Sunday, June 15, 2014

Mwy o anghysondeb gan Lafur

Mae'n ddiddorol bod Owen Smith yn dweud y dylid ymddiried yn y cynghorau i arwain ar ail strwythuro llywodraeth leol yng Nghymru ychydig ddyddiau wedi i Carwyn Jones ddweud rhywbeth oedd yn swnio'n debyg iawn i'r gwrthwyneb.

Rwan mae'n weddol amlwg na fydd llawer o ddim byd yn newid os mai'r cynghorau sy'n arwain y ffordd - mae'r sefyllfa fel ag y mae er budd i gynghorwyr ac i swyddogion cyngor, ond ddim i fawr neb arall.  Dydi cynghorwyr ddim am gytuno i drefn lle mae yna lai o gynghorwyr a dydi swyddogion ddim am gytuno i drefn lle mae yna lai o swyddogion.  Os ydi Owen Smith yn credu bod ei argymhelliad am arwain at newid yna mae'n disgwyl i fodau dynol ymddwyn mewn ffordd sy'n groes i'r natur ddynol.  Ond dydi'r dyn ddim mor wirion wrth gwrs.

Mae'n rhaid edrych ar y sefyllfa yn ehangach i ddeall pam bod Llafur Cymru yn siarad o ddwy ovhr ei cheg ar yr un pryd.  Mae'n adlewyrchu'r tyndra mae datganoli wedi ei greu yn rhengoedd y Blaid Lafur Gymreig.  Mae Carwyn Jones ac aelodau Llafur y Cynulliad am gael eu barnu yng ngoleuni methiant llawer o gynghorau yng Nghymru - felly maent eisiau newid pethau.  Dydi'r Blaid Lafur yn San Steffan ddim yn gorfod poeni am hynny, ond maent yn poeni bod pwysigrwydd aelodau'r Cynulliad yn cynyddu tra bod eu pwysigrwydd nhw eu hunain yn edwino.  Ar rhyw olwg mae'r gwrthdaro rhwng aelodau Llafur yn y Cynulliad ac yn San Steffan yn zero sum game - os ydi'r naill yn ennill grym neu ddylanwad yna mae'r llall yn ei golli.  Gwelwyd adlewyrchiad arall o'r hollt yma yng nghyd destun trethiant yn ddiweddar - Llafur yn cyflwyno dwy neges hollol wahanol.

Mae arwyddocad arbennig i anghysondeb y dyddiau diwethaf  - dydi hi ddim yn glir eto os mai gwrth ddatganolwyr San Steffan 'ta aelodau Llafur y Cynulliad (sydd at ei gilydd yn gefnogol i fwy o ddatganoli) sydd am ennill y dydd.  Ond bydd pwy bynnag sy'n cael y maen i'r wal yn gwneud hynny trwy ennill cefnogaeth actifyddion Llafur ar lawr gwlad - ac un ffordd effeithiol iawn o wneud hynny ydi trwy blesio eu cynghorwyr.  Mae ymyraeth Owen Smith yn siwr o blesio cynghorwyr Llafur mewn ardaloedd fel Merthyr a Blaenau Gwent.

No comments: