Saturday, February 14, 2015

Pam y gallai'r tro hwn fod yn wahanol

Rhyw siarad wrth ganfasio oedd rhai ohonom wrth ganfasio Mynydd Llandygai y bore 'ma am ragolygon y Blaid ym mis Mai.  Mae etholiadau cyffredinol yn tueddu i fod yn anodd i'r Blaid wrth gwrs - yn draddodiadol dyma 'r etholiadau lle mae canran y Blaid o bleidleisiau ar ei isaf.  Ond mae yna le i gredu y gallai - gallai - pethau fod yn wahanol y tro hwn.  Dyma pam:

1). Mae'r papurau newydd wedi llywio'r naratif etholiadol mewn etholiadau cyffredinol.  Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru'n cael eu newyddion o bapurau Seisnig.  Golyga hyn fod llawer o Gymry yn edrych sr etholiadau cyffredinol trwy lygaid Seisnig.  Mae yna lawer llai o bobl yn darllen papurau newydd heddiw nag oedd yna yn 2010.

2). Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu penderfynu bron yn ddi eithriad gan ystyriaethau economaidd - ac mae'r Blaid yn ei chael yn anodd i gael ei phig i mewn i'r dadleuon hynny yn aml.  Mae pethau'n wahanol y tro hwn. Mae Llafur a'r Toriaid a'r Dib Lems yn yr un cwch economaidd i'r  graddau eu bod o blaid parhau efo toriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus - er nad i union yr un graddau.  Mae yna ddwr clir economaidd rhwng y Blaid a chwch llymder - ac mae'r toriadau yn effeithio'n sylweddol ar lawer iawn o bobl. 

3). Gan amlaf dydi llawer o bobl ddim yn cymryd llawer o sylw o neges y Blaid yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol oherwydd nad ydi hi'n debygol o fod mewn sefyllfa i weithredu ar y neges honno ar ol yr etholiad.  Unwaith eto mae pethau'n wahanol y tro hwn.  Mae disgwyliad cyffredinol bron y bydd yna senedd grog - ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu bod y tebygolrwydd o senedd felly yn uwch na 80%.  Mae cefnogaeth yr SNP yn y polau a pherthynas agos draddodiadol y Blaid efo'r SNP yn helpu 'r canfyddiad bod cyfle go iawn i'r Blaid wireddu ei hamcanion.

4).  Mae'r ffaith bod Plaid Cymru a'r SNP am gael cyfle i gymryd rhan yn y dadleuon teledu hefyd yn cynnig cyfle euraidd - cyfle i osod y Blaid ynghanol y ddisgwrs etholiadol.  Mi fydd cynrychiolwyr y prif bleidiau unoliaethol yn edrych yn debyg i'w gilydd - o ran eu neges ac o ran pwy ydyn nhw - dynion canol oed cyfoethog iawn o Dde Ddwyrain Lloegr - ac o ran eu cefnogaeth i doriadau llym mewn gwariant cyhoeddus.  Bydd rhaid i'r Bib a Sky roi sylw i gyfraniadau Leanne a Nichola Sturgeon yn eu bwlitinau newyddion i'r dadleuon os ydyn nhw eisiau gwneud hynny neu beidio.  

5). Gyda chynnydd yng nghefnogaeth y Blaid Werdd ac UKIP mi fydd y bleidlais unoliaethol yn hollti bum ffordd yn lle tair y tro hwn.  Mi fydd UKIP yn effeithio'n negyddol ar un gydadran o'r bleidlais Lafur tra bydd y Gwyrddion yn atal pleidleisiau rhag mynd oddi wrth y Dib Lems i Lafur.  

6).  Dydi'r Blaid Lafur yng Nghymru ddim wedi arfer cael eu beirniadu - mae'r cyfryngau Cymreig yn ffyddlon iawn iddyn nhw.  Mi fydd y papurau Toriaidd yn ymosod gydag arddeliad hysteraidd y tro hwn oherwydd eu bod eisiau creu naratif o fethiant gan Lafur yng Nghymru, a honni y byddai Llafur yn methu llywodraethu Lloegr hefyd.  Bydd llawer o'r feirniadaeth (er nad y cyfan) yn anheg, ond bydd yn effeithio ar bleidlais Llafur yng Nghymru er gwaethaf hynny.  

Mae'r pedwar pwynt cyntaf yn ymwneud ag un gair mewn gwirionedd - perthnasoldeb.  Mae cyfle i'r Blaid fod yn gwbl berthnasol ddisgwrs etholiad cyffredinol am y tro cyntaf erioed.  Dydi'r polau ddim yn dangos symudiad mawr i gyfeiriad y Blaid ar hyn o bryd, ond mae'r tirwedd etholiadol yn fwy ffafriol i'r Blaid nag yw erioed wedi bod.  Mae  yna lawer iawn o waith i'w wneud cyn mis Mai - ond mae yna gyfle gwirioneddol yno i sicrhau canlyniad hanesyddol.  

No comments: