Saturday, April 26, 2014

Etholiadau Ewrop yng Ngweriniaeth Iwerddon


Mi fydd Blogmenai o bryd i'w gilydd yn edrych ar wleidyddiaeth Iwerddon - a chyn ein bod yn dynesu at etholiad Ewrop a chyn bod y polau yn awgrymu newidiadau seismig yn y tirwedd etholiadol yno, waeth i ni gael cip brysiog arall ar bethau.  

Yn ol yn 1984 - ddeg mlynedd ar hugain yn ol roedd gan Gweriniaeth Iwerddon 15 Aelod Ewropiaidd - etholwyd 8 aelod Fianna Fail, 6 aelod Fine Gael ac un ymgeisydd annibynnol.  Roedd pleidiau gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref yn dominyddu gwleidyddiaeth yn llwyr.  Mae'r tudalennau isod o Sunday Independent fory yn awgrymu bod y tirwedd wedi newid yn llwyr.  Os ydi'r ffigyrau yn gywir gallwn ddarogan gyda pheth sicrwydd y bydd 3 o'r 11 aelod yn perthyn i Sinn Fein, y bydd 2 aelod annibynnol, 2 aelod FF, 2 aelod FG a bod y 2 olaf yn ansicr.  Mae'n bosibl mai pedwar aelod yn unig o'r prif bleidiau traddodiadol fydd yn cael eu hethol.  Gallai'r ddwy sedd ddiwethaf yn hawdd fynd i'r Gwyrddion ac ymgeisydd annibynnol.  

Yn ol yn 1984 roedd pleidlais Sinn Fein yn dreuenus o isel - llai na 5% yn y Weriniaeth a thua 13% yng Ngogledd Iwerddon. Nid oeddynt o fewn milltir i sedd.  Os ydi pol y Sunday Independent yn gywir bydd ganddynt dri yn y Weriniaeth y tro hwn - ac mae'r perfformiad yn fwy rhyfeddol ag ystyried bod y tri ymgeisydd efo proffeil isel iawn, yn wir prin bod gan y ddwy wraig  unrhyw brofiad gwleidyddol o gwbl.  Mae'n debyg bod yr ymgeiswyr wedi eu dewis yn benodol oherwydd eu proffeil 'meddal'.  'Dydi proffeil eu hymgeisydd yn y Gogledd yn sicr ddim yn 'feddal' - mae Martina Anderson yn dod o galon yr IRA yn ninas Derry.  Mae ei sedd hi'n gwbl ddiogel.  Mae'n fwy na phosibl - yn wir mae'n debygol - bod fydd gan SF fwy o seddi a mwy o bleidleisiau na neb arall ar draws yr ynys (dydi Fine Gael a Fianna Fail ddim yn sefyll yn y Gogledd wrth gwrs).  

Y wers - os oes gwers i'w chymryd o hyn oll - ydi bod cyfundrefnau sy'n edrych yn gwbl ddigyfnewid yn gallu newid yn llwyr pan fydd amgylchiadau yn newid.  Y gamp ydi bod mewn sefyllfa i elwa o newid sylfaenol pan mae hwnnw'n digwydd.  


No comments: