml i un byddai cenedlaetholwyr Cymreig, yr SDP neu'r Rhyddfrydwyr a hyd yn oed y rhan fwyaf o'r Blaid Lafur hefyd yn ffasgwyr. Roedd bron i bawb arall yn ffasgwyr. Fel rheol ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o gwbl tros y cyhuddiad rhyfedd, ond os byddai angen cyflwyno tystiolaeth byddai'r rhesymu pob amser yr un peth. Roedd y grwp, plaid neu unigolyn a ddisgrifid fel ffasgwyr gyda rhyw gred neu ddaliad oedd yn gyffredin gyda'r ffasgwyr. Roedd hyn yn cynnwys bron i bawb wrth gwrs. Felly ceir rhesymeg fel hyn - Mae X eisiau i'r trenau redeg ar amser, roedd y ffasgwyr yn rhai mawr am gael y trefau i redeg ar amser, ergo mae X yn ffasgydd.

Ar un olwg mae'r ffordd yma o edrych ar y Byd yn ogleisiol o ddi niwed, ond mae ochr anymunol iawn iddo. Roedd y cyfeillion ar eithafion gwleidyddiaeth y Chwith wedi dadlau eu ffordd i dir gwleidyddol oedd yn afresymegol ac oedd i raddau helaeth yn gwbl amhosibl i'w amddiffyn. Felly yn lle dadlau roedd rhaid pardduo - a dyna oedd pwrpas y termau Nazi a Fascist. Trosiadau am ddrygioni ydynt mewn gwirionedd - ffordd ddiog o gyhuddo pobl o ddrygioni di bendraw ydi defnyddio'r math yma o dermau yn y bon.

Nid y Chwith yn unig sy'n gwneud hyn wrth gwrs. Mae'r ffordd yma o edrych ar bethau yn gyffredin mewn gwleidyddiaeth, ac hefyd mewn crefydd. Mae'r Dde yn America yn defnyddio'r term 'terfysgwr' i ddisgrifio Obama ar hyn o bryd - Un American oedd y term ym mhumpdegau'r ganrif ddiwethaf. Roedd Communist yn derm tebyg. Arferai Felix Aubel floeddio Comiwnistaidd am pob math o bethau hynod o anghomiwnyddol cyn iddo aeddfedu a challio.

Am y rhan fwyaf o'i fywyd gwelai Ian Paisley'r gwrthdarro sifil yng Ngogledd Iwerddon yng nghyd destun gwleidyddiaeth Ewropiaidd yr ail ganrif ar bymtheg, gan resymu bod yr Eglwys Babyddol yn ceisio difa Protestaniaith oherwydd bod mai eglwys y Diafol oedd yr Eglwys Babyddol. Yn y gorffennol arweiniodd y feddylfryd yma at ddi berfeddu, llosgi a dienyddio pobl ym mhob ffordd y gellir meddwl amdani oherwydd man anghytundebau crefyddol neu wyddonol.

Daw hyn a ni'n ol at Karl. Mae genhedlaeth yn hyn na fi ac roedd yn ifanc yn y chwe degau - cyfnod lle'r oedd llawer iawn o'r bobl aeth i golegau yn coleddu daliadau asgell Chwith eithafol. Tyfodd y rhan fwyaf o bobl allan o'r daliadau hynny - ac mae'n debyg i fwyafrif ohonynt bleidleisio i Thatcher yn yr 80au. Arhosodd Karl yn ei unfan. Mae ei ddaliadau wedi aros yn union lle'r oeddynt bryd hynny. Adeiladodd yrfa ffilmio tebyg i un Ken Loach - gwneuthurwr ffilmiau o Loegr sydd a daliadau gwleidyddol tebyg i rai Karl. Mae Karl wedi bod yn gyfrifol am rhai ffilmiau da, ond mae Ken Loach wedi bod yn gyfrifol am rhai o'r ffilmiau gwleidyddol gorau yn yr iaith Saesneg.

Ni lwyddodd Karl i wneud y gorau o'i dalent, a'r prif reswm am hynny ydi bod ei wleidyddiaeth plentynaidd wedi cyfyngu ar ei ganfas. Mae gan Ken Loach yr athrylith i gynhyrchu cyfres hir o ffilmiau gwych ar themau cyfyng - does gan Karl ddim. Felly mae'n cyrraedd at flynyddoedd olaf ei yrfa, mae'n cymharu ei hun gyda Ken Loach ac mae'n siomedig, ac mae eisiau rhywbeth i'w feio - ac mae'n rhaid i'r rhywbeth hwnnw fod yn allanol. 'Does yna ddim byd mwy allanol i rhywun fel Karl na'r iaith Gymraeg, ac felly'r iaith honno sy'n cael y bai. Mae'n dod yn naturiol iddo ddisgrifio gwrthrych ei gasineb gan ddefnyddio geirfa plentynaidd ei draddodiad gwleidyddol.

Am dipyn o hwyl beth am droi rhesymeg Karl i'w gyfeiriad ef ei hun?

Nid oedd y Ffasgwyr yn hoff o ieithoedd lleiafrifol (ystyrier agwedd Franco at y Gatalaneg ac iaith y Basg), 'dydi Karl ddim yn hoffi ieithoedd lleiafrifol, felly mae Karl yn Ffasgydd. Roedd y Ffasgwyr yn ffrindiau efo'r Natsiaid, felly mae'n deg cynrychioli Karl fel swyddog yn yr Hitler Youth.

Dyna 'dwi'n ei wneud isod.



Yr actor Dafydd Hywel sy'n sefyll o flaen Karl - er nad ydi hynny'n amlwg oherwydd diffyg sgiliau Photoshop blogmenai. Mae'n cael ei gynrychioli fel prif grafwr yr uned bach yma o'r Hitler Youth sy'n derbyn canmoliaeth y main man. Y rheswm pam bod hwnnw yn cael eu drin mor anheg ydi oherwydd iddo ddadlau achos Karl ar Radio Cymru ddoe gan wneud y sylw idiotaidd bod sylwadau Karl yn OK oherwydd nad oedd 90% o'r hyn a ddywedodd yn ei gyfweliad ar Radio 3 yn ddadleuol.

Mae'r syniad bod gan Dafydd Hywel a Karl Francis gydymdeimlad gyda Natsiaeth yn amlwg yn chwerthinllyd. Ond dydi o ddim mymryn mwy chwerthinllyd na defnyddio'r dermenoleg a gysylltir a gwleidyddiaeth Ewrop rhwng y rhyfeloedd byd er mwyn cysylltu pobl, cysyniadau ac hyd yn oed ieithoedd nad ydi'r Chwith eithafol, plentynaidd yn eu hoffi, gyda gwersylloedd llofryddiaeth, erledigaeth a hil laddiad.

Wednesday, October 22, 2008

Normal service is resumed

He, he - dim ond pethefnos ar ol dathlu dychweliad Peter Mandelson i'r llwyfan gwleidyddol mae'n bleser gen i nodi bod y gwasanaeth arferol yn ei ol.

Mae'n dda gen i ddweud y gallwn edrych ymlaen at ddeunaw mis llawn adloniant.

Tuesday, October 21, 2008

Etholiadau America a newidiadau strwythurol gwleidyddol

'Does gen i ddim rhyw ddiddordeb anferth yng ngwleidyddiaeth America a dweud y gwir, ond mi gymrais ychydig funudau heddiw i gael cip ar fapiau canlyniadau etholiadau yn y gorffennol. Rydym yn tueddu i feddwl am ddaearyddiaeth etholiadaol America - y De a'r Mid West yn Weriniaethol a'r Gorllewin pell a'r ardaloedd diwydiannol yn Ddemocrataidd fel rhywbeth di gyfnewid - ond dydi o ddim. Ystyrier y mapiau isod o'r ganrif ddiwethaf - 'dwi wedi edrych ar un etholiad o pob tair gyda bwlch o 12 mlynedd rhwng pob un rhwng 1904 a 2000. Gellir gweld yr holl fapiau yma.











Y De Ddywrain ydi'r ardal mwyaf diddorol. Hyd 1964 roedd y Democratiaid yn dominyddu - ond wedyn mae pethau'n troi fel cwpan mewn dwr. Llwyddodd Barry Goldwater i gymryd yr ardal ar ran y Gweriniaethwyr er gwaetha'r ffaith bod eu blaid wedi eu chwalu'n llwyr yng ngweddill y wlad. Mae'r rhan yma o'r wlad wedi bod yn driw i'r Gwereniaethwyr ym mhob etholiad arlywyddol ers hynny - ag eithrio 1976 pan bleidleisiodd tros Jimmy Carter. Pleidlais ar sail daeryddiaeth oedd hon - o Georgia y daw Carter, hefyd roedd drwg deimlad cyffredinol yn y De tuag at Washington yn sgil Watergate. Llwyddodd Clinton i ennill pedair o daleithiau yn 96 - ond ei dalaith o ac un ei ymgeisydd is arlywyddol Al Gore oedd dwy o'r rheiny. Mae hyn yn ddigon hawdd i'w egluro - gyda'r oedd y Democratiaid yn cael eu cysylltu efo'r mudiadau hawliau sifil, nid oedd y mwyafrif o bobl croenwyn yn fodlon pleidleisio trostynt yn y rhan yma o'r wlad.

Mae'r gwahaniaeth rhwng patrymau pleidleisio'r Mid West ac arfordir y Gorllewin yn beth gweddol newydd - fel rheol roeddynt yn pleidleisio yn yr un ffordd. Mae'n debyg mai newidiadau demograffig yn y gorllewin sy'n rhannol gyfrifol am hyn yn ogystal a dylanwadau o'r tu allan i'r UDA - er mae mwy iddi na hynny hefyd.

Cymharol ddiweddar ydi ymlymiad rhai o'r taleithiau diwydiannol poblog megis Efrog Newydd i'r Democratiaid. Y peth mwyaf cyson mae'n debyg am y mapiau ydi bod pedair talaith sydd yn agos at ganol y wlad - North Dakota, South Dakota, Nebraska a Kansas yn pleidleisio i'r Gwereniaethwyr bron yn ddi eithriad - oni bai pan mae cyflafan etholiadol yn erbyn y Gweriniaethwyr.

Yr hyn sy'n ddiddorol i mi ydi'r ffaith bod patrymau pleidleisio sy'n ymddangos ar y pryd yn rhai parhaol yn newid mewn cyfnod byr o bryd i'w gilydd. Un o ddau reswm sy'n gyrru hyn - lle mae plaid yn newid mewn ffordd nad yw'n dderbyniol i'w hetholwyr neu pan mae gwleidyddiaeth yr etholwyr eu hunain yn newid.

