Wednesday, November 30, 2011

Record newydd i Flogmenai _ _ _

_ _ _ sef y darlleniad gwaethaf ers Chwefror 2010.

Ymlaen mae Canaan!


Tybed os gwir y sibrydion _ __

_ _ _ y bydd trydydd ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid yn troedio i'r talwrn 'fory?

Ac na - nid am Leanne 'dwi'n son.  

Cyflogau rhanbarthol - ras am y gwaelod

Mae Carwyn Jones yn gywir i nodi y byddai gweithredu cynlluniau llywodraeth y DU i gyflwyno trefn o dal rhanbarthol yn arwain at lai o gyflog i weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru.  Byddai pennu cyflog yn ol rhanbarth yn siwr o adlewyrchu cyflogau sector preifat lleol, ac mae cyflogau'r sector preifat yn isel yng Nghymru.

Ond yr hyn nad ydi Carwyn yn ei ddweud ydi y byddai'r newid hefyd yn effeithio ar weithwyr y sector preifat.  Mae camau diweddar  llywodraeth Cameron -rhewi cyflogau, cynyddu faint o bres sy'n rhaid i weithwyr ei roi at eu pensiwn, gwneud pensiynau yn llai atyniadol, yn ogystal a difa sicrwydd cyflogaeth eisoes wedi gwneud gweithio yn y sector cyhoeddus yn llai atyniadol.  Byddai lleihau cyflogau ymhellach yn arwain at wneud y sector yn llai atyniadol fyth yng Nghymru ac mewn rhannau tlawd eraill o'r DU.

Effaith hyn yn y pen draw fydd hel pobl o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat -a bydd hynny yn arwain at fwy o gystadleuaeth am swyddi yn y sector hwnnw.  Lle mae cystadleuaeth yn llym am swyddi  gyrrir cyflogau i lawr, a gwneir amodau gwaith yn llai ffafriol.  Iawn i'r cyflogwr, ond gwael i'r cyflogedig.

Os ydi llywodraeth y DU eisiau gwella amodau i gyflogwyr mewn rhanbarthau tlawd o'r DU, byddai caniatau gosod treth corfforaethol is yn yr ardaloedd hynny yn ffordd llawer mwy effeithiol o fynd ati.  Ond fydda i ddim yn dal fy ngwynt ynglyn a'r posibilrwydd yna - mi fyddai hynny yn niweidiol i'r rhannau hynny o'r DU sy'n cael eu cynrychioli'n bennaf gan ASau Toriaidd - y rhannau cyfoethog.  Mae'n llawer gwell o'u safbwynt nhw i gynnal ras am y gwaelod yn y rhanbarthau tlawd, a mynd ati i lleoli diwydiannau cyflog isel yn dwt ac yn ddel yn y rhanbarthau hynny.  

Gweld y botel hanner llawn

Mae'n debyg bod y duedd o weld potel hanner llawn yn hytrach nag un hanner gwag yn un digon clodwiw - ac iach o safbwynt seicolegol.

Ond, iach neu beidio, mae gen i ofn bod Golwg360 wedi mynd a'r duedd honno braidd yn rhy bell ddoe trwy osod stori efo'r pennawd Osborne:£216m  ychwanegol i Gymru. ar dop eu gwefan am lwmp go lew o'r dydd.

Ag ystyried bod datganiad Osborne yn debygol o arwain at newidiadau hynod niweidiol i'r sector cyhoeddus, a bod Cymru mor ddibynnol ar swyddi yn y sector hwnnw a gwariant cyhoeddus ehangach, piso dryw yn y mor - neu er mwyn cynnal trosiad - diferyn neu ddau o win yng ngwaelod potel wag ydi £216m o arian cyfalaf tros dair blynedd.

Tuesday, November 29, 2011

Anrhegion 'Dolig cynnar gan Mr Osborne

Hmm - a chadw at ysbryd y tymor mae George Osborne wedi gwneud datganiad ar yr economi sy'n newyddion da o lawenydd mawr.  Ymysg yr uchafbwyntiau ceir y canlynol:
  •  £111bn mwy nag oedd wedi ei ragdybio i'w fenthyg gan y wladwriaeth tros bedair blynedd.
  •  Y broses o daflu gweithwyr ar y clwt i'w wneud yn haws i gyflogwyr.
  • Codiadau cyflogau sector cyhoeddus i'w cadw o dan 1% tros ddwy flynedd - a hynny yn dilyn cyfnod o ddim codiadau o gwbl.
  • 300,000 o swyddi cyhoeddus i'w torri 
  • Rhewi credydau treth i bobl ar gyflogau isel.
Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai dechrau yn unig i weithredu diwydiannol fydd digwyddiadau 'fory.

Mwy o droelli gwag o Ynys Mon

Felly mae'r Tori o Ynys Mon, Paul Williams a adweinir hefyd fel y Derwydd, yn ein sicrhau mai'r rheswm pam bod Ieuan Wyn Jones o blaid wardiau aml aelod ar gyngor yr ynys ydi oherwydd y byddai hynny o fantais etholiadol i Blaid Cymru.

Ac mae'r fantais dybiedig honno wedi ei seilio ar ei ddadansoddiad ei hun o'r rhagolygon ar gyfer etholiadau wedi eu hymladd ar sail wardiau dau aelod - yn wir mae'n mynd cyn belled a dweud wrthym sawl cynghorydd fyddai'n cael ei ethol ar ran pob grwp o dan y drefn honno.

Ond mae'n gwrthod dweud unrhyw beth o gwbl ynglyn a sut y daeth i'w gasgliadau, ag eithrio bod yr ymarferiad yn ganlyniad i 'grenshan ffigyrau'.  Ond 'dydan ni ddim yn cael gwybod pa ffigyrau gafodd eu crenshan  - na dim arall ynglyn a sail yr ymarferiad.  Dim oll.  Zilch.

O leiaf pan mae Gwilym Owen yn troelli mae'n cael gafael ar rhyw ffigwr neu'i gilydd sydd a rhyw fath o gysylltiad - pa mor bynnag wantan - efo'r Byd y tu allan i'r bwlch rhwng ei glustiau.  'Dydi'r Derwydd ddim hyd yn oed yn cymryd y cam corach mewn col tar hwnnw.

Mae'n anodd meddwl am droelli mor gwbl ddi sylwedd.

Saturday, November 26, 2011

Pam bod agwedd y DUP tuag at Babyddion wedi newid

Mae'n debyg gen i mai croeso fydd araith ddiweddar Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon. Peter Robinson yn ei chael, gyda'r pwyslais ar gyd weithio rhwng cymunedau Gogledd Iwerddon, parch at bawb, cynhwysiad ac ati.



Mae'n anodd credu weithiau bod plaid fel y DUP, a adeiladwyd ar y canfyddiad mai endid Protestanaidd oedd y dalaith ac mai brad oedd cyfaddawdu gydag elfennau nad oedd yn credu hynny, wedi teithio mor bell.

Ond mae'n hawdd iawn deall pam - fel mae'r ffigyrau cyfrifiad isod o grefydd plant yn ysgolion Gogledd Iwerddon yn ei ddangos, lleiafrif plant y dalaith sydd yn Brotestaniaid, ac mae hynny wedi bod yn wir ers  naw degau y ganrif ddiwethaf.  Lleiafrif fydd pobl o gefndir Protestanaidd yn y dalaith yn y dyfodol, ac oni bai bod y pleidiau unoliaethol yn llwyddo i ennyn cefnogaeth Pabyddion, mae'n bosibl hyd yn oed na fydd y dalaith yn dathlu ei phenblwydd yn gant oed yn 1921.   


Pupils at schools in 2010/11 by religion
Northern Ireland Totals






 Protestant   Catholic   Other religions/No Religion/Not Recorded   TOTAL 
Voluntary and Private Pre-school Education Centres1         2,194            3,609                1,796             7,599





Nursery Schools 
Full-time  N/A   N/A   N/A              4,033
Part-time  N/A   N/A   N/A              1,873
TOTAL NURSERY SCHOOLS         2,231            2,703                   972             5,906





Primary Schools 
TOTAL NURSERY AND RECEPTION PUPILS4         2,648            4,555                1,796             8,999
Primary schools (year 1 - 7)4        55,689           78,003               18,641         152,333
Gramar school prep Depts.(year 1 - 7)          1,110                221                    788             2,119
TOTAL YEAR 1 - 7 PUPILS       56,799         78,224              19,429         154,452





TOTAL PRIMARY PUPILS       59,447         82,779              21,225         163,451





Post Primary Schools
Secondary (non grammar) schools        32,012           46,614                 7,143           85,769
Grammar Schools         25,006           29,735                 7,392           62,133
TOTAL POST PRIMARY PUPILS       57,018         76,349              14,535         147,902





Special Schools TOTAL         1,719            1,862                   877             4,458
Hospital Schools  TOTAL  N/A   N/A   N/A                  200
Independent Schools  2 TOTAL  N/A   N/A   N/A   N/A 





ALL SCHOOLS GRAND TOTAL  N/A   N/A   N/A          321,917





TOTAL SCHOOLS AND PRE-SCHOOL EDUCATION CENTRES 4  N/A   N/A   N/A          329,516
Source: NI school census.




Friday, November 25, 2011

Pam bod cynnig cymhelliad i brif weithredwr Barclays yn bwysicach nag ydi cynnig cymhelliad i nyrs

 Y streic ddydd Mercher nesaf fydd, mae'n debyg gen i, y fwyaf o'i math ers cenhedlaeth a mwy.  Gallwn wrth gwrs ddisgwyl i amrywiol lefarwyr y llywodraeth ymddangos i ddweud wrthym ein bod i gyd 'yn hyn efo'n gilydd', ac i gyhuddo'r streicwyr o hunanoldeb, diffyg cyfrifoldeb a hyd yn oed anfoesoldeb. 

Roedd yr un llefarwyr yn gwbl absennol yn gynharach yn y mis pan ddaeth codiadau cyflog boncyrs o uchel prif weithredwyr can cwmni'r FTSI i'r amlwg unwaith eto?  Ymddengys nad yw'n briodol i lywodraeth y DU drethu'r cyflogau anferthol yn rhesymol rhag ofn y byddai'r arweinwyr athrylithgar sy'n gyfrifol am gan cwmni mwyaf y DU yn codi eu pac a mynd i rhyw wlad arall neu'i gilydd i ymarfer eu talentau rhyfeddol.  Mae'n bwysig rhoi cymhelliad iddynt weithio da chi'n gweld.

'Dydi'r ffeithiau bod rhai o brif weithredwyr y dywydiedig gwmniau wedi cymryd penderfyniadau a arweiniodd at gynyddu dyled genedlaethol y DU yn sylweddol, ac nad oes yna fymryn o dystiolaeth eu bod yn fwy effeithiol nag unrhyw un arall ddim yn amharu mewath ar y naratif yma - nag ar bolisi trethiant llywodraeth Cameron.  Yn wir mae perfformiad y can cwmni wedi bod yn echrydys tros y blynyddoedd diweddar.  Pe byddai yna unrhyw gysylltiad rhwng perfformiad a chyflog, byddai hanner y drongos hurt yn cael eu cardiau yn hytrach na'u gwobreuo efo codiadau cyflog anferthol.  Yn lle hynny mae cyflog prif weithredwr Barclays, er enghraifft, wedi cynyddu 4,899.4% - o  £87,323 i £4,365,636 ers 1979.

Ac eto 'dydi'r ddamcaniaeth bod torri cymhelliad pobl i wneud gwaith  ddim yn broblem pan mae'n dod i rewi cyflogau a lleihau gwerth pensiynau nyrsus, athrawon ac eraill sydd yn gweithio yn y sector gyhoeddus.  Byddai gwneud rhywbeth sy'n arwain at 'ansawdd is' o ran prif weithredwyr cwmniau yn drychineb, ond 'dydi cymryd camau  sydd am arwain at 'ansawdd is' o ran nyrsus ac athrawon ddim yn broblem. Ac mae'r safonau dwbl arbennig yma yn dweud y cwbl rydym angen ei wybod am lywodraeth y DU.

Dydi'r rhan fwyaf o aelodau'r cabinet presenol ddim yn ddibynol ar y gyfundrefn addysg gyhoeddus, a dydyn nhw ddim yn ddibynol ar wasanaeth iechyd cyhoeddus chwaith.  Felly 'does yna ddim problem efo gwneud swyddi yn y sectorau hynny yn llai atyniadol, a lleihau ansawdd y sawl sy'n gweithio ynddynt.

Tuesday, November 22, 2011

Y celwydd diweddaraf o Cathedral Road

Agwedd ddigri i’r ffrae ynglyn a’r dull ethol aelodau Cynulliad ydi’r mwydro cyson gan Lafur nad oes yna dystiolaeth y byddai’r dull ethol maent yn dadlau trosto yn eu ffafrio nhw mewn unrhyw ffordd o gwbl. Rydym eisoes wedi edrych ar hyn yma. Yr amrywiaeth diweddaraf ar y naratif hollol gelwyddog yma ydi dadlau nad ydi ethol dau aelod tros un etholaeth wedi ei drio eto, ac felly nid yw’n bosibl rhagweld beth fyddai goblygiadau gwneud hynny.  Yr awgrym ydi y gallai'r etholaethau dau aelod ddychwelyd dau aelod o bleidiau gwahanol yn gyson - mae hyn yn hynod anhebygol o ddigwydd.

Mae’r dull wedi ei ddefnyddio dro ar ol tro ar ol tro mewn etholiadau lleol yn ardaloedd trefol Cymru, ac mae’r patrwm yn rhyfeddol o gyson – os ydi un aelod o blaid arbennig yn cael ei ethol tros ardal, yna mae’n hynod debygol y bydd pob aelod arall tros yr ardal honno yn cynrychioli’r un blaid. ‘Does ond rhaid i ni edrych ar y ddinas lle mae pencadlys y Blaid Lafur yng Nghymru wedi ei leoli ynddi i ddangos hyn yn weddol glir. ‘Dwi’n rhestru isod ganlyniadau’r etholiadau yng Nghaerdydd yn 2008 yn y wardiau aml aelod. Mae yna lond dwrn o wardiau un aelod yn y brif ddinas – ‘dwi ddim yn cynnwys y rheiny yn y tabl.


Ward Lib Dems Llafur Toris Plaid Annibynnol
Adamsdown 2



Caerau 2



Treganna
3


Cathays 4



Cyncoed 3



Elai
3


Tyllgoed


3
Gabalfa 2



Grange 3



Heath 1
2

Llandaf 2



Llandaf (Gog) 2



Llanishen

4

Llanrymni
3


Pentwyn 4



Penylan 3



Plasnewydd 4



Pontprennau

2

Rhiwbina



3
Glan yr Afon


3
Rhymni

2

Splott 1 2


Trowbridge 1 2


Eglwys Newydd

4


Felly o’r 70 aelod sydd wedi ei ethol mewn seddi aml aelod mae 61 (87%) yn cynrychioli wardiau lle mai aelodau o’u plaid nhw yn unig sydd wedi eu hethol. Rhywbeth tebyg i hyn ydi’r patrwm yn gyffredinol.

Mae yna reswm cwbl syml pam bod Llafur yn ffafrio’r dull hwn – mae o fantais etholiadol iddyn nhw. Llwyth o gelwydd ydi’r holl rwdlan i’r gwrthwyneb.

Monday, November 21, 2011

Y newidiadau i Gyngor Ynys Mon

Mae gen i ofn fy mod yn anghytuno efo sylwadau Bob Parry ynglyn a'r newidiadau sydd ar y gweill i Gyngor Mon.

Dau o'r prif newidiadau arfaethiedig ydi lleihau'r nifer o gynghorwyr o 40 i 30, a chreu wardiau aml aelod ar draws yr ynys.  'Dydi 30 o aelodau ddim yn 'rhy ychydig' a fyddai ganddyn nhw ddim gormod o waith - chwe deg o aelodau Cynulliad sydd yng Nghymru, ac mae eu hetholaethau nhw'n llawer iawn mwy poblog na wardiau Ynys Mon.



Yn bwysicach bydd wardiau mwy yn ei gwneud yn fwy anodd i ymgeiswyr annibynnol sefydlu teyrnasau bach lleol trwy ddod i 'nabod pawb yn eu wardiau lleol a gwneud rhywbeth neu'i gilydd i'w plesio nhw i gyd.  Yn wir bydd y drefn newydd yn debygol o gryfhau'r pleidiau gwleidyddol ar yr ynys - a dyna'n union sydd ei angen ar wleidyddiaeth lleol yn Ynys Mon.

'Dydi'r traddodiad annibynnol ddim wedi methu ym mhob man yng Nghymru, ond mae'r fersiwn o'r traddodiad hwnnw a arferir yn Ynys Mon wedi troi'r cyngor yn destun gwawd a sbort yng ngweddill Cymru.  Mae'r newidiadau am ei gwneud yn haws o lawer i bobl Mon ysgwyd llwch y gorffennol oddi ar eu traed - a gorau po gyntaf y cant eu gweithredu.

Sunday, November 20, 2011

Caerdydd, Caerdydd

Dwi’n digwydd bod yng Nghaerdydd ar hyn o bryd – ac efallai ei bod werth ‘sgwennu pwt bach am y newid sydd wedi bod yma tros y blynyddoedd diweddar.




Yn 1978 y cefais fy hun yn y ddinas am y tro cyntaf – roeddwn newydd ddechrau canlyn y Mrs, ac mae hithau’n un o Dreganna. I rywun oedd wedi ei eni a’i fagu ochrau Caernarfon roedd y lle yn ymddangos yn rhyfeddol o Seisnig. Eithriad prin fyddai clywed rhywun yn siarad Cymraeg heb fynd i dafarn ‘benodedig Gymraeg’ – roedd y Conway a’r Half Way yn dennu Cymry Cymraeg Gorllewin Caerdydd (a'r tu hwnt) bryd hynny.

Ar y pryd roeddwn yn rhedeg mewn rasus ffordd, a byddwn yn aml yn ymarfer trwy redeg ar hyd strydoedd Gorllewin Caerdydd, ac i dorri ar yr undonedd byddwn yn chwarae gem fach – cyfri erials teledu ar ben y tai. Roedd dwy ffordd o dderbyn rhaglenni teledu yng Nghaerdydd ar y pryd – trwy gyfeirio eich erial at fast teledu’r Mendips, neu trwy ei gyfeirio at fast y Wenfo. Byddai anelu’r erial at y Mendips yn eich galluogi i osgoi rhaglenni Cymraeg, ond byddai hefyd yn eich gorfodi i dderbyn rhaglenni newyddion lleol fyddai’n son am injan dan yn achub cath oddi ar goeden yn Keynsham (‘dwi ddim yn tynnu coes) ac am hynt a helynt clwbiau rygbi Bryste a Gloucester.

Byddai rhwng 90% a 95% o’r erials wedi eu gosod fel eu bod yn cyfeirio tua’r Mendips. Roedd y rhan fwyaf o’r gweddill gyda dau erial un i'rMendips a'r llalli'r Wenfo. Roedd yna ambell un wedi ei gyfeirio at y Wenfo yn unig. Am rhyw reswm ‘dwi’n dal i gofio lleoliad nifer o’r rheiny – roedd y lle prydau parod Tseiniaidd sydd wrth ymyl y Clive Arms yn eu plith.

Roeddwn i’n meddwl am y dyddiau hynny y bore ‘ma wrth gerdded trwy John Lewis a chlywed pedwar neu bump grwp gwahanol yn siarad Cymraeg a'igilydd. Ac mi fydda i’n meddwl am y dyddiau hynny hefyd pan fyddaf yn galw mewn tafarn yn Nhreganna neu Bontcanna – mae bellach bron yn eithriad i beidio a chlywed y Gymraeg gyda’r nos ar benwythnos.

Rwan ‘dwi’n gwybod bod yna gwestiynau ynglyn a pha mor barhaol ydi’r adfywiad yng Nghaerdydd, a ‘dwi’n gwybod bod mewnfudo i’r ddinas o’r broydd Cymraeg yn rhan o’r rheswm am y newid. Ond siawns ei fod yn rhywbeth i’w ddathlu serch hynny. Mae’n bwysig i ddyfodol ieithoedd lleiafrifol nad ieithoedd sydd wedi eu cysylltu ag ardaloedd gwledig ac anghysbell ydynt. Gan fod mwyafrif llethol poblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd trefol neu ddinesig, ‘dydi proffeil gwledig ddim yn un da i’r iaith ei magu. Mae yna nifer o drefi yng Nghymru lle ceir defnydd sylweddol o’r iaith, ac mae yna ddefnydd sylweddol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd y dyddiau hyn hefyd. Mae’r datblygiad yn un hynod gadarnhaol.

Saturday, November 19, 2011

Is etholiad Rhiwabon

Dwi'n hwyr ar hon mae gen i ofn, er i'r cyfeillion yn Plaid Wrecsam adael i mi wybod canlyniad is etholiad Rhiwabon yn syth bin - dwi wedi bod allan o gysylltiad efo cyfrifiadur yn ddiweddar.

Dana Davies (Llaf) 231
Pol Wong (Plaid Cymru)230
Andy Kenderich (Ann) 155
Adam Owen (Tori) 59

Er ei bod yn siomedig colli sedd mae'n ganlyniad da yn yr ystyr ei fod yn awgrymu ei bod yn fwy na phosibl amddiffyn llawer iawn o'r seddi a gipwyd gan Lafur yn 2008.

Thursday, November 17, 2011

Addysg Gymraeg ym Mhowys

'Dydi hi ddim yn syndod mawr deall i Gyngor Powys benderfynu torri cwys ei hun parthed addysg cyfrwng Cymraeg.  Tra bod y rhan fwyaf o gynghorau eraill  yn ceisio ymateb i alw rhieni a chynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae Powys yn mynd i'r cyfeiriad cwbl groes ac yn torri'n ol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae'r Cynulliad yn disgwyl i gynghorau asesu'r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ymateb i'r galw hwnnw.  Ymddengys bod Powys wedi methu gwneud hyn.  Mae yna dri chyngor arall sy'n methu ar agweddau o'u gwaith a sydd o ganlyniad yn derbyn sylw arbennig gan y Cynulliad.  Fel Powys maent oll yn gynghorau sy'n cael eu rheoli gan grwp annibynnol - hwyrach nad ydi hynny yn gyd ddigwyddiad. 

Mi fyddwn yn tybio y dylai'r gweinidog addysg ystyried os ydi o am i Gyngor Powys barhau i fod yn gwbl gyfrifol am ddatblygu addysg Gymraeg.  'Dydw i ddim yn cytuno'n aml efo'r gweinidog, ond ni all neb amau ei agwedd cadarnhaol tuag at y Gymraeg.  Efallai bod yr amser wedi dod i wneud yr agwedd honno yn gwbl eglur i gynghorau sy'n llaesu dwylo wrth ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Tuesday, November 15, 2011

Arwain trwy ddilyn

Mae Jonathan Edwards yn gwbl gywir i awgrymu mai arwain trwy ddilyn mae Carwyn Jones mewn perthynas a statws cyfansoddiadol Cymru.



Ond yr hyn sy'n fwy arwyddoaol efallai ydi mai cyfyng iawn ydi uchelgais Carwyn Jones tros Gymru hyd yn oed os ydi'r Alban yn ennill annibyniaeth - rhywbeth anelwig i'w wneud efo'r fframwaith cyfreithiol a rhywbeth arall anelwig i'w wneud efo ariannu teg.

Dim gair am bwerau trethiant a dim gair am ehangu amrediad cyfrifoldebau'r Cynulliad.

Ac mae hynny yn adrodd cyfrolau am Lafur Cymru.  Petai'r Alban yn gadael, byddai yna  lywodraeth Doriaidd led barhaol yn Llundain.  Ond er gwaethaf yr holl hysterics pan ddaw'n amser etholiad y bydd y Toriaid ofnadwy, ofnadwy yna am ddod i rym os na fydd pawb yn fotio iddyn nhw, mae'r Llafurwyr yn hollol hapus i agweddau arwyddocaol o'n bywyd cenedlaethol fod yn nwylo'r dywediedig Doriaid ar delerau lled barhaol.

Arwynebol iawn ydi casineb Llafur Cymru tuag at y Toriaid - erfyn etholiadol a fawr ddim arall.

Sunday, November 13, 2011

Pam bod Llafur eisiau newid y dull ethol aelodau Cynulliad?

Mae'n hynod ddiddorol bod y Blaid Lafur Gymreig bellach yn cefnogi syniad gwych Peter Hain i jerimandro etholiadau'r Cynulliad o hyn allan. Mae patrwm rhyfedd dosbarthiad cefnogaeth wleidyddol yng Nghymru yn gwneud y dull maent bellach yn ei ffafrio yn fanteisiol iawn i Lafur yng Nghymru - fel mae'r tablau isod yn dangos yn glir.  Yn wir mae'r dull wedi rhoi ffafriaeth anheg i Lafur yma ers bron i ganrif.

Etholiadau San Steffan:

EtholiadCanran Llafur o'r pleidleisiauCanran Llafur o'r seddi
191821.20%27.77%
192240.70%50%
192341.99%52.70%
192440.60%45.70%
192943.80%69.44%
193141.70%41.66%
193545.40%50%
194558.30%69.44%
195058.10%75%
195160.50%75%
195557.60%75%
195956.40%75%
196457.80%77.70%
196660.70%88.80%
197051.60%75%
197446.80%66.60%
197449.50%63.80%
197948.60%61.10%
198337.50%52.60%
198745.10%63.10%
199249.50%71%
199754.80%85%
200148.60%85%
200542.70%72.50%
201036.20%65%

Ac etholiadau'r Cynulliad:

EtholiadCanran Llafur o'r pleidleisiauCanran Llafur o'r seddi uniongyrchol
199937.60%67.50%
200340.00%76%
200732.20%60.00%
201042.30%70.00%

Mae'n weddol amlwg pam bod y dull yn atyniadol i'r Blaid Lafur Gymreig - gallant ennill cyn lleied a 30% o'r bleidlais, ond parhau i sicrhau mwyafrif llwyr yn y Cynulliad.

Petai'r dull yn cael ei fabwysiadu, mae'n bosibl y byddai Cymru efo'r system etholiadol lleiaf cyfrannol a theg o holl wledydd democrataidd y Byd. 

Rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.

Saturday, November 12, 2011

Pam na fydda i byth yn gwisgo pabi

Mi fydd newyddion fory yn llawn hanesion am seremoniau cofio ar hyd a lled Cymru - a thu hwnt.  Mi fydd pobl yn hel o gwmpas cof golofnau o Gaergybi i Gaerdydd i gofio meirw rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf a'r ganrif bresennol.  Mae'r seromoniau fel rheol yn dennu cyn aelodau o'r lluoedd diogelwch, aelodau presennol o'r lluoedd hynny, pwysigion lleol a chenedlaethol a'r camerau teledu wrth gwrs.  'Dydw i ddim yn un o gefnogwyr y seremoniau, a fydda i byth yn gwisgo pabi - dyma pam.

Penblwydd diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n pennu dyddiad y cofio.  Fedra i ddim gweld unrhyw reswm pam y byddai neb eisiau coffau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y ffordd yma - rhyfel rhwng ymerodraethau trachwantus lle bu miliynau farw er mwyn sefydlu'r amodau ar gyfer Comiwnyddiaeth a Natsiaeth a'r rhyfel gwaeth hyd yn oed a ymladdwyd ychydig ddegawdau yn ddiweddarach.  Rhyfel a laddodd blant a wyrion y sawl a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn eu miliynau.  Mi fyddwn wedi tybio mai'r wers briodol i'w chymryd o ryfel 1914 - 1918 ydi bod ymerodraethau jingoistaidd yn arwain at erchyllderau ysgeler.  Nid dyna'r wers y bydd seremoniau 'fory yn eu dysgu i'r sawl fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau, a'r sawl sydd yn eu gwylio ar y teledu - mi fyddan nhw'n cael yr argraff bod rhyw fath o bwrpas cadarnhaol i'r holl beth.  A 'doedd yna ddim - dim oll.

Mae'n gwbl briodol i bobl fod eisiau coffau aelodau o'u teuluoedd a chyfeillion sydd wedi eu lladd mewn rhyfeloedd wrth gwrs, ond y drwg efo'r pabi a'r seremoniau cofio mae'r symbol yn rhan ohonynt ydi eu bod yn gwneud mwy na chofio'r meirw, maent yn rhamateiddio marwolaethau oedd yn aml yn gwbl erchyll -a maent o ganlyniad yn bropoganda milwrol - a thrwy estyniad maent yn bropoganda ar gyfer y lluoedd milwrol presenol. 

Ac waeth i ni fod yn onest am y peth - at ei gilydd mae'r lluoedd arfog Prydeinig wedi bod yn broblem sylweddol i weddill y byd trwy gydol eu hanes.  Maent wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd i ymosod ar wledydd eraill ar hyd a lled y Byd, yn aml am resymau sy'n hynod, hynod anodd i'w cyfiawnhau heddiw.  A fyddai yna unrhyw un mewn difri yn ceisio cyfiawnhau mynd i ryfeloedd sylweddol efo Tseina er mwyn gorfodi'r wlad anffodus honno i fewnforio opiwm er enghraifft?  Ac mae'r duedd Brydeinig o ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd wedi parhau trwy'r ganrif ddiwethaf, ac ymwthio i mewn i hon - mae'r ymerodraeth wedi mynd, ond mae seicoleg  ymerodraethol yn fyw ac yn iach, ac yn aml yn gyrru polisi tramor y DU.  'Dydi'r ffaith bod y DU wedi bod ar  ochr 'gywir' hanes ambell waith (RhB2 er enghraifft) ddim yn newid y gwirionedd sylfaenol yma.


Yn fy marn bach i, y coffad gorau i feirwon milwrol y DU fyddai symud oddi wrth y feddylfryd ei bod yn hanfodol i Brydain ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd.  Byddai hyn yn arwain at normaleiddio'r lluoedd arfog - hy eu gwneud yn llai a'u strwythuro i ateb gofynion amddiffynol - fel y gwneir yn y rhan fwyaf o wledydd eraill.

Os ydi pobl eisiau coffau'r meirw mae hynny'n angen cwbl briodol a dynol wrth gwrs - ond byddai'n llawer gwell gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn cyfiawnhau traddodiad milwrol na ddylid ei gyfiawnhau.

Wednesday, November 09, 2011

Propoganda Gwilym Owen

'Dwi'n gobeithio nad oes yna neb o dan yr argraff fy mod yn datblygu obsesiwn am Gwilym Owen - 'does yna neb hyd 'dwi'n cofio wedi ymddangos mewn dau flogiad olynnol ar Flog Menai o'r blaen - ond 'dwi newydd weld ei erthygl ddiweddaraf yn Golwg, a fedra i ddim ymatal rhag ymateb i beth o'r nonsens boncyrs sydd ynddi.

Defnyddio papur rhad ac am ddim Cyngor Gwynedd i ymosod ar y cyngor mae Gwilym, ac mae'n cynhyrchu nifer o honiadau lled hysteraidd ar sail cynnwys y papur hwnnw.  Efallai y byddwn yn dod yn ol at rai o'r rhain eto, ond yr hyn 'dwi am ganolbwyntio arno yn y blogiad yma ydi honiad rhyfedd Gwilym bod adroddiad ar gael sy'n dangos mai 27% yn unig o blant ysgolion cynradd y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau.

Gan nad ydi Gwilym yn trafferthu dweud wrthym unrhyw beth am yr adroddiad mae'n anodd gwybod yn union at beth mae'n gyfeirio.  Oni bai am y posibilrwydd bod yr adroddiad yn bodoli yn gyfangwbl yn ei ddychymyg ei hun, yr unig beth y gallaf feddwl  bod y dyn fod yn rwdlan amdano ydi  Arolwg Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan Blant Sector Cynradd Gwynedd gan Dylan Bryn Roberts ac Enlli Thomas, a gyhoeddwyd y llynedd.

'Dydi'r adroddiad hwnnw ddim yn edrych ar holl ysgolion Gwynedd - mae'n edrych ar gynrychiolaeth fechan - gyda hanner yr ysgolion hynny wedi eu lleoli yn nalgylch mwyaf Seisnig a gwledig y sir - dalgylch Tywyn.  Does yna ddim un ysgol o'r canolfannau poblog yn ardal Caernarfon lle mae'r canrannau o blant sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg yn hynod uchel, ond mae yna ddwy ysgol ym Mangor lle maent yn isel.  Mae'r ddwy ysgol sy'n cynrychioli Dwyfor yn agos at arfordir de Dwyfor - mae de Dwyfor yn wahanol iawn i arfordir gogleddol a pherfedd y penrhyn.  Un ysgol yn unig sydd o'r pentrefi a'r trefi llechi poblog a Chymreig.  Mae 77 o'r 145 plentyn a ddefnyddir fel sail i'r data yn dod o ardal Tywyn - ardal fwyaf Seisnig a lleiaf poblog y sir.

Mewn geiriau eraill mae'r sampl yn llawer, llawer mwy Seisnig nag ydi'r sir yn ei chyfanrwydd.  Nid oes bai ar awduron yr adroddiad wrth gwrs - 'doedden nhw ddim yn ceisio cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol o'r sir i gyd - cynhyrchu ffigyrau sy'n cynrychioli'r ysgolion roeddynt yn ei samplo mae'n nhw.  Gwilym sy'n smalio eu bod yn cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol.

Ac oddi yma mae'n debyg gen i y daw 27% Gwilym Owen.  Mae'r adroddiad yn nodi fel a ganlyn:

Iaith y buarth rhwng plant –
27% Cymraeg,
25% Cymraeg a Saesneg,
19% Saesneg bron bob amser ,
15% Saesneg rhan fwyaf ,
11%, Cymraeg rhan fwyaf
3% Dim ateb .
Felly pan mae Gwilym yn honni mai 27% o blant y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau, yr hyn mae yn ei olygu mewn gwirionedd ydi mai 27% o sapl Seisnig iawn sy'n siarad Cymraeg yn unig efo'u ffrindiau.  Mae yna 11% arall yn siarad Cymraeg fel arfer a 25% arall yn defnyddio'r ddwy. 

Y gwir ydi bod yr adroddiad yn awgrymu bod bron i ddwy draean o blant ardaloedd Seisnig (yn bennaf) yn y sir yn gwneud defnydd o'r Gymraeg wrth gyfathrebu efo'u ffrindiau - ffigwr rhyfeddol ac anisgwyl o uchel.  Ond trwy beidio a thrafferthu i roi cefndir y data i ni, a thrwy smalio bod y ganran '27% Cymraeg yn unig' yn cynrychioli'r holl ddefnydd a wneir o'r Gymraeg mae Gwilym yn gwneud iddynt ymddangos yn drychinebus o isel.  Mae seilio dadl ar gobyldigwc ystadegol fel hyn yn sylfaenol anonest.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw ar sawl achlysur yn y gorffennol at y ffaith bod gan y dyn dueddiad i gyflwyno ei ragfarnau ei hun fel ffeithiau - yma er enghraifft.  Am rhyw reswm mae Golwg wedi dod i'r casgliad y byddai'n wych o beth rhoi llwyfan iddo ein diddanu ni efo'r rhagfarnau hynny pob pethefnos.  Duw yn unig a wyr pam.  Byddai'n rheitiach iddyn nhw adael i Eric Howells a Billy Hughes fynd trwy'i pethau pob pethefnos ddim.

Tuesday, November 08, 2011

Parti ymddeol Gwilym Owen

'Rwan peidiwch a fy ngham ddeall, 'dydi'r ffaith i Gwilym Owen gael tipyn o barti - neu rhyw ddigwyddiad arall a arweiniodd at werth £719.25 o fwyta ac yfed - cyn gadael y Bib yn poeni dim arna i.  Dim, dim oll.  Zilch.

'Dydi o ddim yn poeni rhyw lawer arnaf fy mod wedi cyfrannu'n anuniongyrchol at y digwyddiad gan i Keith Jones - pennaeth y Bib yng Nghymru ar y pryd - roi'r £719.25 ar ei ffurflen dreuliau.



Ond mi fyddwn, serch hynny yn  hoffi tynnu sylw at y ffaith bod partion ymddeoliad yn digwydd yn weddol gyson ar hyd a lled Cymru, a'r drefn arferol ydi i'r sawl sy'n mynychu dalu am ei fwyd a'i ddiod ei hun, yn hytrach na disgwyl i bobl eraill dalu am y dywydedig fwyd a diod.  Yr unig eithriad i hyn  ydi bod y sawl sy'n mynychu yn talu rhyngddynt am fwyd a diod y sawl sy'n ymddeol fel arfer.

Mewn amserau caled efallai y gallai uchel swyddogion y Bib ystyried talu am eu bwyd a'u diod eu hunain - wedi'r cwbl nid bychan ydi eu cyflog - fel y gellir weld yma.



Monday, November 07, 2011

Mi gewch chi gadw eich blydi ffagl _ _ _

Roedd yna rhywbeth hynod ragweladwy am ymdriniaeth y Post Prynhawn o'r newyddion y bydd y ffagl Olympaidd yn ymweld ag amrywiol lefydd yng Nghymru.  Roedd y Post wedi cynhyrfu'n llwyr, a chafwyd rhesiad o bobl oedd hefyd wedi cynhyrfu'n llwyr yn mynegi eu llawenydd a'u gorfoledd oherwydd bod y ffagl am ymweld a rhywbeth neu'i gilydd sy'n ymwneud a nhw.



Mi fyddai'n gwbl estron i ddiwylliant mewnol y Bib yng Nghymru  i ddifetha newyddion  mor fendigedig trwy dynnu sylw at y ffaith mai 0.01% o'r busnes a ddaeth yn sgil y gemau a wnaeth ei ffordd i Gymru, ac mai ychydig iawn o gystadlu ddaw ar gyfyl y wlad - er ein bod yn cael y fraint a'r anrhydedd o gyfrannu'n hael at y sbloets.  Mae Blogmenai wedi edrych ar hyn oll yma.

Ond efallai y byddai rhywun wedi disgwyl rhyw air bach o gyfeiriad at anhegwch yr holl beth - er mwyn cydbwysedd a 'ballu.  Ond na - dim sill o feirniadaeth i dramgwyddo ar y llifeiriant ecstatig.

Wedi'r cwbl byddai'n hynod aniolchgar cwyno am £400m o arian sydd wedi ei golli i Gymru pan rydym yn cael y ffagl am ychydig ddyddiau.




Sunday, November 06, 2011

Ydi'r newidiadau yn y ffiniau etholiadol yn debygol o fynd rhagddynt?


Mi fydd hi'n hynod ddiddorol gweld os bydd newidiadau arfaethiedig y Toriaid i ffiniau etholiadol y DU yn mynd rhagddynt.  Mae'r argymhellion y Comisiwn Ffiniau eisoes wedi eu cyhoeddi yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond bydd rhaid disgwyl tan fis Ionawr i gael gweld beth sydd ar y gweill yng Nghymru.

Mae'n anodd dod o hyd i ddadl resymegol yn erbyn lleihau'r nifer o aelodau seneddol, nag yn erbyn gwneud maint y gwahanol etholaethau yn fwy tebyg i'w gilydd.  Wrth safonau rhyngwladol mae gan Dy'r Cyffredin lawer iawn, iawn o aelodau, ac mae'n weddol boncyrs bod rhai aelodau seneddol yn cynrychioli ddwy waith cymaint o etholwyr nag aelodau seneddol eraill.

Mae hefyd yn gwneud synnwyr o ran y Blaid Geidwadol - y nhw fyddai'n elwa o'r newidiadau ar lefel Brydeinig (er - fel dwi  wedi dadlau yn y gorffennol - nhw fydd yn colli yng nghyd destun Cymru) - ond bydd y newidiadau yn ei gwneud yn hynod anghyfforddus i lawer o aelodau seneddol unigol Toriaidd.  Yn aml iawn mae ystyriaethau hunanol yn bwysicach nag unrhyw ystyriaethau eraill - ac mae'r sgandal dreuliau wedi dangos i ni pa mor effeithiol ydi llawer o Doriaid (ac eraill wrth gwrs) am bluo eu nythod eu hunain.

Bydd y gwrth bleidiau yn pleidleisio yn erbyn yr argymhellion mewn dwy flynedd.  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fyddant ar eu pennau eu hunain - ac o ganlyniad bydd etholiad cyffredinol 2015 yn cael ei ymladd ar yr un ffiniau ag etholiad cyffredinol 2010.

Saturday, November 05, 2011

A fydd yna ganlyniadau anisgwyl i chwyldro Libya?

Roedd ymyraeth rhai o wledydd y Gorllewin ar ochr y gwrthryfelwyr yn Libya yn anarferol i'r graddau mai ychydig iawn o wrthwynebiad a gafwyd i'r ymyraeth yn y Gorllewin.  Dichon mai'r rheswm am hynny ydi bod y weinyddiaeth oedd yn rheoli Libya yn gyffredinol amhoblogaidd.  Serch hynny, mae'n briodol codi ambell i gwestiwn ynglyn a'r holl ymarferiad cyn i'r tywod setlo.

Y peth cyntaf i'w ddweud am ryfel neu ymyraeth filwrol ydi mai ffurf eithafol ar ymyraeth wleidyddol ydyw.  Mae unrhyw ymyraeth wleidyddol yn gallu arwain at ganlyniadau anisgwyl o safbwynt y sawl sy'n gyfrifol am yr ymyryd, ac mae hynny'n arbennig o wir am ymyraeth milwrol. Weithiau bydd yr canlyniadau anisgwyl yn digwydd yn syth, ond weithiau maent yn cymryd cyfnod o flynyddoedd lawer i bethau weithio ddod i fwcwl. 

Y math mwyaf arferol o ganlyniad anisgwyl ydi colli rhyfel wrth gwrs - mae'n rhyfeddol mor gyffredin ydyw i'r sawl sy'n ymyryd neu'n ymosod gael eu hunain yn mynd adref efo'u cynffonau rhwng eu traed maes o law - America yn Vietnam neu'r Undeb Sofietaidd yn Afghanistan er enghtaifft. 

Canlyniad anisgwyl arall ydi bod y rhyfel yn parhau yn llawer, llawer hirach na'r disgwyl - yr UDA yn Vietnam, Prydain yng Ngogledd Iwerddon, NATO a'r Undeb Sofietaidd yn Afghanistan, pawb yn y Rhyfel Byd Cyntaf  er enghraifft. 

Ond mae yna lawer o wahanol fathau o ganlyniadau anisgwyl - a gallant fod yn hynod o bell gyrhaeddol.  Er enghraifft arweiniodd ymyraeth Prydain yn yr Aifft ym 1956 yn dilyn gwladoli Camlas y Suez at ymddiswyddiad Eden, at leihad sylweddol yn nylanwad Prydain yn y Byd, at sylweddoliad na allai Prydain bellach weithredu'n filwrol heb ganiatad yr UDA, ac at ddatgymalu'r Ymerodraeth ynghynt nag oedd y rhan fwyaf o bobl yn disgwyl ar y pryd.

Ennyn ymyraeth gan y Gorllewin oedd canlyniad ymysodiad Irac ar Kuwait yn 1990, rhyfel cartref secteraidd a marwolaeth tros i 100,000 o sifiliaid a chryfhau Iran yn sylweddol oedd effeithiau anisgwyl ail ryfel Irac.  Colli De Affrica oedd canlyniad Rhyfel y Boer yn y pen draw, niweidwyd diplomyddiaeth America am ddegawdau yn dilyn smonach y Bay of Pigs, llwyddodd Bolifia a Paraguay i golli mwy na 3% o'u poblogaaeth mewn rhyfel am ddarn diwerth o anialwch cwbl ddiwerth yn 1932, colli lwmp dda o'u poblogaeth oedd hanes Romania hefyd yn yr Ail Ryfel Byd pan aethant ati i ymladd ar y ddwy ochr ar adegau gwahanol - a hynod anoeth.

Ac mae cwestiwn yn codi ynglyn a chanlyniadau anfwriadol posibl i'r rhyfel yma.  Mae'r ffaith bod cryn son am ymchwiliadau i droseddau rhyfel  gan NATO yn ystod y rhyfel yn Libya yn peri gofid, ac mae'r ffordd y cafodd Gaddafi ei arteithio a'i ddienyddio yn codi cwestiynau ynglyn a natur y bobl fydd yn cymryd ei le.  Nid eithriad oedd yr hyn a ddigwyddodd i'r cyn unben.  Dydw i ddim am ddarparu linc rhag effeithio ar batrymau cwsg darllenwyr Blogmenai, ond os chwiliwch ar We mi gewch hyd i ddelweddau gwirioneddol erchyll sy'n dangos (mae'n debyg) sut roedd y lluoedd roedd NATO yn eu cefnogi yn ymladd eu rhyfel.

'Dydi'r ffaith bod Bengazi, cryd y chwyldro, bellach yn for o faneri du Al Qaeda ddim yn lleddfu dim am yr amheuon mae hyn oll yn ei godi..

 Y perygl yma ydi y bydd y sawl fydd yn rheoli Libya maes o law cyn waethed, neu'n waeth na'r hyn a gafwyd yn y gorffennol - ond mae yna sgil effaith posibl pellach i'r hyn sydd wedi digwydd. 

Roedd Gaddafi wedi ufuddhau i alwadau gweddill y Byd i roi'r gorau i'w wahanol gynlluniau i greu WMDs.er mwyn cael dychwelyd i'r gorlan ryngwladol.   Canlyniad hynny oedd nad oedd mewn sefyllfa i amddiffyn ei hun pan benderfynodd NATO gael gwared ohono.  Bydd y wers honno yn cael ei dysgu gan rai o unbenaethiaid mwyaf annifyr y Byd mae gen i ofn.


Friday, November 04, 2011

Is etholiadau yn yr Alban

'Dwi'n hwyr braidd ar y stori yma, ond cafodd yr SNP ddwy is etholiad cyngor digon llwyddiannus ddoe - ennill sedd yn Oban ar gyngor Argyll & Bute, a dod o fewn trwch blewyn  (7 pleidlais a bod yn fanwl) i wneud hynny yn Inverness ar gyngor yr Highlands & Islands.


Thursday, November 03, 2011

Difa'r genedl _ _ _

Pan mae Peter Hain yn honni y byddai trosglwyddo pwerau trethu i Gymru yn 'difa'r genedl' mae'n euog o bechodau sy'n gyffredin i lawer o Lafurwyr Cymru - gor ddweud gorffwyll a  chymysgu rhwng y Blaid Lafur Gymreig a Chymru.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig.  Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi'r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.



Petai yna gysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.

Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.

Tuesday, November 01, 2011

Rhodri Glyn hefyd o'r farn mai rhanbarth ydi Cymru

'Does yna neb y gwn i amdano sy'n well nag Mike Haggett - awdur y blog Syniadau - am ddod o hyd i esiamplau ACau Plaid Cymru yn gwrthwynebu polisi annibyniaeth y Blaid.  Rhodri Glyn Thomas sydd wedi cael ei ddal y tro hwn yn ymateb i gwestiwn gan Adrian Masters:

Adrian Masters:  Shouldn't [Wales] have more [influence in Europe]? I'm going to caricature your position, Rhodri Glyn Thomas. This is what Plaid would argue: that an independent Wales within Europe would have a bigger say, would be able to speak directly to Europe.
Rhodri Glyn Thomas:  Let me say it's not my view. It may be the party's view, but it's never been my view. I believe in interdependence of regions and countries within Europe.
Mae Syniadau wedi tynnu sylw at ddatganiadau tebyg gan Dafydd Ellis Thomas yn y gorffennol.  Mae MH yn gywir i boeni am sefyllfa lle nad ydi rhai o aelodau Cynulliad y Blaid yn gweld bod yna fawr o broblem iddynt ymddangos ar y cyfryngau yn gwrth ddweud polisiau creiddiol eu plaid eu hunain.  Dyma pam:

  1. Un o broblemau hanesyddol y Blaid ydi'r diffyg naratif clir sy'n cael ei gyflwyno ganddi.  Oherwydd hynny mae'r sawl sy'n siarad ar ei rhan ar y cyfryngau torfol yn aml yn cyflwyno negeseuon sy'n rhannol bersonol iddyn nhw eu hunain, a sydd o bryd i'w gilydd yn gwrth ddweud ei gilydd.  Canlyniad hyn ydi bod y Blaid wedi magu delwedd gymhleth ac anelwig.  Dydi delwedd felly ddim yn un sy'n hyrwyddo llwyddiant etholiadol.  Mae sefyllfa lle mae llefarwyr y Blaid yn dadlau yn erbyn polisiau'r Blaid yn gyhoeddus yn cymhlethu a difrifoli'r sefyllfa yma.
  2. Fel mae Mike Haggett yn awgrymu mae cymryd y cyfle i ddadlau yn erbyn annibyniaeth ar y cyfryngau, tra'n gwrthod y cyfle i wneud hynny yn fewnol yn ymylu ar y bisar.  Os ydi Rhodri Glyn Thomas a Dafydd Ellis Thomas yn credu nad ydi hyrwyddo annibyniaeth yn syniad da mewn gwirionedd, yna dylid dadlau'r achos oddi mewn i'r Blaid yn hytrach na dweud dim pan mae'r mater yn cael ei drafod yn fewnol, ond dadlau yn erbyn y polisi yn allanol.
  3. Mae dylanwad ol genedlaetholdeb ar y naratif wrth genedlaetholgar a ddefnyddir gan Rhodri Glyn Thomas a Dafydd Ellis Thomas.  Gobyldigwc afresymegol ydi ol genedlaetholdeb - fel rydym wedi trafod yn y gorffennol.
  4. Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng dylanwad gwlad a rhanbarth yng nghyd destun Ewrop.  Rhanbarthau ydi Lower Saxony a'r East Midlands.  Gwledydd ydi Romania, Iwerddon a Slovakia.  Mae gan wledydd unigol lawer  mwy o ddylanwad oddi mewn i'r Undeb Ewropiaidd na rhanbarthau - mae gan Gweriniaeth Iwerddon 12 Aelod Ewropiaidd - 4 sydd gan Gymru.  Yn ogystal a chael llawer mwy o Aelodau Seneddol Ewropiaidd na'r rhanbarthau, mae gan pob gwlad hefyd aelod ar Gyngor Ewrop, ar Gomisiwn Ewrop, a Chyngor yr Undeb Ewropiaidd.  Dyma'r strwythurau sy'n rhedeg yr Undeb Ewropiaidd.  Ymddengys bod Rhodri Glyn Thomas a Dafydd Ellis Thomas o'r farn bod anfon pedwar aelod i senedd o 751 aelod yn well na chael llais cryf yn y sefydliadau sy'n rhedeg yr Undeb Ewropiaidd mewn gwirionedd.