Saturday, July 03, 2010

Dau refferendwm ac etholiad

Mae Guto'n trafod y posibilrwydd o gael dau refferendwm ac un etholiad ar yr un diwrnod ym Mis Mai ar ei flog. 'Dydi Guto ddim yn gweld fawr o broblem efo'r syniad, ac yn wir mae'n dweud bod cynnal y tri etholiad ar wahan yn arwydd o ddiffyg ymddiriedaeth yn yr etholwyr. 'Dwi'n cytuno efo Guto yn amlach na pheidio, ond anghytuno 'dwi yn yr achos hwn.

Nid gallu neu anallu'r etholwyr i ddihatru'r papurau fydd o'u blaenau ydi'r prif bwynt. Yr awyrgylch gwleidyddol y bydd yr ymgyrchu yn ei greu ydi'r peth pwysig. Cymerer y refferendwm PR er enghraifft - byddai sylw cyfryngol sylweddol i hwnnw ar y newyddion 'cenedlaethol' ac yn y papurau 'cenedlaethol'. Nid cymaint o sylw ag etholiad cyffredinol wrth gwrs, ond llawer mwy na chaiff etholiad Gymreig. Mae llawer iawn mwy o bobl Cymru yn darllen papurau Prydeinig ac yn gwylio newyddion Prydeinig na sy'n ymddiddori newyddion Cymreig.

Byddai'r sylw beunyddiol i Clegg ac efallai Cameron yn dadlau eu hachosion yn boddi'r etholiad Gymreig - neu i'w roi mewn ffordd ychydig yn wahanol, byddai'n anodd clywed swn egwan yr ymgyrch Gymreig yng nghanol swn byddarol yr ymgyrch Brydeinig. Byddai etholiad sydd yn ei hanfod yn un Gymreig wedi ei Phrydaineiddio yn llwyr. Rydym eisoes wedi trafod bwriad Cheryl Gillan i roi help llaw i Nick Bourne yn 2015 trwy gynnal etholiad Prydeinig ar yr un diwrnod ag un Gymreig. 'Dydi'r cynllun bach yma ddim yn llawn mor uchelgeisiol, ond byddai'n cael effaith nid anhebyg.

'Dydi cynnal y refferendwm pwerau ddim yn cymaint o broblem a dweud y gwir. Mi fyddai wrth gwrs yn llusgo rhai pobl gwrth Gymreig na fyddai'n trafferthu pleidleisio mewn etholiad Cynulliad arferol i'r bythau pleidleisio, ac i'r graddau hynny byddai'n newid cymeriad yr etholiad. Ond o leiaf dadl Gymreig fyddai'r un pwerau ychwanegol, yn union fel yr etholiad ei hun. Fyddai'r etholiad heb ei llygru mewn ffodd sylfaenol.

Mae yna un broblem fach arall - un dechnegol efallai, ond problem serch hynny. Mae'n anarferol os nad yn unigryw yn ein system ni gofyn i bobl bleidleisio i ffurfio corff etholedig heb wybod yn union beth ydi hyd a lled pwerau'r corff hwnnw.

2 comments:

Aled G J said...

Dwi'n cytuno a chdi mai cam gwag iawn fyddai cynnal y ddau refferendwm a'r etholiad ar yr un diwrnod.Agenda cwbl Brydeinig fyddai i'r cwbl, gyda'r dewisiadau Cymreig yn cael eu gwthio i'r ymylon gan y byddai'r holl sylw yn cael ei roi ar AV( neu yn hytrach- oblygiadau hynny i'r Glymblaid yn Llundain gyda'r holl ddadansoddi cyfryngol hyd at syrffed fyddai'n rhan o hynny). Wedi dweud hynny, fedrai ddim gweld bod yna unrhyw gyfiawnhad dros gynnal tair pleidlais ar wahan yng Nghymru y flwyddyn nesaf, mewn blwyddyn pan fydd gwasgfa erchyll ar y pwrs cyhoeddus a gwleidyddion yn fwy amhoblogaidd nag erioed yn sgil hynny.
Yn fy marn i, os ydi Nick Clegg yn benderfynol o gynnal ei bleidlais AV ar Fai 5ed, mae Llywodraeth y Cynulliad yn iawn i ofyn am yr hawl i gynnal etholiadau'r Cynulliad ym mis Mehefin. On dylent hefyd ofyn am gynnal refferendwm ar fwy o bwerau ar yr un diwrnod. Byddai'n gwahanu'r agenda etholiadol Brydeinig a'r agenda etholiadol Gymreig yn dwt,ac fe fyddai'n gwneud llawer mwy o synnwr yng ngolwg y cyhoedd. Ar ben hynny, byddai'n rhoi mwy o gyfle i rwygiadau ymddangos yng Nglymblaid Llundain gan gryfhau'r narratif "Dan ni angen rhywbeth amgen yma yng Nghymru".

Cai Larsen said...

Mi fyddwn i'n cytuno efo dy sylwadau Aled.