Saturday, October 27, 2012

ASau a theithio dosbarth cyntaf

Diddorol nodi bod George Osborne yn ceisio osgoi gadael i bobl wybod ei fod yn teithio ar delerau dosbarth cyntaf.

Rwan mae teithio dosbarth cyntaf ar draul y trethdalwr yn broblematig.  Ychydig iawn o bobl sy'n teithio dosbarth cyntaf pan maent yn teithio ar eu cost eu hunain.  Mae yna reswm da iawn am hynny  - mae cost teithio dosbarth cyntaf fel rheol yn llawer uwch nag ydi teithio safonol, ond dydi'r manteision ddim yn arbennig o fawr.  Pan rydym yn delio efo'n pres ein hunain rydym yn bod yn gall a darbodus ac yn osgoi lluchio pres i lawr y draen.  Ond dydi'r ddisgyblaeth yna ddim yn bodoli pan rydym yn delio efo pres pobl eraill, a dyna sy'n digwydd pan mae ASau yn hawlio costau.  Mae yna lawer o aelodau seneddol sydd o hyd yn dangos diffyg disgyblaeth wrth wario pres y trethdalwr - er gwethaf y newid diwylliant sydd wedi dod i fodolaeth yn sgil sgandalau 2008.

Gweler er enghraifft ystadegau treuliau fy nghymydog Guto Bebb - ac yn arbennig felly y costau teithio.

Rwan mae dyn yn deall bod disgwyl i  Guto dalu mwy am deithio na - dyweder David Davies sy'n byw ym Mynwy.  Ond yr hyn sy'n nodweddu ffigyrau Guto ydi'r ffaith eu bod yn dangos mor rhyfeddol o hoff ydyw o deithio dosbarth cyntaf.  Er enghraifft yn 2010  - 2011 hawliodd gyfanswm o £5970.70 am deithio gyda thren - roedd £5656.70 o hwnnw, neu 95% am deithio dosbarth cyntaf.  Yn 2011-2012 roedd y gwariant ar deithio gyda thren yn is, £4575, ond unwaith eto roedd y rhan fwyaf o ddigon o hwnnw ar deithio dosbarth cyntaf - £4222 - neu 92%.

A bod yn deg, dydi Guto ddim ar ei ben ei hun pan mae'n dod i hawlio llawer mwy am deithio dosbarth cyntaf na theithio ail ddosbarth - mae nifer o aelodau eraill wrthi - Stephen Crabb - Alun Cairns - Simon Hart.  Mae aelodau o pob plaid wrthi, gan gynnwys fy mhlaid fy hun.  Ond mae'n ddifyr nodi bod cymaint o aelodau'r blaid sy'n honni i flaenori buddiannau'r trethdalwr yn llwyr ddi hid o'r trethdalwr pan mae'n dod i gydbwyso eu buddiannau nhw eu hunain a rhai'r trethdalwr.

Rhag ofn eich bod yn meddwl fy mod yn pigo ar ein cyfeillion Ceidwadol, dydi Glyn Davies ddim yn defnyddio trenau dosbarth cyntaf o gwbl.  Mae yna nifer dda o aelodau Cymreig eraill sy'n defnyddio dim - neu nesaf peth i ddim trenau dosbarth cyntaf, sef - Glyn, Mark Tami, Hywel Williams, Huw Irranca, Jessica Morden, Mark Williams, Dai Havard, Paul Murphy, Albert Owen, Ian Lucas, Nick Smith, Martin Caton a Jonathan Edwards.

O, a thra rydym ar bwnc treuliau aelodau seneddol, llongyfarchiadau i Chris Bryant am ddod ymhlith y criw dethol sy'n rhentu eiddo i eraill yn Llundain tra'n hawlio treuliau am ei rent ei hun.  Roedd Chris wrth gwrs ymhlith 'ser' sgsndal treuliau 2008.

3 comments:

Anonymous said...

Yn ol ryw wefan, nes i ddarllen bod 2 AS Plaid wedi defnyddio 1st class. Dachi'm yn gwybod pwy a pham?.

Guto Bebb said...

Erthygl nodweddiadol hyll a phersonnol - ond beth sy'n newydd? Rhyfedd o beth fod Elfyn Llwyd wedi gwthio am ddeddf yn erbyn stelcio ac eto dyma aelod amlwg o'i blaid yn fy stelcio yn barhaol. Obsesiwn dyn trist.

Ta waeth, dwi'n synnu fod ti'n gwneud pwynt am ddefnydd da o amser - rhywbeth y bu i Wigley wneud erioed. Yn yr un modd, hurt ydi honni fod cymhariaeth rhyngof a rhywun fel Glyn sy'n gyrru i Lundain. Pe byddwn yn dewis gyrru fe fyddwn yn gallu hawlio £125 am daith i Lundain (£250 yr wythnos yn ol 45c y filltir) ond gwell gennyf wneud defnydd o'r chwe awr o deithio pob wythnos. Ni chredaf chwaith i mi erioed dalu £125 am daith dosbarth cyntaf felly dy bwynt?

Yn wahanol i dy annwyl Hywel dwi heb wrthod manylion am fy nhrefniadau ail gartref er nad wyf yn ennill y £15k ychwanegol mae o'n gael am gadeirio pwyllgorau ar ran y llefarydd. Siwr fod gwaith o'r fath o fudd mawr i etholwyr Arfon ac efallai fod hynny'n egluro pam fod cyfraniadau Hywel yn San Steffan lawr i ugain yn y flwyddyn a aeth heibio.

Fel y dywed yr hen ddihareb - mae angen deryn glan i ganu. Does gan aelod o Blaid Cymru yn Arfon ddim llawer o hawl son am werth am arian na pregethu am ddefnydd o arian cyhoeddus tra'n ymgyrchu dros AS sy'n cuddio manylion ei drefniadau ail gartref, ennill ariam am waith i'r lllefarydd yn hyrtach nag amddiffyn ei etholwyr ac wrth gwrs hawlio £250 yn fisol o arian parod dan yr hen drefn lwgwr o gostau heb unwaith gynnig tystiolaeth o wariant.

Tydi bod yn un llygeidiog ddim yn orfodol i aelodau Plaid Cymru ond mae'n afiechyd i Cai druan.

Guto Bebb said...

Rhyfedd gweld fod 19 allan o 20 taith gyntaf Elfyn yn 2011/12 wedibid yn y dosbarth cyntaf (ddaru mi roi gorau i edrych bryd hynny).

Dwi'n edrych ymlaen at erthygl Cai y rhyfelwr dosbarth yn ymosod ar arweinydd seneddol ei Blaid. Falle ddim, onid cyfle arall i ymosod arnaf oedd y stori yma eto? Tyrd Cai, get a life. Beth am ganolbwyntio ar safonau yn dy ysgol yn hytrach na blogio yn ystradebol a hunan gyfiawn mor gyson?

Ta waeth, sori am fod bron fisyn hwyr yn gweld dy erthygl blentynaidd - pethau pwysicach ar fy mhlat nag ymateb i tittle tattle dyn bach chwerw.