Sunday, September 23, 2012

Pam bod Nic fwy neu lai yn siwr o gael y cic

Yn ol Sunday Times heddiw mae eu pol YouGov yn awgrymu bod 43% yn debygol o bleidleisio i Lafur mewn etholiad cyffredinol, 34% ir Toriaid ac 8% yn unig i'r Lib Dems.  Nid dyma'r pol cyntaf o bell ffordd i awgrymu bod cefnogaeth y Lib Dems mewn ffigyrau un digid.



Petai hyn yn digwydd mewn etholiad cyffredinol byddai'r Lib Dems yn cael 13 o seddi petai'r ffiniau seneddol presenol yn cael eu defnyddio - y nifer isaf ers 1979.  Mae ganddynt 55 o aelodau seneddol ar hyn o bryd.  Byddai llawer o wynebau cyfarwydd iawn yn gadael y llwyfan gwleidyddol - Michael Moore, Simon Hughes, Jenny Willot, Menzies Campbell, Malcom Bruce, Danny Alexander er enghraifft.

Petai'r ffiniau newydd arfaethiedig yn cael eu defnyddio, pum sedd yn unig fyddai ganddynt - y nifer isaf yn eu hanes hir - os ydi fy ngwybodaeth i am hanes etholiadol yn gywir.

Dydi hi ddim yn glir y byddai pethau llawer gwell petai ganddynt arweinydd arall - er bod yna rhywfaint o dystiolaeth polio bod Vince Cable yn apelio at fwy o bobl na Clegg.  Ond os ydi'r ffigyrau polio yn aros fel maent ar hyn o bryd mi fydd tri chwarter a mwy o aelodau seneddol y Lib Dems yn teimlo bod bygythiad gwirioneddol i'w seddi.  Does yna ddim byd yn bwysicach na chadw ei sedd i aelod seneddol - mae ei cholli yn golygu colli ei fywoliaeth, ei dreuliau, ei statws, ei wyliau maith, ei fynediad i fariau San Steffan a'r lysh rhad, ei gyfleoedd i agor pob math o bethau yn ei etholaeth, sylw cyfryngol ac ati, ac ati.

Byddant yn fodlon trio unrhyw beth i gadw eu seddau - a pris bach iawn i'w dalu fyddai rhoi cic i Nick.

No comments: