Dwi'n gwybod ei bod yn draddodiadol yn y Gymru sydd ohoni i fod mor besimistaidd a phosibl ynglyn a dyfodol yr iaith - ond ydi'r bennawd yma'n mynd ychydig yn rhy bell dywedwch?
Mae'n arwain stori am gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl a chynnydd mwy yn y nifer o siaradwyr sy'n siarad y Gymraeg ond yn methu gwneud hynny 'n rhugl ers 2004 - 2006. Oherwydd y cynnydd anghyfartal mae'r ganran sy'n siarad yr iaith yn rhugl mewn cymhariaeth a chyfanswm siaradwyr Cymraeg yn gostwng. Ond y stori sylfaenol ydi bod y nifer a'r ganran sy'n siarad y Gymraeg wedi cynyddu - yn eithaf sylweddol.
Wir Dduw mae yna ddigon o newyddion drwg heb fynd ati i greu mwy.
5 comments:
ond pa ots faint sy'n 'gallu' siarad Cymraeg os nad YDYN nhw? Mae unrhyw ostyngiad yn niferoedd y siaradwyr rhugl yn destun pryder.
Does yna ddim gostyngiad yn nifer y siaradwyr rhugl, cynnydd sydd yna. Ond mae'r pennawd yn cuddio hynny.
ia, sori, dw i ddim yn siwr pam wnes i gamdeall. Dal yn bryder bod gostyngiad wedi bod yn y cadarnleoedd.
Dwi methu cael gafael ar y data amrwd - felly mae'n anodd dod i gasgliadau pendant am yr is straeon sy'n deillio o'r ymarferiad.
Mae'r data llawn.ar gael yma: http://gov.wales/statistics-and-research/Welsh-language-use-survey/?lang=cy
Post a Comment