Saturday, October 06, 2012

Tafodiaeth yn tynnu ei hanadl olaf

Mae'n drist deall i Bobby Hogg, siaradwr olaf tafodiaeth Cromarty Fisherfolk wedi marw yn yr Alban.  Tafodiaeth o Saesneg isel diroedd yr Alban oedd Cromarty Fisherfolk, ac fe'i defnyddid fwy neu lai yn unig gan gymunedau pysgota yn Cromarty.  

Yn anffodus, dydi hyn ddim yn rhywbeth anghyffredin - yn ol rhai amcangyfrifon mae un iaith yn marw pob pethefnos yn rhywle neu'i gilydd yn y Byd.  Er bod 7,000 o ieithoedd yn y Byd mae 78% o bobl yn siarad un o'r 85 iaith fwyaf.  Mae canran uchel iawn o'r rheiny yn siarad un o'r pump iaith mwyaf - Mandarin, Sbaeneg, Bengali, Saesneg, Hindi Arabaidd, Portigiaidd a Rwsieg.  Mae yna fwy na hynny o dafodiaethau yn marw wrth gwrs.

Daw hyn a ni at y Gymraeg.  Bydd llawer ohonom yn poeni am ddyfodol yr iaith - ac mae hynny'n ddigon teg.  Ond, a ninnau yn weddol agos at gyhoeddiad ystadegau Cyfrifiad 2011 mae'n deg dweud bod  yna lawer yn mynd o blaid yr iaith.

Mae'n debyg gen i ei bod yn syndod i'r rhan fwyaf o bobl bod y Gymraeg ymysg ieithoedd mwyaf y Byd o ran nifer siaradwyr - mae tua 93% o ieithoedd y Byd efo llai o siaradwyr na'r Gymraeg.  Mae'r Gymraeg hefyd efo statws llawer uwch na sydd gan llawer iawn o ieithoedd eraill.  Mae camau  yn cael eu cymryd i'w chynnal - rhywbeth sydd unwaith eto yn weddol anarferol.  Mae'r niferoedd a'r canrannau sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu yn ol y ddau gyfrifiad diwethaf.

Yn fwy arwyddocaol fyth o bosibl ydi'r ffaith bod yna bobl sy'n byw yn ddigon agos at ffin Cymru a Lloegr sy'n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf, tra ymhell i'r gorllewin o hynny mae'r Saesneg wedi sgubo'r iaith Wyddeleg o'r neilltu ym mhob man bron ar dir mawr Iwerddon.  Mae i'r iaith wytnwch cynhenid.

Dydi hyn oll ddim yn golygu bod dyfodol y Gymraeg yn ddiogel wrth gwrs, ond mae mewn llawer gwell lle na'r rhan fwyaf o ieithoedd lleiafrifol.  Mae'n werth cofio hynny weithiau - 'mae pesimistiaeth di angen mor niweidiol i'r iaith ag unrhyw beth.





3 comments:

Anonymous said...

Mae optimistiaeth di-sail yn niweidiol hefyd. Falle fod mwy yn gallu siarad Cymraeg....ond mae llai yn eu defnyddio a hynny'n aml gan fod cymaint o fewlifiad i'r ardaloedd a oedd yn Gymraeg eu hiaith rai blynyddoedd yn ol. Mae'r Cymry Cymraeg yn troi i'r Saesneg wrth ymdrin a'r rhain ac mae llawer iawn ohonynt yn wrtwynebus i'r Gymraeg.

Anonymous said...

Good ԁay! I just would like to offer you а huge thumbs up fоr your gгеat
information yοu have gоt right here on this рost.
I аm гeturnіng to your website fоr more
sоon.
Also visit my web page : similar resource site

Anonymous said...

Hοwdy! I undeгѕtand this is somеwhаt off-topic but
I needed to asκ. Does building а well-eѕtablished blog likе yours tаκe a large amount οf ωork?
I'm completely new to writing a blog but I do write in my diary everyday. I'd like to stаrt a blog so ӏ will bе ablе to shаre my ρersоnal experiеnce and feеlіngs online.
Ρlеase let me know іf you have any rеcοmmendatіons οr tips for brand
nеw aspiring bloggers. Thankуou!

Herе іs my site ... wiki.axone.ru