Sunday, April 15, 2018

Hwre - mwy o newyddion da yn dilyn ail enwi ail Bont Hafren

Gyda dim ond 300,000 o bobl ar hyd a lled y DU yn ddi gartref mae’n amserol iawn bod rhywbeth sy’n galw ei hun yn ‘Gorwel’ yn codi sefyllfa dreuenus y teulu Windsor ac yn awgrymu eu bod angen palas newydd, a hynny yma yng Nghymru.




Go brin y gallai neb wadu bod y teulu anffodus yma angen annedd arall, ac yn wir go brin y gallai unrhyw un wadu y byddai talu am balas bach o’r pwrs cyhoeddis yn symbol pwysig o ymroddiad Cymru i gyfiawnder cymdeithasol.  Meddyliwch am y peth am funud - ar hyn o bryd dim ond Buckingham Palace, Clarence House, Kensington, St James’, Castell Windsor, Hollyrood House, Hillsborough, Sandringham, Anmer Hill, Balmoral, Royal Lodge, Bagshot Park, Thatched House Lodge, Highgrove, Llwynywermod, Tamarisk,  Gatcombe Park, Craigavon Lodge a Delnamph Lodge sydd ar gael i’r teulu anffodus yma.  A pheidiwch a meddwl bod y tai yma’n fawr chwaith - 775 ystafell yn unig sydd yn Buckingham Palace.

Y cwestiwn mawr wrth gwrs ydi ble y dylid lleoli’r balas newydd?   Yn naturiol ddigon bydd rhaid ei roi yn y De - fel pob dim arall.  Fy awgrym i ydi rhywle rhwng Caerdydd ac Abertawe.  Petai Caerdydd ac Aston Villa yn cael dyrchafiad i’r uwch gynghrair, a phetai Abertawe yn aros i fyny - byddai rhywle fel Parc Margam yn leoliad ardderchog i’r Tywysog William aros pan mae  ei hoff dim pel droed yn chwarae yn erbyn un o’r dinasoedd Cymreig.  Mae rhywbeth hyfryd am yr hapusrwydd bachgenaidd mae’n ei arddangos yma pan gurodd y tim o Ganolbarth Lloegr dim prif ddinas Cymru yn ddiweddar.



No comments: