Sunday, February 22, 2015

Paradocs y polau a'r marchnadoedd betio

Dwi wedi 'dwyn y delweddau hyn o wefan arbennig Mike Smithson, .  http://www2.politicalbetting.com. Mae'r wybodaeth wedi dyddio rhyw fymryn -mae dau bol wedi eu cyhoeddi ddoe.  Un yn rhoi Llafur ar y blaen, a'r llall yn rhoi'r Toriaid ar y blaen.

Ond mae pwynt Mr Smithson yn sefyll - mae mwyafrif llethol y polau yn awgrymu mai Llafur fydd a blaid fwyaf o'r ddwy (tra na fydd y naill blaid na'r llall yn cael mwyafrif llwyr), ond mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu'n glir mai'r gwrthwyneb fydd yn digwydd.  Mae yna sawl rheswm posibl am hyn - awgrymaf un neu ddau isod.

1). Toriaid yn betio efo'u calon.  Mae gan Doriaid at ei gilydd fwy o bres na Llafurwyr, ac mae'n bosibl eu bod yn betio mewn modd afresymegol.  Ceir rhywfaint o dystiolaeth i hyn ddigwydd yn 2010.  Roedd y marchnadoedd yn disgwyl mwyafrif clir Toriaidd dri mis cyn yr etholiad.

2).  Disgwyliad yn y farchnad y bydd rhywfaint o'r bleidlais UKIP yn mynd at y Toriaid pan fydd y rheiny yn gwneud mor a mynydd o'u haddewid am refferendwm ar Ewrop.  Does yna ddim llawer o dystiolaeth polio y bydd hyn yn digwydd, ond mae'n bosibl.

3).  Polio preifat.  Mae yna gryn dipyn o bolio cudd yn mynd rhagddo - y rhan fwyaf ohono ar ran pleidiau gwleidyddol.  Mae'n bosibl bod rhai o'r rheiny yn dweud stori sy'n wahanol 'r stori a ddywedir gan y polau cyhoeddus - a bod y wybodaeth yna'n gwneud ei ffordd at dylent  sy'n betio.  

4). Betwyr yn gwneud gormod o gyflafan debygol yr Alban.  Mae Llafur yn debygol o golli llond trol o seddi yn yr Alban, ond os ydynt yn cael mwy o bleidleisiau na'r Toriaid tros y DU na'r Toriaid, byddant yn cael mwy o seddi na nhw beth bynnag.  Yn wir dylent gael mwy o seddi na'r Toriaid os ydynt yn cael 2% yn llai o seddi na nhw.

5). Canfyddiad y bydd persenoliaeth Ed Miliband yn datblygu i fod yn bwnc etholiadol, ac y bydd hynny'n cael effaith negyddol ar gefnogaeth Llafur.  Mae yna for o dystiolaeth polio nad ydi Mr Miliband yn apelio at drwch yr etholwyr - hyd yn oed cefnogwyr ei blaid ei hun.

6). Y gwelliant diweddar yn ffigyrau polio'r Blaid Werdd.  Hyd yn hyn mae Llafur wedi cael y rhan fwyaf o'u cynnydd mewn poblogrwydd ers 2010 o gyfeiriad y Lib Dems.  Byddai perfformiad cryf gan y Blaid Werdd yn cau'r ffynhonnell yma yn rhannol.  

7). Patrwm hanesyddol sy'n awgrymu bod plaid sy'n llywodraethu'n ennill rhywfaint o gefnogaeth fel mae etholiad yn dynesu. 




No comments: