Thursday, June 27, 2013

Nonsens diweddaraf Gwilym Owen yn Golwg

Y golofn bythefnosol mae Golwg yn ei rhoi i Gwilym Owen ladd ar Blaid Cymru sydd gen i heddiw eto mae gen i ofn.  Byrdwn ymdrech yr wythnos yma ydi'r fantais fawr fydd gan Albert Owen tros Blaid Cymru yn is etholiad Mon.

Fel llawer o'r hyn mae Gwilym yn ei sgwennu mae'r damcaniaethu diweddaraf mewn gwagle - wedi ei sgwennu fel petai digwyddiadau diweddar erioed wedi digwydd.  Dyna ydi"r broblem efo gadael i ragfarnau yrru'r hyn yr ydym yn ei 'sgwennu yn hytrach na ffeithiau go iawn.

Rwan dydi Albert ddim yn sefyll wrth gwrs ond doedd Gwilym ddim yn gwybod hynny pan roddodd ei ysgrifbin  ar y paparus.  Ei bwynt oedd y byddai Albert wedi cael llwyddiant mawr oherwydd ei gefnogaeth di amwys i Wylfa B.  Ar y llaw arall mae o dan yr argraff y byddai safbwynt mwy nuanced y Blaid yn amhoblogaidd.  Dydi o ddim - wrth gwrs - yn trafferthu i egluro pam y byddai mater sydd ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn cael dylanwad arwyddocaol ar etholiad Cynulliad.

Dydi o ddim yn  egluro chwaith pam - er gwaethaf ei chefnogaeth i Wylfa B  - mai trychineb  etholiadol gafodd Llafur yn yr etholiadau cyngor sir diweddar, tra bod y Blaid wedi profi'r canlyniadau gorau yn ei hanes ar yr ynys.

Hwyrach y caf fod o gymorth iddo.  Ffantasi ydi ei ddamcaniaeth bod cefnogaeth nesaf peth i unfrydol i Wylfa B ar Ynys Mon.  Mae'r farn ar y mater yn amrywio o gyfnogaeth lwyr i wrthwynebiad llwyr, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn rhywle rhwng y ddau begwn.  Yn y cyd destun yna mae safbwynt y Blaid yn fwy effeithiol ac yn nes at y farn gyfansawdd nag ydi un Llafur.  Mae'r Blaid yn derbyn y realiti nad oes gan y Cynulliad na'r Cyngor fawr o ddylanwad ar ddyfodiad Wylfa B, ond mae'n tyngu i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod cymaint a phosibl o'r swyddi a ddaw yn sgil y datblygiad yn cael eu llenwi gan bobl leol.  Mae'r safbwynt yna yn gwneud synwyr i amrediad eang o bobl.  Mae safbwynt Gwilym (a'r Blaid Lafur) o gefnogaeth cibddall a di gwestiwn  i ddatblygiad na allant ddylanwadu ar ei ddyfodiad yn gwneud synwyr i lai o bobl o lawer. 

No comments: