Friday, November 10, 2017

Beth mae'r helynt Carl Sargeant yn dweud wrthym am y Blaid Lafur Gymreig

Reit mae hon yn un dipyn bach mwy sensitif nag arfer – ond byddai’n well i ni ddweud gair neu ddau mae’n debyg gen i.


Mae marwolaeth annisgwyl yn naturiol yn ennyn ar deimladau cryf – a mynegiant o’r teimladau hynny – a dyna sydd wedi digwydd yn sgil hunan laddiad Carl Sarjeant yn gynharach yr wythnos yma.  Ond mae digwyddiadau sydd yn ennyn ar deimladau cryf hefyd yn tueddu i daflu goleuni i gorneli sydd ddim yn gweld y golau yn aml – ac mae hyn wedi digwydd yma hefyd.




Y peth pwysicaf sydd wedi dod i’r amlwg ydi bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn cuddio holltau ers talwm, a bod yr holltau hynny wedi ffrwydro i’r wyneb yn sgil digwyddiadau diweddar.

Cafwyd rhai o bwysigion Llafur yn mynd ati i wneud i Carwyn Jones yr hyn mae rhai ohonynt yn ei gyhuddo yntau o wneud i Carl Sargeant – ei gael yn euog cyn bod unrhyw ymchwiliad wedi digwydd.


Mae Leighton Andrews wedi ail ymddangos ar y ffurfafen wleidyddol i ddweud wrthym am awyrgylch wenwynig a bwlio oddi mewn i Lywodraeth Cymru a bod Carl Sargeant wedi cael ei dargedu ac nad oes trefn addas i ymchwilio i mewn i gwynion gan y Llywodraeth.  Roedd hefyd yn dweud bod Carwyn Jones yn ymwybodol bod Carl Sargeant yn fregus.  Gan nad yw Leighton Andrews yn Weinidog nag yn wir yn wleidydd Llafur bellach mae’n rhydd i siarad, a ‘dydi Carwyn Jones ddim mewn lle i ddial arno na’i niweidio.  Mae'n eithaf sicr bod Leighton Andrews yn siarad tros nifer sydd mewn sefyllfa sy'n 

ei gwneud yn llawer anos iddynt ddweud eu dweud.  


Rydan ni wedi clywed cryn dipyn tros y dyddiau diwethaf o ganmol rhagoriaethau Carl Sargeant fel gweinidog, gydag Alun Michael yn mynd ati i’w ddisgrifio fel un o’r gweinidogion mwyaf effeithiol iddo ddod ar ei draws yng Nghaerdydd nag yn wir Llundain.  Dydan ni ddim wrth gwrs bellach yn clywed nag yn debygol o glywed fawr ddim am yr honiadau yn ei erbyn.  


Tra bod marw yn ffordd wych o gael ein dyrchafu i’r cymylau a chael pobl i anghofio eich gwendidau – gwir neu dybiedig -mae’n amlwg bod o leiaf rhywfaint o’r canmol a’r clodfori yn ymysodiadau anuniongyrchol ar Carwyn Jones a’i arweinyddiaeth.  Mae’r hollti yn y Blaid Lafur Gymreig yn cael ei arddangos trwy brism ymatebion i ddigwyddiadau anffodus yr wythnosau diwethaf.


Ac mae’n debyg bod dimensiwn arall i’r gwrthwynebiad i Carwyn Jones – sef yr hollt rhwng dilynwyr Corbyn a’r sefydliad Llafur yn y DU, ac mae’n debyg bod y ffaith i Corbyn ddewis peidio a chefnogi Carwyn Jones yn adlewyrchu hyn.  Byddai Corbinistiaid Llafur wrth eu boddau petai ganddynt lywodraeth i’w rheoli yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf.  


Felly mae sefyllfa Carwyn Jones yn fwyaf sydyn yn hynod wan, gyda holltau sydd wedi bodoli ers talwm yn cael eu dinoethi’n gyhoeddus.  Mae’n fwy na phosibl na fydd Carwyn Jones yn arwain Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y gwanwyn – ac mae’n fwy tebygol hyd yn oed na fydd Theresa May chwaith yn arwain Llywodraeth y DU.  Mae’n debyg y bydd y flwyddyn nesaf yn rhoi llechen lan i ni yn y ddau ddeddfwrfa.  

2 comments:

Y Cneifiwr said...

Mae yna sawl dirgelwch i'w datrys yma, gan gynnwys natur 'Welsh Labour'. Doedd dim dewis ganddo, meddai Carwyn, ond cyfeirio'r mater at Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru, sef Lisa Magee sy'n byw yn Sutton, Surrey.

Cai Larsen said...

Wel ia - ac mae o'n dipyn o gyd ddigwyddiad bod CS yn cael y sac yn yr un wythnos a mae Carwyn Jones yn ail wampio ei gabinet.