Wele'r is etholiadau a gynhalwyd ers etholiadau'r cyngor yn 2012. Aeth un sedd yn wag - Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog - ond dychwelwyd aelod o Blaid Cymru yn ddi wrthwynebiad i gynrychioli'r ward honno.
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEhhFKFv1U9EfXGor-uwMfT5YbWJNYoKAoEgQ4BWsu2lmh22Za_sxKEwgSM77bRieRLupQtU82lymCGQeAOeVFWCIt_3CrRl5fK26wgkSrM81iULxRMiZ2ECCs0hCbsn5N4NA7kg/s640/blogger-image--2030627976.jpg)
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEgiCM8qgpTQKq4E3E0-fpIFVJkR82D78cZr3d-A0dl7h1Zg2T2J8O2B0gJiKPzxp64gzBZNss52rJZA68QyKL5v-2Dm3ZRgxKOPR4GLMARriHXDjHnK8s4XWhgmBEolkX4V1qAk/s640/blogger-image-2012727793.jpg)
Eto mae patrymau eithaf clir i'w gweld. Dim ond Plaid Cymru sy'n gallu dod o hyd i ymgeiswyr ym mhob rhan o'r sir. Mae'r Blaid yn gyntaf neu'n ail ym mhob is etholiad ac yn cael rhwng 27% a 72% o'r bleidlais. Ail ydi lleoliad gorau Llais Gwynedd ac mae eu canran uchaf nhw 28.08% yn debyg iawn i ganran isaf Plaid Cymru - 27.13%. Mae eu hamrediad o 7% i 28%. Dwy waith allan o chwech mae Llafur wedi dod o hyd i ymgeisydd, er iddynt ennill un etholiad a dod yn ail yn y llall. Amrediad o 10.2%
i 42.4% sydd gan yr Annibynnwyr - enillwyd un sedd ganddynt o fewn ychydig wythnosau i etholiad 2012. Fel arfer 'dydi 'r Toriaid ddim yn ystyried Gwynedd yn ddigon pwysig i drafferthu a hi ar lefel lleol, a wnawn ni ddim son am y Dib Lems am resymau sy'n ymwneud a charedigrwydd naturiol awdur y blog.
Mae'n edrych fel petai'r Blaid yn adeiladu at sefyllfa lle gallant ddominyddu'r cyngor nesaf (ar ol 2017) mewn ffordd nad yw wedi llwyddo i wneud o'r blaen. Mae'n gyfrinach lled agored bod nifer o'r grwp Annibynnol yn agos at Blaid Cymru yn wleidyddol - a bydd yn ddiddorol i weld beth y byddant hwy yn ei wneud rhwng rwan a 2017, o weld y ffordd mae'r gwynt gwleidyddol yn chwythu yng Ngwynedd.
Dyddiau difyr.
1 comment:
Plai Cymru yn cryf ar Cyngor Gwynedd yn difyr! Na! Na! Diflas
Post a Comment