Friday, October 17, 2008

Polau piniwn Beaufort


Mae fy nghyfaill Ordovicius wedi cynhyrchu tri phost tros y diwrnod neu ddau diwethaf yn ymdrin phol diweddar Beaufort sy'n ymdrin a bwriadau pleidleisio pobl yng Nghymru. Gellir eu gweld yma, yma, ac yma. Ymddengys i Sanddef gael oriau o hwyl di niwed gyda'r Excel.

I dorri stori hir yn fyr mae canfyddiadau'r pol fel a ganlyn ymysg pobl sy'n dweud eu bod yn debygol o bleidleisio:

Etholiad Cynulliad, Llafur 35%, Plaid 25.7%, Toriaid 19.8%, Democratiaid Rhyddfrydol 12.1%.
Etholiad San Steffan, Llafur 38.7%, Plaid 18.3%, Toriaid 23.9%, Democratiaid Rhyddfrydol 12.6%.

Ag ystyried perfformiadau diweddar y Blaid Lafur yn etholiadol bydd y canfyddiadau hyn yn gryn ryddhad iddynt. Roedd eu perfformiad yn yr etholiadau lleol eleni yn wirioneddol drychinebus, ac mae'r canrannau uchod yn awgrymu eu bod wedi adennill tir ers hynny - er bod polau Prydeinig yng nghanol Medi (pan gymerwyd y pol) yn gwbl drychinebus i Lafur. Yn sicr Llafur fydd fwyaf hapus wrth ystyried canfyddiadau diweddaraf Beaufort.

Ond - ac mae yna ond go fawr. 'Dydi record Beaufort ddim yn berffaith o bell ffordd pan mae'n dod i ddarogan etholiadau yng Nghymru.

Er enghraifft yn ystod yr wythnosau cyn etholiadau cynulliad 2007 cafwyd dau bol gan y cwmni - amlinellaf ganlyniadau'r ddau.

Pol 1: Llaf 37%, Dem Rhydd 14%, PC 30%, Tori 14%.
Pol 2: Llaf 36%, Dem Rhydd 13%, PC 26%, Tori 19%.

Y canlyniad oedd:

Llaf 32.2%, Plaid 22.4%, Toris 22.4%, Dem Rhydd 14.8%.

Felly y patrwm yma ydi bod Beaufort yn tan gyfrifo'r bleidlais Doriaidd ac yn gosod pleidlais Plaid Cymru a Llafur yn rhy uchel, ac yn weddol agos ati efo'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'n gyfrinach agored i Blaid Cymru gomisiynu Beaufort i gynnal cyfres o bolau preifat yn y misoedd oedd yn arwain at etholiadau Cynulliad 07. O'r hyn a gofiaf roeddynt fel rheol yn gor gyfrifo'r bleidlais Lafur yn sylweddol, un Plaid Cymru i raddau llai ac yn tan gyfrifo'r bleidlais Geidwadol.

'Rwan, pan mae cwmni polio yn anghywir yn gyson mae yna reswm - a methodoleg diffygiol ydi'r rheswm hwnnw. Mae'n ddrwg gen i os ydi'r isod yn nawddoglyd, ond wrth drafod polau piniwn mae'n bwysig deall sut mae methodoleg llwyddiannus yn dod i fodolaeth.

Mae mwy o lawer i gynnal pol na dod o hyd i 1,000 o bobl a defnyddio cyfrifiannell i droi cyfansymau yn ganrannau. I ddechrau mae'n rhaid dewis sampl sy'n adlewyrchu'r boblogaeth yn gyffredinol o ran lleoliad daearyddol, dosbarth cymdeithasol, cydbwysedd oedran a rhyw ac ati.

Yn anffodus i'r cwmniau polio ceir cymhlethdodau sylweddol. Er enghraifft mae'n ffaith bod rhai mathau o bobl (pobl tros 45 oed er enghraifft) yn fwy tebygol o lawer na rhai eraill i bleidleisio na rhai eraill ac mae'n rhaid i'r cwmniau ddod o hyd i ffyrdd o gymryd hyn i ystyriaeth. Os ydi 60% o'r sawl sy'n ymateb i'r pol yn ferched (ac mae hyn yn digwydd yn aml) ond 52% yn unig o'r etholwyr yn ferched yna mae pob ymateb benywaith yn gyfwerth a 0.87 o bleidlais tra bod pob ymateb gwrywaidd yn gyfwerth ag 1.13 o bleidlais.

