Thursday, June 12, 2014

Enwebiaeth Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor

Mae'n debyg nad ydi pwy a ddewisir gan Llais Gwynedd i ymladd etholiad Cynulliad Meirion Dwyfor yn 2016 yn ddim o fy musnes i, ond mi wna i sylw neu ddau beth bynnag.

Yn gyntaf mae yna rhywbeth bisar yn yr honiad gan rai o gefnogwyr Louise bod peidio a dewis rhywun sydd ddim yn siarad y Gymraeg yn dda iawn yn 'hiliol'.  Mae'n un o nodweddion mwyaf blinderus y Gymru gyfoes bod y cyhuddiad o hiliaeth yn cael ei daflu yn aml gan bobl sydd wedi methu  cael rhywbeth neu'i gilydd  a'u bod yn priodoli hynny i'w hanallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r agweddau 'swyddogol' tuag at hiliaeth - y rhai mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu derbyn i rhyw raddau neu'i gilydd erbyn heddiw - yn cael eu llywio i raddau helaeth gan ddeddfwriaeth gwrth hiliaeth a ddaeth i fodolaeth yn y 60au, 70au a 2010.  Pwrpas y ddeddfwriaeth  oedd gwneud yr anffafriaeth cyffredinol ac anymunol a ddangoswyd tuag at bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol yn anghyfreithlon.  Mewn geiriau eraill roedd yn amddiffyn pobl oedd a'u gwreiddiau y tu allan i'r DU rhag deilliannau agweddau oedd wedi gwreiddio'n ddwfn mewn cymdeithas yn y DU.  Ac eto mae rhai pobl sydd a'u hagweddau gwaelodol wedi eu gwreiddio yn y gymdeithas honno yn defnyddio'r term i ddadlau y dylent hwy eu hunain gael eu penodi i swyddi nad oes ganddynt y cymwysterau ar eu cyfer, ac y dylent gael mantais mewn prosesau fel yr un sydd wedi gwrthod gwasanaethau Louise.  Wnewch chi byth bron glywed y bobl hyn yn cwyno am hiliaeth sydd wedi ei gyfeirio at bobl o'r tu allan i'r DU.  Yn wir mae yna rai ohonyn nhw yn byw yng nghefn gwlad Cymru oherwydd bod yr ardaloedd hynny yn gwbl 'wyn' o ran ethnigrwydd eu poblogaeth..

Dwi wedi bod i fwy o hystings etholiadol - y digwyddiadau lle dewisir ymgeiswyr gan bleidiau - yn amlach na sy'n ddoeth.  Mi fedra i ddweud efo fy llaw ar fy nghalon mai'r prif ystyriaeth sydd gan y rhan fwyaf o bobl wrth bleidleisio ydi pa ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o ennill y sedd - yn achos y Blaid o leiaf.  Mae'n weddol amlwg bod rhywun sy'n gallu siarad y Gymraeg a'r Saesneg yn hytrach na dim ond y Saesneg am gael mwy o bleidleisiau mewn ardal lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad y Gymraeg fel mamiaith.  Mae penderfyniad Llafur i ddewis Alun Puw fel ymgeisydd San Steffan yn Arfon yn un anoeth am yr un rheswm.  Dwi yn gymharol addysgiedig, ac mae gen i radd Saesneg - ond dwi'n llawer hapusach yn cyfathrebu ar lafar trwy gyfrwng y Gymraeg na'r Saesneg.  Mae yna lawer iawn o etholwyr Meirion Dwyfor ac Arfon yn llai cyfforddus eu Saesneg na fi.

Does gan Llais Gwynedd ddim byd i'w egluro yn yr achos yma.  Rhoddodd Louise a Seimon eu henwau ymlaen ar gyfer yr enwebiaeth, dewiswyd Seimon.  Mae'n debygol bod y ffaith bod sgiliau ieithyddol Seimon yn ehangach ac felly yn fwy addas i'r etholaeth oedd un o'r rhesymau am hynny.  Mae aelodau Llais Gwynedd wedi gwneud dewis ymarferol - dydi hyn ddim oll i'w wneud efo hiliaeth.


9 comments:

Hogyn o Rachub said...

Cytuno'n llwyr. Mae'n dangos hefyd y ddeuoliaeth ryfedd sydd o fewn Llais Gwynedd. Cynghrair lac o bobl wahanol iawn i'w gilydd sy wedi para'n llawer hirach nag y byddwn i, a lot o bobl dybiwn i, wedi disgwyl.

Anonymous said...

Pryd a lle oedd yr hystings i ddewis ymgeisydd Plaid Cymru am Dwyfor Meirionydd?

Cai Larsen said...

Yn ystod hydref y llynedd os dwi'n cofio'n iawn. Roedd dau hystings, y naill ym Mhwllheli a'r llall yn Nolgellau.

Anonymous said...

Ar gyfer Etholiad y Cynulliad?

Cai Larsen said...

Roedd yr hystings Cynulliad a San Steffan ar yr un diwrnodiau.

Anonymous said...

Wir? Pwy oedd y dewis amgen i Dafydd Êl felly?

William Dolben said...

Gwir bob gair Cai. Mae'n rhyfeddol sut mae're union bobl a stwffiodd eu hiaith i lawr gyddfau'r gwan ers talwm gan greu mantais barhaol i'r iaith gref (Saesneg, Ffranceg a bellu) a'u siaradwyr yn treio deud rwan eu bod ar eu colled ac yn dioddef hiliaeth. Rhagrith fatha a Gill pan ddudodd o fod ei weision tramor ar eu hennill am fod ganddynt chwaneg dros ben ar ôl talu'r morgais (ar gyfartaledd yn ei eiriau fo wrth gwrs......)

Lle trechodd y Saesneg neu'r Ffranceg yr ieithoedd gwanach yn gynfangwbl mae'r broblem wedi'i datrys ond er mawr anghyfleustra i'r Sais mae'r Gymraeg yn dal yn fyw a mae'r rhan fwya o wledydd y byd wedi dewis dysgu Saesneg fel iaith gyfathrebu a busnes gyfleus OND ar yr un pryd maent wedi penderfynu cadw eu hieithoedd eu hunain. Mae hyn un anfantais fawr i'r Sais achos mae o'n uniaith (fel arfer) ac yn methu cyfathrebu hefo pobl yn eu hiaith eu hunain ac yn anffodus iddo mae'r rhan fwya o fusnes masnachol a gwleidyddol yn cael ei wneud yn yr iaith frodorol gan ffafrio y rhai amlieithog......a mae diffyg empathi'r Sais yn y cyswllt hwn yn codi gwrychyn siaradwyr ieithoedd eraill

Cai Larsen said...

Anon 9.36 - un person oedd wedi rhoi ei enw ymlaen, ond fel sy'n arferol yn yr amgylchiadau hyn roedd etholiad beth bynnag - rhwng DET a RON - ailagor enwebiadau. DET a orfu.

Cai Larsen said...

Anon 9.36 - un person oedd wedi rhoi ei enw ymlaen, ond fel sy'n arferol yn yr amgylchiadau hyn roedd etholiad beth bynnag - rhwng DET a RON - ailagor enwebiadau. DET a orfu.