Yn y chwe degau canol newidiodd natur y Blaid Ddemocrataidd, a chafwyd ail gynghreirio a arweiniodd yn y diwedd at symud gwleidyddiaeth America i'r Dde. Mae'n bosibl dadlau bod yr etholwyr yn hytrach na'r pleidiau yn symud i'r Chwith yn yr etholiad bresennol oherwydd bod neo ryddfrydiaeth economaidd a neo geidwadiaeth polisi tramor y Gweriniaethwyr wedi colli eu hygrededd yn llwyr.

Mae'r ddau symudiad yma wedi digwydd yn nes adref sawl gwaith. Er enghraifft cychwynodd gwleidyddiaeth Prydain ar symudiad eithaf cyflym i'r Chwith yn 1918 pan symudodd yr etholwyr i'r Chwith. Ail strwythuro natur yr etholwyr oedd yn rhannol gyfrifol am hyn - roedd llawer mwy o bobl dosbarth gweithiol yn cael pleidleisio ac arweiniodd hyn at ddifa'r Blaid Ryddfrydol a thwf y Blaid Lafur. Yn yr un etholiad yn yr Iwerddon chwalwyd Cenedlaetholdeb cyfansoddiadol a sgubwyd y wlad gan Genedlaetholdeb llawer mwy gwrth Brydeinig a gwrthnysig. Symudodd y boblogaeth i'r Chwith hefyd wedi'r ail Ryfel byd pan dderbynwyd yr angen am drethi uwch er mwyn ariannu gwladwriaeth les. Symudodd y Blaid Lafur i'r Chwith ar ddechrau'r 80au ar yr union adeg pan oedd yr etholwyr yn symud i'r Dde - gyda chanlyniadau trychinebus. Symudodd y blaid honno'n ol i dirwedd gwleidyddol y rhan fwyaf o etholwyr yn y nawdegau.

Gall newidiadau o'r math yma ddigwydd yn unrhyw le - hyd yn oed yma yng Nghymru.

Saturday, October 18, 2008

Pam nad oes yna bolio rheolaidd yng Nghymru?

Wedi darllen sylwadau Hogyn o Rachub ar waelod fy mhost diwethaf ac ymweld a'i flog (blog nad ydwyf yn ymweld a fo'n ddigon aml), 'dwi wedi bod yn meddwl rhyw ychydig.

Mae HOR yn gwneud yr un pwynt ag ydwyf fi yn ei wneud yn y bon, sef nodi nad oes rheswm hyd yn hyn i gymryd bod pol gan Beaufort yn un dibenadwy. Mae hefyd yn beirniadu Adam Price am wneud cymaint o'r pol. 'Rwan, gwleidydd ydi Adam - ac mae'n rhesymol disgwyl iddo ymddwyn fel gwleidydd. Mae nifer o resymau gwleidyddol pam y gallai Adam fod eisiau rhyddhau manylion y pol - torri crib y Toriaid, er enghraifft, neu leddfu nerfau'r sawl oddi mewn i'r Blaid sy'n poeni bod Cymru'n Un yn niweidiol iddi.

Yt hyn sy'n fwy diddorol efallai ydi pam bod y cyfryngau Cymreig mor gyndyn i gomisiynu polau? Mae'n ymarferiad cymharol ddrud - ond os ydi Plaid Cymru yn gallu dod o hyd i'r arian, byddai dyn yn dychmygu bod yr adnoddau gan Trinity Mirror hefyd.

Mae'n bosibl cymharu gyda gwledydd eraill. Mi wnaf i'r gymhariaeth arferol efo'r Iwerddon. Mae'r papur Sul y Sunday Business Post yn comisiynu pol misol gan Red C. Mae pol Red C yn eithaf dibenadwy - ac maent hefyd yn cyflawni cryn gamp pan maent yn gallu darogan patrymau pleidleisio etholaethau unigol yn effeithiol - rhywbeth sy'n anodd iawn i'w wneud.

Mae nifer o'r papurau eraill yn comisiynu polau yn rheolaidd - ac o ganlyniad mae diwylliant o bolio rheolaidd - ac mae amrywiaeth o ran dulliau polio. Felly gall y gwahanol gwmniau brofi eu methodoleg eu hunain yn erbyn methodoleg cwmniau eraill ac yn erbyn etholiadau go iawn.

'Dydi hyn ddim ar gael i Beaufort - felly maent yn gweithio yn y tywyllwch i raddau helaeth. 'Dydi'r papurau newydd Cymreig prin byth yn comisiynu polau er bod eu cylchrediad yn ddigon tebyg i un y Sunday Business Post.

Tua 53,000 ydi cylchrediad y Sunday Business Post, mae'r Western Mail ychydig yn is na 40,000, Wales on Sunday a'r Daily Post mymryn yn uwch, mae'r South Wales Echo gyda chylchrediad o tua 45,000 a thua 30,000 ydi ffigyrau'r South Wales Argus.

'Rwan gellir cynnig nifer o resymau am y gwahaniaeth yma yn agwedd y papurau Cymreig at bolio. Mae'n debyg bod y Sunday Business Post yn fwy proffidiol o lawer na'r papurau Cymreig ac mae mwy o ddiddordeb yn ddi amau mewn polau yn yr Iwerddon oherwydd bod llywodraeth y wlad honno'n un sydd a statws llywodraethol llawn.

Y rheswm pwysicaf fodd bynnag ydi bod y papurau Cymreig i gyd i gwahanol raddau yn rhai rhanbarthol yn yr ystyr bod eu darllenwyr i gyd yn tueddu i fyw mewn un rhan o'r wlad. Er enghraifft mae darllenwyr yr Argus yn byw yng Ngwent. Mae hyd yn oed y Western Mail - y papur sy'n gwneud yr ymdrech fwyaf i fod yn bapur cenedlaethol - gyda llawer iawn, iawn mwy o ddarllenwyr yn Ne nag yng Ngogledd Cymru. Gan bod y ffocws newyddiadurol yn rhanbarthol yn hytrach na chenedlaethol, mae'r ysgogiad i gomisiynu polau cenedlaethol yn llai nag y byddai petai'r ffocws yn ehangach.

'Dwi ddim yn arbenigwr ar werthu papurau, ond byddwn wedi dychmygu y byddai o fantais i'r Western Mail gomisiynu polau piniwn fel rhan o strategaeth ehangach i ddatblygu'n bapur gwirioneddol genedlaethol. Mae cylchrediad traddodiadol y papur wedi bod yn syrthio'n gyson am flynyddoedd. Mae cysylltu ei hun gyda'r wleidyddiaeth newydd yng Nghymru yn ffordd lled amlwg o geisio dod o hyd i ddarllenwyr newydd. Mae yna rhywbeth ychydig yn drist am bapur sy'n ystyried ei hun yn un cenedlaethol yn aros i bleidiau gwleidyddol ei fwydo efo brywsion pan mae hynny'n

Mae'r papur yn rhoi mwy o ymdriniaeth i wleidyddiaeth Gymreig na'r gweddill wrth gwrs. - byddai polio cyson yn hytrach cryfhau'r strategaeth. Ar hyn o bryd maent yn llwyr ddibynol yn y maes hwn ar y frywsion sy'n cael eu taflu atynt gan eraill sydd yn aml gyda'u agenda eu hunain. Byddai ymdrech go iawn i fod yn flaengar ac yn rhan anatod o wleidyddiaeth newydd Cymru yn un sy'n apelio at fwy o bobl o lawer, ac yn helpu'r Western Mail i ddod tros eu problem ganolig, sef eu bod yn rhy rhanbarthol i fod yn genedlaethol ac yn rhy genedlaethol i fod yn rhanbarthol.

Y corff arall a allai bolio'n rheolaidd wrth gwrs ydi'r BBC - ond mae'r bwystfil hwnnw'n teilyngu cyfraniad maith iddo'i hun.

Friday, October 17, 2008

Polau piniwn Beaufort


Mae fy nghyfaill Ordovicius wedi cynhyrchu tri phost tros y diwrnod neu ddau diwethaf yn ymdrin phol diweddar Beaufort sy'n ymdrin a bwriadau pleidleisio pobl yng Nghymru. Gellir eu gweld yma, yma, ac yma. Ymddengys i Sanddef gael oriau o hwyl di niwed gyda'r Excel.

I dorri stori hir yn fyr mae canfyddiadau'r pol fel a ganlyn ymysg pobl sy'n dweud eu bod yn debygol o bleidleisio:

Etholiad Cynulliad, Llafur 35%, Plaid 25.7%, Toriaid 19.8%, Democratiaid Rhyddfrydol 12.1%.
Etholiad San Steffan, Llafur 38.7%, Plaid 18.3%, Toriaid 23.9%, Democratiaid Rhyddfrydol 12.6%.

Ag ystyried perfformiadau diweddar y Blaid Lafur yn etholiadol bydd y canfyddiadau hyn yn gryn ryddhad iddynt. Roedd eu perfformiad yn yr etholiadau lleol eleni yn wirioneddol drychinebus, ac mae'r canrannau uchod yn awgrymu eu bod wedi adennill tir ers hynny - er bod polau Prydeinig yng nghanol Medi (pan gymerwyd y pol) yn gwbl drychinebus i Lafur. Yn sicr Llafur fydd fwyaf hapus wrth ystyried canfyddiadau diweddaraf Beaufort.

Ond - ac mae yna ond go fawr. 'Dydi record Beaufort ddim yn berffaith o bell ffordd pan mae'n dod i ddarogan etholiadau yng Nghymru.

Er enghraifft yn ystod yr wythnosau cyn etholiadau cynulliad 2007 cafwyd dau bol gan y cwmni - amlinellaf ganlyniadau'r ddau.

Pol 1: Llaf 37%, Dem Rhydd 14%, PC 30%, Tori 14%.
Pol 2: Llaf 36%, Dem Rhydd 13%, PC 26%, Tori 19%.

Y canlyniad oedd:

Llaf 32.2%, Plaid 22.4%, Toris 22.4%, Dem Rhydd 14.8%.

Felly y patrwm yma ydi bod Beaufort yn tan gyfrifo'r bleidlais Doriaidd ac yn gosod pleidlais Plaid Cymru a Llafur yn rhy uchel, ac yn weddol agos ati efo'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'n gyfrinach agored i Blaid Cymru gomisiynu Beaufort i gynnal cyfres o bolau preifat yn y misoedd oedd yn arwain at etholiadau Cynulliad 07. O'r hyn a gofiaf roeddynt fel rheol yn gor gyfrifo'r bleidlais Lafur yn sylweddol, un Plaid Cymru i raddau llai ac yn tan gyfrifo'r bleidlais Geidwadol.

