Thursday, September 27, 2012

Alwyn a chyfarfod cyhoeddus Toiaid Aberconwy

Mae'n debyg y dyliwn i gydymdeimlo efo fy nghyd flogiwr Alwyn ap Huw oherwydd iddo gael ei hun yn y sefyllfa digon anymunol o orfod gwrando ar bobl rhagfarnllyd yn hefru am grwpiau o bobl nad ydynt yn hoff ohonynt am gyfnod o ddwy awr a mwy.  Dyna o leiaf ydi'r argraff mae dyn yn ei gael o'i adroddiad ynglyn ag un o gyfarfodydd 'agored' Toriaid Aberconwy.

Ond wedi dweud hynny - hwyrach na ddylai Alwyn fod wedi synnu cymaint mewn gwirionedd.  Mae'r Blaid Geidwadol wedi mynd i gryn ymdrech i gael gwared o'r ddelwedd o blaid annifyr tros y blynyddoedd diwethaf - dyna pam mai David Cameron ydi'r arweinydd a dyna pam bod mwy o ferched a phobl o gefndiroedd ethnic gwahanol yn eistedd ar eu hochr nhw o Dy'r Cyffredin ar hyn o bryd.

Ond hyn a hyn o'r gwir yn unig y gellir ei guddio - hyn a hyn o lwch y gellir ei daflu i lygaid pobl.  Yn y pen draw mae cyfarfod cyhoeddus sydd wedi ei drefnu gan y Toriaid am ddenu llawer o'r pobl mwyaf adweithiol sydd ar gael - yn union fel mae ymgeisydd Toriaidd mewn etholiad yn denu pleidleisiau'r  adweithiol a rhagfarnllyd.

Fel yna mae hi wedi bod erioed.  

8 comments:

Anonymous said...

Petawn i yn mynychu cyfarfod cyhoeddus Plaid Cymru, serch y ffaith fy mod yn aelod gweithgar, buaswn yn mentro dweud fod fy marn i ar fewnfudiad Seisnig i Gymru yn dra gwahanol i'r llwydion sy'n honni fy nghynrychioli yng Nghaerdydd.
Mae pleidiau wastad yn fwy llwfr a rhagrithiol na'r bobl sy'n pleidleisio iddynt.Beth oedd Alwyn yn disgwyl ? .Llu o Nick Bournes ?

Alwyn ap Huw said...

"Beth oedd Alwyn yn disgwyl? Llu o Nick Bournes?"

Na! Roeddwn yn disgwyl cyfarfod "cyhoeddus" a oedd yn cynnwys trawstoriad o'r cyhoedd.

Yn fy ieuenctid bu cyfarfodydd tebyg yn eithaf cyffredin, mynychais gyfarfodydd tebyg a drefnwyd gan Emlyn Hooson, Wil Edwards, Elystan a Geraint Morgan, Dafydd Êl ac eraill, a fynychwyd gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr yr AS. Rwy'n ddiolchgar i Guto am ail gychwyn yr hen draddodiad ac yn siomedig mae dim ond eithafwyr "te parti Conwy" a fi aeth i'r drafferth o fynychu'r cyfarfod "agored i bawb".

Mae’r ffaith fy mod yn teimlo mor unig, ac i raddau, o dan fygythiad yn y cyfarfod, yn rhannol o'r herwydd bod etholwyr "rhyddfrydol" (yn ystyr ehangach a thrawsbleidiol y gair) wedi gwrthod gwahoddiad Mr Bebb i'w fynychu.

Anonymous said...

Pwynt digon teg. Roedd cyfarfodydd etholiad yn bethau pwysig ers talwm. Mae'n siwr bellach nad yw trwch y cyhoedd yn gwybod beth yw cyfarfod gwleidyddol agored.

Anonymous said...

"Mae’r ffaith fy mod yn teimlo mor unig, ac i raddau, o dan fygythiad yn y cyfarfod,...."

Ond i ni wedi dod yn bell yma yng Nghymru. Cymro yn teimlo dan fygythiad mewn cyfarfod yng........ Ngwynedd!

Anonymous said...

Pam mod i'n amau nad oedd cyfarfod cyhoeddus Toriaid Aberconwy yn cael ei gynnal yng Ngwynedd...?

Cai Larsen said...

Yn Llandudno oedd o - mae Llandudno yn Sir Conwy.

Anonymous said...

Diddorol gweld fod unig flog gwleidyddol Cymraeg y BBC wedi deffro o'i drwmgwsg i flogio ar gynhadledd Brydeinig y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dwi'n cymryd nad oedd unrhywbeth o ddigon o bwys wedi digwydd yn yr unig gynhadledd wleidyddol Gymreig yr hydref hwn i ysbrydoli ychydig o eiriau gan Vaughan / Betsan.

Anonymous said...

Mae blogio'r BBC, ac yn enwedig blog Vaughan Roderick, yn hynod siomedig ers amser. Mae hyd yn oed gwefan y newyddion Cymraeg wedi mynd i edrych yn hen a diffrwt.