Showing posts with label Andrew RT Davies. Show all posts
Showing posts with label Andrew RT Davies. Show all posts

Sunday, July 08, 2012

Y Toriaid yng Nghymru a'u harweinydd

Mae'n gas gen i dramgwyddo ar alar preifat, ond gyda chwestiynau amlwg ynglyn ag effeithiolwyr y Toriaid yn y Cynulliad a'u harweinydd yn benodol, aelodaeth y blaid Brydeinig yn syrthio fel carreg a'r polau piniwn yn awgrymu y byddai etholiad Cynulliad heddiw yn rhoi 5 sedd iddynt - yr un faint ag UKIP - dwi'n ei chael yn anodd i beidio a gwneud sylw neu ddau.

I ddechrau byddai cwymp yn aelodaeth y Toriaid i'r un lefel ag UKIP yn y Cynulliad yn arwain at newid sylfaenol yn natur y sefydliad. Ar hyn o bryd mae yna gonsensws digon cyfforddus yn y Cynulliad sy'n bleidiol iddo. 'Dydi hyn ddim yn cynrychioli'r farn gyhoeddus yng Nghymru - mae yna leiafrif sydd o bosibl cymaint a 20% o'r boblogaeth sy'n wrthwynebus i ddatganoli o unrhyw fath. Gallai hynny (yn eironig ddigon) fod yn llesol i ddatganoli - byddai agweddau gwrth ddatganoli yn cael eu cysylltu efo pobl sy'n gwisgo welingtons a blesyrs.

Yn ail mae'r ffigyrau am aelodaeth y Toriaid ym Mhrydain yn codi cwestiynau am aelodaeth y Toriaid yng Nghymru. Ymddengys bod yna tua 177,000 aelod tros y DU - sydd yn ganrannol yn weddol debyg i aelodaeth y Blaid yng Nghymru. Ond mae'r Toriaid yn wanach o lawer yng Nghymru na'r DU yn ei chyfanrwydd. Ni ddatgelwyd faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru yn yr etholiad arweinyddol - yr unig wybodaeth a gafwyd oedd mai 49% a bleidleisiodd a bod Andrew RT wedi cael 52% o'r rheiny. Felly faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru - ydi o'n hanner yr 8,000 sy'n perthyn i'r Blaid?

Nid mater academaidd ydi hyn. Rydym yn gwybod i ymgyrch Boris Johnson yn Llundain orfod talu i gwmniau preifat ddosbarthu eu taflenni mewn ardaloedd sydd ag AS Toriaidd oherwydd nad oedd yna aelodau i wneud hynny. Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Toriaid yng Nghymru yn ymylol - a byddant yn gorfod eu hamddiffyn yn 2015 a 2016. Mae'r cyfryngau torfol am fod o gryn gymorth iddynt yn etholiadau San Steffan wrth gwrs - ond mi fyddan nhw ar eu pennau eu hunain yn 2016.

A daw hyn a ni at fater arall - etholiadau Ewrop yn 2014. Un peth sy'n sicr os ydi ffigyrau polio diweddar yn agos at fod yn gywir ydi y bydd Llafur yn cymryd dwy o'r bedair sedd sydd ar gael yng Nghymru. Golyga hyn y bydd naill ai'r Toriaid, neu'r Blaid neu UKIPyn colli sedd. Rydym (i'r graddau ein bod wedi meddwl am y peth o gwbl) wedi tueddu i gymryd mai'r sedd UKIP fydd yn mynd - nhw oedd y gwanaf o ddigon y tro o'r blaen. Mae ffigyrau YouGov yn agor y posibilrwydd gwirioneddol mai'r sedd Doriaidd fydd yn mynd.

Polau piniwn ydi polau piniwn wrth gwrs - a gall pethau newid. Ond does yna ddim rheidrwydd y bydd pethau'n newid er gwell i'r Toriaid - mae yna lawer o broblemau ar lefel Prydeinig sy'n dechrau hel ar y gorwel - Ewrop (eto fyth), diwygio Ty'r Arglwyddi a dydi effeithiadau'r toriadau diweddar heb eu hamlygu'n llawn eto. Mae yna gysylltiad hynod o agos - nes nag un unrhyw blaid arall ond UKIP - rhwng perfformiad y Toriaid yng Ngymru a Lloegr.

Y peth diwethaf mae'r Toriaid Cymreig ei angen yn yr amgylchiadau sydd ohonynt ydi arweinydd gwan sy'n araf ar ei draed, a sy'n methu ymateb i sefyllfaoedd fel maent yn codi. Dyna sydd ganddynt.

Sunday, March 25, 2012

Yr hyn sydd gan Andrew RT Davies i'w gynnig i Gymru mewn gwirionedd

Hmm, felly mae Andrew RT Davies am i gefnogwyr Plaid Cymru ystyried polisiau ei blaid o.

Mi fyddwch chi'n cofio i'r Toriaid Cymreig orfod canslo eu cynhadledd wanwyn yn Llandudno oherwydd nad oedd yna fawr neb eisiau mynd yno i wrando ar y rwdlan di ddiwedd. Beth bynnag, mae Andrew yn cymryd mantais o'r - ahem - 'rali' - a drefnwyd yn lle'r gynhadledd i ofyn i gefnogwyr y Blaid ystyried y rhyfeddodau sydd gan ei blaid o i'w cynnig.



Tybed am ba bolisiau mae o'n meddwl? - torri cyllid S4C a chyflwyno'r sianel i'r Bib o bosibl, neu'r polisi diddorol o dalu llai i weithwyr cyhoeddus yng Nghymru nag yn Lloegr efallai, neu hwyrach mai meddwl am dorri'r grant uniongyrchol i'r Cynulliad mae o, neu am ymosod ar drefniadau pensiwn canoedd o filoedd o weithwyr y wlad.

Y gwir ydi mai polisi creiddiol y Blaid Doriaidd ar gyfer Cymru ydi un o gynnal ei dibyniaeth ar drefniant cyfansoddiadol sydd wedi methu a methu, a methu, a methu. Methiant parhaol, di ddiwedd ydi'r unig beth sydd gan blaid Andrew RT i Gymru mae gen i ofn.