'Rwan, pan mae cwmni polio yn anghywir yn gyson mae yna reswm - a methodoleg diffygiol ydi'r rheswm hwnnw. Mae'n ddrwg gen i os ydi'r isod yn nawddoglyd, ond wrth drafod polau piniwn mae'n bwysig deall sut mae methodoleg llwyddiannus yn dod i fodolaeth.

Mae mwy o lawer i gynnal pol na dod o hyd i 1,000 o bobl a defnyddio cyfrifiannell i droi cyfansymau yn ganrannau. I ddechrau mae'n rhaid dewis sampl sy'n adlewyrchu'r boblogaeth yn gyffredinol o ran lleoliad daearyddol, dosbarth cymdeithasol, cydbwysedd oedran a rhyw ac ati.

Yn anffodus i'r cwmniau polio ceir cymhlethdodau sylweddol. Er enghraifft mae'n ffaith bod rhai mathau o bobl (pobl tros 45 oed er enghraifft) yn fwy tebygol o lawer na rhai eraill i bleidleisio na rhai eraill ac mae'n rhaid i'r cwmniau ddod o hyd i ffyrdd o gymryd hyn i ystyriaeth. Os ydi 60% o'r sawl sy'n ymateb i'r pol yn ferched (ac mae hyn yn digwydd yn aml) ond 52% yn unig o'r etholwyr yn ferched yna mae pob ymateb benywaith yn gyfwerth a 0.87 o bleidlais tra bod pob ymateb gwrywaidd yn gyfwerth ag 1.13 o bleidlais.

'Dwi'n gwybod dim am fethedoleg Beaufort - ac a bod yn deg mae'n ddigon posibl eu bod wedi meddwl yn ofalus am eu methodoleg gan wneud defnydd o ddulliau polio Prydeinig - ond mae'n amhosibl ar hyn o bryd i'r fethodoleg fod yn effeithiol. Y rheswm am hyn ydi nad oes digon o bolio yng Nghymru, ac nad ydi'r polio hwnnw'n cael ei brofi yn erbyn etholiadau go iawn yn ddigon aml. Nid yw'n bosibl i fethodoleg Prydain gyfan weithio yng Nghymru - mae'r proffeil etholwyr yn gwahanol yma.

Mae methodoleg effeithiol yn esblygu tros amser. Er enghraifft gwnaeth MORI smonach o ddarogan canlyniad etholiad maer Llundain yn ddiweddar, gan or gyfrifo y bleidlais Lafur yn sylweddol. Eu damcaniaeth pam bod hyn wedi digwydd ydi bod pobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn fwy tebygol o ymateb i bol piniwn na rhywun sy'n gweithio yn y sector breifat - mae'r bobl hynny hefyd yn fwy tebygol o bleidleisio i Lafur wrth gwrs. Efallai bod damcaniaeth MORI yn gywir, ac efallai nad ydyw - ond y pwynt ydi y bydd yn cael ei phrofi maes o law. Os ydi'r ychwanegiad yma yn gwneud y pol yn fwy cywir y tro nesaf, bydd yn aros fel cydadran o'r fethodoleg. Os na fydd yn gwneud hyn, ni chaiff ei ddefnyddio eto.

'Dwi'n croesawu'r ffaith bod Beaufort yn polio yng Nghymru, a 'dwi'n croesawu'r ffaith bod Plaid Cymru yn comisiynu polau - ond cyn y gall Cymru gael cyfundrefn o bolau credadwy mae'n rhaid cael mwy o lawer o bolau er mwyn i ddiwylliant o bolio effeithiol ddatblygu. Y rheswm nad ydi hyn yn digwydd ydi am nad oes gan y cyfryngau Cymreig fawr o ddiddordeb mewn comisiynu polau. Hyd y bydd hyn yn newid ni fyddwn yn gallu rhoi fawr o goel ar unrhyw bol Cymreig mae gen i ofn.

Wednesday, October 15, 2008

Parti Harti yn y Cameo

Mae'r blogiwr Saesneg Guido Fawks yn gwichian oherwydd y parti bach sy'n cael ei hysbysebu yma.



Cwyn Guido ydi bod gweithwyr y Bib i fod yn ddi duedd, ond eu bod yn amlwg yn gefnogol i Obama, ac mai parti 'dathlu' sy'n cael ei drefnu.

'Dydw i ddim yn gwybod os ydi'r ffaith bod y gwahoddiad gyda logo Obama ar ei ben o anghenrhaid yn awgrymu ei fod yn barti un ochrog - ond beth ydi'r blydi ots? Bydd y gloddesta yn digwydd yn amser hamdden yr hacs, 'does gan barn gweithwyr y Bib yng Nghaerdydd ddim y mymryn lleiaf o ddylanwad ar batrymau pleidleisio Americanwyr ac mae bron i bawb ym Mhrydain ag eithrio nytars adain Dde fel Guido ei hun eisiau i Obama ennill beth bynnag.

Mae o llawer mwy o ddiddordeb i mi bod y sbloets wedi ei drefnu yng Nghlwb y Cameo. Mae pawb yng ngorllewin Caerdydd yn gwybod bod ystafell sgityls y Duke of Clarence yn lle llawer gwell na thwll fel y Cameo i drefnu parti - neu unrhyw ddigwyddiad arall o ran hynny.

Ond dyna fo, gan mai Rhodri Williams (cyfaill i John Leslie 'dwi'n deall) - un o gyd weithwyr yr hacs ydi cyd berchenog y Cameo efallai eu bod yn cael telerau arbennig. Peintiau o Bass am £1.50 efallai.

Tuesday, October 14, 2008

True Wales bach, plwyfol, hunanol ac anoddefgar


Mae True Wales wedi agor gwefan i ddadlau eu hachos. Corff traws bleidiol (yn ol eu tystiolseth eu hunain) sydd wedi ei sefydlu i ymladd yn erbyn rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol ydi True Wales. Y gwleidydd a gysylltir agosaf at y mudiad (os mai dyna'r gair amdano) ydi David Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy.

Does yna ddim llawer ar y wefan hyd yn hyn, ond mae'n ddigon dadlennol i'r graddau ei bod yn rhoi syniad i ni o'r patrwm y bydd yr ymgyrch Na yn debyg o'i gymryd. Mae hefyd ar sawl gwedd yn ddryslyd ac afresymegol - ond nid yw hyn yn syndod - nid rhesymeg na dadlau clir oedd prif nodweddion ymgyrchoedd Na 79 a 97. Serch hynny mae cynwys y wefan yn ddiddorol oherwydd yr is destun sydd ymhlyg ynddi yn hytrach na'r cynnwys ei hun.

Ystyrier isod yr hyn a argymhellir o dan y penawd Vision Statement.

  • spending priorities that reflect the needs of all the people.
Ar un olwg mae'n anodd gweld beth ydi hyn yn ei olygu. Mae pob llywodraeth yn blaenori gwariant yn ol eu dehongliad eu hunain o anghenion y boblogaeth. Ond yr is destun sy'n bwysig wrth gwrs - ac mae hwnnw'n dweud rhywbeth fel hyn - Mae gwariant y cynulliad er lles rhan o'r boblogaeth yn unig. Byddai pethau'n waeth petai pwerau deddfu gan y Cynulliad.
  • restoration of a cohesive, tolerant society.
Eto mae hyn yn gwbl ddi ystyr ynddo'i hun. 'Does yna ddim awgrym pam bod angen ail sefydlu cymdeithas oddefgar - mae cymdeithas Gymreig at ei gilydd yn cael ei nodweddu gan ei goddefgarwch a'i anffurfioldeb. Yn sicr mae'n gymdeithas mwy goddefgar nag un Lloegr - a gellir dangos hyn mewn sawl ffordd. Er enghraifft mae cyfradd pleidleisio i grwpiau adain dde pell megis y BNP yn is o lawer yng Nghymru nag yw yn Lloegr, mae ymosodiadau hiliol yn llai cyffredin o lawer yng Nghymru - hyd yn oed yn y dinasoedd.

Cip yn ol ydi hyn mewn gwirionedd at un o brif themau yr ymgyrchoedd Na blaenorol, sef y byddai gwahanol elfennau o gymdeithas Cymru yn elwa ar draul y lleill yn sgil datganoli. Felly dywedwyd wrth y De mai'r Gogledd fyddai'n elwa, a dywedwyd wrth y Gogledd mai'r De fyddai ar ei hennill. Dywedwyd wrth Gymry di Gymraeg y byddai pob swydd yn mynd i Gymry Cymraeg, a chafodd y Cymry Cymraeg yr argraff mai'r di Gymraeg fyddai'n elwa. Dywedwyd wrth y sawl a anwyd y tu allan i Gymru mai'r Cymry cynhenid fyddai'n cael pob dim, a dywedwyd wrth drigolion y maes glo y byddai pob dim yn cael ei sugno i Gaerdydd. Cymryd mantais o raniadau strwythurol mewn cymdeithas yng Nghymru a'r diffyg sefydliadau cenedlaethol a allai leihau pwysigrwydd y rhaniadau hynny oedd hyn mewn gwirionedd.

Wnaeth hyn ddim digwydd mewn gwirionedd wrth gwrs - er gwaethaf yr holl ddarogan gwae a rhincian dannedd. 'does yna ddim canfyddiad cryf bod y Cynulliad yn secteraidd yn yr ystyr ei fod yn ffafrio un 'llwyth' ar draul y lleill. Dyma i raddau helaeth pam bod y gwrthwynebiad i ddatganoli ynddo'i hun wedi lleihau'n sylweddol.

Cymryd arna bod rhywbeth na ddigwyddodd wedi digwydd a geir yma - ynghyd ag awgrym y byddai pethau'n waeth petai'r Cynulliad yn cael pwerau deddfu llawn.

  • no increase in the current number of AMs and MPs

Eto mae'n anodd deall hyn o'i gymryd yn llythrennol. Mater i'r Comisiwn Ffiniau ydi faint o Aelodau Seneddol San Steffan sydd yng Nghymru. Mae'r nifer o Aelodau Cynulliad a geir yn isel - 60 - llai o lawer na Senedd yr Alban a Chynulliad yr Alban. Mae hefyd mwy o gynghorwyr ar nifer o gynghorau Cymru na sydd o aelodau yn y Cynulliad - er bod cyfrifoldebau'r cynghorau hynny yn gyfyng - a'u poblogaethau yn aml yn fach.

Eto, yr is destun sy'n bwysig. Ymgais i gymryd mantais o'r ffaith bod gwleidyddion yn amhoblogaidd ar hyn o bryd a geir yma. Fel mae'n digwydd mae'r cafn yn San Steffan yn llawnach ac yn dyfnach, ac mae canfyddiad pobl o Aelodau Seneddol at ei gilydd yn fwy negyddol nag yw eu canfyddiad o rai'r Cynulliad - ond mae hyn yn clymu'r Cynulliad efo Mandelson, Hamilton ac ati.


  • the maintenance of a strong position within the United Kingdom
  • keeping the Secretary of State for Wales
'Dwi'n cymryd rhain efo'u gilydd oherwydd eu bod yn gysylltiedig. Mae bron yn sicr y bydd yr ochr Na yn dadlau yn erbyn annibyniaeth yn hytrach nag yn erbyn y cynnig fydd ar y papur pleidleisio. Cafwyd awgrym o hyn eisoes yn rhai o'r pamffledi sydd eisoes wedi eu dosbarthu gan True Wales. Bydd yn haws cynnal y ddadl yma os bydd refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban ar yr un pryd - ac mae hynny'n dra thebygol.

Eto, ynddo'i hun nid yw'r ddadl yn gwneud llawer o synnwyr. 'Does neb am wn i yn dadlau nad oes i California le cryf oddi mewn i'r Unol Daleithiau, er bod gan ei senedd taleithiol lawer iawn, iawn mwy o rym na fyddai gan y Cynulliad petai'r refferendwm arwain at bwerau deddfu llawn.

  • that any application to draw down Legislative Competence Orders from the United Kingdom Government should reflect the wishes of the majority of the Welsh people.
Hwn mae'n debyg gen i ydi'r gwirionaf o'r cwbl. Y Legislative Competence Orders (LEOs) fe gofiwch ydi'r mecanwaith trwsgl a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y Cynulliad i 'ddeddfu'. Nid yw'n drefn boddhaol i neb. Mae'r syniad na all y Cynulliad ofyn am orchmynion o'r fath heb sicrhau bod mwyafrif pobl Cymru o'u plaid yn chwerthinllyd. Byddai trefn o'r fath yn parlysu'r drefn yn llwyr. Yr unig ffordd o wireddu hyn fyddai cynnal refferendwm ar gyfer pob gorchymyn, efallai dwsin y flwyddyn. Mae pob senedd neu gynulliad arall yn y byd yn deddfu ar y sail bod y llywodraeth yn adlewyrchu barn y boblogaeth.

Ond eto fyth yr is destun sy'n bwysig. Ffordd o awgrymu ydi hyn nad yw'r Cynulliad yn adlewyrchu barn y boblogaeth. Mae hyn yn nonsens llwyr. Pleidleisiodd canran uwch o lawer o bobl tros y ddwy blaid sydd mewn llywodraeth ar hyn o bryd nag a bleidleisiodd tros lywodraeth Prydeinig ers cyn yr Ail Ryfel Byd.

A felly dyna ni - o ddarllen ychydig rhwng y llinellau gallwn weld yn lled glir beth fydd dadleuon yr ochr Na yn 2011 - ac maent yn gyfarwydd - dyma ddadleuon 1979 a 1997. Dyma nhw ar eu symlaf:

(1) Pleidleisio yr ydych mewn gwirionedd tros undod y DU.
(2) Mae gwleidyddion yn bobl llwgr. Peidiwch a phleidleisio i gael mwy ohonyn nhw.
(3) Cynrychioli rhai pobl yn unig mae'r Cynulliad.
(4) 'Dydi mandad y Cynulliad ddim o'r un ansawdd nag un San Steffan.
(6) Bydd mwy o rym i'r Cynulliad yn arwain at grwpiau eraill yng Nghymru yn cymryd mantais ohonoch ac yn cyfoethogi eu hunain ar eich traul.
(7) Mae'r Cynulliad wedi arwain at gymdeithas ranedig, anoddefgar a byddai rhoi mwy o rym iddo'n gwneud pethau'n waeth.

Mae pob un o'r chwe dadl yn idiotaidd, ond y rhai gwirioneddol anymunol ydi'r ddwy olaf. 'Dydyn nhw ond yn gweithio os ydym yn cymryd bod pobl Cymru yn bobl bach, plwyfol, hunanol ac anoddefgar.

Nid pobl felly ydi pobl Cymru - ond mae bach, plwyfol, hunanol ac anoddefgar yn ansoddeiriau sy'n disgrifio David Davies a'i debyg i'r dim.

Monday, October 13, 2008

Doethinebu Peter Hain




Os ydi'r ymchwil yma i'w gredu mae mwyafrif o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad Cenedlaethol - o 46% i 32%. Mae awgrym cryf hefyd bod gwrthwynebiad i'r syniad yn gryfach o lawer ymysg yr henoed nag unrhyw gyfadran arall o'r boblogaeth. 'Dydi polau piniwn yng Nghymru ddim gyda'r mwyaf dibenadwy - ond mae'n arwydd cadarnhaol iawn.

Diddorol fyddai gwybod ar beth mae Peter Hain yn seilio ei farn na ddylid cynnal refferendwm yn y dyfodol agos oherwydd na fyddai unrhyw obaith o gael pleidlais gadarnhaol.

Hwyrach bod gan Hain fynediad i wybodaethl sydd ddim ar gael i'r gweddill ohonom. Neu efallai ei fod yn siarad nonsens llwyr fel y gwnaeth pan roedd yn dadlau ychydig fisoedd yn ol mai ei gyngor lleol - Castell Nedd Port Talbot ydi un o'r cynghorau sy'n cael ei redeg orau yn y DU. Ymddengys eu bod wedi 'buddsoddi' ugain miliwn o bres eu trethdalwyr yng Ngwlad yr Ia.

Sunday, October 12, 2008

Oes yna etholiad cyffredinol ar y gorwel?




Mae Llafur yn gwneud yn well yn y polau piniwn - dim ond 10% y tu ol i'r Toriaid ydynt yn ol pol diweddaraf YouGov. Mae hyn yn swnio'n gryn fwlch, ond mae'n llai o fwlch o lawer nag oedd yn cael eu hawgrymu gan bolau piniwn yn gyson hyd yn ddiweddar. Mae nifer o resymau am hyn, ac maent i gyd bron yn ymwneud a'r argyfwng ariannol Byd eang.

Mae'n anodd i'r gwrthbleidiau ymosod ar Lafur yn ormodol ar hyn o bryd, mae'r naratif a geir yn y cyfryngau ar hyn o bryd yn gadarnhaol iawn i Lafur ac i Brown yn arbennig, mae Brown wedi delio gyda'r gwrthwynebiad mewnol am y tro, ac - a bod yn onest - mae wedi bod yn gelfydd iawn yn defnyddio'r argyfwng i dynnu sylw at ei gryfderau ei hun.

Mae'r blog hwn wedi ystyried goblygiadau posibl hyn i'r Alban eisoes. Mae goblygiadau ehangach wrth gwrs - rhai a allai arwain at etholiad cyffredinol cynnar.

Petai yna etholiad heddiw - byddai'r Toriaid yn ennill, ond yn gwneud hynny gyda mwyafrif bach - llai na 50. Petai etholiad wedi ei gynnal mis yn ol byddai mwyafrif o rhwng 200 a 250 gan y Toriaid. Byddai mwyafrif o'r fath yn sicr o arwain at ddi orseddu Brown. Byddai Brown yn debygol o oroesi mwyafrif Toriaidd o hanner cant.

'Rwan, mi fydd yna gyfnod byr pan fydd Brown yn gymharol boblogaidd yn dilyn diwedd yr argyfwng ariannol presenol. Does wybod am faint y bydd y 'poblogrwydd' hwnnw yn parhau, ond ni fydd yn parhau am ddeunaw mis. Mae dirwasgiad economaidd yn anhepgor, ac mae llywodraethau pob amser yn amhoblogaidd pan mae dirwasgiad - beth bynnag ydi'r achosion.

Felly yn fy marn bach i, y strategaeth gorau i Brown fyddai galw etholiad yn gynnar, gobeithio y bydd mwyafrif y Toriaid cyn lleied a phosibl ac y byddant yn amhoblogaidd o fewn blwyddyn oherwydd yr amgylchiadau economaidd. Gallai wedyn ddisgwyl cael ei ethol yn yr etholiad cyffredinol dilynol.

Martin Eaglestone yn rhoi'r gorau iddi

Mae Martin Eaglestone wedi rhoi'r ffidil etholiadol yn y to, ac nid fo fydd yn sefyll tros Lafur yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

O diar, fydd pethau byth yr un peth!

Bydd yn ddiddorol iawn, iawn gweld pwy fydd yn cymryd ei le.

Mae Martin yn nodi ei fod yn rhoi'r gorau iddi am resymau personol. 'Dwi'n hyderu nad oes dim byd difrifol y tu ol i hyn. Mae yna bethau sy'n bwysicach o lawer na gwleidyddiaeth.



Martin a Jane Davidson - ni fydd hithau'n sefyll yn yr etholiad Cynulliad nesaf.

Saturday, October 11, 2008

Mae yna ffwl ar yr awyr


Yn amlwg ddigon 'does gen i fawr o glem beth sy'n digwydd ar Radio Cymru yn y prynhawniau bellach, gan nad ydw i'n mynd ar gyfyl y sianel ar yr adeg hwnnw ers i Jonsi gael rhwydd hynt i rwdlan am dair awr yn gynharach eleni.

Beth bynnag, yn ol fy nghopi cyfredol o Golwg, mae Jonsi wedi cael ei hun mewn ychydig o ddwr poeth wedi iddo wneud 'joc' hiliol ar yr awyr. Wrth gyfeirio at y ffaith bod gofodwr o China wedi cerdded yn y gofod, ymddengys iddo nodi bod 'yna nip yn yr awyr heno'.

Mae'n anodd braidd gweld beth ydi gair sarhaus i ddisgrifio person o Japan i'w wneud gyda'u hen elynion o China - ond gwastraff amser braidd ydi ceisio cysylltu'r gair ystyr efo'r rhan fwyaf o'r llifeiriant nonsens a ddaw allan o geg Jonsi.

'Rwan, 'dwi ddim am ymosod ar Jonsi am ei fod yn hiliol na dim felly - 'dwi wedi amddiffyn Alun Cairns wedi iddo gael ei hun mewn trwbwl am sylwadau tebyg yn y gorffennol. Ond mi fyddwn i'n dweud hyn - os ydi'r BBC yn sensetif i'r math yma o beth, pam rhoi tair awr pob prynhawn i beiriant gwasgaru slyri geiriol fynd trwy'i bethau? Mae damweiniau bach fel hyn yn siwr o ddigwydd.