'Dwi'n gwybod dim am fethedoleg Beaufort - ac a bod yn deg mae'n ddigon posibl eu bod wedi meddwl yn ofalus am eu methodoleg gan wneud defnydd o ddulliau polio Prydeinig - ond mae'n amhosibl ar hyn o bryd i'r fethodoleg fod yn effeithiol. Y rheswm am hyn ydi nad oes digon o bolio yng Nghymru, ac nad ydi'r polio hwnnw'n cael ei brofi yn erbyn etholiadau go iawn yn ddigon aml. Nid yw'n bosibl i fethodoleg Prydain gyfan weithio yng Nghymru - mae'r proffeil etholwyr yn gwahanol yma.

Mae methodoleg effeithiol yn esblygu tros amser. Er enghraifft gwnaeth MORI smonach o ddarogan canlyniad etholiad maer Llundain yn ddiweddar, gan or gyfrifo y bleidlais Lafur yn sylweddol. Eu damcaniaeth pam bod hyn wedi digwydd ydi bod pobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn fwy tebygol o ymateb i bol piniwn na rhywun sy'n gweithio yn y sector breifat - mae'r bobl hynny hefyd yn fwy tebygol o bleidleisio i Lafur wrth gwrs. Efallai bod damcaniaeth MORI yn gywir, ac efallai nad ydyw - ond y pwynt ydi y bydd yn cael ei phrofi maes o law. Os ydi'r ychwanegiad yma yn gwneud y pol yn fwy cywir y tro nesaf, bydd yn aros fel cydadran o'r fethodoleg. Os na fydd yn gwneud hyn, ni chaiff ei ddefnyddio eto.

'Dwi'n croesawu'r ffaith bod Beaufort yn polio yng Nghymru, a 'dwi'n croesawu'r ffaith bod Plaid Cymru yn comisiynu polau - ond cyn y gall Cymru gael cyfundrefn o bolau credadwy mae'n rhaid cael mwy o lawer o bolau er mwyn i ddiwylliant o bolio effeithiol ddatblygu. Y rheswm nad ydi hyn yn digwydd ydi am nad oes gan y cyfryngau Cymreig fawr o ddiddordeb mewn comisiynu polau. Hyd y bydd hyn yn newid ni fyddwn yn gallu rhoi fawr o goel ar unrhyw bol Cymreig mae gen i ofn.

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Ddaru i mi hefyd drafod hyn ar fy mlog a dwi'n cytuno efo chdi. Yr hyn sy'n peri dryswch i mi ydi pam fod rhywun mor ddeallus ag Adam Price yn ceisio gwneud sbin positif o hyn - nid yn unig ei fod yn sicr yn gwybod pa mor ddiwerth mewn gwirionedd yw'r polau piniwn hyn, ond hefyd sut ddiawl y gellir datgan llwyddiant o aros yn yr unfan, fel y mae'r Blaid yn ei wneud yn ôl awgrym yr arolwg barn?

Alwyn ap Huw said...

Problem Beaufort yw nad ydy'r cwmni yn gwneud arolygon barn gwleidyddol. Mae'r cwmni yn gwneud arolygon marchnata, ategiad i ymholiad am arferion siopa yw'r cwestiynau am fwriad pleidleisio ac mae proffil y siopwr tebygol yn un wahanol iawn i broffil y pleidleisiwr tebygol.

Fe ddefnyddiodd Plaid Cymru cwmni Beaufort i gynnal arolygon cyn etholiad cyffredinol 2005 - arolygon a oedd yn dangos bod y Blaid am adennill Môn yn hawdd ac a fethodd darogan y perygl o golli Ceredigion. Gan fod y cwmni wedi rhoi gwybodaeth mor drychinebus o anghywir i'r Blaid ar yr achlysur yna rhaid gofyn pam bod y Blaid yn parhau i ddefnyddio'r cwmni. Arian, mae'n debyg yw'r ateb, mae cwestiwn ychwanegol ar arolwg marchnata Beaufort yn costio llawer llai na gofyn i MORI gynnal pôl piniwn go iawn.

O ystyried hanes Beaufort o roi mwy o bleidlais i Blaid Cymru a Llafur na'r hyn y maent yn debygol o ennill mae'r pôl yma yn un siomedig iawn i Blaid Cymru a'r Blaid Lafur ac yn weddol galonogol i'r Torïaid sydd wastad yn cael llai o gefnogaeth ym Meaufort nag yn y bwth pleidleisio.

Cai Larsen said...

Alwyn, byddwn yn rhyfeddu petai pwysiad Beaufort yr un peth pan maent yn edrych ar werthiant ffonau symudol neu geir a phan maent yn edrych ar faterion etholiadol.

'Dwi hefyd yn cymryd eu bod yn addasu eu methodoleg o bryd i'w gilydd - er fel y dywedais eisoes 'dwi'n gwybod dim am eu methodoleg.