Monday, September 17, 2012

Swydd waethaf y Bydysawd?

Tybed os mai swydd Nicholas Witchell ydi'r un gwaethaf yn y Byd - 'dach chi'n gwybod y boi dwi'n meddwl amdano - y creadur rhyfedd hwnnw sy'n dilyn y teulu brenhinol o gwmpas y lle i'w llyfu a'u llempian ar ran y Bib.


Gwaith unrhyw newyddiadurwr - neu unrhyw newyddiadurwr gwerth ei halen o leiaf - ydi dod o hyd i ffeithiau, eu troi'n stori a'i chyflwyno i'w gynulleidfa. Nid dyma mae Nick yn ei wneud - mae'n derbyn gwybodaeth sydd eisoes wedi ei droelli gan bobl cyhoeddusrwydd y teulu brenhinol, mae'n troelli ychydig mwy os oes angen cyn mynd ati i gyflwyno ei stori dylwyth teg i'w gynulleidfa. Yn wir mae'n rhoi dyletswydd arferol newyddiadurwr i edrych yn feirniadol ar yr hyn mae'n ei gael gan ei ffynonellau o'r neilltu. I'r graddau hynny mae'n ymddwyn yn hollol groes i newyddiadurwyr arferol - mae'n derbyn yr hyn a ddywedir wrtho yn gwbl ddi feirniadaeth, yn gwbl ddi gwestiwn.

Mae ganddo ei ffordd arbennig ei hun o droelli hefyd - bydd yn egluro i ni mewn termau hynod syml - fel petai'n siarad efo plant - yr hyn y dyliwn ei feddwl am rhyw ddigwyddiad 'brenhinol' neu'i gilydd.

Er enghraifft aeth ati i esbonio i ni bod araith a wnaed gan Kate Windsor yn Singapore yr wythnos diwethaf yn heartfelt.. Wnaeth o ddim egluro sut roedd yn gwybod bod yr araith yn un oedd yn dod yn syth o galon yr areithwraig - mae'n weddol sicr nad hi a'i hysgrifennodd - roedd yr araith wedi ei 'sgwennu gan rhywun arall - yn union fel holl areithiau'r teulu 'brenhinol', ag eithrio rwdlan rhyfedd Charles Windsor.

Felly mi fyddwn yn gweld Nick yn nosweithiol yn sefyll o flaen rhyw adeilad neu'i gilydd sydd a rhywun brenhinol neu'i gilydd y tu mewn iddo yn egluro i ni joban mor dda maen nhw yn ei wneud. Mi fydd y dyn yn siarad nonsens crafllyd am bobl hynod gyfoethog a hunanol efo'i lais wedi ei ostwng fel petai mewn eglwys.

A'r peth gwaethaf o bosibl ydi nad ydi gwrthrychau ei holl lyfu a llempian yn ei hoffi o gwbl. Cafodd y sylwadau canlynol gan Charles Windsor wrth ei feibion ei godi gan y meicroffon yn ddamweiniol yn 1998:

These bloody people. I can't bear that man. I mean, he's so awful, he really is.

A chwarae teg i Nicholas - mi aeth ati i droelli honna hefyd
gan geisio i wneud i Charles edrych cystal a phosibl mewn amgylchiadau anodd.

2 comments:

M Owen said...

Mae agwedd cariadus y bib at y teulu brenhinol yn codi cyfog ar rywun.

Anonymous said...

It's in fact very complicated in this active life to listen news on Television, so I simply use web for that reason, and get the hottest news.

Here is my homepage v2 cigs review
My website > V2 Cig Review