Wednesday, November 25, 2015

Clec arall i S4C

Felly mae'r rhan o gyllideb  S4C sy'n dod gan lywodraeth San Steffan yn lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2019/20 - cwymp  o 26%.  Rydan wedi cael y newyddion da o lawenydd mawr yma ar ddiwrnod pan rydym hefyd wedi clywed bod George Osborne wedi dod o hyd i £23bn nad oedd yn gwybod bod ganddo ac wedi mynd ati i gynyddu gwariant ar yr heddlu, 'amddiffyn' a chael gwared o'r toriadau mewn credydau treth.  Byddai arbed S4C rhag y toriad  wedi costio 1/13,530 o'r £23bn.



Mae £1.7m yn bres mawr i S4C, ond dydi o ddim mewn gwrionedd.  Cymharwch y ffigyrau hyn efo'r gwariant canlynol dwi wedi eu dewis ar fympwy.

Bomio Libya a'i throi'n wladwriaeth sydd wedi methu -  £320m
Bwydo'r cannoedd o Arglwyddi yn Nhy'r Arglwyddi - £1.3m.
Treuliau'r 650 Aelod Seneddol - £103m (2013)
Y gost o addasu RAF Voyager A330 at ddefnydd David Cameron -  £10m.
Cost tebygol uwchraddio adeilad San Steffan £5.7bn.
Gwir gost y teulu brenhinol £334m y flwyddyn (pan ystyrier diogelwch, incwm a gollir i'r trysorlys ac ati).
'Amddiffyn' Ynysoedd y Malvinas - £75m (2010 - mwy erbyn heddiw). 

Rwan dydi'r £1.7m o doriad mae S4C yn gorfod ei gymryd yn ddim byd yng nghyd destun gwariant cyhoeddus y DU.  Bydd hwnnw tua £760bn y flwyddyn nesaf.  Wrth ymyl gwariant felly  dydi £1.7m ddim hyd yn oed cyn gryfed a phiso dryw yn Llyn Padarn.  Ond mae mae'r toriad yn mynd rhagddo  beth bynnag - yn ol pob tebyg ar argymhelliad gwas sifil sydd yn ystyried gwariant ar ddarlledu cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth isel iawn.  

Ac o'i safbwynt o mae'n flaenoriaeth isel iawn wrth gwrs - does yna ddim gwahaniaeth iddo rhwng darlledu Farsi a darlledu Cymraeg.  Ond o'n safbwynt ni yng Nghymru - os ydan ni'n siaradwyr Cymraeg neu beidio - mae'r iaith yn rhan creiddiol o'n hunaniaeth.  Ac o ganlyniad mae'r strwythurau sy'n ei chynnal yn bwysig.  Mae felly'n amhriodol bod penderfyniadau pwysig ynglyn ag ariannu'r strwythurau hynny'n cael eu cymryd gan bobl sy'n gwbl ddi hid am y Gymraeg.  Dylai dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg gael ei gymryd gan bobl sy'n deall ei bwysigrwydd i Gymru.  Nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.  




Mae'n weddol amlwg y dylai  darlledu yn ei gyfanrwydd gael ei ddatganoli i Gymru - ond wnaiff hynny ddim digwydd am reswm sy'n ddim oll i'w wneud a Chymru.  Byddai datganoli'r gyfrifoldeb honno i Gymru yn ei gwneud yn anodd cyfiawnhau peidio a'i datganoli i'r Alban - a dydi hynny ddim am ddigwydd am resymau amlwg.




No comments: