Saturday, July 31, 2010

Ymadawiad Iona Jones

Mae'n drist nodi nad ydi S4C eisiau dweud wrthym pam bod eu cyn brif weithredwr, Iona Jones wedi ymddiswyddo.

Mi fyddai dyn wedi disgwyl y byddai corff sy'n derbyn £100,000,000 o bres y cyhoedd yn flynyddol yn teimlo'r angen i egluro ymddiswyddiad swyddog sy'n ennill £160,000 yn flynyddol o'r coffrau hynny. Ond ymddengys bod y cyhoedd yn ddigon da i ddarparu adnoddau ariannol i S4C, ond ddim digon da i gael gwybod pam bod prif weithredwr y corff hwnnw'n rhoi'r ffidil yn y to mor ddisymwth. Os 'dwi'n deall yn iawn, 'dydi o'n ddim byd o'n busnes ni.

'Dwi'n gweld _ _ _ 'dwi'n meddwl.

2 comments:

Anonymous said...

Tybed ydi Llafurwraig yn bennaeth corff sy'n cael ei ariannu o Lundain yn cael ei gweld yn broblem rwan gan John Walter a'i debyg. Mae angen hoelio'r sinach bach yna i'r llong os ydio'n mynd lawr.

Gwion said...

tydi'r ffaith fod Iona Jones yn Llafurwraig ddim byd i wneud ar peth.

Doedd hi ddim wedi bod mewn fawr o gysylltiad efo gwleidyddion mae'n debyg er gwaethaf yr argyfwng!!!

Cytuno dylai John Walter fynd - ei fai o ydi'r ffaith fod petha wedi cyrraedd y sefyllfa yma!!!!