'Dwi'n gobeithio nad oes yna neb o dan yr argraff fy mod yn datblygu obsesiwn am Gwilym Owen - 'does yna neb hyd 'dwi'n cofio wedi ymddangos mewn dau flogiad olynnol ar Flog Menai o'r blaen - ond 'dwi newydd weld ei erthygl ddiweddaraf yn Golwg, a fedra i ddim ymatal rhag ymateb i beth o'r nonsens boncyrs sydd ynddi.
Defnyddio papur rhad ac am ddim Cyngor Gwynedd i ymosod ar y cyngor mae Gwilym, ac mae'n cynhyrchu nifer o honiadau lled hysteraidd ar sail cynnwys y papur hwnnw. Efallai y byddwn yn dod yn ol at rai o'r rhain eto, ond yr hyn 'dwi am ganolbwyntio arno yn y blogiad yma ydi honiad rhyfedd Gwilym bod adroddiad ar gael sy'n dangos mai 27% yn unig o blant ysgolion cynradd y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau.
Gan nad ydi Gwilym yn trafferthu dweud wrthym unrhyw beth am yr adroddiad mae'n anodd gwybod yn union at beth mae'n gyfeirio. Oni bai am y posibilrwydd bod yr adroddiad yn bodoli yn gyfangwbl yn ei ddychymyg ei hun, yr unig beth y gallaf feddwl bod y dyn fod yn rwdlan amdano ydi Arolwg Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan Blant Sector Cynradd Gwynedd gan Dylan Bryn Roberts ac Enlli Thomas, a gyhoeddwyd y llynedd.
'Dydi'r adroddiad hwnnw ddim yn edrych ar holl ysgolion Gwynedd - mae'n edrych ar gynrychiolaeth fechan - gyda hanner yr ysgolion hynny wedi eu lleoli yn nalgylch mwyaf Seisnig a gwledig y sir - dalgylch Tywyn. Does yna ddim un ysgol o'r canolfannau poblog yn ardal Caernarfon lle mae'r canrannau o blant sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg yn hynod uchel, ond mae yna ddwy ysgol ym Mangor lle maent yn isel. Mae'r ddwy ysgol sy'n cynrychioli Dwyfor yn agos at arfordir de Dwyfor - mae de Dwyfor yn wahanol iawn i arfordir gogleddol a pherfedd y penrhyn. Un ysgol yn unig sydd o'r pentrefi a'r trefi llechi poblog a Chymreig. Mae 77 o'r 145 plentyn a ddefnyddir fel sail i'r data yn dod o ardal Tywyn - ardal fwyaf Seisnig a lleiaf poblog y sir.
Mewn geiriau eraill mae'r sampl yn llawer, llawer mwy Seisnig nag ydi'r sir yn ei chyfanrwydd. Nid oes bai ar awduron yr adroddiad wrth gwrs - 'doedden nhw ddim yn ceisio cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol o'r sir i gyd - cynhyrchu ffigyrau sy'n cynrychioli'r ysgolion roeddynt yn ei samplo mae'n nhw. Gwilym sy'n smalio eu bod yn cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol.
Ac oddi yma mae'n debyg gen i y daw 27% Gwilym Owen. Mae'r adroddiad yn nodi fel a ganlyn:

Iaith y buarth rhwng plant –27% Cymraeg,25% Cymraeg a Saesneg,19% Saesneg bron bob amser ,15% Saesneg rhan fwyaf ,11%, Cymraeg rhan fwyaf3% Dim ateb .
Felly pan mae Gwilym yn honni mai 27% o blant y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau, yr hyn mae yn ei olygu mewn gwirionedd ydi mai 27% o sapl Seisnig iawn sy'n siarad Cymraeg yn unig efo'u ffrindiau. Mae yna 11% arall yn siarad Cymraeg fel arfer a 25% arall yn defnyddio'r ddwy.
Y gwir ydi bod yr adroddiad yn awgrymu bod bron i ddwy draean o blant ardaloedd Seisnig (yn bennaf) yn y sir yn gwneud defnydd o'r Gymraeg wrth gyfathrebu efo'u ffrindiau - ffigwr rhyfeddol ac anisgwyl o uchel. Ond trwy beidio a thrafferthu i roi cefndir y data i ni, a thrwy smalio bod y ganran '27% Cymraeg yn unig' yn cynrychioli'r holl ddefnydd a wneir o'r Gymraeg mae Gwilym yn gwneud iddynt ymddangos yn drychinebus o isel. Mae seilio dadl ar gobyldigwc ystadegol fel hyn yn sylfaenol anonest.
Mae'r blog yma wedi tynnu sylw ar sawl achlysur yn y gorffennol at y ffaith bod gan y dyn dueddiad i gyflwyno ei ragfarnau ei hun fel ffeithiau - yma er enghraifft. Am rhyw reswm mae Golwg wedi dod i'r casgliad y byddai'n wych o beth rhoi llwyfan iddo ein diddanu ni efo'r rhagfarnau hynny pob pethefnos. Duw yn unig a wyr pam. Byddai'n rheitiach iddyn nhw adael i Eric Howells a Billy Hughes fynd trwy'i pethau pob pethefnos ddim.
4 comments:
Fuodd na oes aur Gwilym Owen? Heblaw am sgandal Cymad dwi'm yn cofio iddo dorri'r un stori fawr yn ei holl flynyddoedd o fytheirio. Yn hytrach mae wedi gwneud ei enw fel colbiwr y Sefydliad Cymraeg, sefydliad sydd wedi talu cyflog bras iawn iddo fod yn golbiwr arno.
Falla bod Gwil yn jelŷs - mae'n debygol fod papur Gwynedd wedi torri mwy o straeon na Gwilym ac yn cael ei ddarllen yn Gymraeg gan fwy o Gymry na Golwg.
Arna i ofn mod i'n beio'r ysgolheigion a ddewisodd y sampl. Dwi'n meddwl fod hwn yn gamgymeriad digon gonest gan Gwilym Owen. Yn fwy cadarnhaol, braf fod plant Gwynedd yn fwy Cymraeg eu cyfathrach nag yr ofnwyd. Yr un fath yng Nghaerdydd: erioed di clywed fy mhlant yn defnyddio Saesneg efo plant o aelwydydd di-Gymraeg sy'n mynychu Ysgol Treganna. Ymlaen!
Dwi'n anghtyuno simon.
Unig sail Gwilym tros ei bortread o bolisi iaith hynod lwyddiannus Gwynedd fel methiant oedd y ffigwr 27% - doedd ganddo ddim arall.
O dan yr amgylchiadau byddai dyn yn disgwyl iddo wirio'r ffigwr - mae'n debyg ei fod yn tebol o ddarllen adroddiad eithaf syml.
Blog amaturaidd liw nos ydi blogmenai - ond wnei di byth ffeindio ffigyrau yn cael eu manglo yn y ffordd yma. Yn wir byddai defnyddiwr maes e deunaw oed yn gwybod yn well.
Post a Comment