Friday, June 19, 2015

Y Toriaid a gwariant ar drwsio senedd-dai

 Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio'r ffasiwn stad y cafodd y Toriaid Cymreig nhw'i hunain ynddo pan benderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol gomisiynu adeilad newydd i fod yn gartref i'r Cynulliad newydd.  Roeddynt yn dadlau bod y gwariant o £100m yn  llawer rhy uchel, ac yn dadlau bod gan y sefydliad gartref hen ddigon da eisoes - yr anghenfil brics coch sydd yn sownd i gefn yr adeilad newydd  hyd heddiw. 





Doedd y ffaith bod mwy o lawer yn cael ei wario tua'r un pryd ar Portcullis House - bloc o swyddfeydd i Aelodau Seneddol yn San Steffan - yn poeni dim arnynt, nac yn achosi unrhyw embaras iddynt.  Mae'r cysyniad ei bod yn iawn gwario yn ddi ben draw ar y senedd 'go iawn' yn San Steffan, tra bod unrhyw wariant ar y 'ffug' senedd yng Nghaerdydd wedi ei wreiddio yn dwfn yn y ffordd mae'r Toriaid Cymreig yn canfod y Byd.  Felly roedd pobl fel Rod Richards, Nick Bourne a David Davies yn myllio'n ddi ddiwedd bod Cymru yn gwario ar adeilad i leoli ei senedd.

Ac nid prynu adeilad yn unig oedd yn eu poeni - o na.  Mae gwariant ar yr adeilad hefyd yn broblem.  Yn wir roedd David Davies - ac yntau wedi cael dianc o Fae Caerdydd am borfeydd brasach San Steffan erbyn hynny - yn outraged bod £3.2m wedi ei wario ar uwchraddio rhan o'r adeilad tros un haf.  Ei union eiriau oedd:

 I find it outrageous that Ministers in the Welsh Government feel it is appropriate to refurbish their own offices at great expense at a time when, for understandable reasons, cuts are having to be made in public spending.
This sets a very poor example to public sector bodies which are all in the position of having to cut back and prioritise where they spend their money.


A rwan dyma'r newyddion yn dod am y bil uwchraddio / cynnal a chadw yr honglad mawr hyll o adeilad neo Gothaidd sy'n gwbl anaddas i bwrpas  sy'n gwasanaethu fel deddfwrfa'r DU.  Y gost - arhoswch amdani - ydi hyd at  £7.1bn - ia na chi - biliwn nid miliwn.  Mae'r ffigwr yn un mawr - ond i gael rhyw syniad ohono ystyriwch hyn - mae'n swm uwch nag ydi cost y Gwasanaeth Iechyd yn ei gyfanrwydd yn ei gostio yng Nghymru am flwyddyn.





Yr ateb ariannol gyfrifol - y math o beth mae Toriaid yn ei hoffi - i ddyfynbris o'r math yma ydi chwalu'r lle a symud i rhywle arall.  Mae tir adeiladu yn ardal Westminster ymysg y tir drytaf yn y Byd.  Mae'n costio tua £93,300,000 yr hectar.  Mae Palas San Steffan yn sefyll ar 40 hectar - mae'r tir werth £3.73bn.  Mae yna dir adeiladu yn Llundain i'w gael am cyn rhated a £8m yr hectar.  Byddai safle o'r un maint yn costio £320m yn Barking er enghraifft.  Petai'r senedd yn symud o Lundain gellid cael tir am tua £1.5m yr hectar ym Mirmingham - a gellid prynu'r safle am £60m.  Neu wrth gwrs mae yna pob math o lefydd eraill diddorol - Cannock Chace er enghraifft lle mae tir adeiladu yn costio £725,000 yr hectar - gellid prynu'r safle am £30m.  Mi fyddai unrhyw un o'r trefniadau amgen hyn yn caniatau i 'r wladwriaeth brynu tir, codi senedd newydd sydd efo digon o le i'r holl aelodau seneddol eistedd yno a gadael celc o bres wrth gefn i fynd tuag at dalu'r ddyled genedlaethol yn hytrach na gorfodi'r trethdalwr i ddod o hyd i tros i £7bn.




Dwi'n siwr felly y bydd y Ceidwadwyr Cymreig ar flaen y gad i berswadio'r llywodraeth i beidio a chwythu £7.1bn ar adnewyddu tysteb i ddiffyg chwaeth pensaerniaeth Fictorianaidd. A dwi'n siwr y bydd David Davies yn arwain y Toriaid Cymreig yn hyn o beth.  Os oedd gwario £3.2m ar adnewyddu'r Cynulliad yn cymaint o stwmp arno, mae'n rhaid y byddai talu 2,200 o weithiau c cymaint a hynny ar rhywbeth y gellid gwneud elw arno yn ei anfon i fedd cynnar.

*Ymddiheuriadau am yr amrywiol ffontau - problemau technegol fel mae'r dywediad yn mynd.

No comments: