Sunday, November 01, 2015

Hwre, adeilad yn 80 oed

Mae'r blog yma eisoes wedi tynnu sylw at arfer anymunol y Bib i ddwyfoli pobl sydd wedi gweithio i'r Bib - neu sydd yn gweithio i'r Bib - ar achlysur eu marwolaeth.  Gweler yma er enghraifft.  Mae'r arfer yma wedi goroesi nifer o benodau bach hynod anymunol - megis y clodfori gorffwyll o'r diweddar Jimmy Savile pan fu hwnnw farw, a'r cynllunio i ryddhau nifer o raglenni oedd i'w glodfori a'i ganmol hyd yn oed wedi i'r manylion anymunol am ei fywyd preifat ddechrau dod i'r wyneb.



Ta waeth - mae BBC Cymru wedi penderfynu mynd un cam ymhellach.  Os ydi gwefan newyddion Cymreig y gorfforaeth i'w chredu yr ail beth pwysicaf i ddigwydd yng Nghymru heddiw ydi bod adeilad o'u heiddo yn cael ei benblwydd yn 80 oed.

Mae'n debyg y gallwn edrych ymlaen i fwy o orffwylledd hunan bwysig fel hyn tros y blynyddoedd nesaf.  Mae'r Bib yn gweld ei hun fel darlledwr gwladwriaethol - ac felly fel endid a ddylai fod yn hynod bwysig a dylanwadol - yn ganolbwynt i fywyd y genedl.  Yn anffodus i'r Bib mae newidiadau technolegol, cyllidol, cymdeithasegol a gwleidyddol wedi glastwreiddio'r pwysigrwydd hwnnw yn sylweddol tros  y blynyddoedd diwethaf.  

Ond peidiwch a disgwyl i hynny arwain at ymddygiad mwy gwylaidd - i'r gwrthwyneb.  Fel y bydd pwysigrwydd gwirioneddol y Bib yn edwino, bydd y temtasiwn i ffugio pwysigrwydd trwy gyfrwng hunan ganmol yn cynyddu.

A chyn i mi dderbyn cwynion (anaml iawn y bydd Blogmenai yn derbyn cwynion ag eithrio pan mae'n beirniadu BBC Cymru), does gen i ddim byd yn erbyn unrhyw un sy'n gweithio wasanaeth newyddion a materion cyfoes y Bib - mae rhai'n gwneud joban dda iawn, mewn cyd destun anodd os nad amhosibl. Ond mae'r ffordd mae'r gorfforaeth yn canfod y Byd yn strwythurol, sefydliadol, Brydeinig,  ac mae'r rhagfarnau mae'r canfyddiad hwnnw yn esgor arnynt yn cael effaith negyddol ar ei hymdriniaeth o wleidyddiaeth a bywyd yng Nghymru - ac yn y gwledydd Celtaidd eraill.  

4 comments:

Anonymous said...

Yn rhyfedd iawn, mae Gwilym Owen yn beirniadu darpariaeth Y BBC yn Golwg yr wythnos yma, gan honni fod darpariaeth 'Y Dydd' cyn dyfodiad S4C yn rhagori ar y raglen gyfatebol ar y pryd ar BBC Cymru. Pryd oedd y tro olaf i chdi a fo roi neges (weddol) debyg ?

Cai Larsen said...

Mae o'n edrych weithiau fel petaen ni'n cytuno ar faterion darlledu - ond dydan ni ddim mewn gwirionedd. Beio unigolion am feipthiannau'r Bib mae GO. Dydw i ddim yn beio unigolion - diwylliant sefydliadol y gorfforaeth yng Nghymru ydi fy mhroblem i.

Unknown said...

Tybed ydy hi yn amser i BBC Cymru ddefnyddio y parth .cymru yn hytrach na co.uk trwy'r amser.

Unknown said...

Mae pobl rhagorol iawn iawn wedi gweithio i'r BBC yng Nghymru dros y blynyddoedd, ac yn aml cael eu hun yn mynd ben ben yn erbyn sefydliad y Gorfforaeth, fel y gwn i o mhrofiad personol. Fel arall y mae rhai, mae'n wir, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar yr ochr Saesneg. Gwas i'w meistri yn Llundain fu'r BBC yma erioed, ac ni welaf newid gwirioneddol nes ennill annibyniaeth o reolaeth Seisnig.