Sunday, November 13, 2011

Pam bod Llafur eisiau newid y dull ethol aelodau Cynulliad?

Mae'n hynod ddiddorol bod y Blaid Lafur Gymreig bellach yn cefnogi syniad gwych Peter Hain i jerimandro etholiadau'r Cynulliad o hyn allan. Mae patrwm rhyfedd dosbarthiad cefnogaeth wleidyddol yng Nghymru yn gwneud y dull maent bellach yn ei ffafrio yn fanteisiol iawn i Lafur yng Nghymru - fel mae'r tablau isod yn dangos yn glir.  Yn wir mae'r dull wedi rhoi ffafriaeth anheg i Lafur yma ers bron i ganrif.

Etholiadau San Steffan:

EtholiadCanran Llafur o'r pleidleisiauCanran Llafur o'r seddi
191821.20%27.77%
192240.70%50%
192341.99%52.70%
192440.60%45.70%
192943.80%69.44%
193141.70%41.66%
193545.40%50%
194558.30%69.44%
195058.10%75%
195160.50%75%
195557.60%75%
195956.40%75%
196457.80%77.70%
196660.70%88.80%
197051.60%75%
197446.80%66.60%
197449.50%63.80%
197948.60%61.10%
198337.50%52.60%
198745.10%63.10%
199249.50%71%
199754.80%85%
200148.60%85%
200542.70%72.50%
201036.20%65%

Ac etholiadau'r Cynulliad:

EtholiadCanran Llafur o'r pleidleisiauCanran Llafur o'r seddi uniongyrchol
199937.60%67.50%
200340.00%76%
200732.20%60.00%
201042.30%70.00%

Mae'n weddol amlwg pam bod y dull yn atyniadol i'r Blaid Lafur Gymreig - gallant ennill cyn lleied a 30% o'r bleidlais, ond parhau i sicrhau mwyafrif llwyr yn y Cynulliad.

Petai'r dull yn cael ei fabwysiadu, mae'n bosibl y byddai Cymru efo'r system etholiadol lleiaf cyfrannol a theg o holl wledydd democrataidd y Byd. 

Rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.

3 comments:

Anonymous said...

Beth yw union natur y system "30 etholaeth-2 aelod" y mae'r Blaid Lafur eisiau? Fyddai pob etholaeth yn ethol 2 aelod o'r un blaid, neu fyddai'n bosib i etholaeth ethol 2 aelod o bleidiau gwahanol, ac os felly, sut?

Cai Larsen said...

Mi fyddai pob etholaeth yn debygol o ddychwelyd dau aelod o'r un blaid - ag eithrio lle mae pethau'n ymylol iawn.

Ifan Morgan Jones said...

Dw i ddim yn meddwl ei fod yn gam doeth gan y Blaid Lafur. Mae'r Alban wedi dangos nad yw'r un blaid yn cadw grym am byth. Pe bai plaid arall yn cipio grym fe fyddai'r system yr un mor annheg o'u plaid nhwythau ac fe fyddai'r esgid ar y droed arall, fel petai.