Wednesday, September 12, 2012

Crysau T gwleidyddol di chwaeth

Ymddengys bod tipyn o ffrae wedi codi yn sgil y ffaith bod crys T digon di chwaeth yn cael ei werthu yng nghynhadledd y TUC sydd yn cyfeirio gyda brwdfrydedd digon anymunol at farwolaeth Margaret Thatcher. 


Roedd Thatcher fel gwleidydd yn ennyn teimladau hynod o gryf, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod yna - ar hyd y blynyddoedd - lawer o bosteri, crysau T a delweddau hynod eraill hynod o gas amdani wedi eu cynhyrchu:



 


Rwan, mae delweddau fel hyn yn un digon anymunol - ond mae yna hen draddodiad or math yma o beth.  Er enghraifft dwi yn ddigon hen i gofio myfyrwyr Toriaidd yn Aberystwyth (yn yr amser pan roedd Thatcher yn brif weinidog) yn gwisgo crysau oedd yn galw am ddienyddio Nelson Mandela.



Ac mae cynhyrchu stwff gwleidyddol di chwaeth yn gyffredin iawn.  Wele y detholiad isod er enghraifft - cymerodd tua ugain munud i mi ddod o hyd iddynt  - ac mae mwy  ar y We - llawer ohono yn stwff na fyddwn yn mentro ei gyhoeddi ar y blog yma:
 











Hynod

No comments: